Os oes gennych anaf nad yw'n ddifrifol, gallwch fynd i Uned Anafiadau Mân i gael cymorth, yn hytrach na mynd i adran Damweiniau ac Achosion Brys. Drwy wneud hyn gall adrannau Damweiniau ac Achosion Brys canolbwyntio ar y rhai â chyflyrau difrifol, sy'n bygwth bywyd.
Gallwch chwilio am eich Uned Anafiadau Mân agosaf drwy glicio yma, dewis ysbyty o'r gwymplen, rhowch eich cod post i fewn, neu dref a wedyn defnyddiwch y 'Filter by' i dewis MIU.
Isod mae yna gwybodaeth am y math o anafiadau y gellir eu trin mewn Uned Anafiadau Mân:
- Torri esgyrn
- Datgymaliadau ac ysigiadau
- Ymosodiadau
- Anafiadau a losgiadau mân
- Pigiadau pryfed
- Anafiadau i'r asennau (os does dim pesychu o waed na faint ar y frest)
- Cnoadau gan anifeiliaid, pobl a phryfed
- Pethau estron yn y llygaid, y trwyn a'r clustiau
- Anafiadau i'r pen neu'r wyneb
- Anafiadau i'r llygaid a'r clustiau
- Anafiadau mân i'r gwddf
- Anafiadau mân i'r cefn