Rhieni unigol
Os ydych chi’n magu plentyn ar eich pen eich hun, peidiwch â bod ofn gofyn am help gan ffrindiau a theulu. Mae rhieni sengl eraill yn gallu bod yn gefn i chi hefyd.
Cael help fel unig riant
Gallech chi:
- dderbyn help llaw gan deulu a ffrindiau er mwyn i chi gael sbel, gwarchod plant a mynd â phlant i’r ysgol neu eu nôl nhw
- trefnu ‘cyfnewid’ neu ‘swap’ gyda rhiant arall – cymryd tro i ofalu am blant eich gilydd
- gofyn i un o’r teulu neu ffrind rydych chi’n drystio ofalu am eich plentyn gyda’r nos bob hyn a hyn
- gofyn i ffrind neu un o’r teulu gymryd eich plentyn i gysgu dros nos weithiau
Os dydych chi ddim yn nabod pobl yn lleol, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd pa grwpiau sydd yn eich ardal chi, neu cysylltwch â Gingerbread, elusen ar gyfer teuluoedd un rhiant, sy’n gallu eich rhoi mewn cysylltiad â rhieni eraill mewn sefyllfa debyg a rhoi help i chi.
Dau riant ar wahân
Os oeddech chi wedi gobeithio magu’ch plentyn fel cwpl, efallai eich bod chi’n teimlo’n flin ac wedi eich brifo.
Ond mae’n bwysig i rieni sengl guddio’r teimladau yma oddi wrth eu plentyn a gadael iddo adeiladu perthynas â’r rhiant arall.
Fel arfer, mae’n well i blant weld y ddau riant yn aml, hyd yn oed os byddwch chi’n dechrau perthynas newydd. Wrth gwrs dydy hyn ddim yn wir os ydy eich cyn-bartner yn gas neu’n dreisgar (‘violent’) gyda chi neu’ch plentyn.
Ar y dechrau, efallai y bydd eich plentyn yn bihafio’n ddrwg ar ôl dod adref. Dyma un ffordd mae plant yn dangos eu bod nhw wedi cynhyrfu neu ddim yn deall pethau.
Oni bai eich bod chi’n meddwl bod rhywbeth drwg yn digwydd pan fydd eich plentyn yn mynd at ei riant arall, y ffordd orau o ddelio â hyn ydy bod yn gefn i’ch plentyn a pheidio cynhyrfu. Yn y pen draw, bydd eich plentyn yn dysgu edrych ymlaen at yr ymweliad ac at ddod adref.
Mae bron yn sicr y bydd angen i chi siarad am eich teimladau eich hun. Trïwch siarad ag oedolyn arall.
Mae gan Gingerbread fwy o gyngor a help ar ôl gwahanu.
Budd-daliadau a chynhaliaeth plant (‘Benefits and child maintenance’) i rieni sengl
Mae gan Gingerbread becyn gwybodaeth am ddim i rieni sengl. Maen nhw hefyd yn rhoi cyngor annibynnol am fudd-daliadau, tai a phroblemau cynhaliaeth plant.
Os allwch chi ddim cytuno â’r rhiant arall am gynhaliaeth plant, mae gan y llywodraeth Wasanaeth Cynhaliaeth Plant (‘Child Maintenance Service’) statudol sy’n gallu trefnu cynhaliaeth plant i chi.
Mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gallu casglu taliadau gan y rhiant sy’n talu a’i roi i’r rhiant arall.
Mae hefyd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i’r rhiant arall os dydych chi ddim yn gwybod ble mae’n byw, a helpu i sortio unrhyw ffrae am bwy yw’r rhiant.
Os ydych chi eisiau help y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, mae’n rhaid i chi gysylltu â nhw yn gyntaf. Ffoniwch 0800 988 0988.
Rhieni sengl gyda phlentyn anabl
Mae gofalu am blentyn anabl ar eich pen eich hun yn gallu bod yn waith blinedig ac unig ond rydych yn gallu cael help a help ariannol.
Trïwch gael help gan riant arall eich plentyn, os yn bosibl. Os oes angen pethau i helpu eich plentyn yn y tŷ, efallai y gallwch chi gael grant i dalu amdanyn nhw.
Mae yna fudd-daliadau a chredydau treth (‘benefits and tax credits’) hefyd i rieni sengl plentyn anabl, e.e.
Lwfans Byw i’r Anabl (‘Disability Living Allowance’) i blant, Credyd Cynhwysol (‘Universal Credit’) a chredydau treth (‘tax credits’). Os ydy’ch plentyn yn 16 oed neu hŷn, efallai y bydd yn gallu cael Taliad Annibyniaeth Personol (‘Personal Independence Payment’).
Dysgwch fwy am fudd-daliadau a chredydau treth ar wefan Contact, neu gallwch ffonio llinell gymorth Gingerbread am ddim ar 0808 802 0925.
Last Updated: 12/07/2023 11:06:54
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk