Fferyllfeydd - gwybodaeth a cysylltau
Mae’r adran yma yn darparu gwybodaeth am wasanaethau Fferylliaeth yng Nghymru, yn cynnwys arweiniad ar sut i gael mynediad i wasanaethau fferylliaeth.
Mae nifer o Fferyllfeydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau y gallwch eu defnyddio trwy gydol yr wythnos, megis dulliau atal cenhedlu brys neu chyfleusterau cyfnewid nodwyddau. Gwasanaethau eraill mae fferyllfeydd yn darparu yw (efallai na fydd pob un o'r isod ar gael ym mhob fferyllfa):
- Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin
- cyngor ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn
- cyngor ar byw'n iach
- archwiliadau iechyd
- cyngor ar cyflyrau cronig
- cyngor ar iechyd rhywiol
- brechliad ffliw
- cyngor ar anymataliaeth
- meddyginiaeth dros y cownter
- adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau
- cael gwared o feddyginiaeth
- rhoi cyffuriau dan oruchwyliaeth
- profion clyw
- profion llygaid
Yn ogystal â Fferyllfeydd y Stryd Fawr, mae gwasanaethau fferylliaeth ar gael mewn amrywiaeth o archfarchnadoedd mawr sy’n aml ar agor y tu allan i oriau agor y Stryd Fawr.
Am wybodaeth bellach am oriau agor Fferyllfeydd lleol, ewch i Chwilio am Fferyllfa.
Cysylltiadau Fferylliaeth
Video - Gall eich fferyllydd leol helpu (Betsi Cadwaladr)
Y Cymdeithas Fferyllol Brenhinol
Y Cymdeithas Fferyllol Brenhinol Prydain Fawr yw corff proffesiynol fferyllwyr. Eu amcan yw i ddatblygu proffesiwn fferyllwyr ac i sicrhau fod y gwasanaethau maent yn cynnig y gorau posib i gleifion a’r cyhoedd.
Atebion Iechyd Cymru (HSW)
Mae HSW yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau arbenigol yn y GIG yn cynnwys prosesu manylion yr holl bresgripsiynau a gaiff eu dosbarthu. Mae HSW yn bwydo’r ystadegau yn ôl i’r GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau er mwyn i fferyllfeydd gael ad-daliadau am y cyffuriau y maent wedi eu dosbarthu.
Awdurdod Prisio Presgripsiynau (PPA)
Mae’r PPA yn rheoli amrywiaeth o wasanaethau yng Nghymru a Lloegr, yn debyg i'r rhai y mae HSW a’r Ganolfan Gwasanaethau Busnes yn eu rheoli yng Nghymru. Maent hefyd yn cynhyrchu’r Tariff Cyffuriau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Adran Iechyd.
Gweler hefyd Byrddau Iechyd unigol am wybodaeth ar sut mae gwasanaethau Fferylliaeth wedi eu trefnu yn eich ardal chi.