Seicosis

Cyflwyniad

Seicosis yw pan fydd pobl yn colli cyswllt â realiti. Gall hyn gynnwys gweld neu glywed pethau nad yw pobl eraill yn gallu eu gweld neu'u clywed (rhithiau) a chredu pethau nad ydynt yn wir mewn gwirionedd (rhithdybiau). 

Symptomau seicosis

Dyma 2 brif symptom seicosis:

  • rhithiau - pan mae unigolyn yn clywed, yn gweld ac, mewn rhai achosion, yn teimlo, yn arogli neu'n blasu pethau nad ydynt yn bodoli y tu allan i'w feddwl ond sy'n gallu teimlo'n real iawn i'r unigolyn sy'n cael ei effeithio ganddynt; rhith cyffredin yw pan mae pobl yn clywed lleisiau 
  • rhithdybiau - pan mae gan unigolyn gredoau cryf nad ydynt yn cael eu rhannu gan bobl eraill; rhithdyb gyffredin yw rhywun yn credu bod cynllwyn i wneud drwg iddo 

Mae'r cyfuniad o rithiau a meddwl rhithiol yn gallu achosi gofid difrifol a newid mewn ymddygiad.

Cyfeirir yn aml at brofi symptomau seicosis fel cael pwl seicotig.

Pryd i geisio cyngor meddygol

Dylech chi fynd i weld meddyg teulu ar unwaith os ydych chi'n profi symptomau seicosis.

Mae'n bwysig trin seicosis cyn gynted ag y bo modd, gan fod triniaeth gynnar yn gallu bod yn fwy effeithiol.

Gallai'r meddyg teulu ofyn cwestiynau i chi er mwyn helpu penderfynu beth sy'n achosi'r seicosis.

Hefyd, dylai eich cyfeirio at arbenigwr iechyd meddwl i gael asesiad pellach a thriniaeth.

Cael cymorth ar gyfer pobl eraill

Os ydych yn pryderu am rywun rydych yn ei adnabod, gallech gysylltu â meddyg teulu ar ei ran.

Os yw'r unigolyn yn cael cymorth gan wasanaeth iechyd meddwl, gallech gysylltu â'i weithiwr iechyd meddwl.

Os ydych yn credu bod symptomau'r unigolyn yn ddigon difrifol i fod angen triniaeth frys ac y gallent ei roi mewn risg bosibl, gallwch chi:

  • fynd ag ef i'r adran damweiniau ac achosion brys (A&E) agosaf, os yw'n cytuno
  • ffonio ei feddyg teulu neu feddyg teulu lleol y tu allan i oriau
  • ffonio 999 a gofyn am ambiwlans 

Mae nifer o llinellau cymorth iechyd meddwl ar gael hefyd, sy'n gallu cynnig cyngor arbenigol.

Achosion seicosis

Weithiau, mae'n bosibl nodi mai achos seicosis yw cyflwr iechyd meddwl penodol, fel:

  • sgitsoffrenia - cyflwr sy'n achosi amrywiaeth o symptomau seicolegol, yn cynnwys rhithiau a rhithdybiau
  • anhwylder deubegwn - cyflwr iechyd meddwl sy'n effeithio ar hwyliau; gall rhywun ag anhwylder deubegwn gael pyliau o hwyliau isel (iselder) a chyfnodau o deimlo'n hapus neu mewn hwyliau llawen (mania)
  • iselder difrifol - mae rhai pobl ag iselder hefyd yn cael symptomau seicosis pan fyddant yn isel iawn 

Gall seicosis gael ei ysgogi gan y canlynol:

Mae pa mor aml y bydd rhywun yn dioddef pwl seicotig a pha mor hir mae'n para yn gallu dibynnu ar yr achosion gwaelodol. 

Trin seicosis

Mae triniaeth ar gyfer seicosis yn cynnwys defnyddio cyfuniad o'r canlynol:

  • meddyginiaethau gwrthseicotig - sy'n gallu helpu i leddfu symptomau seicosis
  • therapïau seicolegol - mae'r therapi siarad un i un therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) wedi bod yn llwyddiannus wrth helpu pobl â seicosis, a dangoswyd bod ymyriadau teuluol (math o therapi a allai gynnwys partneriaid, aelodau o'r teulu a ffrindiau agos) yn lleihau'r angen am driniaeth ysbyty ymhlith pobl â seicosis
  • cymorth cymdeithasol - cymorth ag anghenion cymdeithasol, fel addysg, cyflogaeth neu lety

Argymhellir y dylai rhai pobl gymryd meddyginiaethau gwrthseicotig yn y tymor hir (ac o bosibl am weddill eu bywydau). Efallai y bydd pobl eraill yn gallu lleihau eu dos yn raddol, ac wedyn rhoi'r gorau i'w cymryd yn gyfan gwbl os bydd gwelliant sylweddol yn eu symptomau.

Peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd unrhyw feddyginiaethau ar bresgripsiwn yn sydyn, oherwydd gallai hyn achosi i'ch symptomau ddychwelyd. 

Os yw pyliau seicotig unigolyn yn ddifrifol, efallai y bydd angen iddo fynd i ysbyty neu uned seiciatrig am driniaeth.

Cymhlethdodau seicosis

Mae pobl sydd â hanes o seicosis yn fwy tebygol na phobl eraill o gael problemau o ran camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, neu'r ddau.

Mae rhai pobl yn defnyddio'r sylweddau hyn fel ffordd o reoli symptomau seicotig.

Ond gall camddefnyddio sylweddau wneud symptomau seicotig yn waeth, neu achosi problemau eraill.

Hunan-niwed a hunanladdiad

Mae pobl â seicosis yn wynebu risg uwch na'r cyffredin o hunan-niwed a hunanladdiad.

Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n hunan-niweidio.

Hefyd, gallwch chi ffonio'r Samariaid, yn rhad ac am ddim, ar 116 123, am gymorth.

Mae elusen iechyd meddwl Mind yn cynnig gwybodaeth a chyngor defnyddiol hefyd.

Os ydych yn credu bod ffrind neu berthynas yn hunan-niweidio, cadwch olwg am arwyddion o doriadau, cleisiau neu losgiadau sigarét heb eu hesbonio, fel arfer ar yr arddyrnau, y breichiau, y cluniau a'r frest.

Gallai pobl sy'n hunan-niweidio gadw eu hunain wedi eu gorchuddio bob amser, hyd yn oed mewn tywydd poeth.

Darllenwch fwy ynghylch:

Os ydych yn teimlo eich bod eisiau lladd eich hun, gallwch chi:

  • ffonio gwasanaeth cymorth y Samariaid ar 116 123
  • mynd i'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf a dweud wrth y staff sut rydych chi'n teimlo
  • siarad â ffrind, aelod o'r teulu, neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddo
  • trefnu apwyntiad brys i weld meddyg teulu, seiciatrydd, neu dîm gofal

Darllenwch fwy ynghylch:

Symptomau

Bydd rhywun sy'n datblygu seicosis yn cael eu set unigryw eu hunain o symptomau a phrofiadau, yn unol â'u hamgylchiadau penodol.

Ond, yn gyffredinol, mae 3 phrif symptom sy'n gysylltiedig â phwl seicotig, sef:

  • rhithiau
  • rhithdybiau
  • meddyliau dryslyd a chythryblus

Rhithiau

Rhith yw pan fydd rhywun yn gweld, yn clywed, yn arogli, yn blasu neu'n teimlo pethau nad ydynt yn bodoli y tu allan i'w meddwl. 

  • golwg - gweld lliwiau, ffurfiau, neu bobl
  • synau - clywed lleisiau neu synau eraill
  • cyffwrdd - teimlo bod rhywun yn cyffwrdd â chi pan does neb yno
  • arogl - arogl nad yw pobl eraill yn gallu ei arogli
  • blas - blas pan does dim byd yn y geg

Rhithdybiau

Rhithdyb yw pan fydd gan unigolyn gred ddiysgog mewn rhywbeth sy'n anwir.

Gallai rhywun â rhithdybiau yn ymwneud ag erlid gredu bod unigolyn neu sefydliad yn bwriadu ei frifo neu'i ladd. 

Gallai unigolyn sy'n cael rhithdybiau o fawredd gredu bod ganddo bŵer neu awdurdod. Er enghraifft, gallai feddwl ei fod yn arlywydd gwlad neu fod ganddo'r pŵer i atgyfodi pobl sydd wedi marw.

Yn aml, nid yw pobl sy'n cael pyliau seicotig yn gwybod nad yw eu rhithiau neu rithdybiau yn real, a gallai hyn achosi iddyn nhw deimlo'n ofnus neu'n ofidus.

Meddyliau dryslyd a cythryblus

Weithiau, mae gan bobl â seicosis batrymau meddwl cythryblus, dryslyd ac aflonydd. Bydd arwyddion o hyn yn cynnwys:

  • siarad yn gyflym ac yn ddi-baid
  • siarad yn gythryblus - er enghraifft, gallant newid o un testun i destun arall ar ganol brawddeg 
  • gall eu llwybr meddwl stopio'n sydyn, ac arwain at oedi sydyn yn y sgwrs, neu weithgarwch.

Seicosis ôl-enedigol

Mae seicosis ôl-enedigol, sydd hefyd yn cael ei alw'n seicosis ôl-esgorol, yn fath difrifol o iselder ôl-enedigol, sef math o iselder y mae rhai menywod yn ei gael ar ôl iddynt gael baban. 

Amcangyfrifir bod seicosis ôl-enedigol yn effeithio ar ryw 1 o bob 1,000 o fenywod sy'n geni plentyn. Mae'n digwydd yn fwyaf cyffredin yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl cael baban.

Mae seicosis ôl-enedigol yn fwy tebygol o effeithio ar fenywod sydd eisoes â chyflwr iechyd meddwl, fel anhwylder deubegwn neu sgitsoffrenia.

Yn ogystal â symptomau eraill seicosis, mae symptomau seicosis ôl-enedigol yn gallu cynnwys newidiadau mewn hwyliau:

  • hwyliau uchel (gorffwylledd) - er enghraifft, teimlo'n llawen, siarad a meddwl gormod neu'n rhy gyflym
  • hwyliau isel - er enghraifft, teimlo'n drist, diffyg egni, colli awydd bwyd a thrafferth cysgu

Cysylltwch â'ch meddyg teulu ar unwaith os ydych yn meddwl eich bod chi neu rywun rydych yn ei adnabod efallai wedi datblygu seicosis ôl-enedigol, gan fod hyn yn argyfwng meddygol. Os nad yw hyn yn bosibl, ffoniwch 111 (os yw ar gael yn eich ardal), neu 0845 46 47. 

Os ydych yn credu bod perygl o niwed ar fin digwydd, ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans.

Nid yw seicosis yr un fath â seicopath

Ni ddylid drysu rhwng y termau "seicosis" a "seicopath".

Cyflwr tymor byr (aciwt) sydd gan rywun â seicosis, ac os caiff ei drin, yn aml, gall arwain at adferiad llawn.

Mae seicopath yn rhywun sydd ag anhwylder personoliaeth wrthgymdeithasol, sy'n golygu:

  • nad oes ganddo empathi - y gallu i ddeall sut mae rhywun arall yn teimlo
  • bod ganddo ymddygiad sydd â'r bwriad o reoli
  • yn aml, mae'n diystyru'n llwyr beth yw canlyniadau ei weithredoedd

Weithiau, gall pobl â phersonoliaeth wrthgymdeithasol achosi bygythiad i bobl eraill gan eu bod yn gallu bod yn dreisgar. Mae'r rhan fwyaf o bobl â seicosis yn fwy tebygol o niweidio eu hunain na phobl eraill.

Achosion

Gall seicosis gael ei achosi gan gyflwr meddyliol (seicolegol), sef cyflwr meddygol cyffredinol, neu gamddefnyddio alcohol neu gyffuriau.

Achosion seicolegol

Mae'n hysbys bod y cyflyrau canlynol wedi ysgogi pyliau seicotig ymhlith rhai pobl:

  • sgitsoffrenia - cyflwr iechyd meddwl cronig sy'n achosi rhithiau a rhithdybiau
  • anhwylder deubegwn - gall rhywun ag anhwylder deubegwn gael pyliau o hwyliau isel (iselder) a chyfnodau o deimlo'n hapus neu mewn hwyliau llawen (mania)  
  • straen, neu gorbryder difrifol 
  • iselder difrifol - teimladau o dristwch parhaus, gan gynnwys iselder ôl-enedigol, y mae rhai menywod yn ei gael ar ôl cael baban   
  • diffyg cwsg

Bydd yr achos seicolegol gwaelodol yn aml yn dylanwadu ar y math o bwl seicotig mae rhywun yn ei brofi.

Er enghraifft, mae rhywun ag anhwylder deubegwn yn fwy tebygol o gael rhithdybiau o fawredd. Mae rhywun sy'n dioddef o iselder neu sgitsoffrenia yn fwy tebygol o ddatblygu rhithdybiau yn ymwneud ag erlid.

Cyflyrau meddygol cyffredinol

Mae'n hysbys bod y cyflyrau meddygol canlynol wedi ysgogi pyliau seicotig ymhlith rhai pobl:

Sylweddau

Gall camddefnyddio alcohol a camddefnyddio cyffuriau ysgogi pwl seicotig.

Gall rhywun gael pwl seicotig hefyd os yw'n rhoi'r gorau yn sydyn i yfed alcohol neu gymryd cyffuriau ar ôl bod yn eu defnyddio am gyfnod hir. Diddyfnu yw'r enw ar hyn.

Mae hefyd yn bosibl profi seicosis ar ôl yfed llawer o alcohol neu os ydych yn uchel ar gyffuriau.

Mae cyffuriau y mae'n hysbys eu bod yn ysgogi pyliau seicotig yn cynnwys:

  • cocên
  • amffetamin (sbîd)
  • methamffetamin (crystal meth)
  • meffedrôn (MCAT neu miaw)
  • MDMA (ecstasi)
  • canabis
  • LSD (asid)
  • psilocybinau (madarch hud)
  • cetamin

Mewn sefyllfaoedd prin, gall seicosis ddigwydd hefyd fel sgîl-effaith rhai mathau o feddyginiaeth, neu o ganlyniad i orddos o'r feddyginiaeth honno.

Peidiwch byth â rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn oni bai bod eich meddyg teulu, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig arall sy'n gyfrifol am eich gofal, wedi dweud wrthych am wneud hynny.

Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych chi'n cael sgîl-effeithiau seicotig wedi eu hachosi gan feddyginiaeth.

Yr ymennydd

Mae llawer o ymchwil wedi bod i edrych ar y modd y mae seicosis yn effeithio ar yr ymennydd a'r modd y gall newidiadau yn yr ymennydd ysgogi symptomau seicosis.

Dopamin

Mae ymchwilwyr yn credu bod dopamin yn chwarae rhan bwysig mewn seicosis.

Trawsyrrydd niwro yw dopamin, sef un o lawer o gemegau sy'n cael eu defnyddio gan yr ymennydd i drawsyrru gwybodaeth o un gell yr ymennydd i un arall. Mae dopamin yn gysylltiedig â'r ffordd rydym yn teimlo os yw rhywbeth yn arwyddocaol, yn bwysig neu'n ddiddorol.

Gall yr amharu ar swyddogaethau pwysig yr ymennydd fel y rhain esbonio symptomau seicosis.

Mae'r dystiolaeth ar gyfer rôl dopamin mewn seicosis yn dod o sawl ffynhonnell, gan gynnwys sganiau ymennydd, ac mae'r ffaith fod meddyginiaethau y mae'n hysbys eu bod yn lleihau effeithiau dopamin yn yr ymennydd hefyd yn lleihau symptomau seicosis. 

Diagnosis

Dylech chi fynd i weld eich meddyg teulu os ydych chi'n profi symptomau seicosis.

Mae'n bwysig siarad â'ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl gan fod cael triniaeth gynharach yn gallu bod yn fwy effeithiol.

Asesiad cychwynnol

Nid oes prawf i wneud diagnosis cadarnhaol o seicosis. Fodd bynnag, bydd eich meddyg teulu'n gofyn am eich symptomau ac achosion posibl.

Er enghraifft, efallai bydd yn gofyn i chi:

  • a ydych chi'n cymryd unrhyw feddyginiaeth   
  • a ydych chi wedi bod yn cymryd sylweddau anghyfreithlon 
  • sut hwyliau fu arnoch chi – er enghraifft, a ydych chi wedi bod yn teimlo'n isel 
  • sut buoch chi'n ymdopi o ddydd i ddydd - er enghraifft, a ydych chi'n dal yn gweithio 
  • a oes gennych chi hanes teuluol o gyflyrau iechyd meddwl, fel sgitsoffrenia
  • am fanylion eich rhithiau, er enghraifft a ydych chi wedi clywed lleisiau
  • am fanylion eich rhithdybiau, er enghraifft a ydych chi'n teimlo fel bod pobl yn eich rheoli chi 
  • a oes unrhyw symptomau eraill gennych chi

Atgyfeirio 

Yn sgil y dystiolaeth sy'n cefnogi trin seicosis yn gynnar, rydych chi'n debygol o gael eich cyfeirio at arbenigwr ar frys.

Byddwch chi'n cael eich cyfeirio at rywun penodol, gan ddibynnu ar y gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal. Efallai byddwch chi'n cael eich cyfeirio at y canlynol:

  • tîm iechyd meddwl cymunedol – tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n rhoi cymorth i bobl â chyflyrau iechyd meddwl cymhleth 
  • tîm datrys argyfwng – tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n trin pobl y byddai angen triniaeth arnynt mewn ysbyty fel arall
  • tîm ymyrraeth gynnar – tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi cael eu pwl cyntaf o seicosis 

Mae'r timau hyn yn debygol o gynnwys rhai neu'r cyfan o'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • seiciatrydd – meddyg cymwysedig sydd wedi cael hyfforddiant pellach mewn trin cyflyrau iechyd meddwl
  • nyrs iechyd meddwl gymunedol – nyrs â hyfforddiant arbenigol mewn cyflyrau iechyd meddwl 
  • seicolegydd – gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo mewn asesu a thrin cyflyrau iechyd meddwl 

Bydd eich seiciatrydd yn gwneud asesiad llawn i helpu adnabod a chanfod unrhyw gyflwr iechyd meddwl sylfaenol a allai fod yn achosi eich symptomau. Bydd hyn yn ei helpu wrth gynllunio eich triniaeth ar gyfer seicosis.

Helpu pobl eraill 

Mae'r diffyg mewnwelediad a lefel y gofid sy'n gysylltiedig â seicosis yn golygu na fydd pobl sy'n cael seicosis yn gallu adnabod eu symptomau bob amser.

Efallai y byddant yn amharod i fynd i weld meddyg teulu os byddant yn credu nad oes unrhyw beth o'i le arnynt. Efallai bydd angen i chi helpu trefnu eu bod yn cael cymorth a thriniaeth.

Efallai bydd gweithiwr iechyd meddwl wedi cael ei bennu ar gyfer rhywun sydd wedi cael pyliau seicotig yn y gorffennol, sef rhywun sy'n gweithio ym maes iechyd meddwl neu wasanaethau cymdeithasol, felly ceisiwch gysylltu â'r gweithiwr hwn.

Os oes gan rywun seicosis difrifol iawn, gall yr unigolyn gael ei gadw'n orfodol yn yr ysbyty er mwyn ei asesu a'i drin o dan Deddf Iechyd Meddwl (1983).

Deddf Iechyd Meddwl (1983)

Deddf Iechyd Meddwl (1983) yw'r prif ddarn o ddeddfwriaeth sy'n ymdrin ag asesu pobl â chyflwr iechyd meddwl, eu trin a'u hawliau.

O dan y Ddeddf, ni ellir derbyn rhywun yn orfodol i'r ysbyty neu gyfleuster iechyd meddwl arall heblaw:

  • bod ganddo anhwylder meddwl o'r natur neu'r graddau sy'n ei gwneud yn briodol ei dderbyn i'r ysbyty
  • dylid ei gadw er ei ddiogelwch ei hun, i amddiffyn pobl eraill, neu er ei ddiogelwch ef ac i amddiffyn pobl eraill

Yn dibynnu ar natur yr anhwylder iechyd meddwl ac amgylchiadau'r unigolyn, hyd yr amser y gellir cadw unigolyn yn yr ysbyty neu mewn cyfleuster iechyd meddwl yw:

  • 72 awr
  • 28 diwrnod
  • 6 mis

Cyn i'r cyfnodau hyn ddod i ben, bydd asesiad yn cael ei wneud i bennu a yw'n ddiogel rhyddhau'r unigolyn, neu a oes angen triniaeth bellach arno.                                  

Os ydych chi'n cael eich cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl (1983), gellir eich trin yn erbyn eich ewyllys. Fodd bynnag, ni ellir gwneud rhai triniaethau, fel llawdriniaeth i'r ymennydd, oni bai eich bod yn rhoi cydsyniad i driniaeth.

Mae gan unrhyw un sy'n cael ei gadw'n orfodol yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i Dribiwnlys Iechyd Meddwl (MHT). Corff annibynnol yw hwn sy'n penderfynu a ddylid rhyddhau claf o'r ysbyty.     

Gyrru

Gallai cael seicosis effeithio ar eich gallu i yrru.

Mae gennych chi rwymedigaeth gyfreithiol i ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw gyflwr a allai effeithio ar eich gallu i yrru.

Mae gwefan GOV.UK yn rhoi manylion ynghylch dweud wrth y DVLA am gyflwr meddygol.

Triniaeth

Bydd triniaeth ar gyfer seicosis yn cynnwys cyfuniad o feddyginiaethau gwrthseicotig, therapïau seicolegol, a chymorth cymdeithasol.

Eich tîm gofal

Mae eich triniaeth yn debygol o gynnwys tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn gweithio gyda'i gilydd. Os mai hwn yw eich pwl seicotig cyntaf, efallai byddwch chi'n cael eich cyfeirio at dîm ymyrraeth gynnar.

Timau ymyrraeth gynnar 

Tîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yw tîm ymyrraeth gynnar, sydd wedi'u sefydlu'n benodol i weithio gyda phobl sydd wedi cael eu pwl cyntaf o seicosis.

Yn dibynnu ar eich anghenion gofal, nod y timau ymyrraeth gynnar yw darparu:

  • asesiad llawn o'ch anghenion  
  • meddyginiaeth  
  • therapïau seicolegol 
  • ymyriadau cymdeithasol, galwedigaethol ac addysgol 

Darllenwch fwy ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl.

Bydd triniaeth ar gyfer seicosis yn amrywio, yn dibynnu ar yr achos gwaelodol. Byddwch chi'n cael triniaeth benodol os ydych chi wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl gwaelodol hefyd.

Cyffuriau gwrthseicotig

Fel arfer, bydd meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu hargymell fel y driniaeth gyntaf ar gyfer seicosis. Mae cyffuriau gwrthseicotig yn gweithio trwy rwystro effaith dopamin, sef cemegyn sy'n trosglwyddo negeseuon yn yr ymennydd.

Fodd bynnag, nid ydynt yn addas nac yn effeithiol i bawb gan fod sgîl-effeithiau yn gallu effeithio ar bobl yn wahanol. Yn benodol, bydd cyffuriau gwrthseicotig yn cael eu monitro'n ofalus mewn pobl sydd hefyd ag epilepsi, sef cyflwr sy'n achosi trawiadau neu ffitiau. 

Bydd pobl â clefyd cardiofasgwlaidd – cyflyrau sy'n effeithio ar y galon, y pibellau gwaed neu'r cylchrediad, fel clefyd y galon - yn cael eu monitro'n agos hefyd.

Fel arfer, gall cyffuriau gwrthseicotig leihau teimladau o orbryder o fewn ychydig oriau i'w defnyddio, ond gallant gymryd rhai diwrnodau, neu wythnosau, i leihau symptomau seicotig, fel rhithiau, neu feddyliau rhithdybiol.

Gellir cymryd cyffuriau gwrthseicotig drwy'r geg neu gellir eu rhoi fel pigiad. Mae nifer o gyffuriau gwrthseicotig 'rhyddhau araf', lle bydd angen un pigiad yn unig arnoch bob 1 i 4 wythnos.

Sgîl-effeithiau

Mae cyffuriau gwrthseicotig yn gallu achosi sgîl-effeithiau, er na fydd pawb yn eu dioddef, a bydd difrifoldeb y sgîl-effeithiau'n gwahaniaethu o un unigolyn i'r llall.

Mae sgîl-effeithiau yn gallu cynnwys:

Dywedwch wrth eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd meddwl os bydd y sgîl-effeithiau'n mynd yn arbennig o drafferthus. Gall fod meddyginiaeth gwrthseicotig arall y gallwch ei chymryd sy'n achosi llai o sgîl-effeithiau.

Ni ddylech byth roi'r gorau i gymryd meddyginiaeth a gawsoch ar bresgripsiwn heblaw bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig sy'n gyfrifol am eich gofal wedi eich cynghori i wneud hynny.

Os byddwch yn rhoi'r gorau'n sydyn i gymryd meddyginiaeth, gallech achosi ail bwl o'ch symptomau. Pan fydd yn bryd i chi roi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth, bydd hynny'n cael ei wneud yn raddol. 

Triniaeth seicolegol

Gall triniaeth seicolegol helpu i leihau'r dwyster a'r gorbryder sy'n cael eu hachosi gan seicosis. Mae sawl triniaeth seicolegol bosibl. 

Therapi ymddygiadol gwybyddol 

Mae therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) ar gyfer seicosis yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'r modd y mae pobl yn gwneud synnwyr o'u profiadau a pham mae rhai pobl yn cael eu gofidio ganddynt.

Gallai therapydd CBT eich annog i ystyried gwahanol ffyrdd o ddeall beth sy'n digwydd i chi. Nod hyn yw eich helpu i gyflawni nodau sy'n ystyrlon ac yn bwysig i chi, fel lleihau eich gofid, mynd yn ôl i'r gwaith, addysg neu hyfforddiant, neu adennill synnwyr o reolaeth.

Ymyrraeth deuluol

Mae'n hysbys bod ymyrraeth deuluol yn fath effeithiol o therapi i bobl â seicosis. Mae'n ffordd o'ch helpu chi a'ch teulu i ymdopi â'ch cyflwr.   

Ar ôl cael pwl o seicosis, efallai byddwch chi'n dibynnu ar aelodau o'ch teulu am eu gofal a'u cymorth. Er bod y rhan fwyaf o aelodau teulu'n falch o helpu, mae'r baich o ofalu am rywun yn gallu rhoi unrhyw deulu dan straen.

Mae therapi teuluol yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd dros gyfnod o dri mis neu fwy. Efallai bydd y cyfarfodydd yn cynnwys:

  • trafod eich cyflwr a sut gallai ddatblygu, yn ogystal â'r triniaethau sydd ar gael 
  • archwilio ffyrdd o gefnogi rhywun sy'n dioddef o seicosis
  • penderfynu sut i ddatrys problemau ymarferol sy'n gallu cael eu hachosi gan seicosis, er enghraifft, cynllunio sut i reoli pyliau seicotig yn y dyfodol  

Grwpiau hunangymorth 

Os ydych chi'n cael pyliau o seicosis, efallai byddwch chi'n elwa ar fod o gwmpas pobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg.

Er enghraifft, mae gan yr elusen iechyd meddwl, Mind, dros 150 rhwydwaith Mind lleol ac efallai byddwch chi'n gallu cysylltu â grŵp cymorth yn eich ardal chi, yn ogystal â darparu amrywiaeth o wasanaethau defnyddiol eraill.

Deddf Iechyd Meddwl (1983)

Os byddwch yn dioddef pwl seicotig difrifol iawn, a chredir eich bod yn creu perygl sylweddol i chi'ch hun, neu i bobl eraill, gellir eich cadw'n orfodol yn yr ysbyty, o dan Deddf Iechyd Meddwl (1983).

Os ydych chi'n cael eich cadw o dan y Ddeddf, bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i geisio cael eich cydsyniad (cytundeb) i'r driniaeth.

Fodd bynnag, gellir cynnal triniaeth heb eich cydsyniad, os oes angen. 

Trais ac ymosodedd

Mae gweithredoedd o drais ac ymosodedd yn anghyffredin ymhlith pobl sydd â seicosis mewn gwirionedd. Maent yn fwy tebygol o ddioddef trais nag achosi trais.

Fodd bynnag, gall fod adegau pan fydd eich ymddygiad chi yn eich rhoi chi'ch hun neu bobl eraill mewn perygl o gael niwed. Mae staff iechyd meddwl wedi cael hyfforddiant arbennig i ddelio ag ymddygiad ymosodol.

Byddant yn ceisio helpu lleihau unrhyw ofid, aflonyddwch ac ymosodedd, ond gallai fod angen eich dal i lawr heb eich anafu. Caiff hyn ei adnabod fel ataliaeth gorfforol. Wedyn, gallech gael eich symud i ystafell ar wahân.

Mewn rhai achosion, efallai bydd angen rhoi meddyginiaeth i chi a fydd yn achosi i chi ymlacio'n llwyr mewn cyfnod byr. 

Byddwch yn cael cynnig i gymryd y feddyginiaeth yn wirfoddol, ar ffurf tabledi, ond os byddwch yn gwrthod, gellir eich trin heb eich cydsyniad. Gallai hyn olygu rhoi pigiad tawelydd i chi (tawelu'n gyflym).

Mae'n bwysig pwysleisio bod y dulliau hyn a ddisgrifir dim ond yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau eithafol ac nid ydynt yn cael eu defnyddio yn rhan arferol o drin seicosis.

Penderfyniadau ymlaen llaw

Os oes risg y byddwch chi'n cael pyliau seicotig yn y dyfodol, a bod rhai triniaethau nad ydych am eu cael, mae'n bosibl trefnu penderfyniad ymlaen llaw sy'n gyfreithiol rhwymol, sef cyfarwyddeb ymlaen llaw yn flaenorol.

Mae penderfyniad ymlaen llaw yn ddatganiad ysgrifenedig am yr hyn y byddech chi eisiau i weithwyr iechyd proffesiynol a'ch teulu neu'ch ffrindiau ei wneud os byddwch chi'n cael pwl seicotig arall. Gallech hefyd fod eisiau cynnwys manylion cyswllt eich tîm gofal.

I greu penderfyniad ymlaen llaw, mae angen i chi egluro eich dymuniadau'n ysgrifenedig, a gofyn i dyst lofnodi'r datganiad hwn. Dylech chi gynnwys manylion penodol ynghylch pa driniaethau nad ydych am eu cael, ac ym mha amgylchiadau penodol y byddant yn berthnasol.

Fodd bynnag, gellir gwrthod penderfyniad ymlaen llaw os caiff unigolyn ei gadw'n gaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn ddiweddarach.

Er y bydd eich meddygon yn ceisio ystyried eich dymuniadau wrth benderfynu ar driniaeth, gallent benderfynu peidio â dilyn y penderfyniad ymlaen llaw, er eich lles chi.

Cynllun Cerdyn Melyn

Mae'r Cynllun Cerdyn Melyn yn galluogi i chi roi gwybod am amheuaeth ynghylch sgîl-effeithiau unrhyw feddyginiaeth rydych yn ei chymryd. Caiff ei redeg gan gorff gwarchod diogelwch meddyginiaethau o'r enw'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 13/03/2024 11:16:23