Gwybodaeth beichiogrwydd


Edrych ar ôl plentyn sâl

Os ydy’ch plentyn yn sâl, y peth pwysig i wneud ydy gwrando arno.

Os ydy hi’n well gan eich plentyn beidio bod yn y gwely, efallai bod hynny’n wir ac efallai y bydd yn teimlo’n well ar y soffa gyda blanced neu dwfe.

Yn y gwely neu ar y soffa, bydd hyn yn help i deimlo’n fwy cyfforddus: 

  • Awyru’r ystafell ond heb ddrafftiau. Os ydy’r ystafell yn rhy gynnes, mae’n debyg y bydd yn teimlo’n waeth.
  • Rhoi digon o ddiodydd i’ch plentyn. Am ddiwrnod neu ddau, peidiwch â phoeni am fwyd oni bai eu bod nhw eisiau bwyd. Ar ôl hynny, trïwch eu temtio ag ychydig o fwyd a diodydd iach fel llaeth.
  • Trïwch roi amser i’ch plentyn drwy chwarae gemau tawel, dweud stori, bod yn gwmni a rhoi cysur.
  • Mae plant sâl yn blino’n hawdd ac angen gorffwyso llawer. Trïwch gael eich plentyn i gysgu pan fydd angen, efallai drwy wrando ar stori gennych chi neu ar ffôn, tabled neu CD.
  • Peidiwch byth â chysgu ar y soffa gyda babi sâl, hyd yn oed os ydy’r ddau ohonoch wedi blino’n lân. Gall hyn achosi syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS).

Mae gofalu am blentyn sâl, hyd yn oed am ddiwrnod neu ddau, yn gallu bod yn waith blinedig.

Cysgwch neu gael saib pan allwch chi, a thrïwch gael rhywun arall i gymryd drosodd bob hyn a hyn i roi seibiant i chi.

Salwch plant – cael help gan feddyg

Mae eich ymwelydd iechyd, nyrs practis, ymarferydd nyrsio, meddyg teulu a fferyllydd i gyd yn gallu rhoi help i chi ar sut i drin salwch eich plentyn.

Mae eich meddyg teulu yn gallu trin eich plentyn a rhoi presgripsiwn moddion. Mae rhai ymwelwyr iechyd, nyrsys a fferyllwyr hefyd yn gallu diagnosio salwch a rhoi presgripsiwn moddion i’ch plentyn.

Os ydy’ch plentyn yn sâl, ewch i’ch fferyllfa leol yn gyntaf. Byddan nhw’n dweud os oes angen i’ch plentyn weld meddyg teulu. Os ydy eich plentyn yn edrych fel petai’n sâl iawn, efo salwch difrifol, cysylltwch â’ch syrjeri yn syth neu ewch â nhw ar frys i adran damweiniau ac achosion brys eich ysbyty lleol.

Mae’r rhan fwyaf o syrjeris yn help mawr i rieni plant bach. Bydd rhai yn fodlon gweld babis heb apwyntiad neu eu gweld nhw cyn pawb arall. Bydd llawer o feddygon teulu hefyd yn gallu helpu dros y ffôn.

Os dydych chi ddim yn gallu cysylltu â’ch meddyg neu gyrraedd y syrjeri, gallwch ffonio GIG 111 Cymru am help meddygol, 24 awr y dydd.

Delio â damweiniau bach

Mae llawer o syrjeris meddygon teulu, unedau mân anafiadau, canolfannau galw i mewn a fferyllfeydd yn gallu delio ag anafiadau bach, briwiau neu bethau sydd wedi’u stwffio yn y trwyn neu’r glust.

Os bydd hyn yn digwydd, gofynnwch i feddyg teulu neu GIG 111 Cymru am help i wybod ble i fynd cyn i chi fynd i ysbyty.


Last Updated: 12/07/2023 11:08:39
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk