Padiau clwyf diheintiedig
                                                    
                                                        Mae gan y padiau hyn, sydd yn dod mewn meintiau gwahanol, rwymyn ynglwm wrthynt. Cânt eu defnyddio i orchuddio’r rhan fwyaf o glwyfau cyffredin pryd bynnag y bydd plastr yn rhy fach.
                                                        
                                                        Wrth ei ddefnyddio , dylai’r pad yn cael ei selio yn llwyr er mwyn atal heintiau rhag mynd i’r clwyf ac i atal gwaed yn dod ohono. Dylid cau’r rhwymyn â chwlwm, pin cau neu dâp.
                                                        
                                                       Pe tai’r clwyf yn un difrifol, rhowch y pad drosto a chwilio am gyngor meddygol. Os bydd y gwaed yn dod trwy’r gorchudd, peidiwch â’i dynnu. Yn hytrach, rhowch ail bad drosto yn haenen ychwanegol..