Cymorth a chefnogaeth
Gall diagnosis dementia ddod yn sioc i'r person sydd â'r cyflwr a'r rhai o'u cwmpas. Fodd bynnag, mae yna ffynonellau cymorth a chefnogaeth i bawb dan sylw.
Ein cynllun gofal
Yn dilyn diagnosis o ddementia, dylech gael cynllun gofal. Dylai hyn nodi pa fath o ofal y bydd arnoch chi a'r bobl sy'n gofalu amdano ei angen. Nid yw yr un fath ag asesiad anghenion.
Dylai eich cynllun gofal gynnwys:
- sut y gallwch barhau i wneud y pethau sy'n bwysig i chi cyn hired â phosibl
- gwybodaeth am wasanaethau a all eich helpu chi a sut i gael gafael arnynt
- unrhyw gyflyrau iechyd sydd angen eu monitro'n rheoliadd
- enw person iechyd neu gofal cymdeithasol a fydd yn cydlynu'r gwahanol fathau o gymorth y gallai fod eu hangen arnoch
Dylid adolygu eich cynllyn gofal o leiaf unwaith y flwyddyn.
Bydd gwasanaeth asesu cof, adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol neu'ch meddyg teulu yn helpu i ddatblygu eich cynllun gofal, ynghyd â'ch gofalwr, os oes gennych chi un, ac aelodau eraill o'r teulu.
Cael asesiad angenion
Os oes angen help arnoch i reoli tasgau bob dydd fel ymolchi, gwisgo neu goginio, fe'ch cynghorir i gael asesiad angenion gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol.
Yn ddelfrydol, dylai'r asesiad hwn ddigwydd wyneb yn wyneb. Mae'n syniad da cael perthynas neu ffrind gyda chi os nad ydych yn hyderus yn egluro'ch sefyllfa. Gallant hefyd gymryd noadiadau i chi.
Os yw'r asesiad angehnion yn nodi bod angen help arnoch fel gofalwr i helpu gyda gofal personol (golchi a gwisgo), prydau a gludir i'ch cartref (meals on wheels), neu larwm personol, yna byddwch yn cael asesiad ariannol (prawf modd) i weld faint y byddwch yn ei gyfrannu at cost eich gofal.
Os ydych chi'n gofalu am rywyn â dementia, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr a chefnogaeth gan eich cyngor lleol, dylech ofyn am asesiad gofalwr.
Darganfyddwch sut i gael asesiad gofalwr.
Os oes gan berson sydd â dementia angenion gofal sy'n ymwneud yn bennaf â'u hiechyd, efallai byddant yn gymwys i dderbyn gofal parhaus y GIG, a fydd yn cael ei asesu gan staff y GIG.
Darllenwch fwy am ofal iechyd parhaus y GIG.
Opsiynau gofal i bobl â dementia
Byw yn eich cartref eich hun
Mae llawer o bobl sydd â dementia ysgafn i gymedrol yn gallu aros yn eu cartref eu hunain a byw'n dda os oes ganddynt gefnogaeth ddigonol. Gall bod mewn amgylchedd cyfarwydd helpu pobl i ymdopi'n well â'u cyflwr.
Darllenwch am ofalu am rywun gartref a chael gwybod sut i wneud eich cartref yn gyfeillgar i ddementia.
Symud i gartref gofal
Wrth i symptomau dementia waethygu dros amser, mae llawer o bobl yn y pen draw angen cymorth mewn cartref gofal. Yn dibynnu ar eu anghenion, gallai hyn fod yn gartref gofal preswyl neu'n gartref nyrsio sy'n cynnig gwasanaethau i bobl â dementia.
Os ydych chi wedi bod yn gofalu am bartner neu berthynas â dementia, gall hyn fod yn benderfyniad anodd i'w gymryd. Siaradwch am eich pryderon gyda ffrindiau a theulu.
Cofiwch y byddwch chi'n dal i gymryd rhan yng ngofal a chefnogaeth yr unigolyn â dementia ar ôl iddynt symud i gartref gofal. Efallai y gallwch drefnu cyfnod prawf mewn cartref gofal ar gyfer y person rydych chi'n gofalu amdano.
Bydd yn rhaid i'ch cyngor lleol gynnal asesiad anghenion arall i gadarnhau'r angen i fynd i gartref gofal ac asesiad ariannol i benderfynu faint fydd yn rhaid i'r person ei dalu tuag at ffioedd eu cartref gofal.
Arolygir cartrefi preswyl a nyrsio gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Gallwch ddarllen eu hadroddiadau o gartrefi gofal yng Nghymru.
Nyrsys Admiral
Mae Nyrsys Admiral yn nyrsys ac arbenigwyr cofrestredig mewn gofal dementia. Maent yn rhoi cymorth ymarferol, clinigol ac emosiynol i deuluoedd sy'n byw gyda dementia i wella ansawdd eu bywyd a'u helpu i ymdopi.
Mae Nyrsys Admiral yn gweithio yn y gymuned, cartrefi gofal, ysbytai a hosbisau.
I siarad â Nyrs Admiral, ffoniwch linell gymorth Nyrsys Dementia ar 0800 888 6678 neu e-bostiwch helpline@dementiauk.org.
Mae'r llinell gymorth ar gyfer gofalwyr, pobl â dementia, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Elusennau ar gyfer pobl â dementia
Mae nifer o elusennau dementia sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth.
Un o'r prif elusennau dementia yw Cymdeithas Alzheimer. Mae hgn ei gwefan gwybodaeth am yr holl glefydau sy'n achosi dementia, nid dim ond clefyd Alzheimer, gan gynnwys sut i fyw'n dda gyda dementia a sut i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth yn eich ardal chi.
Mae hefyd yn rhedeg Llinell Gymorth Genedaethol Dementia ar 0300 222 11 22 am wybodaeth a chyngor am ddementia.
Elusen genedlaethol yw Dementia UK sy'n ceisio gwella ansawdd bywyd pobl â dementia. Mae'n cynnig cyngor a chefnogaeth i deuluoedd sy'n byw gyda dementia drwy ei Nyrsys Admiral, sy'n nyrsys cofrestredig ac arbenigwyr dementia.
Mae Alzheimer's Research UK yn cynnal ymchwil dementia ond mae hefyd yn ateb cwestiynau am ymchwil dementia a dementia, gan gynnwys sut y gallwch chi a'ch teulu a ffrindiau gymryd rhan. Gall linell gwybodaeth yr elusen - 0300 111 5 111 - roi help ac arweiniad.
Mae gan Age Cymru gyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cynllunio gofal ymlaen llaw, budd-daliadau a dewis cartred gofal, yn ogystal â gwybodaeth am weithgareddau a gwasanaethau lleol ar gyfer pobl â dementia. Gallwch ffonio Age Cymru ar 08000 223 444.
Mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn darparu gwybodaeth a chyngor ar ei gwefan i ofalwyr, gan gynnwys sut i gael cefnogaeth i chi'ch hun.
Mae Carers Wales yn elusen ar gyfer gofalwyr, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor o fudd-daliadau i gymorth ymarferol.
3 Nations Dementia Working Group. The 3NDWG is a working group of people living with dementia across England, Northern Ireland and Wales.