Cwesitynau cyffredin am ddeintyddion

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am:

Sut i ddod o hyd i ofal deintyddol y GIG?

Defnyddiwch ein tudalen chwiliad deintydd y GIG i chwilio am ddeintyddfa yn eich ardal. Gallwch gysylltu â nhw i weld a ydynt yn gallu eich cynnwys ar eu rhestr cleifion.

Os na allwch ddod o hyd i ddeintyddfa’r GIG neu os oes angen gofal deintyddol brys arnoch chi, cysylltwch â llinell gymorth y GIG sy’n lleol i chi.

Os ydych chi’n glaf mewn deintyddfa yn barod, dylech anelu at fynd am archwiliadau rheolaidd er mwyn cynnal iechyd da y geg.

Pa mor aml ddylwn i gael archwiliad rheolaidd gyda deintydd?

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cyhoeddi canllawiau i helpu gweithwyr deintyddol proffesiynol benderfynu pa mor aml mae angen archwiliad rheolaidd ar bobl. Os ydych wedi arfer cael archwiliadau rheolaidd bob 6 mis, gallech gael gwybod bod angen i chi ddod yn fwy aml neu’n llai aml. Gall y cyfnod rhwng archwiliadau rheolaidd fod yn hirach neu’n fyrrach, yn dibynnu ar ba mor iach yw eich dannedd a’ch deintgig. Bydd eich gweithiwr deintyddol proffesiynol yn trafod hyn gyda chi ac yn penderfynu faint o amser sydd ei angen cyn eich archwiliad nesaf.

Gwasanaethau deintyddol sydd ar gael ar y GIG a’u costau

Bydd eich gweithiwr deintyddol proffesiynol yn cytuno â chi ynghylch p’un a fydd eich triniaeth trwy’r GIG, yn breifat, neu’n gyfuniad o’r ddau. Os nad ydych yn siŵr unrhyw bryd, peidiwch â bod ofn gofyn.

Fel claf deintyddol y GIG, mae gennych hawl i’r canlynol:

  • Amcangyfrif a chynllun triniaeth ysgrifenedig sy’n disgrifio triniaeth y GIG ac unrhyw driniaeth breifat y cytunoch chi iddynt
  • Taflen wybodaeth y ddeintyddfa
  • Yr holl driniaeth angenrheidiol i sicrhau a chynnal iechyd y geg
  • Cyngor a, lle bo angen, triniaeth mewn argyfwng
  • Set genedlaethol o brisiau
  • Uchafswm pris fesul cwrs o driniaeth
  • Triniaeth am ddim neu am bris gostyngol i rai grwpiau o gleifion
  • I rai pobl, darperir archwiliad ac, weithiau, gofal yn eu cartref
  • Y gallu i droi at weithdrefn gwyno ffurfiol
  • Triniaeth breifat yn lle triniaeth y GIG neu’n ychwanegol at hynny.

Gallwch gael triniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG os bydd eich triniaeth yn dechrau ac rydych chi:

  • o dan 18 oed;
  • yn 18 oed ac mewn addysg amser llawn
  • yn feichiog neu wedi cael baban o fewn y 12 mis cyn bod y driniaeth yn dechrau
  • yn glaf mewnol y GIG ac mae'r driniaeth yn cael ei chyflawni gan ddeintydd yr ysbyty
  • yn glaf allanol yng Ngwasanaeth Deintyddol y GIG mewn Ysbyty*

*Gellir codi tâl am ddannedd gosod a phontydd.

Neu, pan fydd y driniaeth yn dechrau neu pan godir tâl:

Help Rhannol: Os ydych wedi cael eich enwi ar dystysgrif HC3W, gallech gael rhywfaint o help tuag at gost eich triniaeth ddeintyddol ar y GIG. Darllenwch Cynllun incwm isel: help gyda chostau iechyd y GIG | LLYW.CYMRU

Archwiliad Deintyddol Y GIG Am Ddim

Rydych chi’n cael archwiliadau deintyddol am ddim:

  • Os ydych chi o dan 25 oed ar ddiwrnod eich archwiliad
  • Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod eich archwiliad

Bydd y pris priodol yn cael ei godi am unrhyw driniaeth ddilynol o ganlyniad i’r archwiliad am ddim.

Prisiau Deintyddiaeth y GIG

Archwiliad Deintyddol y GIG am ddim

Rydych chi’n cael archwiliadau deintyddol am ddim:

  • Os ydych chi o dan 25 oed ar ddiwrnod eich archwiliad yng Nghymru; neu
  • Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod eich archwiliad yng Nghymru.
  • Bydd y pris priodol yn cael ei godi am unrhyw driniaeth ddilynol o ganlyniad i’r archwiliad am ddim.
  • Os oes gennych eithriad rhag costau deintyddol y GIG, cewch driniaeth a gofal am ddim.
  • Os ydych chi’n talu am driniaeth ddeintyddol y GIG, mae tri chategori o brisiau. Byddwch yn talu un pris hyd yn oed os ydych chi’n ymweld fwy nag unwaith i gwblhau cwrs o driniaeth. Bydd y swm rydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar y driniaeth sydd ei angen arnoch.

Byddwch yn talu un o’r tri phris isod:

Band 1 - £20.00

Mae hyn yn cynnwys archwiliad, diagnosis a gofal ataliol. Os bydd angen, bydd yn cynnwys pelydrau X, cyngor ar gynnal ceg iach a chynllunio ar gyfer triniaeth bellach.

Band 2 - £60.00

Mae hyn yn cynnwys yr holl driniaeth sy’n dod o dan fand £20.00 A thriniaeth ychwanegol fel llenwadau, triniaeth sianel y gwreiddyn neu dynnu dannedd.

Band 3 - £260.10

Mae’r pris hwn yn cynnwys yr holl driniaeth angenrheidiol sy’n dod o dan fandiau £20.00 a £60.00. A choronau, dannedd gosod a phontydd.

Nid oes tâl am bresgripsiwn y GIG.

Mae triniaethau ar gael ar y GIG dim ond os oes angen clinigol amdanynt (nid rhesymau cosmetig). Yn yr un modd, nid yw triniaethau cosmetig eraill, fel gwynnu dannedd, ar gael ar y GIG.

Gofal brys a thu allan i oriau

Mae cwrs o driniaeth frys neu’r tu allan i oriau yn costio £30.00. Mae’r rhan fwyaf o driniaethau brys yn cael eu gwneud mewn un apwyntiad a gallant gynnwys lleddfu poen, atgyweirio llenwadau, neu roi llenwad dros dro. Pan fydd eich gofal brys wedi’i gwblhau, cewch gyngor i drefnu apwyntiad arall am asesiad llawn. Byddai hyn yn gwrs triniaeth ar wahân, gan gynnwys sut gallwch chi atal clefydau deintiol. Byddai cost ychwanegol am hyn.

Dannedd gosod

Nid oes tâl am drwsio dannedd gosod. Os byddwch chi’n colli eich dannedd gosod neu’n eu difrodi fel nad oes modd eu trwsio, bydd cost rhai newydd yn £78.00. Nid yw hyn yn berthnasol os traul a gwisgo sy’n gyfrifol am y difrod i’ch dannedd gosod.

Os ydych wedi cael llenwad, llenwad y gwreiddyn, mewnosodiad, argaen porslen neu goron fel rhan o gwrs triniaeth trwy’r GIG, ac mae’n methu o fewn 12 mis, dylai eich gweithiwr deintyddol proffesiynol wneud unrhyw waith angenrheidiol i’w drwsio neu ei amnewid yn rhad ac am ddim. Dylech fynd yn ôl i weithiwr proffesiynol y GIG a wnaeth y gwaith gwreiddiol.

Argyfyngau deintyddol

Beth yw argyfwng deintyddol?

Mae’r cyflyrau canlynol yn cael eu hystyried yn argyfyngau a’r cyngor yw eich bod yn mynd i adran damweiniau ac achosion brys os oes gennych:

  • chwyddo sy’n effeithio ar eich gallu i anadlu, llyncu neu agor eich ceg yn llawn
  • chwyddo gerllaw eich llygad
  • gwaedu o’r geg rydych chi’n methu ei atal ac rydych chi’n cymryd tabledi teneuo’r gwaed
  • toriadau difrifol i’r geg neu’r gwefusau
  • amheuaeth bod eich safn wedi torri/datgymalu neu esgyrn wedi torri yn eich wyneb

Dylid ceisio ailosod dannedd oedolion sydd wedi cael eu bwrw allan cyn gynted â phosibl. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y dudalen hon neu ffoniwch 111. Peidiwch â cheisio rhoi dant cyntaf sydd wedi cael ei fwrw allan yn ôl.

Nid yw’r ddannoedd yn argyfwng deintyddol, ni waeth pa mor ddrwg ydyw.

I gael cyngor a thriniaeth ar gyfer problemau deintyddol brys nad ydynt yn argyfyngau, ond sydd angen sylw o hyd, cysylltwch â’ch deintyddfa neu ffoniwch 111.

Triniaeth ddeintyddol i bobl ag anghenion ychwanegol

Mae Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol yn darparu triniaeth i bobl na fyddent fel arall yn ceisio neu’n cael gofal deintyddol oherwydd bod ganddynt anghenion ychwanegol. Gall hyn gynnwys pobl ag anableddau dysgu, pobl sy’n gaeth i’r tŷ, pobl â phroblemau iechyd meddwl neu iechyd corfforol, neu gyflyrau eraill sy’n anablu.

Rhaid i oedolion sy’n bodloni meini prawf y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol lleol i dderbyn gofal gael eu hatgyfeirio gan eu deintydd eu hunain neu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, fel eu meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.

Cwynion am driniaeth ddeintyddol

Mae GIG Cymru yn gweithredu proses annibynnol ar gyfer codi pryderon a gwneud cwynion, o’r enw ‘Gweithio i Wella’. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ‘Gweithio i Wella’ ar gael yma.

Os ydych chi’n dymuno cwyno am unrhyw agwedd ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan eich deintyddfa, dylech godi’r pryderon hyn yn uniongyrchol gyda’ch deintyddfa, neu drwy reolwr y ddeintyddfa, o fewn 12 mis i’r digwyddiad neu’r broblem. Os nad ydych am ddelio gyda’r ddeintyddfa yn uniongyrchol, gallwch gysylltu â’r Tîm Pryderon yn eich Bwrdd Iechyd lleol.

Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb i’ch cwyn, gallwch gyfeirio’ch cwyn yn uniongyrchol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar holl gyrff y llywodraeth ac mae’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yn ddiduedd ac ar gael am ddim. Cewch fwy o wybodaeth am Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru trwy edrych ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.        

Sut ydw i’n cwyno am ddeintydd preifat?

Mae’r Gwasanaeth Cwynion Deintyddol yn cynorthwyo cleifion deintyddol preifat a gweithwyr deintyddol proffesiynol i ddatrys cwynion am wasanaethau deintyddol preifat. I geisio’u cymorth â chwyn deintyddol, ffoniwch 020 8253 0800 (dydd Llun i ddydd Gwener 9am – 5pm) neu llenwch ffurflen trwy eu gwefan www.dentalcomplaints.org.uk.

A oes hawl gen i weld fy nghofnodion deintyddol?

Mae gan gleifion y GIG a chleifion preifat yr hawl i gopïau o’u cofnodion deintyddol. I gael copïau, gwnewch gais ysgrifenedig i’r ddeintyddfa. Gallai fod gofyn i chi dalu ffi am gael eich cofnodion (hyd at £50 am gofnodion a gedwir ar bapur a hyd at £10 am gofnodion a gedwir ar gyfrifiadur). Gwneir hyn i dalu costau gweinyddol. Mae’n rhaid i’r ddeintyddfa gyflenwi copïau o’r cofnod y gofynnwyd amdano o fewn 40 diwrnod.