Norofirws

Cyflwyniad

Mae norofirws, sydd hefyd yn cael ei alw'n 'fyg chwydu'r gaeaf', yn fyg stumog sy'n achosi chwydu a dolur rhydd. Mae'n gallu bod yn annymunol iawn, ond mae'n gwella ymhen tua 2 ddiwrnod fel arfer.

Gwiriwch i weld a oes gennych chi norofirws

Prif symptomau norofirws yw:

  • teimlo'n gyfoglyd
  • dolur rhydd
  • chwydu

Efallai y bydd gennych chi hefyd:

  • dymheredd uchel o 38C neu uwch
  • cur pen/pen tost
  • dolur yn eich breichiau a'ch coesau

Mae'r symptomau'n dechrau'n sydyn o fewn 1 i 2 ddiwrnod o gael eich heintio.

Sut i drin norofirws eich hun

Gallwch drin eich hun neu'ch plentyn gartref, fel arfer.

Dylech ddechrau teimlo'n well ymhen diwrnod neu ddau.

Darllenwch am sut i drin dolur rhydd a chwydu mewn plant ac oedolion.

Arhoswch i ffwrdd o'r ysgol neu'r gwaith hyd nes y bydd y symptomau wedi peidio am 2 ddiwrnod. Ceisiwch osgoi ymweld ag unrhyw un yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod hwn hefyd.

Dyma pryd byddwch chi'n fwyaf heintus.

Sut mae norofirws yn lledaenu

Mae norofirws yn gallu lledaenu'n rhwydd iawn.

Gallwch ddal norofirws trwy:

  • gysylltiad agos â rhywun sydd â norofirws
  • cyffwrdd ag arwynebau neu wrthrychau y mae rhywun sydd â norofirws wedi cyffwrdd â nhw
  • bwyta bwyd sydd wedi cael ei baratoi neu ei drin gan rywun sydd â norofirws

Golchi eich dwylo'n aml â sebon a dwr yw'r ffordd orau o'i atal rhag lledaenu. Nid yw geliau dwylo alcohol yn lladd norofirws.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 08/06/2022 10:44:01