.
Mae llawer o bethau sy'n achosi poen yn y ffêr/pigwrn. Fel arfer, gallwch leddfu'r poen eich hun, ond ewch i weld eich meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella.
Sut gallwch chi leddfu poen yn y ffêr/pigwrn eich hun
Os ewch chi i weld meddyg teulu am boen yn y ffêr/pigwrn, bydd fel arfer yn awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys a chodi eich ffêr pan allwch
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi) wedi'i lapio mewn tywel ar eich ffêr am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- gwisgo esgidiau cyfforddus llydan gyda sawdl isel a gwadn meddal
- defnyddio mewnwadnau meddal neu badiau sawdl yn eich esgidiau
- lapio rhwymyn o gwmpas eich ffêr i'w chynnal
- rhoi cynnig ar ymarferion ymestyn ysgafn
- cymryd parasetamol
Peidiwch:
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- cerdded na sefyll am gyfnodau hir
- gwisgo sodlau uchel nac esgidiau tynn a phigfain
Gall fferyllydd helpu gyda phoen yn y ffêr
Gallwch ofyn i fferyllydd am y canlynol:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd
- mewnwadnau a phadiau i'ch esgidiau
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Dysgwch ragor am reoli poen yn y ffêr, gan gynnwys ymarferion y gallwch eu gwneud, ar wefan y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw poen yn y ffêr yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu mae'n parhau i ddod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich troed, neu wedi colli teimlad yn eich troed
- os oes diabetes arnoch a phoen yn eich troed - gall problemau'r troed fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
Ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os oes gennych boen difrifol yn y ffêr
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
- os yw eich ffêr neu'ch troed wedi newid siâp neu mae ar ongl ryfedd
- os clywoch sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os nad ydych chi'n gallu cerdded
Gallai'r rhain fod yn arwyddo o dorri'r ffêr.
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol
Poen difrifol:
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol:
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn:
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Achosion cyffredin poen yn y ffêr
Mae poen yn y ffêr yn aml yn cael ei achosi gan wneud gormod o ymarfer corff neu wisgo esgidiau sy'n rhy dynn.
Hefyd, gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n achosi'r poen yn eich ffêr.
Symptomau: Poen, chwyddo, cleisio, a ddechreuodd ar ôl ymarfer corff dwys neu ailadroddus. Achos posibl: Ysigiad ar y ffêr
Symptomau: Poen yn y ffêr a'r sawdl; poen yng nghroth y goes wrth sefyll ar flaenau eich traed. Achos posibl: Tendonitis yng ngweyllen y ffêr
Symptomau: Cochni a chwyddo, poen mud dolurus. Achos posibl: Bwrsitis
Symptomau: Poen miniog sydyn, chwyddo a sŵn popian neu dorri yn ystod yr anaf, trafferth cerdded, ffêr ar ongl ryfedd. Achos posibl: Torri'r ffêr/pigwrn
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem.
Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.
.
Mae llawer o bethau sy'n achosi poen yn y sawdl. Fel arfer, gallwch leddfu'r poen eich hun, ond ewch i weld eich meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella.
Sut i leddfu poen yn y ffêr/pigwrn eich hun
Os ewch i weld meddyg teulu, bydd fel arfer yn awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys a chodi eich sawdl pan allwch
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi) wedi'i lapio mewn tywel ar eich sawdl am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- gwisgo esgidiau cyfforddus llydan gyda sawdl isel a gwadn meddal
- defnyddio mewnwadnau meddal neu badiau sawdl yn eich esgidiau
- lapio rhwymyn o gwmpas eich sawdl a'ch ffêr i'w cynnal
- rhoi cynnig ar ymarferion ymestyn ysgafn
- cymryd parasetamol
Peidiwch:
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- cerdded na sefyll am gyfnodau hir, yn enwedig yn droednoeth
- gwisgo sodlau uchel nac esgidiau tynn a phigfain
Gall fferyllydd helpu gyda phoen yn y sawdl
Gallwch ofyn i fferyllydd am y canlynol:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd ar gyfer y poen yn eich sawdl
- mewnwadnau a phadiau i'ch esgidiau
- triniaethau ar gyfer problemau cyffredin y croen, a all effeithio ar y sawdl
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw'r poen yn y sawdl yn ddifrifol neu'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu'n cadw dod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich troed, neu wedi colli teimlad yn eich troed
- os oes diabetes arnoch a phoen yn eich sawdl - gall problemau'r troed fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol
Poen difrifol:
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol:
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn:
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os oes gennych boen difrifol yn y ffêr ar ôl anaf
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
- os yw eich ffêr neu'ch troed wedi newid siâp neu mae ar ongl ryfedd
- os clywoch sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os nad ydych chi'n gallu cerdded
Gallai'r rhain fod yn arwydd o dorri asgwrn y sawdl neu dorri'r ffêr.
Achosion cyffredin poen yn y ffêr
Mae poen yn y sawdl yn aml yn cael ei achosi gan wneud gormod o ymarfer corff neu wisgo esgidiau sy'n rhy dynn.
Hefyd, gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n achosi'r poen yn eich sawdl.
Symptomau: Poen miniog rhwng eich pont y troed a'ch sawdl, sy'n teimlo'n waeth wrth i chi ddechrau cerdded ac yn well wrth orffwys, trafferth codi bysedd eich troed oddi ar y llawr. Achos posibl: Llid y ffasgell wadnol (Plantar fasciitis)
Symptomau: Poen yng nghefn y sawdl ac yn y ffêr a chroth y goes. Achos posibl: Tendonitis yng ngweyllen y ffêr
Symptomau: Cochni a chwyddo, poen mud dolurus yn y sawdl. Achos posibl: Bwrsitis
Symptomau: Poen miniog sydyn yn y sawdl, chwyddo, sŵn popian neu dorri yn ystod yr anaf, trafferth cerdded. Achos posibl: Torri'r ffêr/pigwrn neu rwygo gweyllen y ffêr
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem.
Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.
.
Mae llawer o bethau sy'n achosi poen ym mysedd y traed. Fel arfer, gallwch leddfu'r poen eich hun, ond ewch i weld eich meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella.
Sut i leddfu poen ym mysedd y traed eich hun
Os ewch i weld meddyg teulu am boen ym mysedd y traed, bydd fel arfer yn awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys a chodi eich troed pan allwch
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi) wedi'i lapio mewn tywel ar fys eich troed am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- gwisgo esgidiau cyfforddus llydan gyda sawdl isel a gwadn meddal
- cymryd parasetamol
- defnyddio mewnwadnau meddal neu badiau sawdl yn eich esgidiau
- rhwymo bys troed wedi torri wrth y bys nesaf - rhowch ddarn bach o wlân cotwm neu rwyllen rhwng y bys sy'n gwneud dolur o'r bys wrth ymyl a defnyddiwch dâp i'w rwymo'n llac
- rhoi cynnig ar ymarferion ymestyn ysgafn
Peidiwch
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- cerdded na sefyll am gyfnodau hir
- gwisgo sodlau uchel nac esgidiau tynn a phigfain
Gall fferyllydd helpu gyda phoen ym mysedd y troed
Os oes gennych boen ym mysedd y troed, gall fferyllydd roi cyngor i chi ar:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd
- mewnwadnau a phadiau i'ch esgidiau
- triniaethau ar gyfer problemau cyffredin y croen a'r ewinedd
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw'r poen ym mys eich troed yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu'n cadw dod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os oes diabetes arnoch a phoen yn eich troed - gall problemau'r troed fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol
Poen difrifol:
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol:
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn:
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os ydych wedi gwneud dolur mawr i fawd eich troed
- os ydych mewn poen difrifol
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich troed, neu wedi colli teimlad yn eich troed
- os yw bys eich troed ar ongl ryfedd
- os clywoch sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os ydych chi'n cael trafferth symud bysedd eich troed neu os nad ydych chi'n gallu cerdded
Gallai'r rhain fod yn arwydd o dorri bys troed yn gas ar ôl anaf.
Achosion poen ym mysedd y traed
Yn aml, mae bys troed yn gwneud dolur o ganlyniad i wneud gormod o ymarfer corff neu wisgo esgidiau sy'n rhy dynn.
Hefyd, gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n achosi'r poen ym mys eich troed.
Symptomau: Poen neu chwyddo o gwmpas yr ewin, mae'r ewin yn cyrlio i mewn i fys y troed. Achos posibl: Casewin/ewin yn tyfu i'r byw
Symptomau: Lwmp caled, esgyrnog gerllaw bawd y troed. Achos posibl: Cnap/bynion
Symptomau: Poen, merwino a fferdod pan fyddwch chi'n oer neu dan straen, gall bysedd y troed newid eu lliw. Achos posibl: Ffenomen Raynaud neu falaith/llosg eira
Symptomau: Poen, chwyddo, bys troed coch neu gleisiog, cael dolur wrth gerdded. Achos posibl: Torri bys troed
Symptomau: Poen sydyn, anystwythder, croen chwyddedig coch neu boeth o gwmpas cymal bys y troed. Achos posibl: Cymalwst/troedwst
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem.
Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.
.
Bydd poen ar dop eich troed yn aml yn gwella ymhen ychydig wythnosau. Ewch i weld eich meddyg teulu os nad yw'n gwella.
Sut gallwch chi leddfu poen ar dop eich troed
Os ewch i weld meddyg teulu am boen yn nhop eich troed, bydd fel arfer yn awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys a chodi eich troed pan allwch
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi, wedi'i lapio mewn tywel) ar yr ardal boenus am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- gwisgo esgidiau gyda digon o le i'ch traed, sydd â sawdl isel a gwadn meddal
- defnyddio mewnwadnau meddal neu badiau sawdl yn eich esgidiau
- ceisio colli pwysau os ydych chi dros eich pwysau
- rhoi cynnig ar ymarferion ymestyn ysgafn i'ch troed a'ch ffêr
- cymryd parasetamol
Peidiwch
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- gwneud unrhyw chwaraeon na gweithgarwch arall sy'n achosi'r poen yn eich tyb chi
- cerdded na sefyll am gyfnodau hir
- gwisgo sodlau uchel nac esgidiau tynn neu bigfain
Gall fferyllydd helpu gyda phoen yn y troed
Gallwch ofyn i fferyllydd am:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd
- mewnwadnau a phadiau i'ch esgidiau
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw'r poen ar dop eich troed yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu'n cadw dod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich troed, neu wedi colli teimlad yn eich troed
- os oes diabetes arnoch a phoen yn eich troed - gall problemau'r troed fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
Ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os oes gennych boen difrifol ar dop eich troed
- os nad ydych chi'n gallu cerdded
- os yw siap eich troed wedi newid neu mae ar ongl ryfedd
- os clywoch sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
Gall y rhain fod yn arwydd o dorasgwrn ar ôl anaf.
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol
Poen difrifol:
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol:
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn:
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Achosion cyffredin poen ar dop y troed
Mae poen ar dop eich troed yn aml yn cael ei achosi gan ymarfer corff, yn enwedig os yw hynny'n cynnwys rhedeg, cicio neu neidio.
Hefyd, gall gael ei achosi trwy wisgo esgidiau sy'n rhy dynn a rhai cyflyrau, fel cymalwst/troedwst.
Gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n achosi eich poen. Peidiwch â gwneud diagnosis eich hun – ewch i weld meddyg teulu os ydych chi'n poeni.
Symptomau: Poen, chwyddo, cleisio, a ddechreuodd ar ôl ymarfer corff dwys neu ailadroddus. Achos posibl: Ysigiad
Symptomau: Poen, chwyddo ac anystwythder sy'n para am gyfnod hir, ymdeimlad o grensian neu glecian pan fyddwch yn symud y troed, lwmp ar hyd tendon. Achos posibl: Tendonitis neu osteoarthritis
Symptomau: Croen coch, poeth, chwyddedig, poen sydyn neu ddifrifol pan fydd unrhyw beth yn cyffwrdd â'ch troed, mae'r poen fel arfer yn dechrau gerllaw gwaelod bawd y troed. Achosi posibl: Cymalwst/troedwst
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem.
Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.
.
Bydd poen yng ngwaelod eich troed (pont y troed, pelen y troed neu'r sawdl) yn aml yn gwella ymhen ychydig wythnosau. Ewch i weld eich meddyg teulu os nad yw'n gwella.
Sut gallwch chi leddfu poen yng ngwaelod y troed
Os ewch i weld meddyg teulu am boen yng ngwaelod eich troed, gall awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys a chodi eich troed pan allwch
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi, wedi'i lapio mewn tywel) ar yr ardal boenus am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- gwisgo esgidiau gyda digon o le i'ch traed, sydd â sawdl isel a gwadn meddal
- defnyddio mewnwadnau meddal neu badiau yn eich esgidiau
- ceisio colli pwysau os ydych chi dros eich pwysau
- rhoi cynnig ar ymarferion ymestyn ysgafn i'ch troed a'ch ffêr
- cymryd parasetamol
Peidiwch
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- gwneud unrhyw chwaraeon na gweithgarwch arall sy'n achosi'r poen yn eich tyb chi
- cerdded na sefyll am gyfnodau hir
- gwisgo sodlau uchel nac esgidiau tynn a phigfain
Gall fferyllydd helpu gyda phoen yn y troed
Gallwch ofyn i fferyllydd am:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd
- mewnwadnau a phadiau i'ch esgidiau
- triniaethau ar gyfer problemau cyffredin y croen, fel croen caled neu ddafaden
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw'r poen yng ngwaelod eich troed yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu'n cadw dod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich troed, neu wedi colli teimlad yn eich troed
- os oes diabetes arnoch a phoen yn eich troed - gall problemau'r troed fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
Ewch i ganolfan triniaeth frys neu Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os oes gennych boen difrifol yng ngwaelod eich troed
- os nad ydych chi'n gallu cerdded
- os yw siâp eich troed wedi newid neu mae ar ongl ryfedd
- os clywoch sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
Gall y rhain fod yn arwydd o dorasgwrn ar ôl anaf.
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol
Poen difrifol:
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol:
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn:
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Achosion cyffredin poen yng ngwaelod y troed
Mae poen yng ngwaelod eich troed yn aml yn cael ei achosi gan ymarfer corff, fel rhedeg, gwisgo esgidiau sy'n rhy dynn, neu gyflwr fel niwroma Morton.
Hefyd, mae siâp troed rhai pobl yn rhoi pwysau ychwanegol ar waelod y troed. Gall croen caled neu groen wedi cracio, neu ddafaden, achosi'r math hwn o boen hefyd.
Gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n ei achosi, ond peidiwch â gwneud diagnosis eich hun. Mynnwch help meddygol os ydych chi'n poeni.
Symptomau: Poen, chwyddo, cleisio, a ddechreuodd ar ôl ymarfer corff dwys neu ailadroddus. Achos posibl: Ysigiad y troed
Symptomau: Poen miniog, llosgi neu saethu gerllaw bysedd y traed (pelen eich troed), teimlo fel petai lwmp neu garreg fechan o dan eich troed. Achos posibl: niwroma Morton
Symptomau: Poen miniog rhwng pont y troed a'ch sawdl, sy'n teimlo'n waeth wrth i chi ddechrau cerdded ac yn well wrth orffwys, trafferth codi bysedd eich traed oddi ar y llawr. Achos posibl: Plantar fasciitis
Symptomau: Dim bwlch (pont) o dan eich troed pan fyddwch chi'n sefyll, mae eich troed yn gwasgu'n fflat i'r llawr. Achos posibl: Troed fflat (traed fflat-wadn)
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem.
Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.
.
Yr enw ar boen ym mhelen eich troed yw metatarsalgia (troetgur). Fel arfer, gallwch leddfu'r poen eich hun, ond ewch i weld eich meddyg teulu os nad yw'n gwella.
Sut gallwch chi leddfu poen ym mhelen eich troed eich hun
Os ewch i weld meddyg teulu am boen ym mhelen eich troed, gall awgrymu eich bod yn rhoi cynnig ar y canlynol:
- gorffwys a chodi eich troed pan allwch
- rhoi pecyn iâ (neu becyn o bys wedi'u rhewi, wedi'i lapio mewn tywel) ar yr ardal boenus am hyd at 20 munud bob 2 i 3 awr
- gwisgo esgidiau gyda digon o le i'ch traed, sydd â sawdl isel a gwadn meddal
- defnyddio mewnwadnau meddal neu badiau yn eich esgidiau
- ceisio colli pwysau os ydych chi dros eich pwysau
- rhoi cynnig ar ymarferion ymestyn ysgafn i'ch troed a'ch ffêr yn rheolaidd
- cymryd parasetamol
Peidiwch
- cymryd ibuprofen am y 48 awr cyntaf ar ôl anaf
- gwneud unrhyw chwaraeon na gweithgarwch arall sy'n achosi'r poen yn eich tyb chi
- cerdded na sefyll am gyfnodau hir
- gwisgo sodlau uchel nac esgidiau tynn a phigfain
Gall fferyllydd helpu gyda phoen yn y troed
Gallwch ofyn i fferyllydd am:
- y poenleddfwr gorau i'w gymryd
- mewnwadnau a phadiau i'ch esgidiau
- a oes angen i chi weld meddyg teulu
Dod o hyd i fferyllfa
Ewch i weld meddyg teulu:
- os yw'r poen ym mhelen eich troed yn eich atal rhag gwneud gweithgareddau arferol
- os yw'r poen yn gwaethygu neu'n cadw dod yn ôl
- os nad yw'r poen wedi gwella ar ôl i chi ei drin gartref am bythefnos
- os ydych chi'n teimlo goglais yn eich troed, neu wedi colli teimlad yn eich troed
- os oes diabetes arnoch a phoen yn eich troed - gall problemau'r troed fod yn fwy difrifol os oes diabetes arnoch
Ewch i ganolfan triniaeth frys neu Adran Damweiniau ac Achosion Brys:
- os oes gennych boen difrifol ym mhelen eich troed
- os nad ydych chi'n gallu cerdded
- os yw siâp eich troed wedi newid
- os clywoch sŵn torri, crensian neu bopian adeg yr anaf
- os ydych chi'n teimlo llesmair, penysgafnder neu'n teimlo'n sâl oherwydd y poen
Gall y rhain fod yn arwydd o dorasgwrn ar ôl anaf.
Beth rydym ni'n ei olygu wrth boen difrifol
Poen difrifol:
- mae'n bresennol drwy'r amser a chynddrwg fel bod meddwl neu siarad yn anodd
- ni allwch gysgu
- mae'n anodd iawn symud, codi o'r gwely, mynd i'r tŷ bach, ymolchi neu wisgo
Poen cymedrol:
- mae'n bresennol drwy'r amser
- mae'n ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio neu gysgu
- gallwch lwyddo i godi, ymolchi neu wisgo
Poen ysgafn:
- mae'n mynd a dod
- mae'n annifyr ond nid yw'n eich atal rhag gwneud gweithgareddau bob dydd
Achosion cyffredin poen ym mhelen y troed
Mae poen ym mhelen eich troed yn aml yn cael ei achosi gan ymarfer corff, fel rhedeg, gwisgo esgidiau sy'n rhy dynn, neu gyflwr fel arthritis.
Hefyd, mae siâp troed rhai pobl yn rhoi pwysau ychwanegol ar belen y troed. Gall croen caled neu groen wedi cracio, neu ddafaden, achosi'r math hwn o boen hefyd.
Hefyd, gallai eich symptomau roi syniad i chi o'r hyn sy'n achosi eich poen.
Symptomau: Poen, chwyddo, cleisio, a ddechreuodd ar ôl ymarfer corff dwys neu ailadroddus. Achos posibl: Ysigiad
Symptomau: Poen miniog, llosgi neu saethu gerllaw bysedd y traed (pelen eich troed), teimlo fel petai lwmp neu garreg fechan o dan eich troed. Achos posibl: niwroma Morton
Symptomau: Cochni a chwyddo, poen mud, dolurus. Achos posibl: Bwrsitis neu arthritis
Symptomau: Lwmp esgyrnog, caled gerllaw bawd y troed. Achos posibl: Cnapiau (bynions)
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n siwr beth yw'r broblem.
Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon ac ewch i weld meddyg teulu os nad yw'r poen yn gwella mewn pythefnos.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan
wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
09/05/2024 14:02:36