Gwybodaeth beichiogrwydd


Cewynnau

Sut i newid cewyn/clwt

Mae angen newid cewyn/clwt eich babi yn aml, ond mae pa mor aml y mae angen gwneud hyn yn dibynnu ar ba mor sensitif yw ei groen.

Mae gan rai babis groen sensitif iawn ac mae angen eu newid cyn gynted ag y byddan nhw’n gwlychu eu hunain, neu fel arall mae’r croen yn mynd yn ddolurus ac yn goch.

Gall babis eraill aros i gael eu newid tan iddyn nhw fynd i’r gwely neu ar ôl iddyn nhw gael eu bwydo.

Mae angen newid pob babi cyn gynted â phosibl pan fyddan nhw wedi gwneud pŵ i atal brech cewyn (nappy rash).

Mae angen newid babis fanc gymaint â 10 neu 12 gwaith y dydd, tra bod angen newid babis hŷn o leiaf 6 i 8 gwaith y dydd.

Beth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer newid cewyn/clwt

Cyn i chi newid cewyn/clwt eich babi, golchwch eich dwylo a chael popeth sydd ei angen arnoch chi mewn un lle, gan gynnwys:

  • mat newid neu dywel
  • gwlân cotwm a bowlen o ddŵr cynnes, neu wipes babis heb bersawr a di-alcohol
  • bag plastig neu fwced ar gyfer y cewyn/clwt budr a gwlân cotwm neu wipes budr
  • eli rhwystr (barrier cream) i ddiogelu croen eich babi
  • cewyn/clwt glân (a leinin a gorchudd os ydych chi'n defnyddio cewyn/clwt go iawn)
  • dillad glân

Ble i newid cewyn/clwt

Y lle gorau i newid cewyn/clwt yw mat newid neu dywel ar y llawr, yn enwedig os oes gennych chi fwy nag un babi.

Felly, os oes angen i chi ddelio ag un babi am eiliad, dydy’r llall ddim yn gallu cwympo. Mae'n well i chi eistedd fel nad ydych chi'n brifo'ch cefn.

Os ydych chi'n defnyddio bwrdd newid, cadwch lygad ar eich babi bob amser. Ddylech chi ddim dibynnu ar y strapiau i gadw'ch babi'n ddiogel. Peidiwch byth â cherdded i ffwrdd na throi eich cefn.

Efallai y bydd babis hŷn yn ceisio gwingo pan fyddwch chi’n eu newid. Gallech chi roi tegan iddyn nhw neu ddefnyddio ffôn symudol i dynnu eu sylw.

Newid cewyn/clwt

Mae'r un mor bwysig glanhau'ch babi'n llawn p'un a yw wedi gwlychu ei hun neu wedi gwneud pŵ.

Os yw cewyn/clwt eich babi'n fudr, defnyddiwch y cewyn/clwt i lanhau'r rhan fwyaf o'r pŵ o'i ben ôl.

Yna defnyddiwch y gwlân cotwm a'r dŵr cynnes (neu'r wipes) i gael gwared ar y gweddill a chael eich babi'n lân iawn.

Glanhewch eich babi yn ysgafn ond yn drylwyr a gwnewch yn siŵr eich bod yn glanhau y tu mewn i blygiadau'r croen.

Dylech chi lanhau merched o'r tu blaen i'r cefn er mwyn osgoi cael germau i mewn i'r fagina.

Dylech chi lanhau bechgyn o amgylch y ceilliau a'r pidyn, ond does dim angen tynnu’r blaengroen (foreskin) yn ôl.

Os yw'n ddigon cynnes, gadewch i'ch babi orwedd ar y mat newid heb gewyn ymlaen am ychydig. Mae gwisgo cewyn/clwt drwy'r amser yn gwneud brech cewyn yn fwy tebygol o ddigwydd.

Os ydych yn defnyddio cewyn/clwt tafladwy, gofalwch beidio â chael dŵr neu hufen ar y tabiau gludiog gan na fyddan nhw’n glynu at y cewyn os ydych chi’n gwneud hynny.

Os ydych chi'n defnyddio cewyn/clwt go iawn, rhowch leinin cewyn i mewn ac yna cau’r cewyn yn dynn. Gwnewch yn siŵr ei fod yn ffitio'n glyd o amgylch y gwasg a'r coesau.

Sgwrsiwch â'ch babi wrth i chi ei newid. Bydd tynnu wynebau, gwenu a chwerthin gyda'ch babi yn eich helpu i glosio a helpu ei ddatblygiad.

Ceisiwch beidio â dangos unrhyw ffieidd-dod ar yr hyn sydd yn ei gewyn/glwt. Dydych chi ddim eisiau i'ch babi ddysgu bod gwneud pŵ yn rhywbeth annymunol neu negyddol.

Hylendid cewynnau/clytiau

Gellir rholio cewyn/clwt tafladwy a'i ailselio gan ddefnyddio'r tabiau. Rhowch nhw mewn bag plastig sy’n cael ei gadw ar gyfer cewynnau/clytiau yn unig, yna clymwch y cewyn a'i roi mewn bin allanol.

Does dim rhaid i gewynnau/clytiau go iawn golchadwy gael eu socian cyn eu golchi, ond efallai y byddwch chi’n dewis eu socian i helpu i gael y staeniau allan. Gwiriwch y cyfarwyddiadau golchi yn gyntaf.

Gallwch chi olchi cewynnau/clytiau go iawn ar 60°C, neu rydych chi’n gallu defnyddio gwasanaeth golchi cewynnau lleol.

Does dim unrhyw dystiolaeth y bydd defnyddio powdrau golchi gydag ensymau (powdrau bio) neu gyflyrwyr ffabrig (fabric conditioners) yn amharu ar groen eich babi.

Golchwch gewynnau/clytiau sy'n fudr ar wahân i'ch golch arall. Mae'n debyg y bydd gennych ddigon o gewynnau i wneud llwyth llawn beth bynnag.

Er mwyn osgoi haint, golchwch eich dwylo ar ôl newid cewyn/clwt cyn i chi wneud unrhyw beth arall.

Os yw eich babi'n ddigon hen, mae’n golchi ei ddwylo gyda chi gan ei fod yn arfer da i’w gyflwyno iddo.

Sut olwg sydd ar bŵ babi

Yr enw am bŵ cyntaf eich babi yw meconiwm. Mae hwn yn ludiog ac yn wyrdd-ddu.

Mae rhai babis yn gallu gwneud y math hwn o bŵ yn ystod neu ar ôl genedigaeth, neu ar ryw amser yn y 48 awr gyntaf.

Ar ôl ychydig ddyddiau bydd y pŵ yn newid i liw melyn neu fwstard. Mae pŵ babis sy'n bwydo ar y fron yn rhedegog ac nid yw’n drewi. Mae pŵ babis sy'n cael ei fwydo gan fformiwla yn gadarnach, yn frown tywyllach ac yn fwy drewllyd.

Mae rhai fformiwlâu babanod hefyd yn gallu gwneud pŵ eich babi'n wyrdd tywyll. Os byddwch chi’n newid o fwydo o'r fron i fwydo llaeth fformiwla, byddwch chi’n gweld bod pŵ eich babi'n mynd yn dywyllach ac yn fwy tebyg i bâst.

Os oes merch gennych, efallai y byddech chi’n gweld gollyngiad gwyn ar ei chewynnau/clytiau am ychydig ddyddiau ar ôl ei geni.

Mae'n cael ei achosi gan hormonau sydd wedi croesi'r brych i'ch babi, ond bydd y rhain yn diflannu o'i system cyn bo hir.

Weithiau gall yr hormonau hyn achosi ychydig o waedu fel mislif bach, ond yn y ddau achos dydy hyn ddim yn rhywbeth i boeni amdano.

Pa mor aml ddylai fy mabi wneud pŵ?

Mae babis yn gwneud pedwar pŵ y dydd ar gyfartaledd yn ystod wythnos gyntaf eu bywydau. Mae hyn yn gostwng i gyfartaledd o ddau y dydd erbyn eu bod yn un oed.

Mae babis newydd-anedig sy'n cael eu bwydo ar y fron yn gallu cael pŵ pob tro maen nhw’n bwydo yn yr wythnosau cynnar, yna, ar ôl tua 6 wythnos, gallan nhw heb gael pŵ am sawl diwrnod.

Mae babis sy'n cael eu bwydo â fformiwla yn gallu cael pŵ hyd at bum gwaith y dydd pan fyddan nhw’n newydd-anedig, ond ar ôl ychydig fisoedd mae hyn yn gallu mynd i lawr i unwaith y dydd.

Mae hefyd yn arferol i fabis straenio neu hyd yn oed grio wrth wneud pŵ.

Dydy eich babi ddim yn rhwym (constipated) cyn belled â bod ei bŵ yn feddal, hyd yn oed os nad yw wedi gwneud un am ychydig ddyddiau.

A yw'n arferol i bŵ fy mabi newid?

O ddydd i ddydd neu o wythnos i wythnos, mae'n debyg y bydd pŵ eich babi yn amrywio.

Os byddwch chi’n sylwi ar newid pendant o unrhyw fath, fel y pŵ yn mynd yn ddrewllyd iawn, yn ddyfrllyd iawn neu'n galetach (yn enwedig os oes gwaed yn y pŵ), dylech chi siarad â'ch meddyg neu'ch ymwelydd iechyd.

Os yw pŵ eich babi'n edrych yn welw, mae hyn yn gallu bod yn arwydd o glefyd yr afu (liver).

Siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu os byddwch chi’n sylwi ar hyn.

Cewynnau/clytiau tafladwy a chewynnau/clytiau go iawn golchadwy (y gellir eu hailddefnyddio)

Mae cewynnau/clytiau tafladwy (disposable nappies) a chewynnau/clytiau go iawn (cloth nappies) yn dod mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau. Efallai bydd yr opsiynau gwahanol yn eich drysu ar y dechrau, ond drwy gynnig ac arbrofi byddwch chi’n gallu gweld pa gewyn/clwt sy'n gweddu orau i'ch babi wrth iddo dyfu.

Mae gan gewynnau tafladwy a chlytiau go iawn wahanol fanteision ac anfanteision, felly bydd angen i chi ystyried pethau fel cost, cyfleustra a'r effaith ar yr amgylchedd pan fyddwch chi’n dewis beth i'w brynu.

Er enghraifft, mae cewynnau/clytiau tafladwy yn ddefnyddiol iawn, ond mae cewynnau/clytiau go iawn golchadwy yn gweithio allan yn rhatach os ydych chi’n cyfrifo’r costau dros y blynyddoedd y mae eich babi mewn cewynnau/clytiau.

Mae rhai brandiau cewynnau/clytiau go iawn a chynghorau lleol yn cynnig samplau am ddim i chi roi cynnig arnyn nhw.

Os ydych chi’n defnyddio cewynnau/clytiau go iawn, efallai yr hoffech chi gofrestru ar gyfer gwasanaeth golchi clytiau a fydd yn mynd â’r cewynnau/clytiau budr i ffwrdd ac yn darparu rhai ffres bob wythnos.

 


Last Updated: 12/07/2023 11:38:07
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk