Cyfarpar Cymorth Cyntaf

I ddysgu pa bethau sydd eu hangen yn eich cyfarpar cymorth cyntaf a sut mae eu defnyddio, cliciwch ar yr eitem.

Waterproof Plasters

Plastrau atal dŵr

Plastrau atal dŵr

Os bydd clwyf yn gwaedu ond ei fod yn eithaf bach, gellid defnyddio plastr unwaith bydd y clwyf wedi ei olchi a’i sychu’n ofalus. Os byddwch yn paratoi bwyd yn y gegin, defnyddiwch blastr glas fel y gallwch chi ei weld os bydd ef yn syrthio i’r bwyd

Eye Pad

Padiau Llygad diheintiedig

Padiau Llygad diheintiedig

Os bydd y clwyf yn un bach neu fod gan y claf rhywbeth yn ei lygad megis llychyn neu ronyn, nad ydi hi’n sownd, fe fedrwch chi ddefnyddio pad llygad neu rwymyn bychan nes ichi gael cyngor meddygol.

I osod y pad llygad, rhowch chi ef yn ysgafn ar draws y llygad a’i glymu gan ddefnyddio rhwymyn o gwmpas y pen neu dâp/

Crepe Bandage

Rhwymyn crêp

Rhwymyn crêp

Ar y cyfan fe ddefnyddir rhwymynnau crêp am ysigiadau o’r arddwrn neu figwrn/ffêr. Cyn rhoi’r rhwymyn o’i amgylch triniwch y niwed gyda phecyn rhew i leihau unrhyw chwyddo. Ar ôl 10 munud tynnwch y pecyn rhew am ychydig funudau cyn ei ail-osod. Os nad aiff y chwyddo’n llai, gall fod asgwrn wedi’i dorri felly dylid cael cyngor meddygol rhag ofn bydd angen Pelydr-x.

Os credwch chi mai dim ond ysigiad ydy hi, a bod y chwyddo wedi lleihau wrth ddefnyddio’r pecyn rhew, rhowch rwymyn crêp amdano er mwyn ei gynnal a’i gau â thâp neu bin cau.

Sling

Rhwymyn triongl

Rhwymyn triongl

Mae sawl ffordd gellid defnyddio rhwymyn triongl; fel sling i godi braich (clymir hyn ar y wâr), i atal llif gwaed, i sicrhau pont yr ysgwydd neu law pan gaiff eu torri ac am ysigiadau os nad oes rhwymyn crêp ar gael..

Dressing Pads

Padiau clwyf diheintiedig

Padiau clwyf diheintiedig

Mae gan y padiau hyn, sydd yn dod mewn meintiau gwahanol, rwymyn ynglwm wrthynt. Cânt eu defnyddio i orchuddio’r rhan fwyaf o glwyfau cyffredin pryd bynnag y bydd plastr yn rhy fach.
Wrth ei ddefnyddio , dylai’r pad yn cael ei selio yn llwyr er mwyn atal heintiau rhag mynd i’r clwyf ac i atal gwaed yn dod ohono. Dylid cau’r rhwymyn â chwlwm, pin cau neu dâp.
Pe tai’r clwyf yn un difrifol, rhowch y pad drosto a chwilio am gyngor meddygol. Os bydd y gwaed yn dod trwy’r gorchudd, peidiwch â’i dynnu. Yn hytrach, rhowch ail bad drosto yn haenen ychwanegol..

Sterile Gloves

Menig diheintiedig

Menig diheintiedig

Caiff fenig dihaint eu defnyddio i amddiffyn y claf os bydd dwylo’r Cymhorthydd Cyntaf yn frwnt a byddant yn amddiffyn y Cymhorthydd Cyntaf os bydd y claf yn gwaedu..

Tough Cut Scissors

Siswrn torriad gwydn

Siswrn torriad gwydn

Caiff  y siswrn hwn ei ddefnyddio i dorri dillad er mwyn cyrraedd at glwyf neu asgwrn sydd wedi ei dorri. Siswrn diogel ydy felly nid oes perygl ichi dorri’r croen.

Ni ddylech chi ddefnyddio’r siswrn hwn oni bai bod angen ichi weld y clwyf.  Os bydd y clwyf ar y fraich neu’r goes, torrwch ar hyd sêm y trowser neu’r crys ar yr ochr arall i’r anaf.

Alcohol-free wipes

Clytiau glanhau llaith heb alcohol

Clytiau glanhau llaith heb alcohol

Caiff y rhain eu defnyddio i lanhau crafiadau a mân glwyfau pan nad oes dŵr i’w  cael.

Er mwyn osgoi dod â haint i’r clwyf sychwch y clwyf unwaith yn unig, ac wedyn taflwch y clwtyn. Defnyddiwch glwtyn newydd a gwneud yr un fath eto tra bydd angen.

Safety Pins

Pinnau cau

Pinnau cau

Gellid defnyddio pin cau i sicrhau rhwymyn crêp neu i gau sling ger y penelin..

Tape

Tâp

Tâp

Fe’i defnyddir i gau/sicrhau rhwymynnau.

.

Gwybodaeth bellach.

Defnyddiwch ein Chwiliwr Gwasanaethau Lleol i ddod o hyd i’ch adran Damweiniau ac Achosion Brys / Uned Mân Anafiadau agosaf.

A ydych chi wedi ystyried gwneud cwrs cymorth cyntaf? Mae hyfforddiant ar gael gan y Gwasanaeth Ambiwlans CymruGroes Goch Prydeinig neu Ambiwlans Sant Ioan.