Therapi siarad yw therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) sy'n gallu eich helpu i reoli eich problemau trwy newid y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn ymddwyn.
Fe'i defnyddir fel arfer i drin gorbryder ac iselder, ond mae'n gallu bod yn ddefnyddiol ar gyfer problemau iechyd meddyliol a chorfforol eraill.
Sut mae CBT yn gweithio
Mae CBT wedi'i seilio ar y cysyniad bod eich meddyliau, eich teimladau, eich ymdeimladau corfforol a'ch gweithredoedd yn gysylltiedig, a bod meddyliau a theimladau negyddol yn gallu eich dal mewn cylch cythreulig.
Nod CBT yw eich helpu i ymdopi â phroblemau llethol mewn ffordd fwy cadarnhaol trwy eu rhannu'n ddarnau llai.
Dangosir i chi sut i newid y patrymau negyddol hyn i wella'r ffordd rydych chi'n teimlo.
Yn wahanol i rai triniaethau siarad eraill, mae CBT yn ymdrin â'ch problemau presennol, yn hytrach na chanolbwyntio ar faterion o'ch gorffennol.
Mae'n chwilio am ffyrdd ymarferol o wella eich cyflwr meddwl dyddiol.
Defnyddiau ar gyfer CBT
Dangoswyd bod CBT yn ffordd effeithiol o drin nifer o wahanol gyflyrau iechyd meddwl.
Yn ogystal ag iselder neu anhwylderau gorbryder, gall CBT helpu pobl â'r canlynol hefyd:
- anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD)
- anhwylder panig
- anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
- ffobiâu
- anhwylderau bwyta - fel anorecsia a bwlimia
- problemau cwsg - fel insomnia
- problemau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol
Weithiau, defnyddir CBT hefyd i drin pobl â chyflyrau iechyd tymor hir, fel:
- syndrom coluddyn llidus (IBS)
- syndrom blinder cronig (CFS)
Er nad yw CBT yn gallu gwella symptomau corfforol y cyflyrau hyn, mae'n gallu helpu pobl i ymdopi'n well â'u symptomau.
Beth sy'n digwydd yn ystod sesiynau CBT
Os argymhellir CBT, byddwch fel arfer yn cael sesiwn gyda therapydd unwaith yr wythnos neu unwaith bob pythefnos.
Fel arfer, rhoddir rhwng pump ac 20 sesiwn o driniaeth, a bydd pob sesiwn yn para 30-60 munud.
Yn ystod y sesiynau, byddwch yn gweithio gyda'ch therapydd i rannu'ch problemau yn ddarnau ar wahân, fel eich meddyliau, eich teimladau corfforol a'ch gweithredoedd.
Byddwch chi a'ch therapydd yn dadansoddi'r meysydd hyn i benderfynu a ydynt yn afrealistig neu'n anghynorthwyol, ac i ganfod yr effaith maen nhw'n ei chael ar ei gilydd ac arnoch chi.
Yna, bydd eich therapydd yn gallu eich helpu i benderfynu sut i newid meddyliau ac ymddygiad anghynorthwyol.
Ar ôl penderfynu beth y gallwch ei newid, bydd eich therapydd yn gofyn i chi ymarfer y newidiadau hyn yn eich bywyd pob dydd a byddwch yn trafod sut hwyl gawsoch chi arni yn ystod y sesiwn nesaf.
Nod therapi yn y pen draw yw eich addysgu sut i gymhwyso'r sgiliau rydych wedi'u dysgu yn ystod eich triniaeth i'ch bywyd pob dydd.
Dylai hyn eich helpu i reoli eich problemau a'u hatal rhag cael effaith negyddol ar eich bywyd, hyd yn oed ar ôl i'ch triniaeth ddod i ben.
Manteision ac anfanteision CBT
Gall therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) fod yr un mor effeithiol â meddyginiaeth am drin rhai problemau iechyd meddwl, ond efallai na fydd yn llwyddiannus nac yn addas i bawb.
Dyma rai o fanteision CBT:
- gallai fod yn ddefnyddiol mewn achosion lle nad yw meddyginiaeth wedi gweithio ar ei phen ei hun
- gellir ei gwblhau o fewn cyfnod eithaf byr o gymharu â therapïau siarad eraill
- mae natur strwythuredig iawn CBT yn golygu y gellir ei ddarparu mewn gwahanol fformatau, gan gynnwys mewn grwpiau, llyfrau hunangymorth ac apiau
- mae'n addysgu strategaethau defnyddiol ac ymarferol i chi y gellir eu defnyddio mewn bywyd pob dydd - hyd yn oed ar ôl i'r driniaeth orffen
Dyma rai o anfanteision CBT i'w hystyried:
- mae angen i chi ymrwymo i'r broses i gael y mwyaf ohoni - gall therapydd eich helpu a'ch cynghori, ond mae arnynt angen eich cydweithrediad chi
- gall mynd i sesiynau CBT rheolaidd a gwneud unrhyw waith ychwanegol rhwng sesiynau gymryd llawer o'ch amser
- efallai na fydd yn addas i bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl mwy cymhleth neu anawsterau dysgu, gan fod angen cynnal sesiynau strwythuredig
- mae'n golygu wynebu eich emosiynau a'ch pryderon - gallech deimlo'n bryderus neu'n anghyfforddus yn emosiynol ar y dechrau
- mae'n canolbwyntio ar allu'r unigolyn i'w newid ei hun (ei feddyliau, ei deimladau a'i ymddygiad) - nid yw hyn yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau ehangach mewn systemau neu deuluoedd sy'n aml yn cael effaith fawr ar iechyd a lles rhywun
Mae rhai beirniaid yn dadlau oherwydd bod CBT yn mynd i'r afael â phroblemau presennol yn unig ac yn canolbwyntio ar faterion penodol, nad yw'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol posibl cyflyrau iechyd meddwl, fel plentyndod anhapus.
Sut i ddod o hyd i therapydd CBT
Gallwch gael therapïau seicolegol, gan gynnwys CBT, trwy'r GIG.
Gall eich Meddyg Teulu eich atgyfeirio i wasanaeth therapïau seicolegol.
Gallwch ddewis talu am eich therapi'n breifat, os gallwch fforddio hynny. Mae cost sesiynau therapi preifat yn amrywio, ond mae fel arfer rhwng £40 a £100 y sesiwn.
Mae Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP) yn cynnal cofrestr o'r holl therapyddion achrededig yn y Deyrnas Unedig.