Profi
Cael prawf i ddarganfod a oes gennych coronafeirws.
Y Gwasanaeth Profion Llif Unffordd
Mae profion llif unffordd COVID-19 y GIG am ddim ar gael i bobl sy'n wynebu risg uchel o fod yn ddifrifol wael yn sgil COVID-19 ac sy'n gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol COVID-19. Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol ar gael ar wefan Triniaethau COVID-19 | LLYW. CYMRU.
Os ydych chi'n gymwys i gael profion llif unffordd COVID-19 y GIG am ddim, gallwch eu casglu yn awr o fferyllfa gymunedol.
Os byddwch chi'n mynd i fferyllfa i gael cyflenwad o brofion llif unffordd, efallai y gofynnir ichi am eich hanes meddygol i gadarnhau eich bod yn gymwys i gael y profion am ddim.
Mae'r gwasanaeth hwn wedi disodli'r gwasanaethau archebu profion llif unffordd cyflym am ddim ar-lein a dros y ffôn a oedd yn cael eu darparu gan GOV.UK a GIG 119.
Os nad ydych chi'n gymwys, ni fydd y fferyllfa yn gallu rhoi profion am ddim ichi.
Gwybodaeth am y Gwasanaeth
Mae profion llif unffordd COVID-19 y GIG am ddim ar gael i bobl sy'n wynebu risg uchel o fod yn ddifrifol wael yn sgil COVID-19 ac sy'n gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol COVID-19. Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol ar gael ar wefan Triniaethau COVID-19 | LLYW. CYMRU.
Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n gymwys, siaradwch â'ch meddyg neu arbenigwr ysbyty a all eich cynghori.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am y bobl sy'n wynebu'r risg uchaf ac sy'n gymwys i gael triniaeth COVID-19 ar wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
Os ydych chi'n gymwys i gael triniaethau COVID-19, dylech gadw profion llif unffordd cyflym gartref y gallwch eu casglu yn awr o fferyllfa gymunedol.
Os byddwch chi'n mynd i fferyllfa i gael cyflenwad o brofion llif unffordd, efallai y gofynnir ichi am eich hanes meddygol i gadarnhau eich bod yn gymwys i gael y profion am ddim. Os oes gennych chi gopi o lythyr neu e-bost a anfonwyd atoch gan y GIG sy'n cadarnhau eich bod yn gymwys i gael triniaeth COVID-19, ewch â hwn gyda chi. Nid yw llythyr neu e-bost yn hanfodol, ond bydd yn helpu'r fferyllfa i gadarnhau yn haws eich bod yn gymwys i gael profion am ddim.
Gall rhywun arall gasglu profion am ddim ar eich rhan, er enghraifft, ffrind, perthynas neu ofalwr.
Bydd angen i unrhyw un sy'n casglu profion am ddim ar eich rhan roi eich manylion i'r fferyllfa, gan gynnwys eich:
- enw llawn
- cyfeiriad
- dyddiad geni
- rhif GIG (os yw ar gael)
- cyflyrau meddygol i gadarnhau eich bod yn gymwys
Os ydynt ar gael, dylent hefyd rannu unrhyw gopïau o lythyrau neu e-byst a anfonwyd atoch gan y GIG ynglŷn â thriniaethau COVID-19.