Symptomau a beth i'w wneud

Edrychwch ar y wybodaeth hon mewn fformatau hygyrch â nifer o ieithoedd

Gwiriwch a oes gennych symptomau coronafeirws

Peidiwch â mynd i leoedd fel meddygfa, fferyllfa neu ysbyty os ydych chi'n meddwl y gallai fod gennych y coronafeirws. Arhoswch gartref.

Non-urgent advice: Defnyddiwch y gwasanaeth coronafeirws ar-lein GIG 111 Cymru os oes gennych naill ai:

  • tymheredd uchel - mae hyn yn golygu eich bod chi'n teimlo'n boeth i gyffwrdd ar eich brest neu'ch cefn (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
  • peswch parhaus newydd - mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 phwl pesychu neu fwy mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gallai fod yn waeth na'r arfer)
  • colled neu newid i'ch synnwyr arogli neu flasu - mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i'r arfer

Mae gan y rhan fwyaf o bobl â'r coronafeirws o leiaf un o'r symptomau hyn.

Bydd y gwasanaeth coronafeirws ar-lein GIG 111 Cymru yn gofyn am eich symptomau ac yn dweud wrthych beth i'w wneud.

Information:

Defnyddiwch y Gwiriwr Symptomau Coronafeirws i ddarganfod beth i'w wneud.

Information:

Ffoniwch GIG 111 Cymru dim ond os na allwch gael help ar-lein.PEIDIWCH ag oedi cyn galw 111 os ydych chi’n datblygu unrhyw symptomau newydd sy’n gwaethygu.

Cael prawf
Os oes gennych chi symptomau Covid-19 mae'n rhaid i chi gael prawf. Os yw canlyniad y prawf yn bositif, byddwch yn cael mwy o wybodaeth am y camau nesaf. Os yw canlyniad y prawf yn negyddol, mae hyn yn golygu eich bod mewn risg isel o gael coronafeirws. I wneud cais am brawf Coronafeirws, yna ffoniwch 119 neu cliciwch yma https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws. Mae angen i chi gael y prawf yn ystod y 5 diwrnod cyntaf o gael symptomau. Y peth gorau yw gwneud cais am y prawf yn ystod y 3 diwrnod cyntaf oherwydd gall gymryd 1 neu 2 ddiwrnod i'w drefnu.

Profi, Olrhain, Diogelu

Information:

I gael mwy o wybodaeth am ap COVID-19 y GIG, profi ac olrhain cysylltiadau Profi, olrhain, diogelu: coronafeirws.

Babanod a phlant

Ffoniwch GIG 111 Cymru i gael cyngor os ydych chi'n poeni am fabi neu blentyn.

Os ydyn nhw'n ymddangos yn sâl iawn, yn gwaethygu neu os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth difrifol o'i le, ffoniwch 999.

Peidiwch ag oedi cyn cael help os ydych chi'n poeni. Credwch yn eich greddf.

Gwybodaeth hunan ynysu

Darllenwch gyngor Llywodraeth Cymru Aros gartref: canllawiau i aelwydydd â coronafeirws posibl.

Coronafeirws a plant

Gall plant gael coronafeirws (COVID-19), ond mae'n ymddangos eu bod yn ei gael yn llai aml nag oedolion ac fel arfer mae'n llai difrifol.

Beth i'w wneud os oes gan eich plentyn symptomau coronafeirws

Cyngor di-frys: Symptomau coronafeirws yw:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd - mae hyn yn golygu pesychu llawer, am fwy nag awr, neu 3 phwl pesychu neu fwy mewn 24 awr
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flasu - mae hyn yn golygu na all arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i'r arfer

Ffoniwch GIG 111 Cymru os oes gan eich plentyn y symptomau hyn.

Beth i'w wneud os yw'ch plentyn yn ymddangos yn sâl iawn

Bydd plant a babanod yn dal i gael salwch a all eu gwneud yn sâl iawn yn gyflym. Mae'n bwysig cael cymorth meddygol os bydd ei angen arnoch.

Cyngor brys: Ffoniwch GIG 111 Cymru neu eich meddygfa os yw'ch plentyn:

  • o dan 3 mis oed a bod ganddo dymheredd o 38C neu uwch, neu os ydych chi'n meddwl bod ganddo dwymyn
  • yn 3 i 6 mis oed a bod ganddo dymheredd o 39C neu uwch, neu os ydych chi'n meddwl bod ganddo dwymyn
  • yn dangos arwyddion eraill o salwch, fel brech, yn ogystal â thymheredd uchel (twymyn)
  • â thymheredd uchel sydd wedi para am 5 diwrnod neu fwy
  • ddim eisiau bwyta, neu ei fod yn ddi-hwyl a'ch bod chi'n poeni
  • â thymheredd uchel nad yw'n dod i lawr gyda paracetamol
  • yn ddadhydredig - er enghraifft, nid yw cewynnau'n wlyb iawn, llygaid suddedig, a dim dagrau wrth grio

Mae angen gweithredu ar unwaith: Ffoniwch 999 os yw'ch plentyn:

  • â gwddf stiff
  • mae brech nad yw'n pylu pan fyddwch chi'n pwyso gwydr yn ei herbyn (defnyddiwch y "prawf gwydr" o Meningitis Now)
  • yn cael ei drafferthu gan olau
  • yn cael trawiad neu ffit am y tro cyntaf (ni all roi'r gorau i ysgwyd)
  • mae ei ddwylo a'i draed yn anarferol o oer
  • mae ei groen yn welw, blotiog, glas neu lwyd
  • mae ei gri yn wan, uchel, nad yw fel ei gri arferol
  • yn gysglyd ac yn anodd ei ddeffro
  • yn cynhyrfu'n fawr (nid yw'n stopio crio) neu'n ddryslyd
  • yn ei chael hi'n anodd anadlu ac yn sugno ei stumog i mewn o dan ei asennau
  • mae man meddal ar ei ben sy'n troi tuag allan
  • nid yw'n ymateb fel mae'n arfer ymateb, neu does dim diddordeb ganddo mewn bwydo neu weithgareddau arferol

Menywod beichiog a rhieni newydd

Mae'n naturiol teimlo amrywiaeth o emosiynau pan fyddwch yn feichiog, yn dod yn rhieni newydd neu'n rhiant i blentyn ifanc.  Mae newidiadau i wasanaethau a'r arferion dyddiol wedi achosi straen a phryder ychwanegol i rai pobl. 

Os ydych chi'n feichiog ac wedi cael cynnig brechlyn COVID-19, mae gwybodaeth am eich opsiynau ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae PHW a Choleg Brenhinol yr Obstetregwyr a Gynaecolegwyr hefyd wedi cynhyrchu offeryn penderfynu brechlyn COVID-19 beichiogrwydd.

I gael ffeithiau am y brechlyn a Holi ac Ateb am y brechlyn, ewch i wefan Coleg Brenhinol y Bydwragedd i gael cyngor pellach.

Brechlyn a Pas

Taflenni am y brechlyn COVID-19.

Cliciwch yma i ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am y frechlyn yn cynnwys gwybodaeth i blant a phobl ifanc.

Gallwch weld gwybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl ar ôl eich brechiad COVID-19 cliciwch yma.

Gallwch darllen gwybodaeth yma ar sut i ddangos eich bod wedi cael eich Brechlyn COVID Pàs COVID y GIG: dangoswch eich statws brechu

Covid hir

Syndrom Ôl-COVID-19 / COVID Hir

Mae'r symptomau ar ôl COVID-19 acíwt yn amrywiol iawn. Os ydych yn dioddef symptomau parhaus, fe allech eu clywed yn cael eu galw'n COVID Hir neu hyd yn oed yn Syndrom Ôl-COVID-19. Ar hyn o bryd, nid oed diffiniad meddygol na rhestr o symptomau disgwyliedig. Gall profiadau dau unigolyn sydd â COVID Hir fod yn wahanol iawn.

Rydym wedi casglu gwybodaeth at ei gilydd isod i'ch helpu wrth i chi  adfer.

Rheoli effeithiau COVID-19:

Cyngor di-frys: Effeithiau ar eich corff:

  • Diffyg anadl
  • Peswch
  • Blinder
  • Blasu ac arogli
  • Llais a llyncu
  • Poen cyhyrysgerbydol, yn yr ysgwyddau ac yn y cefn
  • Cur pen/pen tost
  • Cyfog (teimlo'n sâl)
  • Poen yn y stumog
  • Brech ar y croen
  • Pigyn clust
  • Dolur gwddw/gwddwg tost
  • Tinitws

Cyngor di-frys: Effeithiau ar eich meddwl:

  • Rheoli ofn, gorbryder ac iselder
  • Ymdopi â rhwystredigaeth
  • Cof a chanolbwyntio – ‘Ymennydd niwlog’
  • Cwsg aflonydd
  • Pendro

Cyngor di-frys: Cyflyrau eraill:

  • Cardiofasgwlaidd
  • Diabetes
  • Anadlol
  • Niwrolegol

Fel y gellir gweld, fe all fod llawer o symptomau cysylltiedig i ddelio â nhw. Gallai'r cyngor isod fod yn ddefnyddiol:

Cyngor di-frys: Hunanreoli

  • Gosodwch nodau realistig i'ch hun, ceisiwch beidio â gorymestyn.
  • Os ydych yn pryderu am eich symptomau neu os oes arnoch angen cymorth i'w rheoli nhw eich hun, cysylltwch ag 111 Cymru / siaradwch â'ch Gwasanaeth Gofal Sylfaenol / Meddygfa

Gofalu amdanaf fy hun:

Bwyta'n dda

Bydd llawer o bobl yn colli eu chwant bwyd ac yn bwyta llai pan fyddant yn sâl gyda COVID ac wrth iddynt adfer. Mae'n naturiol teimlo'n flinedig ar ôl bod yn sâl, ac mae'n gallu cymryd peth amser i wella. Fe allech weld eich bod yn cael trafferth siopa, paratoi bwyd a bwyta'r un faint ag arfer. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn teimlo'n flinedig neu'n wan. Efallai y bydd gennych rai symptomau newydd sy'n gysylltiedig â COVID, fel newidiadau i'ch synnwyr arogli a blasu, diffyg anadl, ceg sych, cyfog, a rhwymedd. Gallai hyn ei gwneud hi'n anodd cael y maeth iawn y mae arnoch ei angen i'ch helpu i wneud eich gweithgareddau dydd i ddydd ac fe allai gymryd mwy o amser i chi adfer.

Pam mae'n bwysig bwyta'n dda ar ôl salwch?

Mae bwyta'n dda yn bwysig oherwydd bod angen i'ch corff gael egni, protein, fitaminau a mwynau i'ch helpu i wella. Bydd bwyta digon o fwydydd sy'n cynnwys llawer o brotein ac egni yn eich helpu i ailadeiladu cyhyrau, cynnal eich system imiwnedd a chynyddu eich lefelau egni er mwyn i chi allu gwneud eich gweithgareddau arferol.

Newidiadau i'ch synnwyr blasu ac arogli - mae'r rhain yn fyrdymor fel arfer, ond gallant gael effaith fawr ar ba mor dda rydych yn bwyta. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth Blasu ac Arogli | Eich Adferiad COVID

Cyngor di-frys: Diffyg Anadl

  • Ceisiwch fwyta ychydig bach yn aml.
  • Ceisiwch yfed diodydd rhwng prydau bwyd yn lle gyda nhw.
  • Weithiau, fe all fod yn haws i chi ymdopi â bwydydd meddal a llaith pan fyddwch yn flinedig neu'n teimlo ychydig yn fyr o anadl.

Cyngor di-frys: Ceg Sych

  • Cymerwch lymeidiau bach o hylifau'n rheolaidd drwy gydol y dydd.
  • Ychwanegwch sawsiau at fwydydd, er enghraifft, grefi, saws caws / gwyn, mayonnaise, hufen salad, iogwrt neu ddipiau.
  • Sugnwch losin di-siwgr neu gnoi gwm di-siwgr i'ch helpu i gynhyrchu mwy o boer.
  • Os yw'ch ceg yn rhoi dolur i chi, cysylltwch â'ch meddyg teulu/fferyllydd a allai roi meddyginiaeth ar bresgripsiwn neu ofyn am feddyginiaeth i drin hyn.

Cyngor di-frys: Blinder

  • Cymerwch eich amser adeg prydau bwyd.
  • Fe all fod yn haws i chi ymdopi â bwydydd meddal a llaith pan fyddwch yn flinedig neu'n teimlo'n fyr o anadl.
  • Gall prydau parod fod yn ddefnyddiol os ydych yn rhy flinedig i goginio.

Cyngor di-frys: Rhwymedd

Fe allech deimlo'n rhwym fel un o sgil-effeithiau'r feddyginiaeth a roddwyd i chi ar bresgripsiwn neu oherwydd eich bod yn llai egnïol nag arfer.

  • Yfwch ddigon o hylifau.
  • Anelwch at yfed chwech i wyth gwydraid o hylif drwy gydol y dydd.
  • Dewiswch fwydydd sy'n cynnwys mwy o ffibr, fel ceirch uwd, cnau, hadau, ffa a chorbys, a ffrwythau a llysiau.
  • Siaradwch â'ch fferyllydd a allai roi meddyginiaeth gweithio'r corff addas i chi ar bresgripsiwn.

Cysgu'n Dda

Pam ydw i'n cael trafferth cysgu? Mae llawer o bobl sy'n adfer ar ôl COVID yn sylwi bod eu patrymau cwsg wedi newid o gymharu â'r adeg cyn iddynt fynd yn sâl.

Mae rhai pobl yn cael trafferth mynd i gysgu neu aros ynghwsg, ac mae eraill yn deffro'n gynharach nag arfer ac yn methu mynd yn ôl i gysgu. Fe allech deimlo'n flinedig wrth ddeffro, fel petaech chi heb gysgu o gwbl. Os felly, fe allai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen y wybodaeth ynghylch blinder hefyd.

Cyngor di-frys: Mae sawl rheswm pam y gallai eich cwsg fod wedi newid oherwydd COVID

Os ydych wedi bod yn glaf mewnol yn yr ysbyty, gall hyn amharu ar eich cylch cwsg naturiol oherwydd:

  • Gall diffyg golau dydd naturiol amharu ar gynhyrchu cemegyn yn ein hymennydd o'r enw melatonin. Dyma'r cemegyn sy'n gwneud i ni deimlo'n gysglyd.
  • Mae ysbytai'n fannau swnllyd, prysur. Mae pobl o gwmpas drwy'r amser ac fe all larymau sy'n bipian ar gyfarpar fod yn swnllyd, yn enwedig mewn unedau gofal dwys. Mae hyn yn golygu y gall cleifion gael eu haflonyddu'n hawdd (yn enwedig os ydynt eisoes yn gysgwyr ysgafn).
  • Rydych yn cysgu mewn gwely ysbyty nad yw mor gyfforddus â'ch gwely eich hun, o bosibl.
  • Gall y meddyginiaethau a ddefnyddiwyd i'ch trin effeithio ar eich cwsg hefyd.
  • Os ydych wedi aros yn yr ysbyty, efallai eich bod wedi cael rhai profiadau sy'n peri llawer o ofid.
  • Gall y profiadau hyn ailadrodd ym meddwl rhai pobl fel meddyliau neu freuddwydion am yr hyn a ddigwyddodd, gan ei gwneud hi'n anodd mynd i gysgu neu aros ynghwsg.
  • Bydd hyn yn waeth os ydych wedi cael deliriwm (e.e. rhithweledigaethau, rhithdybiaethau a dryswch tra oeddech yn sâl).

Hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn yr ysbyty, gall bod yn sâl gartref eich atal rhag cael noson dda o gwsg.

Mae symptomau COVID yn cynnwys diffyg anadl, peswch sych a thwymyn, ac mae'r rhain i gyd yn gallu ei gwneud hi'n anodd cysgu. Symptom arall cyffredin yw blinder, sy'n gallu arwain at gysgu yn ystod y dydd, gan amharu ar y cylch dydd/nos. Mae'n naturiol teimlo'n ofnus ynglyn â bod yn sâl gyda COVID. Mae'r ofn hwn yn rhoi'r corff ar bigau'r drain (a elwir hefyd yn ymateb ymladd-ffoi). Mae hyn yn paratoi'r corff a'r meddwl i weithredu, nid gorffwys, gan olygu bod cysgu bron yn amhosibl.

Cyngor ar Hylendid Cwsg:

Gwnewch y canlynol

  • Codwch ar yr un amser bob bore, hyd yn oed ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau.
  • Cadwch lyfr nodiadau wrth ymyl y gwely er mwyn i chi nodi pethau sy'n dod i'ch meddwl. Bydd hyn yn eich helpu i roi'r meddyliau hynny o'r neilltu a dychwelyd i gysgu.
  • Os oes modd, ceisiwch sicrhau bod yr ystafell wely'n weddol oer.

Peidiwch â gwneud y canlynol

  • Ceisiwch beidio â chael cyntun, os oes modd.
  • Peidiwch â mynd i'r gwely'n newynog neu'n sychedig.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma: Cysgu'n Dda | Eich Adferiad COVID

Dechrau symud o gwmpas eto

Pam mae'n bwysig dechrau symud o gwmpas eto?

Ar ôl bod yn yr ysbyty neu dreulio cyfnodau hir yn gwneud llai nag arfer, bydd eich cyhyrau'n wannach o lawer, a byddwch yn sicr yn llai ffit nag o'r blaen.

Mae'n bwysig dychwelyd i'ch lefel gweithgarwch flaenorol, neu efallai anelu at fod yn fwy egnïol!

Cyngor di-frys: Sut byddaf yn gwybod os ydw i'n llai ffit nag o'r blaen?

  • Byddwch yn blino wrth wneud tasgau pob dydd a arferai fod yn rhwydd i chi.
  • Gallai eich coesau frifo wrth gerdded i fyny ac i lawr y grisiau ac fe allech fod yn eithaf byr eich anadl.
  • Bydd mynd am dro byr hyd yn oed yn eich blino'n llwyr.

Cyngor di-frys: Pam mae'n bwysig gwneud rhywfaint o ymarfer corff?

  • Trwy fod yn egnïol a dechrau gwneud rhywfaint o ymarfer corff, byddwch yn dod yn gryfach ac yn fwy ffit. Fe allech sylwi eich bod yn fwy blinedig ac yn fyr o anadl i ddechrau, ond dylai hyn wella wrth i chi gryfhau; rydym ni i gyd yn ymateb fel hyn i wneud mwy o ymarfer corff.
  • Byddwch yn teimlo'n well ynoch chi eich hun ac yn gallu gwneud mwy o'r pethau sy'n bwysig i chi.
  • Bydd gweithgarwch rheolaidd yn helpu i leiafu poen a stiffrwydd yn y cyhyrau ac yn eich helpu i adennill cryfder yn eich cyhyrau.
  • Gallai bod yn egnïol yn ystod y dydd eich helpu i gysgu'n well.
  • Dros amser, bydd ymarfer corff yn rheolaidd yn eich helpu i reoli cyflyrau cronig fel clefyd y galon a diabetes.
  • Po fwyaf amser rydych chi'n ei dreulio'n bod yn egnïol yn gorfforol, y mwyaf yw'r buddion iechyd.

Cyngor di-frys: Beth allaf ei wneud ar ôl cael fy rhyddhau o'r ysbyty?

  • Mae'n bwysig eich bod yn dechrau bod yn egnïol cyn gynted â phosibl ar ôl cael eich rhyddhau o'r ysbyty. Bydd hyn yn helpu i wella eich iechyd meddyliol a chorfforol.
  • Fwy na thebyg, dim ond ychydig bach o ymarfer corff a gweithgarwch y gallwch ymdopi ag ef ar ddechrau eich adferiad.
  • Gall gweithgarwch corfforol rheolaidd ynghyd â bwyta'n dda eich helpu i wella, cynyddu cryfder eich cyhyrau a dod yn annibynnol eto.

Cyngor di-frys: Sut gallaf ddechrau bod yn egnïol eto?

  • Dechreuwch yn araf a chynyddu'ch lefel gweithgarwch dros amser.
  • Ceisiwch wneud ychydig bach yn aml, gan ganiatáu amser i orffwys rhwng gweithgareddau a pheidio â gorwneud pethau.
  • Ceisiwch leihau amser eistedd. Ceisiwch sefyll bob awr a chamu yn eich unfan.
  • Gosodwch nodau bach i'ch hun y gallwch eu cyflawni yn ystod y dydd. Gallwch ddechrau gyda thasgau bach fel paratoi diod neu rywbeth i'w fwyta.
  • Ceisiwch fynd am dro bob dydd. Cerddwch gyda rhywun hyd nes y byddwch yn ddigon hyderus i fynd allan ar eich pen eich hun.
  • Ceisiwch wneud mynd am dro yn rhan o'ch trefn ddyddiol er mwyn rhoi strwythur i'ch dydd.
  • Peidiwch â phoeni os oes angen i chi aros a gorffwys, mae hynny'n rhan arferol o adfer a chryfhau eto.
  • Os oes gennych feic unfan gartref, fe allai hwn fod yn ddewis da yn lle cerdded, yn enwedig ar ddiwrnodau gwlyb.

Cyngor di-frys: Beth dylwn i fod yn anelu ato wrth gerdded?

  • Dylech anelu at ddatblygu i wneud hyd at 30 munud o weithgarwch o leiaf bum diwrnod yr wythnos, ond ni fydd hyn yn digwydd ar ddechrau eich adferiad.
  • Cymerwch eich amser a chynyddu yn ôl sut mae'ch corff yn teimlo, gan geisio gwneud ychydig mwy bob dydd.
  • Dewiswch adeg dda o'r dydd (pan na fyddwch yn rhy flinedig) i fynd am dro.
  • Fe allech ddymuno meddwl am adegau pan fydd llwybrau ychydig yn dawelach (yn gynnar yn y bore neu gyda'r nos).
  • Arhoswch awr ar ôl bwyta pryd o fwyd cyn ymarfer corff, ac ewch â diod gyda chi.
  • Cerddwch gyda rhywun hyd nes y byddwch yn teimlo'n ddigon hyderus i fod allan ar eich pen eich hun.
  • Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, efallai yr hoffech gerdded gyda ffrind, ond mae'n rhaid i chi gadw pellter rhyngoch chi.
  • Dechreuwch gerdded am bum munud heb stopio (neu lai os ydych chi'n teimlo'n fyr o anadl ac yn flinedig).
  • Cynyddwch hyn yn raddol, un neu ddwy funud ar y tro.
  • Pan allwch wneud 10 munud heb stopio, ceisiwch fynd am dro 10 munud ddwywaith y dydd.
  • Pan allwch fynd am dro 10 munud deirgwaith y dydd, ceisiwch fynd am dro 15 munud ddwywaith y dydd.
  • Cynyddwch yn raddol i gerdded am 30 munud.
  • Pan allwch gerdded am 30 munud heb stopio, gallwch ddechrau cyflymu.

Cyngor di-frys: Sut ydw i'n gwybod a ydw i'n gweithio ar y lefel iawn?

  • Fe ddylech allu siarad brawddeg tra byddwch yn ymarfer.
  • Os byddwch yn teimlo'n anghyfforddus unrhyw bryd, dylech stopio a gorffwys am gyn hired ag y bydd angen.
  • Mae'n naturiol teimlo ychydig yn fyr o anadl, yn gynnes ac yn chwyslyd wrth wneud ymarfer corff.
  • Fe allai eich cyhyrau frifo ar ei ôl, ond ni ddylai hynny bara am fwy na rhyw ddeuddydd.
  • Fe allech deimlo'n fwy blinedig ar ei ôl, ond mae'n bwysig parhau i gerdded er mwyn cynyddu'ch ffitrwydd a theimlo'n llai blinedig yn y pen draw.
  • Fe allai fod yn ddefnyddiol cofnodi'r amser a gymeroch chi i gerdded fel y gallwch weld eich cynnydd. Efallai na fyddwch yn teimlo mor gryf ar rai diwrnodau nag eraill, nac yn gallu cerdded mor bell, ond peidiwch â digalonni. Edrychwch ar eich cynnydd o un wythnos i'r llall. Rydym ni i gyd yn cael diwrnodau da a drwg.

Cyngor di-frys: Beth os wyf yn cael diwrnod gwael?

  • Mae'n naturiol wynebu rhwystrau, felly peidiwch â rhoi'r gorau iddi. Does dim rheswm i gredu eich bod wedi methu.
  • Mae dysgu o'ch profiadau'n eich helpu i osod nodau sy'n fwy realistig ac yn fwy tebygol o bara. Bydd hyn yn eich helpu i osod nodau gweithgarwch sy'n dod yn rhan o'ch trefn ddyddiol.
  • Cofiwch, po leiaf rydych chi'n ei wneud, y lleiaf y byddwch eisiau ei wneud a'r lleiaf y byddwch yn gallu ei wneud.

Cyngor di-frys: Darllenwch y canlynol cyn dechrau:

  • Gallai unrhyw ymarfer corff arwain at risg anaf corfforol.
  • Dylech deimlo'n dda wrth gymryd rhan mewn gweithgarwch neu ymarfer corff.
  • Os byddwch yn teimlo unrhyw boen eithafol, diffyg anadl neu bendro, stopiwch a cheisiwch gyngor.
  • Rydych yn dilyn y cyngor hwn ar weithgarwch ac ymarfer corff ar eich menter eich hun. Rydych yn cytuno i wneud y gweithgareddau hyn o'ch gwirfodd ac felly'n cymryd cyfrifoldeb am yr holl risg anaf i'ch hun.
  • Os byddwch yn teimlo'n sâl cyn, yn ystod neu ar ôl ymarfer corff, stopiwch ar unwaith a cheisiwch gyngor.

Cyngor di-frys: Galar a Phrofedigaeth

  • Yn ystod y pandemig COVID, mae pobl rydym ni'n eu hadnabod wedi profi'r haint feirysol a'i heffaith bellgyrhaeddol yn uniongyrchol. Gallai'r bobl hyn fod yn aelodau o'r teulu, ffrindiau agos, neu rywun yr oeddech yn yr ysbyty gydag ef ac, mewn rhai achosion, efallai byddant wedi marw.
  • Fe all fod yn anodd iawn ymdopi â galar a phrofedigaeth anwylyd, ffrind neu rywun roeddech chi'n ei adnabod.
  • Mae'n bosibl bod colli rhywun yn ystod y cyfnod gwarchod neu'r cyfyngiadau symud wedi eich atal rhag gallu treulio eiliadau gwerthfawr olaf gyda nhw cyn iddynt farw neu allu ffarwelio'n bersonol, cyflawni seremonïau crefyddol neu fynd i angladd.
  • Nid oes ffordd rwydd o ymdopi â galar, ac nid oes ffordd "iawn", ond fe allwch wneud pethau i osgoi dioddef yn waeth.
  • Sylweddolwch fod adfer o COVID a delio â phrofedigaeth yn llawer i unrhyw un ymdopi ag ef.
  • Nid yw goroesi COVID yn eich atal rhag teimlo galar wrth golli rhywun sy'n agos atoch; yn wir, fe all achosi i bobl gael teimladau afresymol o euogrwydd ynglyn â goroesi.
  • Sylweddolwch fod colli rhywun yr oeddech yn agos ato yn golled enfawr, yn enwedig os oeddech ar wahân yn ffisegol oherwydd bod yn yr ysbyty, gwarchod ac ynysu cymdeithasol.
  • Gall euogrwydd fod yn deimlad afresymol. Fe allech feddwl beth os…, petawn i ond wedi…, fe ddylwn i fod wedi….
  • Gall galar bara'n hirach os na fyddwch yn mynegi'ch teimladau ac yn cadw eich meddyliau i'ch hun.
  • Yn aml, mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn meddwl am y claf a'i symptomau, felly efallai na fyddant yn gofyn am farwolaeth teulu, ffrindiau neu rywun roeddech yn ei adnabod fel mater o drefn. Ond mae'n rhan bwysig o'ch adferiad i deimlo y gallwch siarad â rhywun, felly cofiwch y byddant bob amser yn neilltuo amser i wrando.
  • Os ydych wedi profi colled, rhowch wybod i weithiwr iechyd proffesiynol; bydd hyn yn ei alluogi i fod yn ystyriol o'ch colled wrth ryngweithio â chi a'ch cyfeirio at ffynonellau cymorth lleol.
  • Nid yw dweud wrth weithiwr iechyd proffesiynol yn golygu y bydd rhaid i chi siarad am eich colled yn fanwl os nad ydych eisiau. Os byddai'n well gennych beidio â siarad am y peth ymhellach, gallwch ddweud hynny wrtho.
  • Rhowch le i'ch hun alaru am eich colled.
  • Yn olaf, argymhellwn yn gryf eich bod yn darllen yr arweiniad a baratowyd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain ar ymdopi â cholled yn ystod yr argyfwng COVID, y gellir ei weld yma.

Y Llwybr tuag at Adfer

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn barod i fynd adref o'r ysbyty?

Bydd y tîm sy'n gofalu amdanoch yn yr ysbyty yn gweithio gyda chi i lunio cynllun rhyddhau. Byddant yn amlygu a oes arnoch angen unrhyw feddyginiaeth, cyfarpar neu gymorth i'ch helpu i ymdopi pan fyddwch yn dychwelyd adref, ac yn trefnu iddo gael ei ddarparu i chi. Efallai y bydd gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr cymdeithasol yn cysylltu â chi hefyd pan fyddwch wedi dychwelyd adref, os oes arnoch angen cyngor neu gymorth ychwanegol i wella o'ch salwch, neu i ymdopi â'ch gweithgareddau dyddiol.

Sut gallaf baratoi ar gyfer mynd adref?

Efallai y rhoddir ymarferion a chyngor i chi i'ch helpu i adfer gartref. Fe allech hefyd gael cyfarpar i'ch helpu gyda phethau fel anadlu, symud o gwmpas a chyflawni tasgau dydd i ddydd. Gwnewch yn siwr eich bod yn deall unrhyw gyngor a roddwyd i chi, a sut i ddefnyddio unrhyw gyfarpar a phwy i gysylltu ag ef os byddwch yn cael problemau. Os ydych yn cael trafferth defnyddio'ch cyfarpar, peidiwch ag ofni gofyn am gymorth.

Os ydych yn byw gyda phobl eraill, neu'n dibynnu ar bobl eraill am gymorth, gwnewch yn siwr eich bod yn deall unrhyw gyngor cyfredol ar gadw pellter cymdeithasol ac wedi cynllunio ar gyfer rheoli hyn pan fyddwch yn mynd adref.

A fyddaf yn gallu ailgydio yn fy ngweithgareddau arferol yn syth, a dychwelyd i'r gwaith?

Efallai byddwch yn parhau i brofi rhai symptomau ôl-feirysol fel blinder a diffyg anadl neu newidiadau i'ch hwyliau a'ch ffordd o feddwl ar ôl i chi adael yr ysbyty. Mae hyn yn gyffredin mewn pobl sydd wedi cael salwch difrifol yr oedd angen ei drin yn yr ysbyty. Gallai'r symptomau hyn beri i'ch gweithgareddau arferol deimlo'n anodd ac yn flinedig i'w gwneud. Mae'n bwysig bod yn amyneddgar â'ch hun; gwnewch bethau'n araf a chynyddwch eich trefn ddyddiol ac wythnosol yn raddol.

Mae mwy o gyngor ar gael yn adrannau gweithgareddau dyddiol a dychwelyd i'r gwaith y wefan hon. Ceisiwch gyngor gan eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall os yw'ch symptomau'n newid neu os nad ydynt yn gwella. Gweler yr adran pryd mae angen i mi geisio cymorth o'r wefan hon i gael mwy o wybodaeth.

Dylai'r newidiadau hyn wella ymhen amser. Fe allai rhai gymryd mwy o amser nag eraill, ond mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu.

Ymdopi â Gweithgareddau Dyddiol

Pam rydym ni'n sôn am weithgareddau dyddiol?

Wrth i chi adfer o COVID, fe allech fod yn profi symptomau fel blinder a diffyg anadl neu newidiadau i'ch hwyliau a'ch ffordd o feddwl. Mae'r symptomau hyn yn gyffredin ar ôl salwch difrifol, yn enwedig os ydych wedi cael triniaeth mewn ysbyty. Fe allech weld bod y symptomau hyn yn effeithio ar eich gallu i gwblhau gweithgareddau pob dydd, fel ymolchi a gwisgo, a gwneud tasgau yn y cartref. Gallai gweithgareddau sydd fel arfer yn syml ymddangos fel gwaith caled, ac fe allech deimlo bod gennych lai o egni nag arfer.

Mae fy ngweithgareddau arferol yn fwy anodd nag arfer. Beth alla' i ei wneud?

Mae llawer o bethau syml y gallwch eu gwneud i'ch helpu eich hun. Bydd cael digon o gwsg a gwneud yn siwr eich bod yn bwyta'n dda yn helpu. Mae'n bwysig gwarchod eich egni pan fyddwch yn cwblhau eich tasgau pob dydd i helpu i sicrhau bod gennych ddigon o egni drwy gydol y dydd. Rhowch gynnig ar yr egwyddor Cyflymder (Pace), Cynllunio (Plan) a Blaenoriaethu (Prioritise) (3 P's Principle yn Saesneg)

– i warchod eich egni wrth wneud eich gweithgareddau dyddiol.

Beth yw'r egwyddor Cyflymder, Cynllunio a Blaenoriaethu, a sut bydd yn helpu?

Cyngor di-frys: Cyflymder

  • Rhowch ganiatâd i'ch hun arafu. Peidiwch â disgwyl gallu gwneud popeth ar unwaith, neu'r un mor gyflym ag arfer. Gwnewch lai nag yr ydych yn meddwl y gallwch ei wneud.
  • Rhannwch weithgareddau'n dasgau llai a'u gwasgaru ar hyd y dydd. Byddwch yn adfer yn gynt os byddwch yn gweithio ar dasg nes byddwch yn flinedig, yn hytrach nag wedi ymlâdd yn llwyr.
  • Neilltuwch amser i orffwys yn ystod eich tasgau a chynlluniwch 30-40 munud o seibiannau rhwng gweithgareddau. Mae gorffwys yn allweddol i adfer eich egni.

Cyngor di-frys: Cynllunio

  • Ystyriwch y gweithgareddau rydych chi fel arfer yn eu gwneud bob dydd a bob wythnos; datblygwch gynllun i wasgaru'r rhain yn gyfartal ar hyd yr wythnos.
  • Meddyliwch am ba weithgareddau sy'n eich gwneud chi'n fwyaf blinedig a gwnewch yn siwr eich bod yn gwasgaru'r rhain, gyda digon o amser i orffwys rhyngddynt.
  • Peidiwch â cheisio gwneud sawl gweithgaredd ar yr un pryd. Bydd hyn yn defnyddio'ch holl egni, a bydd arnoch angen mwy o amser i adfer ar ôl hynny.
  • Os oes gennych lai o egni neu os yw'n fwy anodd i chi ganolbwyntio ar adegau penodol o'r dydd, ceisiwch osgoi gwneud gweithgareddau sy'n eich gwneud chi'n flinedig ar yr adegau hyn.
  • Meddyliwch am ffyrdd gwahanol o wneud gweithgareddau er mwyn iddynt fod yn haws ac yn llai blinedig. Er enghraifft, fe allech eistedd wrth wneud tasgau fel ymolchi a gwisgo. Yn hytrach na chodi a chario eitemau wrth goginio, ceisiwch eu gwthio a'u llithro ar draws yr arwyneb gwaith.
  • Aildrefnwch ystafelloedd fel y gegin fel bod yr eitemau rydych yn eu defnyddio fwyaf o fewn cyrraedd rhwydd.
  • Gall darnau syml o gyfarpar wneud tasgau dyddiol yn haws. Bydd gwefannau fel livingmadeeasy.org.uk yn eich helpu i ddod o hyd i gyfarpar a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Cyngor di-frys: Blaenoriaethu

  • Mae rhai gweithgareddau dyddiol yn angenrheidiol, ond nid eraill. Fe allai fod rhai tasgau rydych chi'n eu gwneud fel arfer y gallwch roi'r gorau iddynt yn gyfan gwbl, eu gwneud yn llai aml neu ofyn i rywun arall eu gwneud ar eich rhan.
  • Pan fyddwch yn blaenoriaethu gweithgareddau, gwnewch yn siwr fod gennych gydbwysedd o bethau y mae angen i chi eu gwneud, fel ymolchi a gwisgo, a phethau rydych eisiau eu gwneud er mwyn hwyl a mwynhad.
  • Dechreuwch y dydd drwy ofyn:
  1. Beth mae angen i mi ei wneud; beth ydw i eisiau ei wneud heddiw?
  2. Beth allaf ei ohirio tan rywbryd arall?
  3. Beth allaf ofyn i rywun arall ei wneud ar fy rhan?

Pryd byddaf yn teimlo fel fi fy hun eto?

Salwch newydd yw COVID ac rydym yn parhau i ddysgu sut mae pobl yn adfer ohono. Bydd eich adferiad yn dibynnu ar bethau fel pa mor sâl yr oeddech gyda'r feirws, p'un a oes gennych unrhyw broblemau iechyd eraill, p'un a aethoch i'r ysbyty a ph'un a oeddech mewn uned gofal dwys.

Efallai y bydd rhai o'ch symptomau'n diflannu'n eithaf cyflym, tra gallai eraill gymryd llawer mwy o amser i wella. Byddwch yn amyneddgar â'ch hun, meddyliwch am symud ymlaen yn raddol ac yn gyson, a gofynnwch am gymorth os bydd arnoch ei angen.

Os ydych yn cael trafferth cwblhau gweithgareddau dyddiol hanfodol ac nid ydych yn gallu gofyn am gymorth gan deulu neu ffrindiau, edrychwch ar yr adran pryd i geisio cymorth o'r wefan hon i gael mwy o gyngor a gwybodaeth.

“Roedd camau bach a chyflawniadau bach bob dydd wedi fy helpu i wneud cynnydd. Cynlluniwch a gosodwch dargedau bach i'ch hun bob dydd, ac yna myfyriwch ar ba mor dda y gwnaethoch dros gyfnod o wythnos. Siaradwch â'r bobl o'ch amgylch am sut rydych yn datblygu. Yn aml, bydd pobl sy'n agos atoch yn sylwi ar y gwahaniaeth yn fwy na chi. Mae adborth cadarnhaol yn wych am godi'ch hwyliau.”

Mae cyngor i weithwyr a chyflogwyr ar gael yn yr adran dychwelyd i'r gwaith o'r wefan hon.

Dychwelyd i'r Gwaith

Gall dychwelyd i'r gwaith (gwirfoddol neu gyflogedig) ar ôl salwch fod yn heriol. Gall symptomau sy'n parhau, fel diffyg anadl, blinder, diffyg canolbwyntio a gorbryder, oll ei gwneud hi'n fwy anodd dychwelyd i'r gwaith. Po hiraf y byddwch i ffwrdd yn sâl, y mwyaf anodd y gall fod i ddychwelyd i'r gwaith.

Mae gwneud y math iawn o waith yn dda i'ch iechyd meddyliol a chorfforol, hyd yn oed os oes gennych gyflwr iechyd.

Rwy'n hyderus ynglyn â dychwelyd i'r gwaith - beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych wedi bod i ffwrdd yn sâl am saith diwrnod neu lai, gallwch hunanardystio eich absenoldeb. Os ydych wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am fwy na saith diwrnod ac yn teimlo'n ddigon iach i weithio, bydd angen i chi gael nodyn ffitrwydd. Os yw'ch cyflogwr yn cytuno, gall dogfen debyg gael ei darparu gan ffisiotherapydd, podiatrydd neu therapydd galwedigaethol yn lle hynny. Gelwir hyn yn Adroddiad Iechyd a Gwaith Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP). https://www.gov.uk/taking-sick-leave.

Beth os wyf yn ansicr ynglyn â dychwelyd i'r gwaith?

Os nad ydych yn teimlo'n ddigon iach i ddychwelyd i'r gwaith, fe allai'r camau canlynol eich helpu i ymdopi â'r broses.

1 Siaradwch â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, fel therapydd galwedigaethol.

Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn trafod gyda chi sut mae'ch symptomau'n effeithio ar eich gwaith, a sut mae'ch gwaith yn effeithio ar eich symptomau. Fe allai awgrymu y gallwch wneud rhannau o'ch swydd neu ddychwelyd yn rhan-amser.

2 Ystyriwch gysylltu â ‘Ffit i Weithio’

Mae Ffit i Weithio (fitforwork.org) yn wasanaeth a ariennir gan y llywodraeth sy'n cynnig cyngor arbenigol, diduedd, rhad ac am ddim ar faterion iechyd cysylltiedig â gwaith. Gall unrhyw un sydd eisiau cael arweiniad ar faterion iechyd cysylltiedig â gwaith alw'r rhif ffôn cyngor rhad ac am ddim 0800 0326235

3. Trefnwch gael nodyn ffitrwydd neu dystiolaeth arall.

Bydd eich meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn rhoi nodyn ffitrwydd i chi os yw'ch iechyd yn effeithio ar eich ffitrwydd i weithio. Eich eiddo chi yw'r nodyn ffitrwydd a dylech ei gadw. Os yw'ch cyflogwr eisiau cael un ar gyfer ei gofnodion fe all wneud copi ohono. Mae'r nodyn ffitrwydd yn rhoi cyngor gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i'ch cyflogwr. Gall eich cyflogwr benderfynu p'un ai ei dderbyn ai peidio.

4. Gwnewch yn siwr eich bod yn deall 'addasiadau rhesymol’.

Fe allai'r nodyn ffitrwydd wneud awgrymiadau ynglyn â dychweliad graddol i weithio neu addasiadau i'r gweithle (a elwir yn aml yn 'addasiadau rhesymol'). Mae'r rhain yn newidiadau i'r amgylchedd gweithio sy'n caniatáu i bobl weithio'n ddiogel ac yn gynhyrchiol.

Byddwch yn cael eich dosbarthu'n anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith negyddol 'sylweddol' a 'thymor hir' ar eich gallu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol. Mae sylweddol yn golygu bod tasgau pob dydd yn cymryd llawer mwy o amser nag arfer. Mae tymor hir yn golygu 12 mis neu fwy, er enghraifft, diffyg anadl sy'n datblygu ar ôl niwmonia.

Mae addasiadau rhesymol yn cynnwys caniatáu i weithwyr sy'n bodloni'r diffiniad a'r meini prawf a amlinellir uchod ynglyn â nam meddyliol a/neu gorfforol tymor hir ddychwelyd i'r gwaith yn raddol, gan gynnwys gweithio oriau hyblyg neu'n rhan-amser. Gall enghreifftiau eraill o addasiadau rhesymol amrywio o wneud newidiadau ffisegol i'r gweithle, fel gosod ramp ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn, i addasiadau llai, fel caniatáu i rywun sy'n dioddef blinder gael seibiant hwy amser cinio, egwyliau byrrach ac amlach, neu ddechrau a gorffen gwaith yn hwyrach fel bod teithio'n haws.

Dylai dychweliad graddol i'r gwaith ystyried yr oriau gwaith a chymhlethdod y gwaith. Yn nodweddiadol, bydd dychweliad graddol i'r gwaith yn digwydd dros gyfnod o chwe wythnos. Er enghraifft, mynd i'r gwaith am ddau ddiwrnod yr wythnos yn yr wythnos gyntaf, tri diwrnod yr wythnos ar yr ail a'r drydedd wythnos, pedwar diwrnod yr wythnos ar y bedwaredd a'r bumed wythnos, ac amser llawn yn wythnos chwech. Os ydych wedi cael salwch difrifol ac yn dioddef blinder parhaus, gallai hyn fod yn rhy gyflym.

5. Amlygwch unrhyw gymorth a allai fod yn ddefnyddiol i chi yn y gwaith

Chi fydd yn adnabod eich galluoedd a'ch gweithle orau. Ar ôl meddwl am yr addasiadau gwaith a fanylir uchod, mae'n syniad da i chi ysgrifennu awgrymiadau fel bod gennych gynnig clir i'w drafod gyda'ch pennaeth; cynllun dychwelyd i'r gwaith.

6. Cysylltwch â'ch adran Iechyd Galwedigaethol

Os oes gan eich gweithle adran iechyd galwedigaethol, efallai y gofynnir i chi weld cynghorydd iechyd galwedigaethol neu aelod arall o'r tîm iechyd galwedigaethol, fel therapydd galwedigaethol, cyn i chi ddychwelyd. Maen nhw'n gyfrifol am eich cadw'n iach ac yn ddiogel tra byddwch yn y gwaith a rheoli unrhyw risgiau i'ch iechyd yn y gweithle. Gallwch drafod eich cynllun dychwelyd i'r gwaith arfaethedig gyda'r gweithwyr iechyd galwedigaethol ac fe allan nhw gysylltu â'ch rheolwr.

7. Siaradwch â'ch Rheolwr Llinell

Cyn i chi ddychwelyd i'r gwaith, mae'n ddefnyddiol cyfarfod â'ch rheolwr llinell. Gallwch drafod eich cynllun dychwelyd i'r gwaith arfaethedig (cam 5) gyda'ch rheolwr llinell. Yn y cyfarfod hwn, mae'n ddefnyddiol canolbwyntio ar sut gallwch chi a'ch cyflogwr reoli unrhyw anawsterau sydd gennych.

Er enghraifft, gallwch esbonio natur blinder a dweud y byddai'n ddefnyddiol iawn pe na byddai angen i chi fynd i gyfarfodydd amser cinio a chael hanner awr i ffwrdd o'ch desg i orffwys yn lle hynny.

Argymhellwn eich bod yn mynd â'ch cynnig ysgrifenedig i mewn gyda chi, fel na fyddwch yn anghofio nac yn hepgor unrhyw beth. Ar ddiwedd y cyfarfod, fe all fod yn ddefnyddiol crynhoi'r cynllun cytunedig a'i ysgrifennu. Fe allwch chi neu eich rheolwr wneud hyn. Bydd hyn yn helpu pawb i gofio'r hyn y cytunwyd arno.

Nid oes rhaid i chi drafod eich symptomau'n fanwl gyda'ch rheolwr llinell, ond fe allech ddymuno ystyried mynd â rhywfaint o wybodaeth i mewn gyda chi am y symptomau a brofir gan bobl sy'n adfer o COVID neu arhosiad yn yr ysbyty. Diben hyn, yn syml, yw cynyddu dealltwriaeth o'r cyflyrau rydych chi ac unrhyw un tebyg i chi'n eu profi. Fe allech anfon y wybodaeth hon trwy e-bost cyn unrhyw gyfarfod, os ydych yn credu bod hynny'n briodol i chi.

Pryd Mae Angen i Mi Geisio Cymorth?

Mae rhai symptomau a phroblemau'n debyg i'r rhai sy'n gysylltiedig â llawer o heintiau eraill rydym wedi bod yn ymwybodol ohonynt ers blynyddoedd lawer (er enghraifft y ffliw a niwmonia), ac mae eraill o heintiau COVID, lle y bu lledaeniad mwy lleol yn y gorffennol.

Mae'n gyffredin i ni weld bod rhai pobl yn cael problemau sy'n deillio o'r haint sy'n golygu ei bod yn cymryd mwy o amser iddynt adfer. Er enghraifft, tolchenni ar yr ysgyfaint neu drawiadau ar y galon. Yn aml, mae'r rhai hynny a oedd yn fwyaf sâl ac yr oedd arnynt angen peiriannau i'w helpu i anadlu yn cymryd mwy fyth o amser i wella.

Mae llawer o bobl yn pryderu am alw'r timau arbenigol neu eu meddygfa, gan feddwl eu bod yn rhy brysur a bod gormod o bwysau ar wasanaethau. Er ein bod ni'n brysur yn y GIG, byddai'n well gennym eich bod yn cysylltu â ni oherwydd rydym ni yma i'ch helpu i wella a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cynorthwyo.

A yw'n effeithio arnom ni i gyd yn yr un ffordd?

Mae rhai pobl sydd wedi cael haint COVID yn cael symptomau ysgafn neu ddim symptomau o gwbl. Bydd llawer yn cael symptomau sy'n para am gyfnod byr (yn aml twymyn, peswch, a newid mewn synnwyr arogli, ymhlith pethau eraill) a fydd yn gwella ar ôl ychydig ddiwrnodau neu hyd at bythefnos.

Mae llawer o bobl yn cael haint fwy difrifol ac fe allai fod arnynt angen cymorth yn yr ysbyty ac weithiau hyd yn oed cymorth gofal dwys. Bydd eithaf tipyn o bobl yn cael haint ddifrifol, ond ni fydd rhaid iddynt aros yn yr ysbyty. Bydd rhai yn cael haint sy'n cael ei gwaethygu gan broblemau iechyd yr oeddent eisoes yn ymwybodol ohonynt neu a ddigwyddodd pan oeddent yn adfer o'r haint. Bydd pawb yn gwella ar gyflymder gwahanol.

Cyngor di-frys: Beth yw'r patrwm adfer arferol?

O ran y rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael yr haint COVID ac a fu'n ddigon gwael i fod angen gofal ysbyty, byddem yn disgwyl y canlynol o brofiad gyda heintiau bacteriol a feirysol eraill:

  • dylai'r rhan fwyaf o'r poenau yn y frest a fflem (crachboer) fod wedi lleihau ymhen 4 wythnos.
  • dylai peswch a diffyg anadl fod wedi lleihau'n sylweddol ymhen 6 wythnos.
  • dylai'r rhan fwyaf o symptomau fod wedi sefydlogi ymhen 3 mis, ond gallech barhau i deimlo'n flinedig.
  • dylai'r holl symptomau fod wedi sefydlogi ymhen 6 mis.

Bydd y rhai hynny a dderbyniwyd i uned gofal dwys yn aml yn gweld ei bod yn cymryd mwy o amser na hyn i adfer, efallai hyd at flwyddyn.

A ddylwn i siarad â'm meddyg / nyrs neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall?

Cyngor di-frys: Mae'r symptomau hyn yn gyffredin ac yn gwella dros amser fel arfer:

  • Poenau yn y cyhyrau.
  • Blinder.
  • Peswch.
  • Poenau yn y frest.
  • Teimlo'n bryderus, ar bigau'r drain neu'n ddagreuol.
  • Ôl-fflachiau i brofiadau brawychus a gawsoch.
  • Cwsg gwael.
  • Diffyg canolbwyntio. Er enghraifft, ni allwch wneud symiau yr oeddech yn gallu eu gwneud yn rhwydd cyn yr haint.

Fodd bynnag, os ydych yn pryderu nad ydych yn gwella mor gyflym ag y byddech yn ei ddisgwyl (mae rhywfaint o wybodaeth ar gael ar y wefan hon), mae'n werth trafod hynny gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (cysylltwch â thîm yr ysbyty os rhoddwyd rhoi rhif i chi, neu'ch meddygfa deulu, i gael mwy o gyngor). Efallai y bydd angen i chi gael archwiliad neu brofion ychwanegol ar gyfer eich symptomau parhaus.

Mae rhai o'r meddyginiaethau a ddefnyddir i drin COVID yn gallu achosi symptomau (fel poenau yn y cyhyrau, blinder, teimlo'n bryderus neu beswch).

Peidiwch â theimlo eich bod yn gwastraffu amser y GIG. Rydym eisiau eich helpu i wella mor gyflym â phosibl, yn enwedig os byddwch yn datblygu symptomau newydd neu rai sy'n gwaethygu.

Cyngor di-frys: Symptomau newydd fel:

  • Coes neu fraich yn chwyddo.
  • Poen yn y frest.
  • Pesychu gwaed.
  • Colli mwy o bwysau / dim awydd i fwyta unrhyw beth.
  • Calon yn curo'n gyflym.
  • Poenau yn y cyhyrau.

Cyngor brys: Ffoniwch 999 neu 111 i gael cyngor pellach:

  • Os ydych yn pesychu gwaed.
  • Os oes gennych boen difrifol yn y frest.
  • Os yw'ch diffyg anadl yn mynd yn waeth.

Cysylltwch â'ch tîm gofal sylfaenol ynglyn â'r symptomau newydd sy'n weddill.

Cyngor di-frys: Symptomau sy'n gwaethygu

Er enghraifft:

  • Gallu cerdded pellter byrrach cyn stopio oherwydd eich bod yn fyr o anadl.
  • Gwisgo'n arafach yn y bore.

Byddem eisiau gwybod am y pethau hyn ac, yn eithaf aml, eisiau eu hasesu a sicrhau eu bod yn rhan arferol o adfer.

Mae'n werth cofio na fydd yr holl broblemau y byddwch yn eu cael yn ddiweddarach yn cael eu hachosi gan COVID.

Os oes gennych symptomau sy'n sefydlog, nad ydynt yn gwaethygu'n arbennig ac sy'n parhau, mae'n aml yn well trafod y rhain gyda'r clinigydd sy'n eich adnabod chi, eich hanes meddygol a'ch sefyllfa orau. Bydd ef neu hi mewn sefyllfa well i allu'ch rhoi ar y llwybr iawn tuag at adfer.

Cyngor di-frys: Cefais broblemau penodol tra oeddwn yn yr ysbyty. Beth sy'n digwydd nawr?

Rydym yn gweld eithaf tipyn o broblemau sy'n gysylltiedig â haint ddifrifol a gorfod aros mewn uned gofal dwys mewn pobl sydd â COVID. Yn aml, bydd angen i'r bobl hyn gael gofal yn eu rhinwedd eu hunain. Bydd eithaf tipyn o bobl wedi dioddef un ac weithiau mwy nag un broblem yn ystod eu haint, fel:

  • Trawiad ar y galon (cnawdnychiant myocardiaidd).
  • Methiant y galon.
  • Datblygu cyfradd curiad y galon afreolaidd.
  • Tolchen ar yr ysgyfant neu'r goes.
  • Problemau â'r arennau.
  • Anawsterau llyncu.
  • Angen parhaus am ocsigen i deimlo'n iach.
  • Gwendid lleol mewn braich neu goes.
  • Gorbryder, tensiwn neu "anhwylder straen wedi trawma.”

Mae'n bosibl y bydd angen i'r rhain gael gofal ar wahân yn ogystal â'ch triniaeth COVID.

Crynodeb

Mae pa mor gyflym y bydd rhywun yn adfer o COVID yn debygol o amrywio'n fawr, ac mae'r problemau y gall rhywun eu profi amrywio hefyd. Weithiau, gall y meddyginiaethau a ddefnyddir arwain at sgil-effeithiau.

Mae'r GIG yma i'ch helpu. Os ydych eisiau mwy o gymorth neu os ydych yn ansicr, yn hytrach na gadael pethau, cysylltwch â thîm yr ysbyty neu'ch meddygfa leol i drafod eich sefyllfa.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd angen i rai pobl gael sylw meddygol dilynol ar ôl COVID. Mae gennym rywfaint o ganllawiau cenedlaethol i gyfeirio eich gofal dilynol. Fwy na thebyg, bydd yr ysbyty'n cysylltu â phobl sydd wedi bod yn yr ysbyty gyda COVID. Gallai hyn fod dros y ffôn neu efallai cewch eich gwahodd yn ôl i'r ysbyty ar gyfer adolygiad. Gallai hyn gynnwys pelydr-x o'r frest neu waith dilynol yn ymwneud ag unrhyw broblemau penodol y gallech fod wedi'u profi.

Dylai'r trefniadau dilynol fod wedi'u nodi'n glir yn y llythyr crynhoi a roddir i chi neu a anfonir at eich meddyg teulu pan gewch eich anfon adref o'r ysbyty.

Os bu'n rhaid i chi aros mewn Uned Gofal Dwys (ICU), efallai y bydd y tîm ICU yn cysylltu â chi. Gallai hyn fod ochr yn ochr â chysylltiad gan dimau eraill.

A fyddaf yn cael cynnig unrhyw gymorth ychwanegol i'm helpu i adfer?

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth ar y safle hwn yn eich helpu i adfer.

Os ydych yn cael problemau parhaus oherwydd COVID, efallai byddwch yn cael cynnig rhaglen adfer a'ch cyfeirio at dîm arbenigol penodol ar gyfer problem sydd wedi codi ers datblygu COVID.

Cyngor di-frys: Gwybodaeth Cymru Gyfan

Mae gan lawer o'r Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru dudalennau gwe penodol i helpu pobl i adfer ar ôl Covid-19. Mae gwasanaethau cenedlaethol ar gael hefyd a fydd yn darparu cymorth.

Awgrym da: i ddod o hyd i'r wybodaeth Adfer ar Ôl Covid-19 ar gyfer eich Bwrdd Iechyd Lleol, ceisiwch chwilio yn ôl eich Awdurdod Lleol, e.e. Abertawe, Caerdydd, Bangor, ac ati. Bydd gwasanaethau Cymru gyfan ar gael hefyd GIG 111 Cymru - Chwilio Gwasanaethau Lleol

 

Mwy o wybodaeth

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweithio’n galed i gadw ei staff yn ddiogel ac amddiffyn pobl Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws. Wrth i ni barhau i ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU, efallai y byddwch chi'n gweld ein criwiau'n gwisgo dillad ac offer amddiffynnol sy'n edrych yn wahanol i'n gwisg werdd arferol. Os gwelwch rai ohonom yn gwisgo ffedogau, masgiau neu siwtiau gwyn, peidiwch â phoeni. Gelwir hyn yn Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) ac fe'i defnyddir i gadw ein staff a'n cleifion yn ddiogel.

Beth yw PPE?
Mae Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn ddillad ac offer arbennig a wisgir gan ein criwiau i leihau ac atal y risg o drosglwyddo halogiad i'n staff, cleifion a'r offer cyfagos.

A oes gwahanol fathau o PPE?
Defnyddir gwahanol lefelau o PPE yn dibynnu ar ba mor fawr yw'r risg bosibl o haint a halogiad.

Menig, ffedogau a masgiau wyneb tafladwy yw'r mathau mwyaf cyffredin o PPE rydych chi'n debygol o weld ein criwiau'n eu gwisgo. O dan rai amodau, gallent hefyd wisgo rhyw fath o amddiffyniad llygad a siwt un darn â chwfl gwyn.

Pryd fydd eich criwiau'n gwisgo PPE?
Bydd angen i'n criwiau leihau'r risg o drosglwyddo trwy wisgo'r PPE priodol. Sicrhewch, os gwelwch staff ambiwlans yn gwisgo PPE, ni fydd o reidrwydd yn golygu bod gan y claf Covid-19.

Beth os ydyn nhw'n cyrraedd ac nad ydyn nhw'n gwisgo PPE?
Oni bai ein bod wedi cael ein hysbysu neu'n amau y gallai fod gan glaf symptomau coronafeirws, yna efallai na fydd ein criw ymateb yn gwisgo PPE pan fyddant yn cyrraedd. Bydd ein staff bob amser yn cynnal arferion hylendid da arferol p'un a yw PPE yn briodol ai peidio.

A ddylwn i ffonio 999 os oes gen i symptomau coronafeirws?
Os oes gennych symptomau coronafeirws (tymheredd uchel neu beswch parhaus newydd), defnyddiwch y gwiriwr symptomau coronafeirws.

Ffoniwch 999 dim ond os oes gennych argyfwng sy'n peryglu bywyd - gwnewch yn siwr eich bod chi'n dweud wrth y person sy'n cymryd galwadau os ydych chi'n meddwl bod gennych chi symptomau coronafeirws.

Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru (datganiadau a data diweddaraf)

Gwybodaeth yn BSL

Mae'r fideo canlynol yn rhoi gwybodaeth am y coronafeirws (COVID19) yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) 

Gwybodaeth mewn ieithoedd eraill

Taflen wybodaeth Coronafeirws (COVID-19) - ar gael yn ieithoedd eraill. Taflen ar beth i'w wneud i helpu atal lledaeniad y coronafeirws, gan gynnwys gwybodaeth am symptomau a chymorth gan y llywodraeth.

Taflen Coronafeirws (COVID-19) - Hawdd ei ddarllen a print mawr

Profi eich hun

Cyflenwad o gitiau profi Covid 19

Aeth gwasanaeth newydd fferyllfa sy'n cynnig cyflenwad o gitiau Profi Llif Unffordd (LFT) Covid 19 yn fyw ledled Cymru. Nod y gwasanaeth, a fydd yn sicrhau bod LFTs ar gael i'w casglu o fferyllfeydd cymunedol sy'n cymryd rhan, ochr yn ochr â lleoliadau eraill fel safleoedd profi, yw gwella mynediad at brofion i'r rhai nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau Covid.

I chwilio am fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, nodwch eich cod post gan ddefnyddio ein cronfa ddata Fferyllfa a hidlo eich canlyniadau chwilio trwy ddewis ‘Cyflenwi Pecynnau Prawf Llif Unffordd Covid’.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 21/10/2021 17:54:55