Cwestiynau cyffredin am Optegwyr

Sut mae dod o hyd i optegydd/practis optometreg
I ddod o hyd i optegydd gallwch edrych ar ein cyfeiriadur o optegwyr neu ffonio GIG 111 Cymru.

Nid oes cofrestr arbennig ar gyfer archwiliad llygaid, gallwch gysylltu â phractis o'ch dewis chi

Pwy fyddaf yn ei weld mewn practis optometreg?

Pan fyddwch yn ymweld â phractis optometreg, yr unigolyn a fydd yn cynnal yr archwiliad llygaid yw gweithiwr proffesiynol hyfforddedig a elwir yn Optometrydd (neu optegydd offthalmig). Mae wedi'i hyfforddi i ganfod, trin a rheoli clefydau llygaid a rhoi cyngor ar broblemau golwg, a gallant ragnodi sbectolau a lensys cyffwrdd. Mae ambell ymarferydd wedi cael hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol sy'n eu galluogi i ragnodi meddyginiaeth ar gyfer cyflyrau llygaid a rheoli cyflyrau fel glawcoma. Mae gan lawer o bractisau gynorthwywyr hyfforddedig a all gyflawni rhannau rhagarweiniol yr archwiliad dan oruchwyliaeth yr Optometrydd a gallant eich helpu i ddewis sbectolau priodol.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld Optegydd Cyflenwi (DO) ar ôl eich archwiliad llygaid. Mae'r rhain yn weithwyr proffesiynol cymwysedig a all hefyd roi cyngor ar ambell broblem golwg (ond nid cynnal archwiliad llygaid) a gosod a chyflenwi sbectol. Os yw'r claf yn blentyn o dan 16 mlwydd oed, neu â nam ar ei olwg, rhaid i DO neu optometrydd osod/cyflenwi sbectol. Mae ambell Optegydd Cyflenwi hefyd wedi’u hyfforddi i osod lensys cyffwrdd a darparu gwasanaethau golwg gwan (gweler gwefan Gofal Llygaid Cymru am restr o bractisau sy’n cynnig y gwasanaeth hwn)

Pryd ddylwn i drefnu archwiliad llygaid?

·    Oedolion - Dylai archwiliadau llygaid gael eu cynnal ar adegau a argymhellir gan eich optometrydd, a fydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau eich hun. Os oes gennych broblem llygaid sydyn gallwch hefyd gael mynediad at wasanaethau Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru (EHEW) am ddim (link to practices).

·    Mae hefyd yn bwysicach os ydych yn defnyddio cyfrifiadur (VDU) ar gyfer gwaith yn rheolaidd.  Os yw hyn yn wir efallai y bydd gofyn i'ch cyflogwr dalu am archwiliad llygaid ar eich rhan. Gofynnwch i'ch cyflogwr weld a yw hyn yn berthnasol i chi. I gael rhagor o wybodaeth am pam y dylech gael archwiliad llygaid rheolaidd a'r hyn y gallai ei gynnwys, ewch i wefan Cymdeithas yr Optometryddion.

·          Plant - Gweler ein tudalen ar brofion llygaid i blant

Oes rhaid i mi dalu am archwiliad llygaid?

Gallwch gael archwiliad llygaid yn rhad ac am ddim os oes gennych broblem llygaid sy'n digwydd yn sydyn. O dan fenter Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru (EHEW) mae gennych hawl i gael archwiliad llygaid am ddim gan optometrydd cofrestredig os oes gennych broblem llygaid a ddigwyddodd yn sydyn (yn acíwt) sydd angen sylw brys yn eich barn chi.

Gallwch hefyd gael EHEW os ydych:

·      wedi cael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu at optometrydd cofrestredig EHEW oherwydd problem llygaid

·      gyda golwg mewn un llygad yn unig, h.y. rydych i bob pwrpas yn ddall yn eich llygad waethaf

·      gyda nam ar y clyw ac yn hollol fyddar

·      yn dioddef o retinitis pigmentosa

·      gyda tharddiad teuluol Du Affricanaidd, Du Caribïaidd, Indiaidd, Pacistanaidd neu Bangladeshaidd

·      mewn perygl o gael clefyd y llygaid oherwydd rhesymau eraill yn ymwneud â hil neu hanes teuluol
 

Ewch i weld eich optometrydd am ragor o fanylion ac i wirio a yw'r cynllun Cymru gyfan hwn yn ymdrin â'ch pryderon.

Os nad yw'ch problem wedi digwydd yn sydyn mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi dalu am eich archwiliad llygaid oni bai eich bod yn gallu hawlio prawf GIG am ddim yn seiliedig ar y categorïau isod

·      Dan 16 mlwydd oed*

·      Os ydych yn 16, 17 neu 18 mlwydd oed ac mewn addysg llawn amser*

·      60 mlwydd oed neu'n hŷn

·      Claf gyda diagnosis glawcoma

·      Yn 40 mlwydd oed neu'n hŷn ac naill ai’n rhiant, yn frawd, yn chwaer, yn fab neu’n ferch i glaf glawcoma sydd wedi cael diagnosis o glawcoma, neu

·      Wedi cael cyngor gan Offthalmolegydd eich bod mewn perygl o glawcoma

·      Diagnosis diabetes

·      Wedi'ch cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall

·      Angen lensys cyffwrdd*

·      Claf neu bartner yn cael Cymhorthdal ??Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Cynhwysol (mae amodau penodol yn berthnasol**) neu Gredyd Gwarant Credyd Pensiwn.*

·      Wedi'ch enwi ar dystysgrif eithrio credyd treth y GIG ddilys*

·      Wedi'ch enwi ar dystysgrif HC2W ddilys

·      Ychydig o gymorth os cewch eich enwi ar HC3W dilys, efallai y cewch rywfaint o help tuag at gost prawf golwg preifat.

*Hefyd hawl i dalebau GIG tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd.

Ceir rhagor o wybodaeth ar LLYW.CYMRU:

Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru

Mae’r wefan hon wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru (WECS), gwasanaeth sy’n ceisio lleihau colled golwg yng Nghymru drwy’r cynlluniau a ganlyn;

  •  Canfod problemau llygaid mewn unigolion sy’n agored i niwed, megis y rheini sydd â hanes teuluol o glefyd y llygaid, a sicrhau sylw brys i broblemau llygaid acíwt drwy gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru (EHEW).
  • Darparu gwasanaeth golwg gwan, trwy gynllun Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru, sydd ar gael i unrhyw glaf â nam ar ei olwg.

A allaf gael archwiliad llygaid am ddim os ydw i’n feichiog?

Na, nid yw bod yn feichiog yn effeithio ar eich golwg fel arfer, fodd bynnag rydych yn cael budd-daliadau eraill gyda thystysgrif mamolaeth.

A oes rhaid i mi gael fy sbectol/lensys cyswllt gan yr un optegydd a gynhaliodd yr archwiliad llygaid/gwiriad lensys cyffwrdd

Na, mae'n ofyniad cyfreithiol bod yn rhaid i'r optometrydd sy'n cynnal eich archwiliad llygaid roi copi o'r presgripsiwn i chi.  Gallwch fynd â hwn i bractis arall i gael eich offer optegol. Weithiau wrth osod lensys cyffwrdd efallai y bydd angen i'r optometrydd wirio'ch llygaid ar ôl prynu lensys i ddechrau cyn y gallant roi presgripsiwn i sicrhau bod eich llygaid yn addas ar gyfer y math o lens a roddwyd i chi. Gellir prynu lensys cyffwrdd ar-lein gyda phresgripsiwn dilys ond mae'n bwysig eich bod yn cael gwiriadau rheolaidd mewn practis optometreg i sicrhau bod eich llygaid yn aros yn iach. Mae sbectolau hefyd ar gael ar-lein ond mae cyfyngiadau ar bwy all eu prynu (rhaid i blant dan 16 mlwydd oed gael sbectol gan weithiwr proffesiynol cymwys i sicrhau eu bod yn ffitio'n gywir).  Mae rhai mathau o lensys (fel rhai amryffocal neu'r bobl hynny sydd â phresgripsiwn cryfach) yn gofyn am fesuriadau pellach o'ch llygaid a'ch fframiau i wneud yn siŵr eu bod yn alinio’n gywir, a all fod yn anoddach os nad ydych yn prynu mewn practis.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae eich presgripsiwn yn ei olygu, ewch i wefan Cymdeithas yr Optometryddion.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi colli neu ddifrodi fy sbectol/lensys?
O dan rai amgylchiadau, a lle nad yw’r golled wedi’i diogelu gan unrhyw warant neu yswiriant, efallai y byddwch yn gymwys i gael taleb tuag at gost eu hatgyweirio neu eu hadnewyddu. E.e. os oedd gennych hawl i daleb tuag at eich sbectol oherwydd eich bod o dan 16 mlwydd oed neu ar fudd-daliadau penodol yn ymwneud ag incwm (fel y nodir uchod).

Mae gan blant o dan 16 mlwydd oed hawl i daleb ar gyfer atgyweirio neu amnewid, ond ar gyfer pob claf dros yr oedran hwn, mae’n rhaid i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fod yn fodlon mai salwch oedd yn gyfrifol am y golled neu’r difrod cyn cymeradwyo’r cyflenwi taleb atgyweirio/amnewid a chyn gwneud unrhyw waith atgyweirio.

Beth os oes gen i broblem gyda fy optometrydd (optegydd)?

Os ydych wedi cael trafferth cael apwyntiad mewn practis optometreg (optegydd) ar gyfer problem llygaid sydd angen sylw brys, defnyddiwch y ddolen ganlynol: http://www.eyecare.wales.nhs.uk/raising-a-concern-around-the-ehew-servic

Os ydych chi'n anfodlon â gwasanaeth neu ymddygiad eich ymarferydd optegol, dylech geisio datrys unrhyw anawsterau yn uniongyrchol gyda'r practis.

Os na allwch ddod i gytundeb cyfeillgar gyda'r practis gallwch gyfeirio'r mater at eich swyddfa Safonau Masnach leol, neu'r Bwrdd Iechyd os ydych yn glaf GIG. Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optegol.

Mewn achosion lle mae honiadau’n codi ynghylch ffitrwydd i ymarfer optometrydd cofrestredig neu optegydd cyflenwi, gall y Cyngor Optegol Cyffredinol gychwyn ymchwiliadau.

Ble gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru?

Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru
Mae'r wefan hon wedi'i chreu gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru (WECS), gwasanaeth sy'n ceisio lleihau colled golwg yng Nghymru drwy gyfrwng y cynlluniau a ganlyn ;

·      Canfod problemau llygaid mewn unigolion sy'n agored i niwed, megis y rheini sydd â hanes teuluol o glefyd y llygaid, a sicrhau sylw brys i broblemau llygaid acíwt drwy gynllun Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru (EHEW).

·              Darparu gwasanaeth golwg gwan, drwy gynllun Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru, sydd ar gael i unrhyw glaf â nam ar eu golwg

Beth yw'r sefydliadau pwysig eraill ar gyfer optometreg a beth maen nhw'n ei wneud?

Y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC)
www.optical.org
 Mae'r GOC yn gorff statudol sy'n rheoleiddio optegwyr ac optometryddion cyflenwi. Nod y GOC yw amddiffyn y cyhoedd a hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad proffesiynol ac addysg ymhlith optegwyr. Mae'n rhoi cyngor ac arweiniad ar safonau.

Coleg yr Optometryddion
 www.college-optometrists.org
Y Coleg yw'r corff proffesiynol, gwyddonol ac arholi ar gyfer optometreg yn y DU. Mae'r Coleg yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer ymddygiad proffesiynol, yn hwyluso cofrestru o dan gymeradwyaeth y GOC ac yn cefnogi ymchwil i optometreg a phynciau sy'n gysylltiedig ag offthalmoleg.

Cymdeithas yr Optometryddion (AOP)
www.aop.org.uk
Yr AOP yw’r prif sefydliad aelodaeth cynrychioliadol ar gyfer optometryddion yn y DU.
Maent hefyd yn darparu gwybodaeth mewn iaith glir i gleifion ddeall mwy am eu llygaid a gwaith y proffesiwn.
Cyngor ac adnoddau iechyd llygaid i gleifion | Cymdeithas yr Optometryddion (AOP)

Y Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optegol (OCCS)
www.opticalcomplaints.co.uk
Mae’r OCCS yn gorff annibynnol a sefydlwyd i ymdrin â chwynion gan aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn fodlon â’r gwasanaethau optegol y maent wedi’u derbyn mewn practis optegol.

Y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC)
www.optical.org
Y GOC yw’r corff statudol sy’n rheoleiddio optegwyr dosbarthu ac optometryddion. Nod y GOC yw amddiffyn y cyhoedd a hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad proffesiynol ac addysg ymhlith optegwyr. Mae'n rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch safonau.

Y Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optegol (OCCS)
www.opticalcomplaints.co.uk
Mae’r OCCS yn gorff annibynnol a sefydlwyd i setlo cwynion gan aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn fodlon â’r gwasanaethau optegol y maent wedi’u derbyn mewn practis optegol.

Coleg yr Optometryddion
www.college-optometrists.org
Y Coleg yw’r corff proffesiynol, gwyddonol ac arholi ar gyfer optometreg yn y DU. Mae'r Coleg yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer ymddygiad proffesiynol, yn hwyluso cofrestru o dan gymeradwyaeth y GOC ac yn cefnogi ymchwil i optometreg a phynciau sy'n gysylltiedig ag offthalmig.

Gweler hefyd o dan Fyrddau Iechyd unigol am wybodaeth ar sut y trefnir gwasanaethau optegol yn lleol.