Camddefnyddio alcohol

Cyflwyniad

Alcohol misuse
Alcohol misuse

Mae camddefnyddio alcohol yn golygu yfed yn ormodol – mwy na'r terfynau risg is ar gyfer yfed alcohol. I gadw risgiau iechyd yn isel, ni ddylai dynion a menywod yfed mwy na 14 uned yr wythnos. 

CMae uned alcohol yn gyfystyr â 10ml o alcohol pur, sef oddeutu:

  • hanner peint o lager neu seidr cryfder arferol (ABV 3.6%)
  • mesur sengl (25ml) o wirodydd, ABV 40%)

Mae gwydraid bach (125m ABV 12%l) o win yn cynnwys oddeutu 1.5 uned o alcohol.

Terfynau risg is

Er mwyn cadw'ch risg o niwed cysylltiedig ag alcohol yn isel, mae'r GIG yn argymell:

  • peidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd
  • os ydych chi'n yfed cymaint â 14 uned yr wythnos, mae'n well gwasgaru'r rhain yn gytbwys dros dri diwrnod neu fwy
  • os ydych chi'n ceisio lleihau faint o alcohol rydych chi'n ei yfed, mae'n syniad da cael sawl diwrnod di-alcohol bob wythnos

Mae yfed yn rheolaidd neu'n aml yn golygu yfed alcohol y rhan fwyaf o wythnosau. Mae'r risg i'ch iechyd yn cynyddu trwy yfed unrhyw swm o alcohol yn rheolaidd.

Risgiau camddefnyddio alcohol

Tymor byr

Mae risgiau tymor byr camddefnyddio alcohol yn cynnwys:

Mae pobl sy'n goryfed mewn pyliau (sy'n yfed yn drwm dros gyfnod byr) yn fwy tebygol o ymddwyn yn fyrbwyll ac mewn perygl uwch o fod mewn damwain.

Tymor hir

Mae camddefnyddio alcohol yn barhaus yn cynyddu eich risg o gyflyrau iechyd difrifol, gan gynnwys:

Yn ogystal ag achosi problemau iechyd difrifol, gall camddefnyddio alcohol am gyfnod hir arwain at broblemau cymdeithasol, fel diweithdra, ysgariad, cam-drin domestig a digartrefedd.

Os yw rhywun yn colli rheolaeth ar ei yfed a bod ganddo awydd gormodol i yfed, gelwir hyn yn yfed dibynnol (alcoholiaeth).

Mae yfed dibynnol fel arfer yn effeithio ar ansawdd bywyd a pherthnasoedd unigolyn, ond fe allai fod yn anodd iddo sylweddoli neu dderbyn hyn.

Yn aml, bydd yfwyr difrifol ddibynnol yn gallu goddef lefelau uchel iawn o alcohol mewn symiau a fyddai'n beryglus iawn i rai pobl neu hyd yn oed yn eu lladd.

Fel arfer, bydd yfwr dibynnol yn cael symptomau diddyfnu corfforol a seicolegol os bydd yn yfed llai neu'n rhoi'r gorau i yfed yn sydyn, gan gynnwys:

Mae hyn yn aml yn arwain at "yfed er rhyddhad" i osgoi symptomau diddyfnu.

Darllenwch fwy ynghylch risgiau camddefnyddio alcohol.

A ydw i'n yfed gormod o alcohol?

Fe allech fod yn camddefnyddio alcohol:

  • os ydych chi'n credu y dylech yfed llai
  • os yw pobl eraill wedi bod yn beirniadu faint yr ydych chi'n ei yfed
  • os ydych chi'n teimlo'n euog neu'n wael ynglyn â'ch yfed
  • os oes angen i chi gael diod y peth cyntaf yn y bore i dawelu'ch nerfau neu gael gwared â pen mawr

Fe allai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn camddefnyddio alcohol:

  • os yw'n yfed mwy na'r terfyn risg is dyddiol ar gyfer alcohol yn rheolaidd
  • os nad yw'n gallu cofio beth ddigwyddodd y noson cynt weithiau oherwydd faint yr oedd wedi'i yfed
  • os nad yw'n gwneud yr hyn a ddisgwylir ganddo o ganlyniad i faint y mae'n ei yfed - er enghraifft, colli apwyntiad neu golli gwaith oherwydd ei fod yn feddw neu oherwydd bod ganddo ben mawr

Cael cymorth

Os ydych chi'n pryderu am faint yr ydych chi neu rywun arall yn ei yfed, cam cyntaf da yw mynd at eich meddyg teulu. Bydd yn gallu trafod y gwasanaethau a'r triniaethau sydd ar gael.

Efallai y bydd eich cymeriant alcohol yn cael ei asesu gan ddefnyddio profion, fel:

Yn ogystal â'r GIG, ceir nifer o elusennau a grwpiau cymorth ar draws y Deyrnas Unedig sy'n rhoi cymorth a chyngor i bobl a chanddynt broblem camddefnyddio alcohol.

Er enghraifft, fe allech ddymuno cysylltu â'r canlynol:

Trin camddefnyddio alcohol

Mae'r ffordd o drin camddefnyddio alcohol yn dibynnu ar faint o alcohol y mae unigolyn yn ei yfed. Mae dewisiadau triniaeth yn cynnwys:

  • cwnsela - gan gynnwys grwpiau hunangymorth a therapïau siarad, fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)
  • meddyginiaeth
  • dadwenwyno - bydd nyrs neu feddyg yn eich cynorthwyo i roi'r gorau i yfed yn ddiogel; gellir gwneud hyn trwy eich helpu i yfed llai yn araf dros amser neu drwy roi meddyginiaethau i chi i atal symptomau diddyfnu

Ceir dau brif fath o feddyginiaeth i helpu pobl i roi'r gorau i yfed.

Diben y math cyntaf yw helpu i atal symptomau diddyfnu, ac fe'i rhoddir mewn dosau sy'n lleihau dros gyfnod byr. Y mwyaf cyffredin o'r meddyginiaethau hyn yw chlordiazapoxide (Librium).

Yr ail fath yw meddyginiaeth i leihau unrhyw ysfa a allai fod gennych i yfed. Y meddyginiaethau mwyaf cyffredin a ddefnyddir ar gyfer hyn yw acamprosate a naltrexone.

Rhoddir dos sefydlog o'r ddau fath o feddyginiaeth, a byddwch yn eu cymryd am 6 i 12 mis fel arfer.

Darllenwch fwy ynghylch y dewisiadau triniaeth ar gyfer camddefnyddio alcohol isod.

Alcohol a beichiogrwydd

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai menywod beichiog a menywod sy'n ceisio beichiogi osgoi yfed alcohol. Gall yfed yn ystod beichiogrwydd arwain at niwed tymor hir i'r baban, ac mae'r risg yn cynyddu po fwyaf yr ydych chi'n ei yfed.

Mae Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig yn argymell, os ydych chi'n feichiog neu'n bwriadu beichiogi, mai'r peth mwyaf diogel i'w wneud yw peidio ag yfed alcohol o gwbl er mwyn lleihau'r risg i'ch baban gymaint â phosibl.

Os ydych chi'n ceisio beichiogi, ni ddylai eich partner yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos, a ddylai gael eu gwasgaru'n gyfartal dros dri diwrnod neu fwy. Gall yfed alcohol yn ormodol effeithio ar ansawdd ei sberm.

Risgiau

Mae alcohol yn gemegyn pwerus sy'n gallu cael ystod eang o effeithiau niweidiol ar bron pob rhan o'ch corff, gan gynnwys eich ymennydd, eich esgyrn a'ch calon.

Mae alcohol a'i risgiau cysylltiedig yn gallu cael effeithiau tymor byr a thymor hir.

Effeithiau tymor byr yfed alcohol

Disgrifir isod effeithiau tymor byr yfed alcohol. Mae'r wybodaeth hon wedi'i seilio ar y dybiaeth fod gennych oddefedd arferol i alcohol.

Yn aml, bydd yfwyr dibynnol sydd â goddefedd uwch i alcohol yn gallu yfed llawer mwy heb brofi unrhyw effeithiau amlwg. 

1-2 uned 

Ar ôl yfed 1-2 uned o alcohol, bydd cyfradd curiad eich calon yn cyflymu a bydd eich gwaedlestri'n ehangu, gan roi'r teimlad cynnes, cymdeithasol a siaradus i chi sy'n gysylltiedig ag yfed cymedrol.

4-6 uned

Ar ôl yfed 4-6 uned o alcohol, bydd yn dechrau effeithio ar eich ymennydd a'ch system nerfol. Bydd yn dechrau effeithio ar y rhan o'ch ymennydd sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau a synnwyr cyffredin, gan eich gwneud chi'n fwy di-hid a dirwystr.

Bydd yr alcohol hefyd yn amharu ar y celloedd yn eich system nerfol, gan wneud i chi deimlo'n benysgafn ac effeithio'n andwyol ar eich amser ymateb a'ch cydsymudiad.

8-9 uned

Ar ôl yfed 8-9 uned o alcohol, bydd eich amseroedd ymateb yn llawer arafach, bydd eich lleferydd yn dechrau mynd yn aneglur, a bydd eich golwg yn dechrau colli ffocws.

Ni fydd eich afu/iau, sy'n hidlo alcohol allan o'ch corff, yn gallu cael gwared â'r holl alcohol dros nos, felly mae'n debygol y byddwch chi'n deffro gyda pen mawr.

10-12 uned

Ar ôl yfed 10-12 uned o alcohol, bydd yn amharu o ddifrif ar eich cydsymudiad, gan eich rhoi chi mewn perygl mawr o gael damwain. Bydd y lefelau alcohol uchel yn cael effaith leddfol ar eich corff a'ch meddwl, gan wneud i chi deimlo'n gysglyd.

Bydd gymaint â hyn o alcohol yn dechrau cyrraedd lefelau gwenwynig. Bydd eich corff yn ymdrechu i gael gwared ar yr alcohol yn gyflym yn eich troeth. Ond bydd hyn yn gwneud i chi deimlo wedi'ch dadhydradu yn ddrwg yn y bore, ac fe allai hynny achosi cur pen/pen tost difrifol.

Mae'r gormodedd alcohol yn eich system yn gallu effeithio ar eich system dreulio hefyd, gan arwain at symptomau cyfog, chwydu, dolur rhydd a diffyg traul.

Mwy na 12 uned

Os byddwch chi'n yfed mwy na 12 uned o alcohol, byddwch mewn perygl mawr o ddatblygu gwenwyno trwy alcohol, yn enwedig os ydych chi'n yfed llawer o unedau ymhen byr amser.

Mae fel arfer yn cymryd oddeutu awr i'r afu/iau gael gwared ar un uned o alcohol o'r corff.

Mae gwenwyn alcohol yn digwydd pan fydd gormodedd alcohol yn dechrau ymyrryd â gweithrediadau awtomatig eich corff, fel:

  • eich anadlu   
  • cyfradd curiad eich calon
  • eich atgyrch gagio, sy'n eich atal rhag tagu

Mae gwenwyn alcohol yn gallu achosi i rywun fynd i coma a gallai arwain at farwolaeth.

Risgiau eraill

Mae rhai o'r risgiau eraill sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol yn cynnwys:

  • damweiniau ac anaf  mae mwy nag 1 o bob 10 ymweliad ag adrannau damweiniau ac achosion brys (A&E) yn digwydd oherwydd salwch cysylltiedig ag alcohol
  • trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol – yn Lloegr bob blwyddyn, mae mwy nag 1.2 miliwn o ddigwyddiadau treisgar yn gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol
  • cael rhyw anniogel – sy'n gallu arwain at feichiogrwydd heb ei gynllunio a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs)
  • colli eiddo personol – mae llawer o bobl yn colli eiddo personol, fel eu waled neu eu ffôn symudol, pan fyddant wedi meddwi
  • amser heb ei drefnu i ffwrdd o'r gwaith neu'r coleg – gallai hyn beryglu eich swydd neu eich addysg 

Effeithiau tymor hir camddefnyddio alcohol

Os byddwch chi'n yfed symiau mawr o alcohol am lawer o flynyddoedd, bydd hyn yn effeithio ar lawer o organau'r corff, a gallai hynny niweidio organau. Mae'r organau y gwyddys eu bod yn cael eu niweidio drwy gamddefnyddio alcohol tymor hir yn cynnwys yr ymennydd a'r system nerfol, y galon, yr afu/iau a'r cefndedyn (pancreas).  

Mae yfed yn drwm hefyd yn gallu cynyddu eich pwysedd gwaed a'r lefelau colesterol yn eich gwaed, ac mae'r ddau beth hyn yn ffactorau risg mawr ar gyfer trawiadau ar y galon a strôc.

Mae camddefnyddio alcohol yn y tymor hir yn gallu gwanhau eich system imiwnedd, gan olygu y byddwch chi'n fwy agored i haint ddifrifol. Gall hefyd wanhau eich esgyrn, gan eich gwneud chi'n fwy tebygol o'u torri.

Mae llawer o risgiau iechyd tymor hir yn gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol, gan gynnwys:

Yn ogystal â chael effaith sylweddol ar eich iechyd, gall camddefnyddio alcohol arwain at oblygiadau cymdeithasol tymor hir hefyd. Er enghraifft, fe all arwain at:

  • deuluoedd yn chwalu ac ysgariad
  • cam-drin domestig
  • diweithdra
  • digartrefedd
  • problemau ariannol

Ysgogi

Mae ysgogi (kindling) yn broblem sy'n gallu digwydd ar ôl sawl pwl o ddiddyfnu o alcohol. Gallai difrifoldeb symptomau diddyfnu unigolyn waethygu bob tro y bydd yn rhoi'r gorau i yfed, gan achosi symptomau fel cryndod, cynnwrf a chonfylsiynau (ffitiau).

Mae alcohol yn cael effaith leddfol ar yr ymennydd a'r system nerfol ganolog. Mae ymchwil wedi dangos, pan fydd alcohol yn diflannu o'r corff, bod hynny'n actifadu'r ymennydd a'r celloedd nerfol, gan arwain at gynhyrfedd gormodol (gorgynhyrfedd). Gall hyn arwain at symptomau ymddygiadol fel ffitiau.

Gyda phob pwl o ddiddyfnu o alcohol, mae'r ymennydd a'r system nerfol yn dod yn fwy sensiteiddiedig ac mae'r sgil-effeithiau canlyniadol yn dod yn fwy amlwg.

Gall yr effaith ysgogi hon ddigwydd hefyd ar ôl ysgogiad cemegol i'r ymennydd neu'r corff, fel meddyginiaeth wrthgonfylsiwn. Mae hyn yn golygu bod angen i raglen diddyfnu o alcohol unigolyn gael ei chynllunio'n ofalus, gan fonitro ei heffeithiau'n agos.

Gwenwyn alcohol: beth i'w wneud

Mae arwyddion gwenwyn alcohol yn cynnwys:

  • dryswch   
  • chwydu  
  • trawiadau (ffitiau)
  • anadlu'n araf    
  • croen gwelw, glasaidd
  • croen oer a llaith   
  • anymwybyddiaeth

Ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans os ydych chi'n amau gwenwyn alcohol ac yn pryderu. Peidiwch â cheisio gwneud i'r unigolyn chwydu oherwydd fe allai dagu arno. I atal tagu, dylech droi'r unigolyn ar ei ochr a gosod clustog o dan ei ben.

Os bydd rhywun yn colli ymwybyddiaeth, peidiwch â'i adael ar ei ben ei hun i "gysgu i gael gwared arno". Mae lefelau alcohol yn y gwaed yn gallu parhau i godi am hyd at 30-40 munud ar ôl y ddiod olaf, a gallai hyn achosi i'r symptomau waethygu.

Triniaeth

Mae'r dewisiadau triniaeth ar gyfer camddefnyddio alcohol yn dibynnu ar faint yr ydych chi'n ei yfed a ph'un a ydych chi'n ceisio yfed llai (cymedroli) neu roi'r gorau i yfed yn gyfan gwbl (ymatal).

Mae'r dudalen hon yn ymdrin ag:

Ymyrraeth fer

Os ydych chi'n pryderu am faint yr ydych chi'n ei yfed neu os ydych chi wedi cael damwain neu anaf cysylltiedig ag alcohol, efallai y cynigir sesiwn gwnsela fer i chi a elwir yn ymyrraeth fer.

Bydd ymyrraeth fer yn para oddeutu 5 i 10 munud, a bydd yn ymdrin â risgiau sy'n gysylltiedig â'ch patrwm yfed, cyngor ar leihau faint rydych chi'n ei yfed, rhwydweithiau cymorth alcohol sydd ar gael i chi, ac unrhyw faterion emosiynol sy'n gysylltiedig â'ch yfed.

Efallai yr argymhellir eich bod yn cadw "dyddiadur yfed" fel y gallwch gofnodi sawl uned o alcohol rydych chi'n eu hyfed yr wythnos. Efallai y rhoddir awgrymiadau i chi hefyd ar yfed cymdeithasol, fel yfed diodydd meddal a diodydd alcoholig bob yn ail pan fyddwch allan gyda ffrindiau.

Cymedroli o gymharu ag ymatal

Mae cymedroli neu ymatal yn ddewisiadau triniaeth:

  • os ydych chi'n yfed mwy na'r lefelau alcohol dyddiol risg is, sef 14 uned yr wythnos, yn rheolaidd
  • os oes gennych broblemau iechyd sy'n uniongyrchol gysylltiedig ag alcohol
  • os nad ydych yn gallu gweithredu heb alcohol (dibyniaeth ar alcohol)

Bydd rhoi'r gorau i alcohol yn gyfan gwbl yn fwy buddiol i'ch iechyd. Fodd bynnag, mae cymedroli'n aml yn nod mwy realistig, neu o leiaf yn gam cyntaf ar y ffordd tuag at ymatal.

Chi piau'r dewis yn y pen draw, ond bydd ymatal yn cael ei argymell yn gryf mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys:

  • os oes niwed i'ch afu/iau, fel clefyd yr afu/iau neu sirosis
  • os oes gennych broblemau meddygol eraill, fel clefyd y galon, a allai gael eu gwaethygu gan yfed
  • os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth sy'n gallu adweithio'n wael ag alcohol, fel meddyginiaeth wrthseicotig
  • os ydych chi'n beichiog neu'n bwriadu beichiogi

Gallai ymatal gael ei argymell hefyd os nad ydych wedi llwyddo i yfed yn gymedrol yn flaenorol.

Os dewiswch gymedroli, mae'n debygol y gofynnir i chi fynd i sesiynau cwnsela eraill fel y gellir asesu eich cynnydd, a rhoi triniaeth a chyngor ychwanegol os bydd angen.

Efallai y byddwch hefyd yn cael profion gwaed rheolaidd fel y gellir monitro iechyd eich afu/iau yn ofalus.

Dadwenwyno a symptomau diddyfnu

Os ydych chi'n dibynnu ar alcohol i weithredu, argymhellir eich bod yn ceisio cyngor meddygol i reoli eich symptomau diddyfnu.

Efallai y rhoddir meddyginiaeth i rai pobl ar bresgripsiwn i'w helpu i ymatal. Fe allech hefyd ddewis mynd i grwpiau hunangymorth, cael cwnsela estynedig, neu ddefnyddio therapi siarad fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).

Ble y cynhelir dadwenwyno

Bydd sut a ble y ceisiwch ddadwenwyno yn cael ei bennu gan lefel eich dibyniaeth ar alcohol. Mewn achosion ysgafn, fe ddylech allu dadwenwyno gartref heb ddefnyddio meddyginiaeth oherwydd y dylai eich symptomau diddyfnu fod yn ysgafn hefyd.

Os ydych chi'n yfed llawer o alcohol (mwy nag 20 uned y dydd) neu os ydych wedi cael symptomau diddyfnu o'r blaen, mae'n bosibl y gallwch ddadwenwyno gartref hefyd gyda meddyginiaeth i helpu i leddfu symptomau diddyfnu. Defnyddir tawelydd o'r enw chlordiazepoxide ar gyfer hyn fel arfer.

Os yw'ch dibyniaeth yn ddifrifol, mae'n bosibl y bydd angen i chi fynd i ysbyty neu glinig i ddadwenwyno. Y rheswm am hyn yw oherwydd y bydd y symptomau diddyfnu'n ddifrifol hefyd ac mae'n debygol y bydd angen triniaeth arbenigol arnynt.

Symptomau diddyfnu

Bydd eich symptomau diddyfnu ar eu gwaethaf am y 48 awr gyntaf. Dylent ddechrau gwella'n raddol wrth i'ch corff ddechrau addasu i fod heb alcohol. Mae hyn fel arfer yn cymryd tri i saith niwrnod o adeg eich diod olaf.

Bydd eich cwsg yn aflonydd hefyd. Fe allech ddeffro sawl gwaith yn ystod y nos neu gael trafferth mynd i gysgu. Mae hyn i'w ddisgwyl, ac fe ddylai eich patrymau cwsg sefydlogi o fewn mis.

Yn ystod dadwenwyno, gwnewch yn siwr eich bod yn yfed digon o hylifau (oddeutu tri litr y dydd). Fodd bynnag, ceisiwch osgoi yfed llawer o ddiodydd caffein, gan gynnwys te a choffi, oherwydd fe allant waethygu eich problemau cwsg ac achosi gorbryder. Mae dwr, diod ffrwythau neu sudd ffrwythau yn ddewisiadau gwell.

Ceisiwch fwyta prydau rheolaidd, hyd yn oed os nad oes chwant bwyd arnoch. Bydd eich archwaeth bwyd yn dychwelyd yn raddol.

Ceisiwch osgoi gyrru neu weithredu peiriannau trwm os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth i helpu i leddfu eich symptomau diddyfnu. Mae'n debygol y bydd y feddyginiaeth yn gwneud i chi deimlo'n gysglyd. Cymerwch eich meddyginiaeth yn unol â'r cyfarwyddyd yn unig.

Gall dadwenwyno fod yn gyfnod o straen. Gallwch geisio lliniaru straen trwy ddarllen, gwrando ar gerddoriaeth, mynd am dro, a chael bath. Darllenwch fwy ynghylch rheoli straen.

Os ydych chi'n dadwenwyno gartref, byddwch yn gweld nyrs neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn rheolaidd. Gallai hyn fod gartref, yn eich meddygfa, neu mewn gwasanaeth GIG arbenigol. Byddwch hefyd yn cael y manylion cyswllt perthnasol ar gyfer gwasanaethau cymorth eraill os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch.

Mae diddyfnu o alcohol yn gam cyntaf pwysig tuag at oresgyn eich problemau cysylltiedig ag alcohol. Fodd bynnag, nid yw diddyfnu'n driniaeth effeithiol ar ei phen ei hun. Bydd angen triniaeth a chymorth ychwanegol arnoch i'ch helpu yn y tymor hir.

Meddyginiaeth ar gyfer dibyniaeth ar alcohol

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell nifer o feddyginiaethau i drin camddefnyddio alcohol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • acamprosate
  • disulfiram
  • naltrexone
  • nalmefene

Trafodir y meddyginiaethau hyn yn fanylach isod.

Acamprosate

Defnyddir acamprosate (enw brand Campral) i helpu i atal ailwaelu mewn pobl sydd wedi ymatal yn llwyddiannus rhag alcohol. Fe'i defnyddir fel arfer mewn cyfuniad â chwnsela i leihau ysfa am alcohol.

Mae acamprosate yn gweithio trwy effeithio ar lefelau cemegyn yn yr ymennydd o'r enw asid gama-amino-bwtyrig (GABA). Credir bod GABA yn rhannol gyfrifol am ysgogi ysfa am alcohol.

Os rhoddir acamprosate i chi ar bresgripsiwn, bydd y cwrs fel arfer yn dechrau cyn gynted ag y dechreuwch ddiddyfnu o alcohol ac fe all bara hyd at chwe mis.

Disulfiram

Gellir defnyddio disulfiram (enw brand Antabuse) os ydych chi'n ceisio ymatal ond yn pryderu y gallech ailwaelu, neu os ydych wedi ailwaelu yn y gorffennol.

Mae disulfiram yn gweithio trwy eich atal rhag yfed trwy achosi adweithiau corfforol annymunol os ydych yn yfed alcohol. Gall y rhain gynnwys:

  • cyfog
  • poen yn y frest
  • chwydu
  • pendro

Yn ogystal â diodydd alcoholig, mae'n bwysig osgoi pob ffynhonnell alcohol oherwydd y gallent hwy ysgogi adwaith annymunol hefyd. Mae cynhyrchion a allai gynnwys alcohol yn cynnwys:

  • sent eillio
  • cegolch
  • rhai mathau o finegr
  • persawr

Dylech hefyd geisio osgoi sylweddau sy'n rhyddhau anwedd alcoholig, fel teneuwyr paent a thoddyddion.

Byddwch yn parhau i brofi adweithiau annymunol os dewch i gysylltiad ag alcohol am wythnos ar ôl i chi orffen cymryd disulfiram, felly mae'n bwysig cynnal eich ymataliaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Pan fyddwch yn cymryd disulfiram, byddwch yn cael eich gweld gan eich tîm gofal iechyd oddeutu unwaith bob pythefnos yn ystod y ddeufis cyntaf, ac yna unwaith y mis am y pedwar mis canlynol.

Naltrexone

Gall naltrexone gael ei ddefnyddio i atal ailwaelu neu gyfyngu ar faint o alcohol y mae rhywun yn ei yfed.

Mae'n gweithio trwy rwystro derbynyddion opioid yn y corff, gan atal effeithiau alcohol. Fel arfer, fe'i defnyddir mewn cyfuniad â meddyginiaeth arall neu gwnsela.

Os argymhellir naltrexone, dylid rhoi gwybod i chi ei fod yn atal cyffuriau lleddfu poen sy'n cynnwys opioidau rhag gweithio, gan gynnwys morffin a chodin.

Os byddwch yn teimlo'n sâl tra'ch bod yn cymryd naltrexone, rhowch y gorau i'w gymryd ar unwaith a cheisiwch gyngor gan eich meddyg teulu neu'ch tîm gofal.

Gall cwrs naltrexone bara hyd at chwe mis, er y gall bara am gyfnod hwy weithiau.

Cyn cael unrhyw un o'r meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn, byddwch yn cael asesiad meddygol llawn, gan gynnwys profion gwaed.

Nalmefene

Gall nalmefene (enw brand Selincro) gael ei ddefnyddio i atal ailwaelu neu gyfyngu ar faint o alcohol y mae rhywun yn ei yfed.

Mae'n gweithio trwy rwystro derbynyddion opioid yn yr ymennydd, sy'n lleihau'r ysfa am alcohol.

Fe allai nalmefene gael ei argymell fel triniaeth bosibl ar gyfer dibyniaeth ar alcohol os ydych wedi cael asesiad cychwynnol ac:

  • rydych yn dal i yfed mwy na 7.5 uned y dydd (dynion) neu fwy na 5 uned y dydd (menywod)
  • nid oes gennych unrhyw symptomau diddyfnu corfforol
  • nid oes angen i chi roi'r gorau i yfed ar unwaith neu ymatal yn llwyr

Dylai nalmefene gael ei gymryd dim ond os ydych chi'n cael cymorth i'ch helpu i leihau eich cymeriant alcohol a pharhau â thriniaeth.

Therapi ar gyfer dibyniaeth ar alcohol

Grwpiau hunangymorth

Mae llawr o bobl sydd â phroblemau dibyniaeth ar alcohol yn credu bod grwpiau hunangymorth, fel Alcoholigion Anhysbys (AA), yn helpu.

Un o'r prif gredoau wrth wraidd AA yw mai salwch tymor hir, cynyddol yw dibyniaeth alcoholig ac mai ymataliaeth lwyr yw'r unig ateb.

Mae'r cynllun triniaeth a hyrwyddir gan AA wedi'i seilio ar raglen 12 cam a gynlluniwyd i'ch helpu i oresgyn eich dibyniaeth.

Mae'r camau'n cynnwys cyfaddef eich bod yn ddi-rym yn erbyn alcohol a bod eich bywyd wedi mynd yn ddireolaeth, cyfaddef eich bod wedi gweithredu'n anghywir a, lle y bo'n bosibl, gwneud iawn i'r bobl rydych wedi eu niweidio.

Darllenwch fwy ynghylch 12 cam Alcoholigion Anhysbys.

Therapi hwyluso deuddeg cam

Mae therapi hwyluso deuddeg cam wedi'i seilio ar y rhaglen a gynlluniwyd gan AA. Y gwahaniaeth yw eich bod yn gweithio trwy'r camau ar sail un i un gyda chwnselydd, yn hytrach nag mewn grwp.

Fe allech ffafrio'r driniaeth hon os ydych yn teimlo'n anghyfforddus neu'n amharod i drafod eich problemau mewn grwp.

Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)

Therapi siarad yw therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) sy'n defnyddio dull datrys problemau o fynd i'r afael â dibyniaeth ar alcohol.

Mae'r dull hwn yn cynnwys amlygu meddyliau di-fudd, afrealistig a allai fod yn cyfrannu at eich dibyniaeth ar alcohol, fel:

  • "Dydw i ddim yn gallu ymlacio heb alcohol."
  • "Byddai fy ffrindiau'n credu fy mod i'n ddiflas petawn i'n sobr."
  • "Does dim niwed mewn yfed un peint."

Pan fydd y meddyliau a'r credoau hyn wedi cael eu hamlygu, fe'ch anogir i seilio eich ymddygiad ar feddyliau mwy realistig a buddiol, fel:

  • "Mae llawer o bobl yn cael hwyl heb alcohol, ac fe allaf i fod yn un ohonyn nhw."
  • "Mae fy ffrindiau'n fy hoffi oherwydd fy mhersonoliaeth, nid oherwydd faint rwy'n ei yfed."
  • "Rwy'n gwybod nad ydw i'n gallu stopio yfed pan fyddaf yn dechrau."

Mae CBT hefyd yn eich helpu i amlygu sbardunau sy'n achosi i chi yfed, fel:

  • straen
  • pryder cymdeithasol
  • bod mewn amgylcheddau "risg uchel", fel tafarnau, clybiau a bwytai

Bydd eich therapydd CBT yn eich addysgu sut i osgoi sbardunau penodol ac ymdopi'n effeithiol â'r rhai hynny na ellir eu hosgoi.

Therapi teuluol

Nid yw dibyniaeth ar alcohol yn effeithio ar unigolyn yn unig - mae'n gallu effeithio ar deulu cyfan. Mae therapi teuluol yn rhoi'r cyfle i aelodau teulu:

  • ddysgu am natur dibyniaeth ar alcohol
  • cynorthwyo'r aelod o'r teulu sy'n ceisio ymatal rhag alcohol

Mae cymorth ar gael i aelodau'r teulu eu hunain hefyd. Gall byw gyda rhywun sy'n camddefnyddio alcohol achosi straen, felly gall cymorth fod yn ddefnyddiol iawn yn aml.

Mae nifer o wasanaethau alcohol arbenigol ar gael sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i berthnasau a ffrindiau pobl sy'n ddibynnol ar alcohol.

Er enghraifft, sefydliad sydd wedi'i gysylltu ag AA yw Al-Anon sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i berthnasau a ffrindiau. Rhif ei linell gymorth gyfrinachol yw 020 7403 0888 (10am tan 10pm, 365 diwrnod y flwyddyn).

Darllenwch fwy ynghylch mathau o therapïau siarad.

Dyddiadur yfed

Os ydych chi'n ceisio yfed yn fwy cymedrol, efallai y gofynnir i chi lenwi "dyddiadur yfed".

Cofnodwch y canlynol bob dydd:

  • yr holl ddiodydd alcoholig rydych wedi eu hyfed
  • pa amser o'r dydd y gwnaethoch eu hyfed
  • ble yr oeddech
  • sawl uned y gwnaethoch eu hyfed - gallwch ddefnyddio cyfrifiannell unedau alcohol GIG 111 Cymru i gyfrifo hyn

Bydd hyn yn rhoi syniad da i chi o faint o alcohol rydych chi'n ei yfed, y sefyllfaoedd lle rydych yn yfed, a sut y gallech ddechrau yfed llai.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 09/08/2023 15:49:17