Aros yn annibynnol

Aros yn annibynnol gyda dementia

Bydd cael diagnosis o ddementia yn cael effaith fawr arnoch chi a'ch bywyd. Efallai y byddwch chi a'ch teulu yn poeni am ba mor hir y gallwch chi ofalu amdanoch chi'ch hun, yn enwedig os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun.

Mae pawb yn profi dementia yn wahanol ac mae'r gyfradd y mae'r symptomau'n gwaethygu yn amrywio o berson i berson.

Ond gyda'r gefnogaeth gywir pan fydd ei hangen arnoch, mae llawer o bobl yn byw'n annibynnol am nifer o flynyddoedd.

Byw gartref pan fydd gennych ddementia

Yng nghamau cynnar dementia, mae llawer o bobl yn gallu byw gartref a mwynhau bywyd yn yr un modd â chyn eu diagnosis.

Yn dilyn diagnosis dementia, dylech fod wedi cael cyngor ar sut y gallwch barhau i wneud yr hyn sy'n bwysig i chi am gyn hired â phosibl, yn ogystal â gwybodaeth am gymorth a gwasanaethau lleol a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Ond wrth i'r salwch waethygu, mae'n debygol y byddwch chi'n ei gweld hi'n anoddach edrych ar ôl eich hun a'ch cartref. Efallai y bydd angen help ychwanegol arnoch wedyn gyda gweithgareddau dyddiol, fel gwaith ty, siopa ac addasiadau i'ch cartref.

Sut i gael cymorth a chefnogaeth ychwanegol

Gwnewch gais am asesiad anghenion gan adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion eich cyngor lleol. Bydd hyn yn helpu i nodi ble y gallech gael help, fel gyda phrydau bwyd neu waith ty.

Dylid cynnal asesiad anghenion wyneb yn wyneb. Mae'n syniad da cael perthynas neu ffrind gyda chi, os nad ydych yn siwr beth allai eich anghenion fod. Gallant hefyd gymryd nodiadau i chi.

Darllenwch fwy am wneud cais am asesiad anghenion.

Cael gwybod am wasanaethau dementia benodol yn eich ardal chi o gyfeiriadur ar-lein Cymdeithas Alzheimer's Dementia Connect. Mae Age Cymru yn darparu ystod o wasanaethau a chefnogaeth leol.

Ymunwch â fforwm ar-lein, fel Cymdeithas Alzheimer 'Talking Point'. Mae fforymau ar-lein yn ffordd dda o rannu eich profiadau o fyw gyda dementia a chyngor ar sut i barhau i fyw'n annibynnol.

Darllenwch fwy am gymorth a chefnogaeth i bobl â dementia.

Sut y gall technoleg eich helpu yn y gartref

Mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu bod yna bellach ystod gynyddol o gynhyrchion a gwasanaethau i helpu'r rhai â dementia neu gyflyrau hirdymor eraill i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel. Gelwir hyn hefyd yn dechnoleg gynorthwyol.

Telecare

Mae systemau telecare yn helpu i'ch cadw'n ddiogel. Maent yn cynnwys dyfeisiau, fel:

  • larymau cludadwy neu larymau safle sefydlog - pan gânt eu hysgogi, mae'r rhain yn gwneud sain uchel er mwyn rhybuddio rhywun
  • synwyryddion symud - er enghraifft, pan fydd rhywun wedi syrthio allan o'r gwely
  • larymau mwg a thân
  • systemau telecare - synwyryddion sy'n anfon signal yn awtomatig at ofalwr neu ganolfan fonitro dros y ffôn
  • dosbarthu meddyginaieth - rhyddhau meddyginiaethau ar adegau priodol

Os ydych chi wedi cael asesiad anghenion, gall eich cyngor lleol ddarparu system telecare. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tuag at gost hyn.

Cymhorthion byw dyddiol

Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchion sy'n helpu gyda thasgau o ddydd i ddydd, fel:

  • clociau yn dangos y diwrnod a'r dyddiad yn ogystal â'r amser
  • dyfeisiau atgoffa i ysgogi pryd i gymryd meddyginiaeth neu rhybuddion apwyntiadau
  • ffonau gyda botymau mawr - gellir eu rhag-raglennu gyda rhifau a ddefnyddir yn aml
  • chwaraewyr cerddoriaeth a radios gyda rheolaethau hawdd eu defnyddio

Mae nifer o wefannau sy'n gwerthu cymhorthion byw dyddiol, fel siop ar-lein Cymdeithas Alzheimer's ac AT Dementia.

Smartphones a thabledi

Mae llawer o bobl â dementia yn canfod bod defnyddio ffôn symudol neu dabled yn helpu. Yn aml mae gan y dyfeisiau hyn ystod o apiau a all helpu pobl, fel cloc larwm, swyddogaeth nodiadau a swyddogaeth atgoffa.

Mae yna hefyd lawer o apiau sydd wedi'u cynllunio'n benodol i helpu pobl â dementia - a'u gofalwyr - gan gynnwys gemau pwrpasol, ffotogofau digidol a chymhorthion hel atgofion.

Gall rhith-gynorthwywyr sy'n cael eu rheoli gan y llais hefyd eich helpu i aros yn annibynnol. Er enghraifft, gallant eich atgoffa i gymryd meddyginiaethau a rhoi atebion i gwestiynau am amserlenni tywydd neu dren.

Gweithio pan fydd gennych ddementia

Os ydych chi wedi cael diagnosis dementia, efallai y byddwch chi'n poeni am sut y byddwch chi'n ymdopi yn y gwaith. Dylech siarad â'ch cyflogwr cyn gynted ag y byddwch yn barod.

Mewn rhai swyddi, fel y lluoedd arfog, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr. Os ydych chi'n ansicr, gwiriwch eich contract cyflogaeth.

Gallwch hefyd gael cyngor gan yr ymgynghorydd cyflogaeth anabledd yn eich Canolfan Byd Gwaith leol, eich undeb llafur neu'ch gwasanaeth Cyngor ar Bopeth lleol. Os penderfynwch adael gwaith, gofynnwch am gyngor am eich pensiynau a'ch budd-daliadau.

Os ydych am barhau i weithio, siaradwch â'ch cyflogwr am ba addasiadau y gellir eu gwneud i'ch helpu chi, fel:

  • newidiadau i'ch oriau gwaith
  • trefnu cyfarfodydd ar wahanol adegau
  • newid i rôl wahanol a all fod yn llai heriol

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n rhaid i'ch cyflogwr wneud "addasiadau rhesymol" yn y gweithle i'ch helpu i wneud eich swydd.

Cael gwybod mwy am weithio a dementia gan Gymdeithas Alzheimer (PDF, 4.5Mb).

Gyrru

Os ydych wedi cael diagnosis o ddementia, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi hysbysu'r DVLA a'ch cwmni yswiriant car yn brydlon.

Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd yn rhaid i chi roi'r gorau i yrru ar unwaith. Mae'n well gan rai pobl â dementia roi'r gorau i yrru oherwydd eu bod yn ei weld hi'n anodd, ond mae eraill yn parhau i yrru am beth amser cyn belled â'i bod yn ddiogel iddynt wneud hynny.

Bydd y DVLA yn gofyn am adroddiadau meddygol ac efallai asesiad gyrru arbennig i benderfynu a allwch chi barhau i yrru.

Darllenwch daflen ffeithiau Cymdeithas Alzheimer ar yrru a dementia (PDF, 941kb).

Cynllunio ymlaen llaw

Efallai y bydd gennych flynyddoedd lawer o aros yn annibynnol gyda dementia o'ch blaen. Ond er eich bod yn dal i allu gwneud eich penderfyniadau eich hun, mae'n syniad da gwneud cynlluniau fel y gellir parhau eich dymuniadau ar gyfer eich gofal yn y dyfodol.

Gall y cynlluniau hyn gynnwys:

  • dewis rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo, fel aelod o'r teulu neu ffrind, i weithredu ar eich rhan i reoli eich materion ariannol a meddygol - gelwir hyn yn Atwrneiaeth Arhosol
  • gwneud datganiad ymlaen llaw - mae hwn yn cynnwys y gofal yr hoffech chi ei dderbyn yng nghamau diweddarach dementia, gan gynnwys ble yr hoffech chi dderbyn gofal
  • gwneud ewyllys - os nad ysych chi wedi gwneud hynny eisoes

Darllenwch fwy am ddementia a materion cyfreithiol.