Mae’r term COVID hir yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio arwyddion a symptomau sy'n parhau neu'n datblygu ar ôl COVID-19.
Mae'n cynnwys symptomau COVID-19 sy’n parhau (4 i 12 wythnos) a syndrom ôl-COVID 19 (dros 12 wythnos).
Gallai arwyddion a symptomau effeithiau tymor hwy COVID-19 gynnwys:
- blinder
- diffyg anadl
- effaith ar y galon neu effeithiau corfforol neu seicolegol
Mae rhagor o wybodaeth am COVID hir ar gael ar wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).
Cymorth i bobl sydd â COVID hir
Er mwyn helpu pobl i wella o COVID-19 rydym yn canolbwyntio ar ddarparu gofal a chymorth sydd:
- mor agos i'ch cartref â phosibl
- yn diwallu eich anghenion penodol
Mae'n debygol y bydd angen dull adsefydlu ar y rhan fwyaf o bobl sydd â COVID hir. Mae gwasanaethau iechyd a gofal yn y gymuned mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu hyn.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi fynd i'r ysbyty i gael archwiliad pellach. Os felly, byddwch yn cael eich atgyfeirio gan eich meddyg teulu.
Gan weithio gyda GIG Cymru rydym wedi datblygu Llwybr Cymunedol Cymru Gyfan. Mae'r llwybr yn darparu fframwaith i fyrddau iechyd ddatblygu gwasanaethau i ddiwallu anghenion penodol eu cymunedau.
Cymorth gan eich bwrdd iechyd lleol
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth ar gyfer COVID hir gan eich bwrdd iechyd lleol:
Os oes angen cyngor pellach arnoch, gallwch hefyd gysylltu â'r gwasanaeth 111 coronafeirws ar-lein.
Mae rhagor o wybodaeth am COVID hir hefyd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Ap gwella o COVID
I'ch helpu i reoli eich symptomau, gallwch hefyd lawrlwytho’r ap gwella o COVID (COVID recovery app).
Datblygwyd yr ap i gefnogi pobl sy'n dal i deimlo amrywiaeth o broblemau cardiaidd, niwrolegol a seicolegol ar ôl cael COVID-19.
Efallai y bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn argymell yr ap i chi fel rhan o'ch cymorth adsefydlu, ond gallwch hefyd ei lawrlwytho'n uniongyrchol o GooglePlay neu Apple ap store.