Llais

Corff statudol annibynnol yw Llais sy’n rhoi llais cryfach i bobl Cymru am eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gan Llais dair prif swyddogaeth:

1) I ymgysylltu a gwrando ar bobl a chymunedau am eu profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol.

2) I gynrychioli'r safbwyntiau hynny i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

O dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltiad) (Cymru), mae'n rhaid i'r darparwyr hynny roi gwybod i Llais beth maent yn bwriadu ei wneud gydag adborth y cyhoedd. Os na allant weithredu ar yr hyn a ddywedwyd wrthynt, mae angen iddynt ddweud pam.

3) I ddarparu gwasanaeth eiriolaeth cwynion ym mhob rhanbarth bwrdd iechyd ar gyfer cwynion ffurfiol am iechyd a gofal cymdeithasol.

Nid yw eiriolwyr cwynion Llais yn rhoi cyngor meddygol neu ofal cymdeithasol ond maent yn cefnogi pobl i ddeall a llywio proses gwyno Gweithio i Wella.

O dan y Ddeddf, mae gan Llais a gyrff iechyd a gofal cymdeithasol hefyd ddyletswydd i hyrwyddo gwaith Llais gyda'r cyhoedd.

Mae Llais eisiau clywed gennych chi, trwy eu harolwg parhaus lle maen nhw'n casglu gwybodaeth am eich profiadau o iechyd a gofal, yma

I ddarganfod mwy am Llais, ac i siarad â’ch swyddfa agosaf, ewch i www.llaiscymru.org.

Mae manylion eich swyddfa Llais agosaf, gan gynnwys eiriolaeth cwynion, i'w gweld yma.