Cyflwyniad
Teimlad o anesmwythder yw gorbryder, fel pryder neu ofn, a all fod yn ysgafn neu'n ddifrifol.
Mae pawb yn cael teimladau o orbryder o bryd i'w gilydd yn ystod eu bywydau. Er enghraifft, efallai y byddwch yn poeni ac yn teimlo'n bryderus ynghylch sefyll arholiad, neu gael prawf meddygol neu gyfweliad ar gyfer swydd.
Ar adegau fel hyn, mae teimlo'n bryderus yn berffaith normal.
Ond mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd rheoli eu pryderon. Bydd eu teimladau o orbryder yn fwy cyson ac, yn aml, gallant effeithio ar eu bywyd pob dydd.
Gorbryder yw prif symptom sawl cyflwr, gan gynnwys:
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yn ymwneud â chyflwr penodol o'r enw anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD).
Cyflwr hirdymor yw GAD sy'n gwneud i chi deimlo'n orbryderus am ystod eang o sefyllfaoedd a materion, yn hytrach nag am un digwyddiad penodol.
Bydd pobl sy'n dioddef GAD yn teimlo'n orbryderus bron bob dydd ac, yn aml, byddant yn cael trafferth cofio'r tro diwethaf yr oeddent yn teimlo'u bod wedi ymlacio.
Cyn gynted ag y bydd un meddwl pryderus yn cael ei ddatrys, gallai un arall ymddangos am fater gwahanol.
Symptomau anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD)
Gall GAD achosi symptomau seicolegol (meddyliol) a chorfforol.
Mae'r rhain yn amrywio o un unigolyn i'r llall, ond gallant gynnwys:
- teimlo'n anesmwyth neu'n bryderus
- cael trafferth canolbwyntio neu gysgu
- pendro neu grychguriadau'r galon
Pryd i gael cymorth i ymdopi â gorbryder
Er bod teimladau o orbryder yn hollol normal o bryd i'w gilydd, dylech fynd i weld eich meddyg teulu os bydd gorbryder yn effeithio ar eich bywyd pob dydd neu'n achosi gofid i chi.
Bydd eich meddyg teulu yn holi am eich symptomau a'ch pryderon, eich ofnau a'ch emosiynau er mwyn ceisio darganfod a allech fod yn dioddef GAD.
Darllenwch fwy ynghylch cael diagnosis o GAD.
Beth sy'n achosi GAD?
Nid yw union achos GAD yn cael ei ddeall yn llawn, er ei bod yn debygol bod cyfuniad o ffactorau'n cyfrannu ato.
Mae ymchwil wedi awgrymu y gallai'r rhain gynnwys:
- gorfywiogrwydd mewn rhannau o'r ymennydd sy'n ymwneud ag emosiynau ac ymddygiad
- anghydbwysedd rhwng y cemegau serotonin a noradrenalin yn yr ymennydd, sy'n ymwneud â rheoli a rheoleiddio hwyliau
- y genynnau rydych yn eu hetifeddu gan eich rhieni – amcangyfrifir eich bod bum gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu GAD os oes gennych berthynas agos sydd â'r cyflwr hwnnw
- hanes o brofiadau trawmatig neu sydd wedi achosi straen, fel trais domestig, cam-drin plant neu fwlio
- cyflwr iechyd hirdymor poenus, fel arthritis
- hanes o gamddefnyddio cyffuriau neu camddefnyddio alcohol
Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn datblygu GAD heb unrhyw reswm amlwg.
Ar bwy mae'n effeithio?
Mae GAD yn gyflwr cyffredin, ac amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar hyd at 5% o boblogaeth y Deyrnas Unedig.
Mae'n effeithio ar ychydig mwy o fenywod na dynion, ac mae'r cyflwr yn fwy cyffredin ymhlith pobl rhwng 35 a 59 oed.
Sut mae anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD) yn cael ei drin
Gall GAD gael effaith sylweddol ar eich bywyd pob dydd, ond mae sawl triniaeth wahanol ar gael a all helpu i leddfu eich symptomau.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Gall llawer o bobl reoli eu lefelau gorbryder heb driniaeth. Fodd bynnag, gall fod angen parhau â rhai mathau o driniaeth am gyfnod hir, ac efallai y bydd cyfnodau pan fydd eich symptomau'n gwaethygu.
Hunangymorth ar gyfer anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD)
Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud eich hun i helpu i leihau eich gorbryder hefyd, fel:
- mynd ar gwrs hunangymorth
- gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
- rhoi'r gorau i ysmygu
- lleihau faint o alcohol a chaffein rydych yn eu hyfed
Symptomau
Gall anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD) effeithio arnoch yn gorfforol ac yn feddyliol.
Gall difrifoldeb y symptomau amrywio o un unigolyn i'r llall. Bydd rhai pobl yn dioddef un neu ddau o symptomau yn unig, tra bydd pobl eraill yn dioddef llawer mwy.
Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os yw gorbryder yn effeithio ar eich bywyd pob dydd neu'n achosi gofid i chi.
Symptomau seicolegol gorbryder
Gall GAD achosi newid yn eich ymddygiad a'r ffordd rydych yn teimlo ac yn meddwl am bethau, gan arwain at symptomau fel:
- aflonyddwch
- ymdeimlad o ofn
- teimlo "ar bigau'r drain" yn gyson
- anhawster canolbwyntio
- teimlo’n bigog
Gallai eich symptomau wneud i chi osgoi cysylltiad cymdeithasol (gweld eich teulu a'ch ffrindiau) er mwyn osgoi teimladau o bryder ac ofn.
Mae'n bosibl hefyd y bydd mynd i'r gwaith yn anodd ac yn achosi straen i chi, ac efallai y byddwch yn cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith yn sâl. Gall y gweithredoedd hyn wneud i chi boeni hyd yn oed yn fwy amdanoch chi'ch hun a chynyddu eich diffyg hunan-barch.
Symptomau corfforol gorbryder
Gall GAD achosi nifer o symptomau corfforol hefyd, gan gynnwys:
Beth sy'n sbarduno gorbryder
Os ydych yn orbryderus o ganlyniad i ffobia penodol neu oherwydd anhwylder panig, byddwch fel arfer yn gwybod beth yw achos y gorbryder.
Er enghraifft, os oes clawstroffobia (ofn mannau caeëdig) arnoch, rydych yn gwybod y bydd cael eich cau mewn lle bach yn sbarduno eich gorbryder.
Fodd bynnag, ni fydd yr hyn yr ydych yn teimlo'n orbryderus yn ei gylch yn glir bob amser. Mae peidio â gwybod beth sy'n sbarduno eich gorbryder yn gallu ei ddwysáu, ac efallai y byddwch yn dechrau poeni nad oes ateb iddo.
Diagnosis
Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os yw gorbryder yn effeithio ar eich bywyd pob dydd neu'n peri gofid i chi.
Gall anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD) fod yn gyflwr y mae'n anodd gwneud diagnosis ohono.
Mewn ambell achos, gall hefyd fod yn anodd gwahaniaethu rhyngddo a chyflyrau iechyd meddwl eraill, fel iselder.
Efallai bod gennych GAD:
- os yw eich pryderu yn effeithio'n sylweddol ar eich bywyd pob dydd, gan gynnwys eich swydd a'ch bywyd cymdeithasol
- os yw eich pryderon yn achosi straen eithafol a gofid i chi
- os ydych yn pryderu am bob mathau o bethau a'ch bod yn tueddu i feddwl y gwaethaf
- os nad oes modd rheoli eich pryderu
- os ydych chi wedi teimlo'n bryderus bron bob dydd am o leiaf chwe mis
Siarad â'ch meddyg teulu am orbryder
Gallai eich meddyg teulu ofyn cwestiynau i chi am y canlynol:
- unrhyw symptomau corfforol neu seicolegol ac am ba hyd rydych chi wedi eu cael
- eich pryderon, eich ofnau, a'ch emosiynau
- eich bywyd personol
Efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd siarad am eich teimladau, eich emosiynau a'ch bywyd personol.
Fodd bynnag, mae'n bwysig bod eich meddyg teulu yn deall eich symptomau a'ch amgylchiadau, fel bod modd gwneud y diagnosis cywir.
Byddwch yn fwyaf tebygol o gael diagnosis o GAD os ydych wedi dioddef y symptomau am chwe mis neu fwy.
Mae cael anhawster rheoli eich teimladau o orbryder hefyd yn arwydd y gallech fod wedi datblygu'r cyflwr.
I helpu i wneud diagnosis, efallai y bydd eich meddyg teulu yn cynnal archwiliad corfforol neu profion gwaed er mwyn gallu diystyru cyflyrau eraill a allai fod yn achosi eich symptomau, fel:
Triniaeth
Mae anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD) yn gyflwr hirdymor, ond gall nifer o fathau gwahanol o driniaethau helpu.
Os oes gennych broblemau eraill ynghyd â GAD, fel iselder neu camddefnyddio alcohol, efallai y bydd angen trin y rhain cyn i chi gael triniaeth benodol ar gyfer GAD.
Therapïau seicolegol ar gyfer GAD
Os ydych wedi cael diagnosis o GAD, fe'ch cynghorir fel arfer i roi cynnig ar driniaeth seicolegol cyn cael presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth.
Gallwch gael therapïau seicolegol fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) ac ymlacio cymhwysol trwy'r GIG.
Gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio.
Hunangymorth dan arweiniad
Efallai y bydd eich meddyg teulu neu'ch gwasanaeth therapïau seicolegol yn awgrymu rhoi cynnig ar gwrs hunangymorth dan arweiniad i weld a all eich helpu i ddysgu ymdopi â'ch gorbryder.
Mae hyn yn golygu gweithio trwy werslyfr neu gwrs cyfrifiadurol wedi'i seilio ar CBT yn eich amser eich hun gyda chymorth therapydd.
Neu efallai y cynigir cwrs grŵp i chi lle y byddwch chi a phobl eraill sydd â phroblemau tebyg yn cyfarfod â therapydd bob wythnos i ddysgu ffyrdd o fynd i'r afael â'ch gorbryder.
Os nad yw'r triniaethau cychwynnol hyn yn helpu, fel arfer byddwch yn cael cynnig therapi seicolegol dwysach neu feddyginiaeth.
Therapi ymddygiad gwybyddol
Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yw un o'r mathau mwyaf effeithiol o driniaeth ar gyfer GAD.
Canfu astudiaethau o fathau gwahanol o driniaeth ar gyfer GAD y gall manteision CBT bara'n hwy na manteision meddyginiaeth, ond nid oes un math penodol o driniaeth sydd orau i bawb.
Mae CBT yn eich helpu i herio eich meddyliau negyddol a phryderus, a gwneud pethau y byddech yn eu hosgoi fel arfer oherwydd eu bod yn gwneud i chi deimlo'n bryderus.
Fel arfer, bydd CBT yn cynnwys cyfarfod â therapydd achrededig sydd wedi cael hyfforddiant arbennig am sesiwn sy'n para un awr yr wythnos am dri i bedwar mis.
Ymlacio cymhwysol
Mae ymlacio cymhwysol yn canolbwyntio eich cyhyrau mewn ffordd benodol yn ystod sefyllfaoedd sydd fel arfer yn achosi gorbryder.
Bydd angen i'r dechneg hon gael ei haddysgu gan therapydd hyfforddedig, ond yn gyffredinol, mae'n cynnwys:
- dysgu sut i ymlacio eich cyhyrau
- dysgu sut i ymlacio eich cyhyrau'n gyflym ac ymateb i sbardun, fel y gair "ymlacio"
- ymarfer ymlacio eich cyhyrau mewn sefyllfaoedd sy'n gwneud i chi deimlo'n orbryderus
Yn yr un modd â CBT, bydd therapi ymlacio cymhwysol fel arfer yn golygu cyfarfod â therapydd am sesiwn sy'n para awr yr wythnos am dri i bedwar mis.
Meddyginiaeth
Os nad yw'r triniaethau seicolegol uchod wedi eich helpu neu y byddai'n well gennych beidio â rhoi cynnig arnynt, caiff meddyginiaeth ei chynnig i chi, fel arfer.
Gall eich meddyg teulu roi presgripsiwn ar gyfer amrywiaeth o wahanol fathau o feddyginiaeth i drin GAD.
Mae rhai meddyginiaethau wedi'u cynllunio i gael eu cymryd am gyfnod byrdymor, tra bod meddyginiaethau eraill yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn am gyfnodau hwy.
Gan ddibynnu ar eich symptomau, mae'n bosibl y bydd angen meddyginiaeth arnoch i drin eich symptomau corfforol, yn ogystal â'ch symptomau seicolegol.
Os ydych yn ystyried cymryd meddyginiaeth ar gyfer GAD, dylai eich meddyg teulu drafod y gwahanol ddewisiadau gyda chi yn fanwl cyn i chi ddechrau ar gwrs triniaeth, gan gynnwys:
- y gwahanol fathau o feddyginiaeth
- hyd y driniaeth
- y sgil effeithiau a'r rhyngweithio posibl â mathau eraill o feddyginiaeth
Dylech gael apwyntiadau rheolaidd â'ch meddyg hefyd i asesu eich cynnydd pan fyddwch yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer GAD.
Fel arfer, bydd y rhain yn cael eu cynnal bob pythefnos i bedair wythnos am y tri mis cyntaf, wedyn bob tri mis ar ôl hynny.
Dywedwch wrth eich meddyg teulu os ydych yn credu eich bod yn dioddef sgil effeithiau o'ch meddyginiaeth. Efallai y bydd yn gallu addasu eich dos neu roi presgripsiwn ar gyfer math arall o feddyginiaeth.
Mae'r prif feddyginiaethau a all gael eu cynnig i chi i drin GAD yn cael eu disgrifio isod.
Atalyddion aildderbyn serotonin dethol (SSRIs)
Yn y rhan fwyaf o achosion, y feddyginiaeth gyntaf a fydd yn cael ei chynnig i chi yw math o cyffur gwrthiselder o'r enw atalydd aildderbyn serotonin dethol (SSRI).
Mae'r math hwn o feddyginiaeth yn gweithio trwy gynyddu lefel cemegyn o'r enw serotonin yn eich ymennydd.
Mae enghreifftiau o SSRIs y gallech gael presgripsiwn ar eu cyfer yn cynnwys:
- sertraline
- escitalopram
- paroxetine.
Gallwch gymryd SSRIs am gyfnod hir, ond yn yr un modd â phob cyffur gwrthiselder, gall ychydig wythnosau fynd heibio cyn iddynt ddechrau gweithio.
Fel arfer, byddwch yn dechrau ar ddos isel, ac yna bydd y dos yn cael ei gynyddu'n raddol wrth i'ch corff addasu i'r feddyginiaeth.
Mae sgil effeithiau cyffredin SSRIs yn cynnwys:
Dylai'r sgil effeithiau hyn wella dros gyfnod, er y gall rhai ohonynt – fel problemau rhyw – barhau.
Os na fydd eich meddyginiaeth yn helpu ar ôl rhyw ddeufis o driniaeth, neu os yw'n achosi sgil effeithiau annymunol, gallai eich meddyg teulu roi SSRI arall i chi ar bresgripsiwn.
Pan fyddwch chi a'ch meddyg teulu'n penderfynu ei bod yn briodol i chi roi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y feddyginiaeth trwy leihau eich dos yn araf dros ychydig wythnosau i leihau risg effeithiau rhoi'r gorau i gymryd y feddyginiaeth.
Peidiwch byth â rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth oni bai bod eich meddyg teulu'n dweud wrthych yn benodol am wneud hynny.
Atalyddion aildderbyn serotonin a noradrenalin (SNRIs)
Os nad yw SSRIs yn helpu i leddfu'ch gorbryder, efallai y cewch bresgripsiwn ar gyfer math gwahanol o gyffur gwrthiselder o'r enw atalydd aildderbyn serotonin a noradrenalin (SNRI).
Mae'r math hwn o feddyginiaeth yn cynyddu faint o'r cemegau serotonin a noradrenalin sydd yn eich ymennydd.
Mae enghreifftiau o SNRIs y gellir rhoi presgripsiwn i chi ar eu cyfer yn cynnwys:
Mae sgil effeithiau cyffredin SNRIs yn cynnwys:
- teimlo'n sâl
- pen tost/cur pen
- cysgadrwydd
- pendro
- ceg sych
- rhwymedd
- insomnia
- chwysu
Gall SNRIs gynyddu eich pwysedd gwaed hefyd, felly caiff eich pwysedd gwaed ei fonitro'n rheolaidd yn ystod y driniaeth.
Yn yr un modd ag SSRIs, mae rhai o'r sgil effeithiau (fel teimlo'n sâl, stumog wael, cael trafferth cysgu a theimlo'n aflonydd neu'n fwy pryderus) yn fwy cyffredin yn ystod wythnos neu ddwy gyntaf y driniaeth, ond bydd y rhain yn lleddfu fel arfer wrth i'ch corff addasu i'r feddyginiaeth.
Pregabalin
Os nad yw SSRIs ac SNRIs yn addas i chi, efallai y byddwch yn cael cynnig pregabalin.
Math o feddyginiaeth o'r enw cyffur gwrthgonfylsiwn yw hon, sy'n cael ei defnyddio i drin cyflyrau fel epilepsi. Fodd bynnag, canfuwyd ei bod yn fuddiol o ran trin gorbryder hefyd.
Mae sgil effeithiau pregabalin yn gallu cynnwys:
- cysgadrwydd
- pendro
- mwy o awydd bwyd a magu pwysau
- golwg aneglur
- pen tost/cur pen
- ceg sych
- fertigo
Mae pregabalin yn llai tebygol o achosi cyfog neu lai o ysfa rywiol nag SSRIs neu SNRIs.
Cyffuriau benzodiazepine
Mae cyffuriau benzodiazepine yn fath o dawelydd a all gael ei ddefnyddio o bryd i'w gilydd fel triniaeth fyrdymor yn ystod cyfnod arbennig o ddifrifol o orbryder, oherwydd y gall helpu i leddfu symptomau gorbryder o fewn 30 i 90 munud o gymryd y feddyginiaeth.
Os byddwch yn cael cyffuriau benzodiazepine ar bresgripsiwn, diazepam fydd hyn gan amlaf.
Er bod cyffuriau benzodiazepine yn effeithiol iawn wrth drin symptomau gorbryder, ni ellir eu defnyddio am gyfnodau hir oherwydd y gallech fynd yn gaeth iddynt os cânt eu defnyddio am fwy na phedair wythnos. Hefyd, mae cyffuriau benzodiazepine yn dechrau colli eu heffeithiolrwydd wedi'r cyfnod hwn.
Am y rhesymau hyn, ni roddir presgripsiwn ar gyfer cyffuriau benzodiazepine am fwy na phythefnos i bedair wythnos ar y tro, fel arfer.
Gall sgil effeithiau cyffuriau benzodiazepine gynnwys:
- cysgadrwydd
- trafferth canolbwyntio
- pen tost/cur pen
- fertigo
- cryndod (crynu neu ysgwyd afreolus mewn rhan o'r corff)
- dim llawer o ysfa rywiol
Oherwydd bod cysgadrwydd yn sgil effaith arbennig o gyffredin cyffuriau benzodiazepine, gall y feddyginiaeth hon effeithio ar eich gallu i yrru neu ddefnyddio peiriannau. Felly, dylech osgoi'r gweithgareddau hyn yn ystod y driniaeth.
Hefyd, ni ddylech fyth yfed alcohol na defnyddio cyffuriau opiad wrth gymryd cyffuriau benzodiazepine, oherwydd gall hynny fod yn beryglus.
Cyfeirio at arbenigwr
Os byddwch wedi rhoi cynnig ar y triniaethau sy'n cael eu crybwyll uchod a'ch bod yn dioddef symptomau sylweddol o GAD, efallai y byddwch am drafod â'ch meddyg teulu a ddylid eich cyfeirio at arbenigwr iechyd meddwl.
Bydd cyfeirio yn gweithio'n wahanol mewn gwahanol ardaloedd o'r Deyrnas Unedig ond, fel arfer, cewch eich cyfeirio at eich tîm iechyd meddwl cymunedol.
Mae'r timau hyn yn cynnwys ystod o arbenigwyr, gan gynnwys:
- seiciatryddion
- nyrsys seiciatrig
- seicolegwyr clinigol
- therapyddion galwedigaethol
- gweithwyr cymdeithasol
Bydd arbenigwr iechyd meddwl priodol o'ch tîm lleol yn cynnal ailasesiad cyflawn o'ch cyflwr.
Bydd yn eich holi am eich triniaeth flaenorol a pha mor effeithiol oedd hyn i chi.
Gallai hefyd eich holi ynghylch pethau yn eich bywyd sydd efallai'n effeithio ar eich cyflwr, neu faint o gefnogaeth a gewch gan deulu a ffrindiau.
Yna, bydd eich arbenigwr yn gallu llunio cynllun triniaeth i chi, gyda'r nod o drin eich symptomau.
Fel rhan o'r cynllun hwn, efallai y byddwch yn cael cynnig triniaeth nad ydych wedi rhoi cynnig arni o'r blaen, a allai fod yn un o'r mathau o driniaeth seicolegol neu'r meddyginiaethau a grybwyllwyd uchod.
Fel arall, efallai y byddwch yn cael cynnig cyfuniad o driniaeth seicolegol gyda meddyginiaeth, neu gyfuniad o ddwy feddyginiaeth wahanol.
Hunangymorth
Os oes gennych anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD), mae llawer o ffyrdd y gallwch helpu i leddfu symptomau gorbryder eich hunan.
Rhowch gynnig ar lyfr neu gwrs ar-lein
Pan fyddwch yn cael diagnosis o GAD, efallai y bydd eich meddyg teulu yn argymell rhoi cynnig ar driniaethau hunangymorth cyn i chi gael therapi seicolegol mwy dwys neu feddyginiaeth.
Mae Darllen yn Well yn gynllun sydd â'r nod o helpu pobl sydd â phroblemau emosiynol ysgafn i gymedrol i fanteisio ar lyfrau hunangymorth o ansawdd uchel a ddewiswyd yn benodol gan seicolegwyr a chwnselwyr sy'n gweithio yng Nghymru. Gall meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall ragnodi llyfr therapi sydd ar gael i'w fenthyca o unrhyw lyfrgell ledled Cymru. Weithiau, bydd rhaglen gyfrifiadurol hunangymorth yn cael ei hargymell. Gall y cynlluniau hyn bara tua chwe wythnos neu'n hwy. Mewn rhai achosion, gallech gael cymorth gan therapydd hyfforddedig a fydd yn siarad â chi bob wythnos neu bythefnos, er y bydd rhai mathau o driniaeth yn cynnwys ychydig iawn o gysylltiad neu gysylltiad achlysurol â therapydd, a fydd yn monitro eich cynnydd.
Mae nifer o wahanol lyfrau a chyrsiau ar gael a all eich helpu i ddysgu ymdopi â'ch gorbryder, ond mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell rhoi cynnig ar driniaeth sydd wedi'i seilio ar egwyddorion therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn unig.
Math o driniaeth seicolegol yw CBT sy'n gallu eich helpu i ddeall eich cyflwr yn well, a sut mae eich problemau, eich meddyliau, eich teimladau a'ch ymddygiad yn effeithio ar ei gilydd. Nod triniaeth ar sail CBT yw eich helpu i ddysgu ffyrdd o reoli eich gorbryder trwy addasu ymddygiad a meddyliau negyddol neu anghynorthwyol.
Gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
Gall ymarfer corff rheolaidd, yn enwedig ymarfer corff aerobig, eich helpu i guro straen a rhyddhau tensiwn.
Mae hefyd yn annog eich ymennydd i ryddhau'r cemegyn serotonin, a all wella eich hwyliau.
Mae enghreifftiau o ymarferion aerobig da i chi roi cynnig arnynt yn cynnwys:
- cerdded yn gyflym neu loncian
- nofio
- beicio
- tennis
- heicio
- pêl-droed neu rygbi
- aerobeg
Dylech geisio gwneud o leiaf 150 munud o ymarfer corff cymedrol bob wythnos.
Dylai ymarfer corff cymedrol gynyddu cyfradd curiad y galon a gwneud i chi anadlu'n gyflymach.
Dysgu sut i ymlacio
Yn ogystal â gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, mae'n bwysig eich bod yn dysgu sut i ymlacio.
Efallai y bydd ymarferion ymlacio ac anadlu yn ddefnyddiol i chi, neu efallai y bydd yn well gennych wneud gweithgareddau fel ioga neu pilates i'ch helpu i ymlacio.
Osgoi caffein
Gall yfed gormod o gaffein eich gwneud yn fwy pryderus na'r arfer. Mae hyn oherwydd y gall caffein amharu ar eich cwsg a chyflymu curiad eich calon.
Os ydych wedi blino, rydych yn llai tebygol o allu rheoli eich teimladau o orbryder.
Gall osgoi diodydd sy'n cynnwys caffein, fel coffi, te, diodydd swigod a diodydd egni, helpu i leihau eich lefelau gorbryder.
Osgoi ysmygu ac alcohol
Dangoswyd bod ysmygu ac alcohol yn gwneud teimladau o orbryder yn waeth. Gallai dim ond yfed alcohol yn gymedrol neu roi'r gorau i ysmygu helpu i leihau eich gorbryder.
I leihau'r risg o niweidio eich iechyd:
- caiff dynion a menywod eu cynghori i beidio ag yfed mwy nag 14 uned yr wythnos yn rheolaidd
- ceisiwch ledaenu eich yfed dros dri diwrnod neu fwy os ydych yn yfed cymaint ag 14 uned yr wythnos
Mae un deg pedwar uned gyfwerth â chwe pheint o gwrw o gryfder cyffredin neu 10 gwydraid bach o win cryfder isel.
Cysylltu â grwpiau cymorth
Gall grwpiau cymorth roi cyngor i chi ynghylch sut i reoli eich gorbryder.
Maen nhw hefyd yn ffordd dda i gyfarfod â phobl eraill sydd â phrofiadau tebyg.
Mae enghreifftiau o grwpiau cymorth a allai fod yn ddefnyddiol i chi yn cynnwys:
Yn aml, mae grwpiau cymorth yn trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, lle gallwch siarad am eich anawsterau a'ch problemau gyda phobl eraill.
Mae llawer o grwpiau cymorth yn rhoi cymorth ac arweiniad dros y ffôn neu'n ysgrifenedig hefyd.
Gofynnwch i'ch meddyg teulu am grwpiau cymorth lleol ar gyfer gorbryder yn eich ardal chi, neu chwiliwch ar-lein am gwasanaethau cymorth emosiynol yn eich ardal chi.
Plant
Mae'n arferol i blant deimlo'n bryderus ac yn orbryderus o bryd i'w gilydd - fel pan fyddant yn dechrau mynd i'r ysgol neu'r feithrinfa, neu'n symud i ardal newydd.
Ond i rai plant, mae gorbryder yn effeithio ar eu hymddygiad a'u meddyliau bob dydd, gan amharu ar eu bywyd ysgol, gartref a chymdeithasol.
Dyma pryd y gallai fod arnoch angen cymorth proffesiynol i fynd i'r afael ag ef.
Symptomau gorbryder mewn plant
Dyma rai arwyddion i gadw llygad amdanynt yn eich plentyn:
- yn cael trafferth canolbwyntio
- ddim yn cysgu, neu'n deffro yn y nos ar ôl cael hunllef
- ddim yn bwyta'n iawn
- yn mynd yn ddig yn gyflym neu'n bigog, ac yn colli rheolaeth pan fydd yn ffrwydro
- yn pryderu neu'n cael meddyliau negyddol drwy'r amser
- yn teimlo ar bigau'r drain ac yn aflonydd, neu'n mynd i'r tŷ bach yn aml
- yn crïo drwy'r amser
- yn glynu wrthych
- yn cwyno am boen yn ei stumog a'i fod yn teimlo'n sâl
Mae gorbryder gwahanu yn gyffredin mewn plant iau, tra bod plant hŷn yn tueddu i boeni mwy am yr ysgol neu'n profi gorbryder cymdeithasol.
Sut i helpu eich plentyn gorbryderus
Os yw'ch plentyn yn cael problemau gyda gorbryder, mae llawer y gallwch ei wneud i helpu.
Uwchlaw popeth, mae'n bwysig siarad â'ch plentyn am ei orbryder neu ei bryderon.
Mae'n syniad da ceisio cymorth proffesiynol os yw eich plentyn yn orbryderus drwy'r amser ac:
- nid yw'n gwella, neu mae'n mynd yn waeth
- nid yw hunangymorth yn gweithio
- mae'n effeithio ar ei fywyd ysgol neu deuluol, neu ei gyfeillgarwch â'i ffrindiau
Ble i gael cymorth gyda gorbryder
Mae trefnu apwyntiad gyda'ch meddyg teulu yn lle da i ddechrau.
Gallwch siarad â'ch meddyg teulu ar eich pen eich hun neu gyda'ch plentyn, neu efallai y gall eich plentyn gael apwyntiad hebddoch chi.
Os bydd y meddyg teulu'n credu bod anhwylder gorbryder ar eich plentyn, fe allai ei atgyfeirio i'r gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS) lleol. Mae gweithwyr CAMHS wedi'u hyfforddi i helpu pobl ifanc gydag ystod eang o broblemau, gan gynnwys gorbryder.
Os nad yw'ch plentyn eisiau gweld meddyg, efallai y gall gael cymorth yn uniongyrchol gan wasanaeth cwnsela ieuenctid lleol.
Triniaeth ar gyfer anhwylderau gorbryder mewn plant
Bydd y math o driniaeth a gynigir yn dibynnu ar oedran eich plentyn a'r hyn sy'n achosi ei orbryder.
Gall cwnsela helpu eich plentyn i ddeall beth sy'n ei wneud yn orbryderus a chaniatáu iddo weithio trwy'r sefyllfa.
Therapi siarad yw therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) sy'n gallu helpu eich plentyn i reoli ei orbryder trwy newid y ffordd y mae'n meddwl ac yn ymddwyn.
Efallai y cynigir meddyginiaethau gorbryder i'ch plentyn os yw ei orbryder yn ddifrifol neu nad yw'n gwella gyda therapïau siarad. Fel arfer, bydd y rhain yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn gan feddygon sy'n arbenigo mewn iechyd meddwl plant a'r glasoed yn unig.
Beth sy'n achosi anhwylderau gorbryder mewn plant
Mae rhai plant yn cael eu geni'n fwy pryderus ac yn llai abl i ymdopi â straen nag eraill.
Mae plant yn gallu datblygu ymddygiad pryderus trwy fod yng nghwmni pobl bryderus hefyd.
Mae rhai plant yn datblygu gorbryder ar ôl digwyddiadau sy'n achosi straen, fel:
- symud tŷ neu ysgol yn aml
- rhieni sy'n ymladd neu'n dadlau
- marwolaeth perthynas neu ffrind agos
- datblygu salwch difrifol neu gael ei anafu mewn damwain
- materion cysylltiedig â'r ysgol fel arholiadau neu fwlio
- cael ei gam-drin neu ei esgeuluso
Mae plant ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac anhwylderau'r sbectrwm awtistiaeth yn fwy tebygol o gael problemau gorbryder.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
10/06/2024 16:03:55