Polisi Preifatrwydd Gwefan
Mae Galw Iechyd Cymru yn ymroddedig i amddiffyn preifatrwydd pob unigolyn sydd yn defnyddio’r wefan hon.
Amlygir y datganiad sydd yn dilyn ymarferion preifatrwydd http://111.wales.nhs.uk. Mae hi’n berthnasol am y wefan hon yn unig.
Casglu a Defnyddio Gwybodaeth
Nid yw gwefan GIG 111 Cymru yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y wefan.
Pan fyddwch yn rhoi data, yn wirfoddol ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys llenwi ffurflenni adborth a holiaduron) fe gaiff yr wybodaeth ei recordio i gloriannu a gwella’r wefan.
Mae pob cais a dderbynnir trwy’r gwasanaeth ymholiadau arlein yn cael ei chadw yn gyfrinachol llwyr. Ni fyddwn ni’n rhannu gwybodaeth defnyddwyr y wefan a neb arall.
Olrhain Defnyddiwr
Rydym ni’n monitro gweithgaredd defnyddwyr ar y wefan er mwyn datblygu defnyddiau a ddarparir ar y wefan. Mae Google Analytics (GA) yn wasanaeth am ddim a ddarparir gan Google sydd yn cynhyrchu ystadegau manwl am yr ymwelwyr i wefan.
Mae’r wybodaeth sydd yn cael ei chasglu yn cynnwys tudalennau gwe cyfeirio a gadael, patrymau clician, tudalennau gwe a chwilwyd mwyaf / lleiaf aml, hyd y sesiwn, nifer yr ymwelwyr, math o borwr, system rheoli ac ati. Defnyddir cwcis er mwyn casglu gwybodaeth. Ni chesglir gwybodaeth bersonol.
Targedu cwcis / picsel / tagiau - Mae'r cwcis hyn a thechnolegau tebyg yn cofnodi eich ymweliad â'n gwefan, y tudalennau yr ydych wedi ymweld â nhw, y dolenni rydych chi wedi eu dilyn, a chipio sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch ein gwefan pan fyddant yn ei ddefnyddio. Nid ydym yn casglu data personol trwy'r picseli olrhain / tagiau / cwcis hyn. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i fesur effeithiolrwydd ein gwefan a chyfathrebu.
Cwcis
Darn o ddata yw cwci sydd yn cael ei roi ar ddisg-yrrwr caled defnyddiwr wrth iddo ymweld â gwefan neilltuol. Caiff ei ddefnyddio i: adnabod porwr gwe unigol, ddilyn tueddiadau defnyddiwr, gadw gwybodaeth am ddewisiadau defnyddiwr. Fe fedrwch chi gyfyngu ar, neu anablu, cwcis yn eich porwr. O ganlyniad i anablu mae hi’n bosib na fydd rhai o nodweddion y wefan yn gweithio yn iawn.
Google Analytics
Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi gwe a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio cod 'cwcis' a JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Bydd gwybodaeth a gynhyrchir am ddefnyddio'r wefan (gan gynnwys cyfeiriadau IP dienw) yn cael ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig a'u storio arnynt.
Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiadau gweithgaredd defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo'n ofynnol iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu pan fo trydydd partïon o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu'r wybodaeth ddienw hon gyda thrydydd partïon. Mae gan ICrossing Limited a Golley Slater Limited fynediad i'r wybodaeth ddienw hon i helpu i wella ein gwasanaeth.
Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google brosesu data amdanoch yn y modd ac at y dibenion a nodir uchod.
Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google yn llawn ac Amodau’r Gwasanaeth am wybodaeth fanwl.
Yn ogystal, mae’r wefan hon yn gweithredu Google Analytics Demographics a Interest Reporting. Defnyddir hyn i ddirnad oedran, rhyw a diddordebau ein defnyddwyr er mwyn ein cynorthwyo â phenderfyniadau ar wella’r wefan yn y dyfodol.
Fe all defnyddwyr ddewis osgoi’r adroddiadau hyn trwy ymweld â Google Ads Settings. Mae hefyd Google Analytics Opt-out Browser Add-on ar gael i’w lawrlwytho.
Ffeiliau Log
Bydd GIG 111 Cymru yn defnyddio cofnodion o dudalenau a ymwelir â hwy gan ddefnyddwyr ar wefan GIG 111 Cymru i: ddadansoddi tueddiadau, weinyddu’r wefan, a dilyn symudiadau defnyddwyr er mwyn gwella’r wefan. Nid yw ein cofnodion yn cynnwys gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr.
Cysylltau
Mae’r wefan hon yn cynnwys cysylltau i wefannau eraill. Sylwch, os gwelwch yn dda, nid yw GIG 111 Cymru’n gyfrifol am ymarferion preifatrwydd gwefannau eraill. Rydym ni’n annog ein defnyddwyr i fod yn ymwybodol wrth ymadael â’n gwefan ni ac iddynt ddarllen datganiadau preifatrwydd gwefannau eraill.
Data Lleoliad
Rydym yn defnyddio geoleoliad i ddarparu canlyniadau lleoliad-benodol ar gyfer gwasanaethau sy'n lleol i chi. Mae Geoleoliad yn dechnoleg sy'n defnyddio data a gafwyd o ddyfais sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd i nodi lleoliad daearyddol unigolyn, yn hydredol a lledredol. Mae rhai o'n gwasanaethau sy'n galluogi lleoliad angen eich gwybodaeth bersonol er mwyn i'r nodwedd weithio megis cod post. Gellir echdynnu codau post trwy dechnoleg geoleoli trwy ddefnyddio'r data hydredol a lledredol. Unwaith y byddwch wedi rhoi caniatâd i ni wybod lleoliad, bydd y wefan yn cael mynediad at eich lleoliad bob tro y byddwch yn ymweld â'r dudalen we, oni bai eich bod yn newid gosodiadau eich porwr. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd drwy analluogi Data Lleoliad yng ngosodiadau eich porwr. Nid ydym yn cadw'r data lleoliad.