Systitis/Llid y bledren

Cyflwyniad

Llid  ar y bledren yw systitis. Fe gaiff ei achosi, fel arfer gan haint yn y bledren.

Caiff heintiau'r bledren eu hachosi gan:

  • beidio â gwagio'ch pledren yn llawn - e.e. oherwydd beichiogrwydd neu dyfiant y brostâd
  • niwed neu enyniad i'r wrethra (y tiwb y mae troeth yn gadael y corff trwyddo)
  • drosglwyddo bacteria o'r anws i'r wrethra (e.e. yn ystod rhyw)

Mae symptomau systitis yn cynwys:

  • angen brys ac aml i basio dwr
  • poen neu losgi wrth basio dwr
  • poen yn y bledren

Fel arfer, fe fydd systitis yn gwella mewn ychydig ddyddiau , neu weithiau bydd angen ei drin â moddion gwrthfiotig. 

Os na fydd heintiau yn y bledren yn cael eu trin, gallant achosi heintiau yn yr arennau.

Gweld meddyg

Gall symptomau systitis gael eu hachosi gan gyflyrau eraill. Dylai plant a dynion weld eu meddyg teulu bob amser os bydd symptomau systitis arnynt. Dylai menywod fynd at y meddyg teulu hefyd os byddant yn cael y cyflwr am y tro cyntaf. Dylent  ddychwelyd at y meddyg os byddant yn cael y cyflwr fwy na theirgwaith mewn blwyddyn.

Systitis ymhlith menywod

Mae systitis yn fwy cyffredin ymysg menywod, gan fod wrethra byr gan fenywod (y tiwb sy'n cario troeth o'r bledren allan o'r corff). Hefyd, mae agoriad yr wrethra yn agos iawn at yr anws (pen ôl). Mae hyn yn ei gwneud yn hawdd i facteria o'r anws gyrraedd y bledren ac achosi haint.

Bydd bron pob menyw'n cael o leiaf un pwl o systitis yn ystod ei hoes. Bydd tua un o bob pum menyw sydd wedi cael systitis yn ei gael eto (systitis sy'n dychwelyd). Gall systitis ddigwydd i fenywod o unrhyw oedran, ond mae'n fwy cyffredin ymhlith:

  • menywod beichiog
  • menywod sy'n cael rhyw 
  • menywod sydd wedi cael y menopos (terfyn y mislif) 

Systitis ymhlith dynion

Mae systitis yn llai cyffredin ymhlith dynion. Mae'n gallu bod yn fwy difrifol mewn dynion, oherwyd bod y pethau canlynol yn gallu ei achosi: 

  • haint sylfaenol yn y bledren neu'r brostad, fel prostatitis
  • rhywbeth yn rhwystro'r llwybr wrinol, fel tiwmor, neu brostad chwyddedig (y chwarren rhwng y pidyn a'r bledren)

Nid yw systitis ymhlith dynion yn ddifrifol fel arfer os caiff ei drin yn gyflym, ond mae'n gallu bod yn boenus iawn. Mae dynion sy'n cael rhyw rhefrol heb gondom ychydig yn fwy tebygol o gael systitis.

Systitis interstitaidd

Bydd rhai pobl yn profi symptomau o systitis yn barhaus, neu byliau aml nad ydynt yn gwella o ddefnyddio moddion gwrthfiotig. Gelwir hyn yn systitis interstitaidd. Gweler yr adran 'Cymhlethdodau' am fwy o wybodaeth.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 16/05/2025 13:26:54