Poen Y Fron

Cyflwyniad

Mae sawl rheswm pam y gall bronnau fod yn boenus. Fel arfer, nid yw'n rhywbeth difrifol, ond ewch i weld meddyg teulu os na fydd y poen yn gwella.

Achosion poen yn y fron 

Fel arfer, mae poen yn y fron yn gysylltiedig â'r mislif. Weithiau, gall cyflwr iechyd neu feddyginiaeth ei achosi.

Poen yn y fron yn gysylltiedig â'r mislif

Fel arfer, mae poen yn y fron sy'n gysylltiedig â'r mislif:

  • yn dechrau hyd at bythefnos cyn mislif, yn gwaethygu ac wedyn yn mynd ar ddiwedd y mislif 
  • yn fud boen, yn teimlo'n drwm neu'n ddolurus
  • yn effeithio ar y ddwy fron ac, weithiau, yn lledaenu i'r gesail

Achosion eraill poen yn y fron

Mae achosion eraill poen yn y fron yn cynnwys:

  • anafiadau neu ysigiadau i'r gwddf, yr ysgwydd neu'r cefn –  gellir teimlo'r rhain fel poen yn y fron
  • meddyginiaethau fel y bilsen atal cenhedlu a rhai cyffuriau gwrthiselder 
  • cyflyrau fel mastitis neu grawniad ar y fron
  • beichiogrwydd
  • newidiadau mewn hormonau yn ystod y menopos

Mae poen yn y fron ar ei ben ei hun yn annhebygol o fod yn symptom canser.

Pethau gallwch chi eu gwneud i leddfu poen ar y fron

I helpu lleddfu poen ar y fron:

  • cymerwch barasetamol neu ibuprofen, neu rwbio eli lleddfu poen ar eich bronnau 
  • gwisgo bra wedi'i ffitio'n gywir yn ystod y dydd a bra meddal i gysgu ynddo 

Prin yw'r dystiolaeth fod tabledi fitamin E neu olew melyn yr hwyr yn helpu gyda phoen ar y fron.

Ewch i weld meddyg teulu am boen ar y fron:

  • os nad yw'n gwella neu os nad yw poenleddfwyr yn helpu
  • os oes hanes o ganser y fron yn eich teulu
  • os oes gennych unrhyw arwyddion o feichiogrwydd – gallwch wneud prawf beichiogrwydd yn gyntaf 

Gofynnwch am apwyntiad brys gyda'r meddyg teulu neu mynnwch help gan GIG 111 Cymru:

  • os oes gennych boen ar y fron a thymheredd uchel iawn neu'n teimlo'n boeth ac yn crynu 
  • os oes unrhyw ran o'ch bron yn goch, yn boeth neu'n chwyddedig
  • os oes lwmp caled yn eich bron, nad yw'n symud o gwmpas
  • os oes rhedlif o'r deth, efallai gyda gwaed ynddo
  • os bydd un fron neu'r ddwy yn newid siâp
  • os bydd y croen ar eich bron yn bantiog (fel croen oren)
  • os oes gennych frech ar neu o gwmpas eich teth, neu os yw'r deth wedi suddo i'ch bron

Gall y rhain fod yn arwyddion o rywbeth mwy difrifol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 12/11/2024 15:06:17