Mae fferyllwyr yn arbenigwyr mewn meddyginiaethau, a all hefyd eich helpu gyda phryderon iechyd llai difrifol eu natur.
Fel gweithwyr proffesiynol gofal iechyd wedi cymhwyso, gallant ddosbarthu meddyginiaeth ar bresgripsiwn a chynnig cyngor clinigol am ddim a meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin, fel peswch, annwyd, brechau ar y croen, brathiadau a gwaew a phoenau cyffredinol.
Mae fferyllfeydd ledled Cymru yn cynnig Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin. Mae'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cynnig ymgynghoriad GIG am ddim i gleifion a meddyginiaeth am ddim ar gyfer 27 o anhwylderau cyffredin na ellir eu rheoli trwy hunanofal yn unig, gan gynnig dewis arall yn lle gwneud apwyntiad gyda'r meddyg teulu neu feddyg y tu allan i oriau.
Yr amodau yw
- Acne
- Brech cewynnau
- Brech yr ieir
- Cefn tost (acíwt)
- Clefyd crafu
- Clefyd y gwair
- Colig
- Diffyg traul
- Dolur annwyd
- Dolur gwddf
- Y dolur rhydd
- Ewinedd traed sy’n tyfu ar i mewn
- Ferwca
- Haemoroidau
- Intertrigo
- Llau pen
- Llid ar y croen (croen sych)
- Llid yr amrannau (bacterol)
- Llindag y geg
- Llindag y wain (thrwsh)
- Llygaid sych
- Llyngyr edau
- Rhwymedd
- Tarwden (ringworm)
- Tarwden y traed (Athlete’s Foot)
- Trafferthion tyfu dannedd
- Wlser yn y geg
Mae gan fferyllwyr yr hyfforddiant priodol i sicrhau eich bod chi'n cael yr help sydd ei angen arnoch. Os yw'ch symptomau'n awgrymu bod angen ichi weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall (ee meddyg teulu, nyrs, optometrydd neu ddeintydd), yna fe wnaiff eich fferyllydd eich cyfeirio at y ddarpariaeth fwyaf addas.
Mae'r rhan fwyaf o fferyllfeydd hefyd yn darparu ystod o wasanaethau eraill, megis atal cenhedlu brys, brechiadau tymhorol, cyflenwad meddyginiaethau brys, gwiriadau iechyd, cyfleusterau cyfnewid nodwyddau, a meddyginiaeth dros y cownter.
Yn ogystal, mae gwasanaethau Rhagnodi Annibynnol gan Fferyllwyr ar gael ledled Cymru lle gall fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol cymwys a chymwys bresgripsiynu ar gyfer ystod o fân afiechydon nad ydynt yn dod o dan y gwasanaeth anhwylderau cyffredin, ac ar gyfer atal cenhedlu arferol.
Gallwch ddefnyddio ein cyfeiriadur chwilio fferyllfeydd i ddod o hyd i'ch fferyllfa agosaf a hidlo'ch canlyniadau chwilio trwy ddewis y gwasanaeth sydd ei angen arnoch, e.e. ‘Yn darparu dulliau atal cenhedlu brys’. Fel arall, cysylltwch â'ch fferyllfa leol i gael gwybod mwy am y gwasanaethau y mae'n eu darparu.
Mae rhai fferyllfeydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd yn cynnig profion haint y llwybr wrinol (UTI). Gallwch ddefnyddio ein cyfeirlyfr chwilio am fferyllfa i ddod o hyd i'r fferyllfa agosaf sy'n cymryd rhan a hidlo'ch canlyniadau chwilio trwy ddewis 'Gwasanaeth Fferylliaeth UTI'.
Nid oes angen apwyntiad arnoch i fynd i fferyllfa ac mae llawer ar agor tan yn hwyr. Mae gwasanaethau fferyllol hygyrch hefyd ar gael o fewn archfarchnadoedd, sydd yn aml ar agor y tu allan i oriau agor arferol fferyllfa'r stryd fawr. Fodd bynnag, gall oriau agor fferyllfeydd fod yn wahanol ar benwythnosau a gwyliau banc.
Cliciwch yma i ddod o hyd i'ch fferyllfa agosaf ac oriau agor.
Cwestiynau cyffredin
Gall fferyllfeydd gau ar fyr rybudd ac fe'ch cynghorir i wirio eu bod ar agor a bod ganddynt yr hyn sydd ei angen arnoch cyn teithio.
Beth os na allaf ddod o hyd i fferyllfa sydd ar agor?
Os ydych chi eisiau cael cyffuriau lleddfu poen cyffredinol, meddyginiaethau annwyd a ffliw neu gynhyrchion babanod ar ôl i'ch fferyllfa agosaf gau, mae’n bosib y gallwch eu prynu o siop gornel, garej neu orsaf betrol gyfagos. Gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfeirlyfr chwilio am fferyllfa i ddod o hyd i fferyllfeydd eraill yn eich ardal chi.
Ble alla i gael dosbarthu fy mhresgripsiwn gyda'r nos neu ar benwythnosau?
Os ydych wedi rhedeg allan o'ch meddyginiaeth ar bresgripsiwn gallwch ddefnyddio ein canllaw Mynediad i Feddyginiaethau i ddarganfod ble i gael help.
Mae'r mwyafrif o fferyllfeydd ar agor ar ddydd Sadwrn, ond fel arfer yn cymryd rhan mewn trefniadau rota ar ddydd Sul, gwyliau banc a gyda'r nos. Fel rheol bydd gan eich fferyllfa leol hysbyseb yn y ffenestr yn eich cyfeirio at fferyllfeydd eraill cyfagos sydd ar gael pan fyddant wedi cau, a bydd y mwyafrif o safleoedd cyfryngau cymdeithasol gan y Bwrdd Iechyd, yn ogystal â phapurau newydd lleol, yn cynnwys manylion rotas fferyllfeydd ar gyfer yr ardal.
I weld pa fferyllfeydd lleol sydd ar agor y tu allan i oriau gwaith arferol, defnyddiwch ein cyfeirlyfr chwilio am fferyllfa a hidlo'r canlyniadau trwy ddewis 'Gwasanaeth Allan o Oriau'.
Beth os byddaf yn rhedeg allan o feddyginiaeth ar bresgripsiwn a bod fy meddygfa ar gau?
Os ydych chi'n rhedeg allan o'ch meddyginiaeth ailadroddus ar bresgripsiwn a hithau wedi oriau gwaith arferol eich meddygfa (ee o ddydd Llun i ddydd Gwener 6.30pm i 8.00am, dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc), yna gallwch ymweld â rhai fferyllfeydd yng Nghymru i gael Gwasanaeth Cyflenwi Meddyginiaethau Mewn Argyfwng, yn rhad ac am ddim.
Nid yw’r gwasanaeth ar gael i gleifion onibai am y rhai sydd angen presgripsiwn ar unwaith ac na ellir aros nes bod eu meddygfa yn ailagor.
Mae'n bwysig:
- Eich bod chi'n mynychu yn bersonol - ni allwch anfon cynrychiolydd i'r fferyllfa.
- Rhaid ichi allu darparu prawf eich bod ar y feddyginiaeth y gofynnwyd amdani. Er enghraifft, pecyn neu botel meddyginiaethau gwag gyda'ch label enw neu slip presgripsiwn ailadroddus.
- Eich bod yn cysylltu â'r fferyllfa cyn teithio i sicrhau bod y gwasanaeth hwn a'ch meddyginiaeth ar gael.
Gall fferyllfeydd nad comisiynwyd i ddarparu'r Gwasanaeth Cyflenwi Meddyginiaethau Brys yn rhad ac am ddim ddarparu cyflenwad brys o feddyginiaeth o dan amgylchiadau penodol, ond efallai codir tâl am hyn.
Dim ond mewn argyfyngau dilys y mae'r gwasanaeth hwn ar gael. Mae'n berthnasol i'r mwyafrif o gyffuriau presgripsiwn ond nid cyffuriau rheoledig, a disgresiwn y fferyllydd yw defnyddio eu barn broffesiynol ynghylch a ydyn nhw'n teimlo bod y cyflenwad yn briodol.
I ddod o hyd i fferyllfa sy'n cynnig y gwasanaeth hwn, defnyddiwch ein cyfeirlyfr chwilio am fferyllfa a hidlwch y canlyniadau trwy ddewis 'Cyflenwad Meddyginiaethau Brys (EMS)'.
A fydd yn rhaid imi dalu am fy mhresgripsiwn?
Ers 1 Ebrill 2007, rhoddodd fferyllfeydd yng Nghymru y gorau i godi tâl am ddosbarthu presgripsiynau, gan ganiatáu iddynt gael eu hysgrifennu gan feddyg teulu yng Nghymru. O'r un dyddiad, nid oes tystysgrifau rhagdalu presgripsiwn ar gael bellach i gleifion Cymru.
Rwy'n byw yng Nghymru yn agos at y ffin ond mae fy meddyg teulu yn Lloegr lle mae presgripsiynau'n costio. A fydd angen imi dalu am fy mhresgripsiynau?
Ers 1 Awst 2006, mae cleifion cymwys (hy y rhai sy'n byw yng Nghymru ond sydd wedi cofrestru gyda meddygfa yn Lloegr) wedi gallu gwneud cais i'w Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir am gerdyn hawlio presgripsiwn am ddim. Gall deiliaid cardiau gael eu presgripsiwn wedi ei ddosbarthu am ddim, ar yr amod eu bod yn mynd â’r presgripsiwn i fferyllfa yng Nghymru i gael y presgripsiwn.
A allaf fynd â fy mhresgripsiwn at fferyllydd y tu allan i Gymru?
Gallwch fynd â'ch presgripsiwn at unrhyw fferyllfa. Fodd bynnag, bydd presgripsiwn a ysgrifennwyd yng Nghymru ac a gyflwynir i fferyllfa yn Lloegr yn costio yn unol â'r rheolau presgripsiwn sydd mewn grym ar hyn o bryd yn Lloegr.
Beth yw'r Cynllun Cerdyn Melyn?
Mae'r Cynllun Cerdyn Melyn yn caniatáu i gleifion riportio unrhyw sgîl-effeithiau diangen a achosir gan feddyginiaethau y maent yn eu cymryd trwy gwblhau Cerdyn Melyn a'i anfon at y corff gwarchod meddyginiaethau, sef yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Mae'r MHRA yn casglu'r wybodaeth ac yn ei ddefnyddio i fonitro diogelwch meddyginiaethau sydd ar gael ar y farchnad. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau llysieuol, meddyginiaethau presgripsiwn a meddyginiaethau dros y cownter.
Gallwch gael Cerdyn Melyn o fferyllfa neu feddygfa, trwy lawrlwytho'r ap Cerdyn Melyn, lawrlwytho'r ffurflen Cerdyn Melyn, neu trwy ffonio'r llinell gymorth Cerdyn Melyn ar 0808 100 3352 (dydd Llun i ddydd Gwener 10am-2pm). Y ffordd gyflymaf i riportio sgîl-effeithiau a amheuir yw ar wefan MHRA. Os ydych chi'n poeni am sgîl-effeithiau posibl eich meddyginiaeth, gallwch siarad â'ch meddyg teulu neu fferyllydd i gael cyngor.
Dolenni fferylliaeth
Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (The Royal Pharmaceutical Society)
Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr yw'r corff proffesiynol ar gyfer fferyllwyr. Ei nod yw datblygu'r proffesiwn fferylliaeth a sicrhau fod y gwasanaethau y mae fferyllwyr yn eu cynnig yw'r gorau i gleifion a'r cyhoedd.
Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol
Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) yw’r rheolydd annibynnol ar gyfer fferyllwyr, technegwyr fferyllol a safleoedd fferyllol ym Mhrydain Fawr. Mae'n gweithio i sicrhau a gwella safonau gofal i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau fferyllol.
Gwasanaethau Presgripsiwn y GIG (NHS Prescription Services)
Mae Gwasanaethau Presgripsiwn y GIG yn rheoli ystod o wasanaethau yn y GIG yng Nghymru, fel y rhai a wneir gan HSW a’r Canolfannau Gwasanaethau Busnes yn Nghymru. Mae hefyd yn cynhyrchu'r Tariff Cyffuriau a ddefnyddir gan Yr Adran Iechyd a Llywodraeth Cymru.
Gallwch hefyd ymweld â Byrddau Iechyd unigol i gael gwybodaeth am sut mae gwasanaethau fferylliaeth yn cael eu trefnu yn lleol.