Symptomau
Nid yw rhai babanod yn cael profiad o unrhyw boen wrth dorri dannedd, ond caiff eraill eu heffeithio'n fwy difrifol. Mae'r boen yn cael ei hachosi gan symudiad yn yr asgwrn gên, wrth i'r dannedd ddechrau gwthio trwy'r deintgig.
Gallai rhai dannedd ddod trwodd yn hawdd, tra mae eraill yn achosi poen ac anghysur. Wedi i'r dannedd ddod trwodd, bydd yr anghysur fel arfer yn dod i ben.
Gallai'ch baban gael nifer o wahanol symptomau wrth dorri dannedd, ac mae rhai ohonynt wedi'u rhestru isod.
- Tymheredd uwch - ond nid twymyn, sef tymheredd o 38C (100.4F) neu'n uwch.
- Bochau coch - gallai bochau'ch baban deimlo'n gynnes hefyd.
- Deintgig coch.
- Glafoerio'n ormodol - gallai hyn achosi brech goch ar ei (g)ên.
- Archwaeth gwael - gallai'ch baban fod yn anfodlon bwyta oherwydd y boen yn ei (d)deintgig.
- Cnoi - efallai y bydd eich baban yn dechrau cnoi mwy - gallai hyn gynnwys teganau, gwrthrychau neu ei fysedd/bysedd.
- Aflonyddwch a natur flin - gallai'r boen a achosir gan dorri dannedd wneud eich baban yn aflonydd ac yn flin.
Symptomau eraill
Mae rhai pobl yn priodoli ystod eang o symptomau i dorri dannedd, fel dolur rhydd a thwymyn. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ymchwil i brofi hyn, ac mae'n bwysig bod yn ymwybodol nad yw pob symptom o ganlyniad i dorri dannedd.
Chi sy'n adnabod eich baban orau - os yw ei (h)ymddygiad yn ymddangos yn anarferol neu os yw ei symptomau'n ddifrifol neu'n peri pryder, dylech ofyn am gyngor meddygol. Gallwch ffonio 111, neu, fel arall, cysylltwch â'ch meddyg teulu.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan
wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
15/03/2022 07:41:34