Ffonio 999
Pan fyddwch yn ffonio 999, bydd teleffonydd BT yn ateb eich galwad ac yn gofyn yn Saesneg:
"Emergency, which service do you require? Fire, Police or Ambulance?"
Os bydd argyfwng meddygol, dylech ofyn am ambiwlans. Bydd y teleffonydd yn eich rhoi mewn cysylltiad ag ystafell reoli’r gwasanaeth ambiwlans.
Bydd Cynorthwy-ydd Rheoli’n ateb eich galwad ac yn gofyn am wybodaeth gennych er mwyn blaenoriaethu eich galwad a nodi’r cyngor a’r cymorth gorau ar gyfer y claf nes i’r ambiwlans gyrraedd.
Bydd y Cynorthwy-ydd Rheoli’n gofyn:
• Am rif y ffôn yr ydych yn ei ddefnyddio ar y pryd? (Rhag i rywbeth amharu ar yr Alwad a rhag ofn y bydd angen i’r Cynorthwy-ydd Rheoli eich ffonio yn ôl)
• Union leoliad y digwyddiad?
Mae’r cyfeiriad/lleoliad a roddwch yn bwysig iawn i helpu’r ambiwlans gyrraedd y claf cyn gynted â phosibl. Os ydych yn mewn ardal wledig, bydd rhoi cyfeirnod map neu god post o gymorth mawr.
Gofynnir i chi hefyd am wybodaeth am y math o ddigwyddiad:
• Beth yw’r broblem?
• Sawl un sy’n rhan o’r digwyddiad?
• Faint yw oed y claf?
• Ydy’r claf yn anadlu?
Bydd cleifion yn y categorïau Arestio Porffor neu Argyfwng Coch yn cael ambiwlans cyn gynted â phosibl fel y gall ein clinigwyr medrus iawn ddarparu ymyriadau achub bywyd yn y fan a'r lle. Bydd galwadau lle nad oes bygythiad uniongyrchol amlwg i fywyd , gan gynnwys galwadau yn y categorïau Ambr a Gwyrdd presennol, yn destun adolygiad clinigol cyflym gan Lywiwr Clinigol (Parafeddyg neu Nyrs) i sicrhau bod cleifion yn cael y cymorth mwyaf priodol. Os oes angen ymateb ar unwaith arnoch, byddwn yn uwchgyfeirio'ch galwad i Arestio Porffor neu Argyfwng Coch ac yn anfon ambiwlans cyn gynted â phosibl, ond os nad oes angen anfon ambiwlans ar unwaith, bydd yr alwad yn cael ei throsglwyddo i un o'n clinigwyr o bell (Parafeddyg neu Nyrs) a fydd yn cynnal asesiad clinigol cynhwysfawr i'n galluogi i nodi'r ymateb mwyaf priodol i ddiwallu eich anghenion. Gallai hynny fod yn ambiwlans o hyd, y byddwn yn ei anfon yn brydlon – gan gynnwys at gleifion y tybir eu bod wedi cael strôc, er enghraifft – ond gallai hefyd fod yn Ymarferydd Parafeddyg Uwch mewn car, yn Ymatebydd Lles Cymunedol, yn apwyntiad gyda'ch meddyg teulu, yn gyngor hunanofal neu'n rhywbeth arall.
PEIDIWCH Â RHOI’R FFÔN I LAWR, arhoswch ar y llinell. Bydd yr Ambiwlans/ymateb wedi cael ei anfon ac ar ei ffordd cyn gynted ag y byddwch wedi rhoi’r lleoliad.
Efallai y gofynnir i chi am fanylion penodol am gyflwr y claf yn ogystal â gwybodaeth am ddiogelwch y sefyllfa, i sicrhau y caiff y criw ei ddiogelu yn erbyn peryglon. Gallai hyn gynnwys cwestiynau am:
• Ba ran o’r corff sydd wedi’i anafu? (Er mwyn i’r gwasanaeth ambiwlans allu nodi’r difrifoldeb)
• A oes unrhyw waedu difrifol? (Er mwyn i’r gwasanaeth ambiwlans allu darparu’r cyngor cywir i reoli’r gwaedu)
• A oes gan y claf boen yn ei frest? (Er mwyn i’r gwasanaeth ambiwlans allu rhoi’r cyngor cywir er mwyn gwneud y claf yn gyfforddus)
• Ydy’r ymosodwr yn dal i fod gerllaw? (Er mwyn i’r criw sicrhau eu bod yn ddiogel)
• A oes unrhyw un wedi ei ddal yn y cerbyd? (Er mwyn i’r gwasanaeth ambiwlans allu dweud wrth y gwasanaethau brys perthnasol eraill)
Caiff pob gwybodaeth am y claf ei rhoi ar system flaenoriaethu gyfrifiadurol a chaiff y criw ambiwlans priodol agosaf ei anfon allan.
Os yw bywyd y claf yn y fantol ar unwaith, os nad yw’n anadlu neu os caiff anhawster i anadlu, neu os gallai bywyd y claf fod mewn perygl, bydd y Cynorthwy-ydd Rheoli yn rhoi cyfarwyddiadau syml, effeithiol ar sut i gynorthwyo nes i’r criw ambiwlans gyrraedd i gymryd drosodd. Gallai hyn gynnwys eich tywys drwy gamau Dadebru Cardioysgyfeiniol (Cardiopulmonary Resucitation neu CPR), ymdrin ag achos o dagu neu helpu gyda genedigaeth. Gall y criw ambiwlans ddarparu cyfieithwyr ar gyfer ieithoedd tramor os bydd angen.
CEISIWCH AROS YN DDIGYNNWRF.
Bydd yr ystafell reoli’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr y claf nau am ddiogelwch y digwyddiad i griw’r ambiwlans tra byddant ar y ffordd i’r digwyddiad, gan ddefnyddio cyfathrebu dros y radio a chyfathrebu data.
Os yn bosibl anfonwch rywun i gwrdd â’r ambiwlans er mwyn dangos y lleoliad iddynt. Defnyddiwch rywbeth gweladwy er mwyn i ni allu dod o hyd i chi fel goleuadau car, tortsh, chwifio eich breichiau neu ddilledyn, siaced neu gôt.
Pan fydd cymorth ar gael caiff cyflwr clinigol y claf ei asesu a gellir rhoi triniaeth yn y fan a’r lle. Ar ôl cael ei asesu, os bydd angen mynd â’r claf i’r ysbyty, cysylltir â’r ysbyty i ofyn iddynt baratoi i dderbyn y claf. Bydd y claf yn cael ei gludo i’r adran damweiniau ac achosion brys agosaf.
Bydd y criw yn trosglwyddo gofal y claf i’r ysbyty ac yn paratoi eu hunain a’u cerbyd ar gyfer yr alwad nesaf.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn anelu at ymateb i alwadau o fewn y cyfnod byrraf o amser, gan anelu at gyflawni’r ymateb wyth munud os yw bywyd y claf yn y fantol.
Cofiwch mewn argyfyngoedd fel anymwybyddiaeth, ei chael hi'n anodd i anadlu, amau trawiad ar y galon, colli gwaed yn drwm, anaf drifrifol neu llosg difrifol, ffoniwch 999.
Mae SignVideo yn wasanaeth sy'n galluogi defnyddwyr byddar (a chlyw) Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gyfathrebu â phobl sy'n clywed trwy gyfieithydd BSL ar-lein. Gellir defnyddio SignVideo trwy cyfrifiadur, neu trwy'r ap SignVideo ar eich ffôn smart neu dabled.
Ar ôl i chi gysylltu â'r gwasanaeth SignVideo, bydd y cyfieithydd ar y pryd yn cysylltu â ni dros y ffôn ac yn trosglwyddo'ch sgwrs gydag aelod o'n tîm, e.e. Cynghorydd Nyrsio neu Gynghorydd Gwybodaeth Iechyd, yn dibynnu ar beth yw'r broblem. Gofynnir cyfres o gwestiynau i chi i asesu'ch anghenion ac yna cewch y cyngor/gwybodaeth gofal iechyd sydd ei angen arnoch neu eich cyfeirio at y gwasanaeth lleol a all eich helpu orau. Mae'r gwasanaeth ar gael 7 diwrnod yr wythnos, rhwng 8.00am a hanner nos.
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut i lawrlwytho SignVideo i'ch cyfrifiadur, tabled neu ffôn smart.
Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw ac nad ydych yn defnyddio BSL gallwch gysylltu â 111 drwy Relay UK o hyd. Mae Relay UK yn dod â gwasanaethau cyfnewid ar gyfer pobl fyddar, trwm eu clyw, a nam ar eu lleferydd â'r wybodaeth ddiweddaraf am y dechnoleg ap diweddaraf. Nid oes angen unrhyw git arbennig arnoch - lawrlwythwch yr ap o'r ‘App Store’ neu ‘Google Play’ i'ch ffôn symudol, tablet neu gyfrifiadur. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Relay UK.
Mae Relay UK yn trosglwyddo sgyrsiau rhwng pobl sy'n defnyddio ap ffôn symudol (neu ffôn testun) a phobl sy'n defnyddio ffonau llais. Pan fyddwch yn defnyddio Relay UK i ffonio GIG 111 Cymru, bydd cynorthwydd Relay UK yn siarad eich geiriau â rhywun sy’n delio â galwadau GIG 111 Cymru ac yna’n trosi eu geiriau llafar yn destun i chi. Os ydych chi'n defnyddio lleferydd, gall y sawl sy'n delio â'r alwad wrando ar yr hyn rydych chi wedi'i ddweud, yna ateb. Yna bydd cynorthwyydd Relay UK yn trosi'r hyn y mae'r sawl sy'n delio â'r alwad wedi'i ddweud yn destun.
I gael mynediad i'r gwasanaeth deialwch 18001 111 o'ch ffôn testun neu gan ddefnyddio ap Relay UK.
Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, angen gwybodaeth neu gyngor neu os oes angen manylion fferyllfa neu adran damweiniau ac achosion brys sy'n agos atoch chi, cysylltwch â GIG 111 Cymru.