Tricomoniasis

Cyflwyniad

Mae tricomoniasis yn haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) a achosir gan barasit bach iawn o'r enw Trichomonas vaginalis (TV). 

Symptomau tricomoniasis

Mae symptomau tricomoniasis fel arfer yn datblygu o fewn mis o gael eich heintio.

Ond ni fydd hyd at hanner y bobl yn datblygu unrhyw symptomau (er y gallant drosglwyddo'r haint i bobl eraill o hyd).

Mae symptomau tricomoniasis yn debyg i symptomau llawer o heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol (STIs), felly gall fod yn anodd ei ganfod weithiau.

Symptomau mewn menywod

Efallai na fydd menywod yn sylwi bod unrhyw beth o'i le, ond gallant drosglwyddo TV i'w partner rhywiol o hyd. Efallai bydd rhai menywod yn sylwi ar un neu fwy o'r canlynol:

  • rhedlif cynyddol o'r fagina
  • arogl amhleserus o'r fagina
  • 'systitis' neu boen sy'n llosgi wrth basio wrin
  • cosi neu ddolur yn y fwlfa - poen yn y fagina yn ystod rhyw

Symptomau mewn dynion

Ni fydd y rhan fwyaf o ddynion yn teimlo bod unrhyw beth o'i le, ond gallant drosglwyddo TV i'w partner rhywiol o hyd. Efallai bydd rhai dynion yn sylwi ar un neu fwy o'r canlynol:

  • rhedlif o flaen y pidyn
  • poen sy'n llosgi pan fyddant yn pasio wrin
  • maen nhw eisiau pasio wrin yn amlach na'r arfer
  • dolur o gwmpas y blaengroen

Pryd i ofyn am gyngor meddygol

Ewch i weld meddyg teulu neu ewch i'ch clinig iechyd rhywiol lleol os byddwch yn datblygu unrhyw un o symptomau tricomoniasis neu os ydych yn meddwl efallai bod gennych yr haint.

Sut ydw i'n cael prawf am TV?

Mewn menywod:

  • Nid yw'n brawf arferol ym mhob clinig, ond bydd fel arfer yn cael ei wneud os oes gennych chi symptomau. Os oes gennych chi symptomau, mae'n well os yw meddyg neu nyrs yn cymryd swab o ran uchaf y fagina yn ystod archwiliad mewnol. Gall rhai clinigau brofi am TV ar sampl wrin. Os yw'r prawf hwn wedi'i drefnu, ni ddylech fod wedi pasio wrin am awr.

Mewn dynion:

  • Yn y rhan fwyaf o glinigau, nid yw'n rhan o'r drefn arferol profi dynion am TV. Mae dynion fel arfer yn cael prawf TV gan fod eu partner wedi profi'n bositif. Cymerir swab o flaengroen y pidyn. Gall rhai clinigau brofi am TV ar sampl wrin. Os yw'r prawf hwn wedi'i drefnu, ni ddylech fod wedi pasio wrin am awr.    

Nid yw'r rhan fwyaf o brofion ar gyfer TV yn gweithio'n dda iawn mewn dynion, ac mae hyn yn esbonio pam y bydd y rhan fwyaf o ddynion sydd â haint TV yn profi'n negyddol. Os yw'r prawf yn dangos bod tricomoniasis arnoch chi, mae'n bwysig fod eich partner rhywiol presennol ac unrhyw bartneriaid eraill diweddar yn cael eu profi a'u trin hefyd.

Sut ydych chi'n cael tricomoniasis?

Caiff tricomoniasis ei achosi gan barasit bach iawn o'r enw Trichomonas vaginalis.

Mewn menywod, mae'r parasit hwn yn heintio'r fagina a'r tiwb sy'n cario wrin allan o'r corff (wrethra) yn bennaf.

Mewn dynion, mae'r haint yn effeithio ar yr wrethra yn bennaf, ond mae blaen y pidyn neu'r chwarren brostad, sef chwarren yn agos at y bledren sy'n helpu cynhyrchu semen, yn gallu cael eu heintio mewn rhai achosion.

Fel arfer, caiff y parasit ei ledaenu trwy gael rhyw heb ddefnyddio condom.

Gallai gael ei ledaenu hefyd trwy rannu teganau rhyw os nad ydych yn eu golchi neu'n eu gorchuddio â chondom newydd cyn eu defnyddio.

Nid oes rhaid i chi gael llawer o bartneriaid rhywiol i ddal tricomoniasis. Gall unrhyw un sy'n weithredol yn rhywiol ei ddal, a'i drosglwyddo.

Ni chredir bod tricomoniasis yn gallu cael ei drosglwyddo wrth gael rhyw drwy'r geg neu ryw drwy'r anws.

Hefyd, ni allwch chi drosglwyddo tricomoniasis trwy:

  • gusanu neu gofleidio
  • rhannu cwpanau, platiau neu gyllyll a ffyrc
  • seddi toiled

Y ffordd orau o atal tricomoniasis yw cael rhyw mwy diogel. Mae hyn yn golygu defnyddio condom bob amser wrth gael rhyw, gorchuddio unrhyw deganau rhyw rydych chi'n eu defnyddio â chondom, a golchi teganau rhyw ar ôl eu defnyddio.

Trin tricomoniasis

Mae TV yn gallu cael ei drin yn hawdd â gwrthfiotig. O bryd i'w gilydd, bydd angen ail gwrs o wrthfiotig os nad yw eich symptomau'n gwella. Caiff y rhan fwyaf o ddynion a menywod eu trin â gwrthfiotig o'r enw metronidazole, sydd fel arfer yn cael ei gymryd am 5 i 7 diwrnod.

Mae'n bwysig cwblhau'r cwrs cyfan o wrthfiotig ac osgoi cael rhyw hyd nes bydd yr haint wedi clirio, er mwyn atal ail haint. Ni ddylech gael rhyw (hyd yn oed gan ddefnyddio condom) tan wythnos ar ôl i chi a'ch partner orffen eich triniaeth. 

Dylai eich partner rhywiol presennol ac unrhyw bartneriaid eraill diweddar gael eu trin hefyd.

Gallwch chi ddal TV eto.

Cymhlethdodau tricomoniasis

Mae cymhlethdodau tricomoniasis yn brin, er y gallai rhai menywod sydd â'r haint fod mewn risg gynyddol o gael problemau pellach.

Os byddwch yn cael haint tricomoniasis tra byddwch chi'n feichiog, gallai'r haint achosi i'ch babi:

  • gael ei eni cyn amser (cyn wythnos 37 y beichiogrwydd)
  • cael pwysau geni isel

Diagnosis

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Triniaeth

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Atal

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 10/04/2024 10:28:58