Beth yw'r triniaethau ar gyfer dementia?
Ar hyn o bryd nid oes gwellhad ar gyfer dementia. Ond mae meddyginiaethau a thriniaethau eraill a all helpu gyda symptomau dementia.
Meddyginiaethau i drin dementia
Defnyddir y rhan fwyaf o'r meddyginiaethau, sydd ar gael, i drin clefyd Alzheimer gan mai hwn yw'r math mwyaf cyffredin o ddementia. Gallant helpu i leihau symptomau dros dro.
Y prif feddyginiaethau yw:
Atalyddion Acetylcholinesterase
Mae'r meddyginiaethau hyn yn atal ensym rhag torri lawr sylwedd o'r enw acetylcholine yn yr ymennydd, sy'n helpu celloedd y nerf i gyfathrebu â'i gilydd.
Defnyddir Donepezil (a elwir hefyd yn Aricept), rivastigmine (Exelon) a galantamine (Reminyl) i drin symptomau clefyd Alzheimer ysgafn i gymedrol. Defnyddir Donepezil hefyd i drin clefyd Alzheimer difrifol.
Mae tystiolaeth y gall y meddyginiaethau hyn hefyd helpu i drin dementia â chrynoadau Lewy a dementia clefyd Parkinson, yn ogystal â phobl sydd â diagnosis dementia cymysg o glefyd Alzheimer gyda dementia fasgwlaidd.
Ychydig o wahaniaeth sydd rhwng y meddyginiaethau hyn yn eu heffeitholrwydd. Fodd bynnag, efallai y byddai'n well dewis rivastigmine os yw rhithweledigaethau yn un o'r prif symptomau.
Gall sgil-effeithiau cynnwys cyfog a cholli archwaeth. Mae'r rhain fel arfer yn gwella ar ôl pythefnos o gymryd y feddyginiaeth.
Memantine
Rhoddir y feddyginiaeth hon (a elwir hefyd yn Namenda) i bobl â chlefyd Alzheimer cymderol neu ddifrifol, dementia â chrynoadau Lewy a'r rheini â chyfuniad o glefyd Alzheimer a dementia fasgwlaidd. Mae'n addas ar gyfer y rhai na allant gymryd neu nad ydynt yn gallu goddef atalyddion acetylolinesterase. Mae'n gweithio trwy rwystro effeithiau gormodedd o gemegyn yn yr ymennydd o'r enw glutamad.
Gall sgil-effeithiau gynnwys cur pen, pendro a rhwymedd, ond dros dro yw'r rhain fel arfer.
Meddyginiaethau i drin cyflyrau cysylltiedig
Mae rhai cyflyrau, fel problemau â'r galon, gallu effeithio ar symptomau dementia, yn enwedig dementia fasgwlaidd. Mae'n bwysig bod y rhain yn cael eu diagnosio a'u trin.
Mae'r cyflyrau hyn yn cynnwys:
Meddyginiaethau i drin ymddygiad heriol
Yng nghamau diweddarach dementia, bydd nifer sylweddol o bobl yn datblygu'r hyn a elwir yn "symptomau ymddygiol a seicolegol dementia (BPSD)". Gall symptomau BPSD gynnwys:
- mwy o gynnwrf
- pryder
- crwydro
- ymddygiad ymosodol
- rhithdybiaethau
- rhithweledigaethau
Gall y newidiadau hyn mewn ymddygiad fod yn drallodus iawn, i'r person â dementia ac i'r person sy'n gofalu amdano. Fodd bynnag, mae strategaethau ymdopi a all helpu.
Os nad yw strategaethau ymdopi yn gweithio, efallai y bydd meddyginiaethau gwrthseicotig fel risperidone neu haloperidol yn cael eu rhagnodi i'r rhai sy'n dangos ymddygiad ymosodol parhaus neu drallod eithafol.
Dyma'r unig feddyginiaethau sydd wedi'u trwyddedu ar gyfer pobl sydd â chlefyd Alzheimer cymedrol i ddifrifol (risperidone a haloperidol) a dementia fasgwlaidd (haloperidol yn unig) lle mae risg o niwed iddynt eu hunain neu i eraill.
Dylid defnyddio risperidone ar y dos isaf ac am yr amser byrraf posibl (hyd at 6 wythnos) gan fod ganddo sgil-effeithiau difrifol. Gellir defnyddio haloperidol dim ond os nad yw triniaethau eraill wedi helpu.
Dylai'r penderfyniad i ragnodi meddyginiaeth gael ei wneud gan seiciatrydd ymgynghorol.
Weithiau gellir rhoi gwrthiselyddion os amheuir bod iselder yn achos sylfaenol pryder.
Meddyginiaethau (remedies) gwahanol
Mae rhai pobl â dementia a'u gofalwyr yn defnyddio meddyginiaethau cyflenwol, fel gingko biloba, curcumin neu olew cnau coco. Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth i ddweud a yw meddyginiaethau o'r fath yn effeithiol.
Mae'n well bod yn wyliadwrus o unrhyw gynhyrchion sy'n honni eu bod o fudd i bobl â dementia. Os ydych chi'n ystyried cymryd cynnyrch neu atodiad o'r fath, mae'n bwysig ymgynghori â meddyg yn gyntaf. Mae rhai meddyginiaethau yn rhyngweithio â meddyginiaethau a ragnodwyd ac ni ddylid byth eu cymryd yn lle meddyginiaethau.
Triniaethau nad ydynt yn cynnwys meddyginiaethau
Mae meddyginiaethau ar gyfer symptomau dementia yn bwysig, ond mae'n dim ond un rhan o'r gofal sydd ar gael i berson â dementia. Mae triniaethau, gweithgareddau a chymorth eraill - i'r gofalwyr hefyd - yr un mor bwysig i helpu pobl i fyw'n dda â dementia.
Therapi ysgogi gwybyddol
Mae therapi ysgogi gwybyddol (CST) yn cynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau grwp ac ymarferion sydd wedi'u cynllunio i wella:
- cof
- sgiliau datrys problemau
- gallu ieithyddol
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod CST o fudd i bobl â dementia ysgafn i gymedrol.
Adsefydlu gwybyddol
Mae'r dechneg hon yn cynnwys gweithio gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig, fel therapydd galwedigaethol, a pherthynas neu ffrind i gyflawni nod personol, fel dysgu defnyddio ffôn symudol neu dasgau bob dydd eraill.
Mae adsefydlu gwybyddol yn gweithio drwy eich annog i ddefnyddio'r rhannau o'ch ymennydd sy'n gweithio i helpu'r rhannau nad ydynt. Yng nghamau cynnar dementia, gall eich helpu i ymdopi'n well â'r cyflwr.
Atgofion a gwaith hanes bywyd
Mae gwaith atgofion yn cynnwys siarad am bethau a digwyddiadau o'ch gorffennol. Fel arfer mae'n cynnwys defnyddio propiau fel lluniau, hoff eiddo neu gerddoriaeth.
Mae gwaith hanes bywyd yn cynnwys casgliad o luniau, nodiadau a chofnodion o'ch plentyndod hyd heddiw. Gall fod yn llyfr iawn neu'n fersiwn ddigidol.
Weithiau caiff dulliau hyn eu cyfuno. Mae tystiolaeth yn dangos y gallant wella naws a lles. Maent hefyd yn eich helpu chi a'r rhai o'ch cwmpas i ganolbwyntio ar eich sgiliau a'ch cyflawniadau yn hytrach nag ar eich dementia.
Cewch fwy o fanylion am y triniaethau hyn yng nghanllaw dementia Cymdeithas Alzheimer.
Dewch o hyd i wasanaethau cymorth dementia.