Pwrpas gwasanaeth ymholiadau GIG 111 Cymru yw ymateb i ymholiadau gwybodaeth iechyd yn unig. Bydd cynghorwyr gwybodaeth iechyd medrus yn ceisio ymateb i'ch ymholiad o fewn pump niwrnod gwaith.
Sylwch na allwn ymateb i unrhyw ymholiadau ynghylch symptomau rydych chi neu rywun arall yn profi. Os ydych chi'n profi symptomau newydd neu ail-gychwyn, yn aros am ddiagnosis neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch triniaeth, cysylltwch â'ch darparwr gofal iechyd neu ffoniwch GIG 111 Cymru.
Ble bydd hynny'n bosibl, byddwn yn darparu cysylltiadau i wefannau sy'n cynnig gwybodaeth yn y Gymraeg, fodd bynnag os na ellir dod o hyd i ffynhonnell Gymraeg, anfonir cyswllt i wefannau Saesneg,
Nid yw’r wybodaeth a ddarperir i fod i amnewid ymgynghoriad gyda gweithiwr iechyd proffesiynol, a ni allwn warantu fod yr wybodaeth rydym yn darparu yn mynd i gwrdd a'ch angenion iechyd/meddygol.
Ni all GIG 111 Cymru warantu diogelwch yr ymholiadau gwybodaeth sy’n cael eu rhoi ar y wefan. Mae’n bosibl y gall rywun ar wahân i ni neu chi ei ddarllen .
Pan fydd yn ymateb i ymholiad, ni all GIG 111 Cymru fod yn gyfrifol am ddosbarthiad yr e-bost i flwch e-bost y defnyddiwr. Gofynnir i ddefnyddwyr beidio ag ateb negeseuon e-bost a dderbyniwyd oddi wrth GIG 111 Cymru, ond i ddanfon ymholiad newydd drwy ddefnyddio ffurflen Gwasanaeth Ymholiad Ar-lein.
Efallai y bydd GIG 111 Cymru yn defnyddio’r ymholiadau gwybodaeth i greu adroddiad i fonitro a datblygu’r safle. Bydd y data sy’n cael ei ddefnyddio yn ddienw ac yn hollol gyfrinachol.
Ar ôl i’ch ymholiad gael ei gyflwyno’n llwyddiannus, bydd y dudalen ar y we yn nodi y derbyniwyd eich ymholiad. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn pump niwrnod gwaith, danfonwch eich ymholiad eto os gwelwch yn dda.