Gwybodaeth beichiogrwydd


Fferyllfa a bresgripsiwn

Gwiriwch eich meddyginiaethau

Gall rhai meddyginiaethau, gan gynnwys rhai cyffuriau lleddfu poen cyffredin, niweidio iechyd eich baban. Mae meddyginiaethau eraill yn ddiogel, fel parasetamol a meddyginiaethau ar bresgripsiwn i drin cyflyrau hirdymor fel asthma, thyroid orweithgar, thyroid danweithgar a diabetes. I fod yn sicr bod meddyginiaethau yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd:

  • holwch eich meddyg, bydwraig neu fferyllydd bob amser cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth
  • sicrhau bod eich meddyg, deintydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn gwybod eich bod yn feichiog cyn iddynt rhagnodi unrhyw beth neu roi triniaeth i chi
  • siaradwch â'ch meddyg ar unwaith os ydych yn cymryd meddyginiaeth yn reolaidd, yn ddelfrydol cyn i chi ddechrau ceisio beichiogi neu cyn gynted ag y byddwch yn darganfod eich bod yn feichiog
  • defnyddiwch cyn lleied o feddyginiaeth dros-y-cownter ag y bo modd

Meddyginiaethau diogel yn ystod beichiogrwydd

Mae meddyginiaethau a thriniaethau sydd fel arfer yn ddiogel yn ystod beichiogrwyd yn cynnwys:

Fodd bynnag, howlch eich bydwraig, meddyg neu fferyllydd yn gyntaf.

Meddyginiaethau ac aromatherapi llysieuol yn ystod beichiogrwydd

Nid yw pob meddyginiaethau "naturiol" yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd. Dywedwch wrth eich fferyllydd a bydwraig neu'ch meddyg os ydych yn defnyddio meddyginiaethau llysieuol, homeopathig neu aromatherapi.

Os byddwch yn penderfynu defnyddio therapiau hyn, cysylltwch â'r Sefydliad ar gyfer Meddyginiaeth Cyflenwol i sicrhau bod eich ymarferydd yn gymwys. Dylech ddweud wrth eich meddyg eich bod yn feichiog cyn trafod unrhyw gwrs o driniaeth.


Last Updated: 12/07/2023 11:13:28
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk