Fi a Fy Iechyd
Os oes gennych chi gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir, mae’r cynllun yma yn ceisio’ch helpu chi a’ch gofalwr. Mae’n gwneud hynny trwy roi gwybodaeth glir i staff iechyd a gofal a allai fod yn gorfod ymweld â'ch cartref mewn argyfwng.
Fi a Fy Iechyd
Mae Fi a Fy Iechyd yn gynllun newydd yn lle Fy Iechyd y Gaeaf Hwn. Ei nod yw’ch helpu chi a’ch gofalwr os oes gennych gyflwr iechyd tymor hir, trwy rannu gwybodaeth sylfaenol gyda staff iechyd a gofal sy’n ymweld â’ch cartref:
- am eich cyflwr
- am y cymorth rydych chi'n ei gael
- am eich manylion cyswllt allweddol ar gyfer iechyd a gofal
Ar gyfer pwy mae'r cynllun?
Mae wedi'i lunio i'ch helpu chi:
- os ydych yn byw gyda phroblem iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir
- os ydych yn unigolyn hŷn sydd ag anghenion iechyd
- os ydych angen cymorth staff iechyd
- os ydych yn ofalwr cofrestredig neu’n aelod o’r teulu sy’n gofalu am rywun â chyflwr iechyd tymor hir
Sut mae'n gweithio?
Bydd angen i chi, ffrind neu aelod o'ch teulu, neu'ch gofalwr (os oes gennych un), lenwi'r templed i roi gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi, gan gynnwys:
Beth ydym ni am i chi ei wneud?
- Lawrlwythwch dempled Fi a Fy Iechyd yma.
- Llenwch y cynllun mewn LLYTHRENNAU BRAS gan ddefnyddio beiro, gan wneud yn siŵr ei fod mor mor glir a hawdd ei ddarllen â phosib. Os ydych yn cael gofal gan staff iechyd cymunedol ar hyn o bryd, gallant eich helpu i lenwi'r ffurflen y tro nesaf y byddant yn dod i’ch cartref.
- Rhowch y templed mewn lle amlwg er mwyn i’r staff iechyd a gofal sy’n ymweld â’ch carfref allu ei weld – defnyddiwch fagnet i’w roi ar yr oergell neu arwyneb metel arall, neu rhowch ef ar fwrdd negeseuon ar y wal.
- Os byddwch yn cael eich taro'n sâl a bod meddyg, nyrs neu barafeddyg yn dod i'ch cartref, byddant yn gallu gweld rhywfaint o wybodaeth sylfaenol amdanoch chi a'ch cyflwr/cyflyrau tymor hir. Bydd hyn yn eu helpu i gychwyn sgwrs gyda chi am y gofal a'r driniaeth y gallech fod eu hangen, a byddant yn gallu penderfynu sut fyddai orau i'ch helpu neu’ch cefnogi.
- Os oes pobl eraill yn eich cartref a allai elwa ar y cynllun, dylai pob person lenwi templed unigol a nodi’n glir ee Mr, Mrs neu eu henw cyntaf i ddangos pa dempled sy'n perthyn i bwy.
Fel arall, os nad oes gennych argraffydd ar gael yn hwylus, gallwch anfon e-bost i SixGoals.UrgentAndEmergencyCare@gov.wales i ofyn am gopi trwy’r post. Rhowch eich enw, eich cyfeiriad post a faint o gopïau yr hoffech eu cael.
Pwyntiau cyswllt defnyddiol eraill
Mae cymorth a chyngor ar gael i'ch helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw ar wefan Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/help-gyda-chostau-byw
Mae cadw mewn cysylltiad â’r bobl sy'n bwysig inni yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd yr ydym yn teimlo – trwy gyfarfod wyneb yn wyneb neu gael sgwrs ar y ffôn. Mae llawer o bobl hefyd wedi bod yn gwneud galwadau fideo ac mae llawer o help ar gael i fynd ar-lein os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech chi roi cynnig arno. Cewch wybod beth sydd ar gael yn eich ardal trwy ffonio Cymunedau Digidol Cymru ar 0300 111 5050 neu trwy glicio yma.
Os ydych chi'n teimlo’n unig ac os hoffech gael sgwrs gyfeillgar gyda rhywun, gall Age Cymru helpu. Mae llawer o bobl wedi gwneud ffrindiau da, neu wedi mwynhau sgwrs pan oedden nhw'n dymuno hynny, trwy eu gwasanaethau cyfeillgarwch. Ffoniwch 0300 303 44 98 (dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 4pm) i gael gwybod mwy.
Os ydych chi’n poeni am sut rydych chi’n teimlo, neu’n teimlo eich bod chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, mae Llinell Gwrando Iechyd Meddwl CALL yn darparu llinell wrando a chymorth emosiynol cyfrinachol sydd ar gael 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r wythnos . Gall CALL hefyd eich cyfeirio at gefnogaeth yn eich cymunedau, a gwybodaeth amrywiol ar-lein. Ffoniwch 0800 132 737, tecstiwch “help” i 81066 neu cliciwch yma.
Mae Llinell Gymorth Dementia Cymru yn cynnig cymorth i'r sawl sy'n byw gyda Dementia a'u gofalwyr. Mae’n cynnig cymorth emosiynol i unrhyw un, o unrhyw oedran, sy’n gofalu am rywun â Dementia yn ogystal ag aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau. Ffoniwch 0808 808 2235, tecstiwch “help” i 81066 neu cliciwch yma.