Gwybodaeth beichiogrwydd


Gwiriadau a Phrofion Arferol

Archwiliadau a phrofion cyn-geni

Yn ystod eich beichiogrwydd, byddwch yn cael cynnig amrywiaeth o brofion, gan gynnwys profion gwaed a sganiau baban uwchsain.

Mae'r rhain wedi'u cynllunio i:

  • helpu gwneud eich beichiogrwydd yn fwy diogel
  • gwirio ac asesu datblygiad a lles eich babi a chi
  • sgrinio ar gyfer cyflyrau penodol

Does dim rhaid i chi gael unrhyw un o'r profion. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall pwrpas yr holl brofion fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ddylid eu cael ai peidio. Trafodwch hyn gyda'ch tîm mamolaeth. Cewch wybodaeth ysgrifenedig am y profion sgrinio sydd ar gael. Mae hwn hefyd ar gael ar-lein ar wefan Sgrinio Cyn-geni Cymru.

Gwiriadau pwysau a thaldra yn ystod beichiogrwydd

Byddwch yn cael eich pwyso yn eich apwyntiad cofrestru, ond ni fyddwch yn cael eich pwyso'n rheolaidd yn ystod eich beichiogrwydd. Defnyddir eich taldra a'ch pwysau i gyfrifo mynegai màs eich corff (BMI).

Os ydych chi dros bwysau, mae gennych fwy o risg o broblemau yn ystod beichiogrwydd.

Dysgwch fwy am fod dros bwysau pan fyddwch yn beichiogi.

Rydych yn debygol o fagu 10 i 12.5kg (22 i 28 pwys) yn ystod beichiogrwydd ar ôl bod yn feichiog am 20 wythnos. Mae llawer o'r pwysau ychwanegol oherwydd bod y babi’n yn tyfu, ond mae eich corff hefyd yn storio braster ar gyfer gwneud llaeth y fron ar ôl geni.

Siaradwch â meddyg teulu neu fydwraig os ydych chi'n poeni am eich pwysau.

Mae'n bwysig cael deiet iach yn ystod beichiogrwydd a gwneud ymarfer corff rheolaidd yn ystod eich beichiogrwydd.

Profion wrin cyn-geni

Gofynnir i chi roi sampl wrin yn eich apwyntiadau cyn-geni. Caiff eich wrin ei wirio am sawl peth, gan gynnwys protein.

Os canfyddir hyn yn eich wrin, gall olygu bod gennych haint wrin. Gall hefyd fod yn arwydd o gyneclampsia.

Profion pwysedd gwaed yn ystod beichiogrwydd

Bydd eich pwysedd gwaed yn cael ei wirio ym mhob ymweliad cyn-geni. Gallai cynnydd mewn pwysedd gwaed yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd fod yn arwydd o gyneclampsia.

Mae'n gyffredin iawn i'ch pwysedd gwaed fod yn is yng nghanol eich beichiogrwydd nag ar adegau eraill. Nid yw hyn yn broblem, ond gall wneud i chi deimlo'n benysgafn os byddwch yn codi'n gyflym. Siaradwch â'ch bydwraig os ydych chi'n poeni amdano.

Dysgwch fwy am bwysedd gwaed uchel a beichiogrwydd.

Profion gwaed a sganiau yn ystod beichiogrwydd

Fel rhan o'ch gofal cyn-geni, byddwch yn cael cynnig nifer o brofion gwaed a sganiau. Cynigir rhai i bawb, tra bod eraill ond yn cael eu cynnig os gallech fod mewn perygl o gael haint neu gyflwr penodol.

Mae'r holl brofion yn cael eu gwneud i wneud eich beichiogrwydd yn fwy diogel neu wirio bod y babi’n iach, ond nid oes rhaid i chi eu cael os nad ydych am wneud hynny.

Anemia diffyg haearn

Mae anemia diffyg haearn yn eich gwneud yn flinedig ac yn llai abl i ymdopi â cholli gwaed pan fyddwch yn rhoi genedigaeth.

Dylech gael cynnig sgriniad ar gyfer anemia diffyg haearn yn eich apwyntiad cofrestru ac am 28 wythnos.

Os bydd profion yn dangos bod gennych anemia diffyg haearn, mae'n debygol y byddwch yn cael cynnig haearn ac asid ffolig.

Diabetes beichiogrwydd

Efallai y byddwch mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes yn ystod beichiogrwydd (diabetes beichiogrwydd) os ydych:

  • dros bwysau
  • wedi cael diabetes yn ystod beichiogrwydd blaenorol
  • wedi cael babi sy’n pwyso 4.5kg (9.9 pwys) neu fwy yn flaenorol
  • bod â pherthynas agos sydd â diabetes
  • â chefndir teuluol de Asiaidd, du neu Affricanaidd Caribïaidd, neu o'r Dwyrain Canol

Os ystyrir eich bod mewn perygl mawr o gael diabetes beichiogrwydd, efallai y cewch gynnig prawf o'r enw OGTT (prawf goddefiant glwcos y geg). Mae hyn yn golygu yfed diod llawn siwgr a chael profion gwaed.

Mae'r OGTT yn cael ei wneud pan fyddwch rhwng 24 a 28 wythnos yn feichiog. Os ydych chi wedi cael diabetes beichiogrwydd o'r blaen, cewch gynnig:

  • hunanfonitro cynnar lefelau glwcos gwaed, neu
  • OGTT yn gynharach yn ystod beichiogrwydd, yn fuan ar ôl eich ymweliad cofrestru, ac un arall rhwng 24 a 28 wythnos, os yw'r prawf cyntaf yn normal

Sgrinio Cyn-geni Cymru

Mae'r dudalen hon yn ymwneud â phrofion sgrinio sy'n cael eu cynnig yn ystod beichiogrwydd fel rhan o raglen Sgrinio Cyn Geni Cymru. Cewch fwy o wybodaeth am yr holl brofion sgrinio hyn yma


Last Updated: 27/06/2023 13:05:25
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk