Dyslecsia

Cyflwyniad

Mae dyslecsia yn anhawster dysgu cyffredin sy'n gallu achosi problemau gyda darllen, ysgrifennu a sillafu.

Mae'n anhawster dysgu penodol, sy'n golygu ei fod yn achosi problemau gyda rhai galluoedd a ddefnyddir ar gyfer dysgu, fel darllen ac ysgrifennu.

Yn wahanol i anabledd dysgu, nid effeithir ar ddeallusrwydd.

Amcangyfrifir bod rhyw raddfa o ddyslecsia gan hyd at 1 o bob 10 o bobl yn y DU.

Mae dyslecsia yn broblem gydol oes a all gyflwyno heriau yn ddyddiol, ond mae cymorth ar gael i wella sgiliau darllen ac ysgrifennu ac i helpu'r rheiny sydd â'r broblem i fod yn llwyddiannus yn yr ysgol ac yn y gwaith.

Beth yw arwyddion dyslecsia?

Fel arfer daw arwyddion dyslecsia i'r golwg pan fydd plentyn yn dechrau'r ysgol ac yn dechrau canolbwyntio mwy ar ddysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu.

Gall rhywun â dyslecsia:

  • ddarllen ac ysgrifennu'n araf iawn
  • drysu trefn llythrennau mewn geiriau
  • rhoi llythrennau tu chwith (fel ysgrifennu "b" yn lle "d")
  • sillafu'n wael neu'n anghyson
  • deall gwybodaeth pan ddywedir wrthynt yn llafar, ond cael anhawster gyda gwybodaeth sydd wedi'i ysgrifennu
  • ei chael hi'n anodd cyflawni dilyniant o gyfarwyddiadau
  • cael anhawster gyda chynllunio a threfnu

Ond yn aml, mae gan bobl â dyslecsia sgiliau da mewn meysydd eraill, fel meddwl yn greadigol a datrys problemau.

Darllenwch fwy am symptomau dyslecsia.

Cael help

Os ydych chi'n meddwl y gall fod dyslecsia gan eich plentyn, y cam cyntaf yw siarad â'i athro neu gydlynydd anghenion addysgol arbennig (CydAAA) ei ysgol ynglyn â'ch pryderon.

Efallai y gallant gynnig cymorth ychwanegol i helpu'ch plentyn os oes angen.

Os yw eich plentyn yn parhau i gael problemau er gwaetha'r cymorth ychwanegol, efallai y byddwch chi neu'r ysgol eisiau ystyried gofyn am asesiad mwy manwl gan athro dyslecsia arbenigol neu seicolegydd addysg.

Gellir trefnu hyn drwy'r ysgol, neu gallwch ofyn am asesiad preifat trwy gysylltu â:

Dylai oedolion sy'n dymuno cael asesiad ar gyfer dyslecsia gysylltu â chymdeithas dyslecsia leol neu genedlaethol i gael cyngor.

Darllenwch fwy am sut gwneir diagnosis o dyslecsia.

Cymorth i bobl â dyslecsia

Os oes dyslecsia gan eich plentyn, mae'n debygol y bydd angen cymorth ychwanegol arno gan ei ysgol.

Gyda chymorth priodol, fel arfer nid oes unrhyw reswm pam na all eich plentyn fynd i ysgol brif ffrwd, er y gall nifer fach o blant elwa o fynychu ysgol arbenigol.

Mae technegau a chymorth a allai helpu eich plentyn yn cynnwys:

  • addysgu un-i-un achlysurol neu wersi mewn grwp bach gydag athro arbenigol
  • ffoneg (techneg ddysgu arbennig sy'n canolbwyntio ar wella'r gallu i nodi a phrosesu'r seiniau llai sy'n ffurfio geiriau)
  • technoleg fel cyfrifiaduron a meddalwedd adnabod lleferydd a allai ei gwneud hi'n haws i'ch plentyn ddarllen ac ysgrifennu pan fydd ychydig yn hyn

Mae staff arbenigol gan brifysgolion hefyd sy'n gallu cynorthwyo pobl ifanc gyda dyslecsia mewn addysg uwch.

Gall technoleg fel prosesyddion geiriau a threfnwyr electronig fod yn ddefnyddiol i oedolion hefyd.

Mae'n ofynnol i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i'r gweithle i helpu pobl â dyslecsia, fel caniatáu amser ychwanegol ar gyfer rhai tasgau.

Darllenwch fwy am sut caiff dyslecsia ei reoli.

Grwpiau cymorth

Yn ogystal ag elusennau dyslecsia cenedlaethol, fel Cymdeithas Dyslecsia Prydain, mae nifer o cymdeithasau dyslecsia lleol i'w cael.

Mae'r rhain yn elusennau cofrestredig annibynnol sy'n cynnal gweithdai ac yn helpu darparu cymorth lleol a mynediad at wybodaeth.

Beth sy'n achosi dyslecsia?

Mae pobl â dyslecsia yn ei chael hi'n anodd adnabod y seiniau gwahanol sy'n ffurfio geiriau ac maent yn perthynu'r rhain i lythrennau.

Nid yw dyslecsia'n gysylltiedig â lefel deallusrwydd gyffredinol unigolyn. Gall plant ac oedolion o bob gallu deallusol gael eu heffeithio gan ddyslecsia.

Nid oes unrhyw un yn gwybod beth yw union achos dyslecsia, ond mae'n ymddangos ei fod yn rhedeg mewn teuluoedd yn aml.

Credir y gall genynnau penodol a etifeddir gan eich rhieni weithio gyda'i gilydd mewn ffordd sy'n effeithio sut mae rhai rhannu o'r ymennydd yn datblygu yn ystod bywyd cynnar.

Symptomau

Gall arwyddion a symptomau dyslecsia fod yn wahanol o un unigolyn i'r llall. Bydd patrwm unigryw o gryfderau a gwendidau gan bob unigolyn sydd â'r cyflwr.

Mae rhai o arwyddion mwyaf cyffredin dyslecsia wedi'u hamlinellu isod.

Plant oed cyn-ysgol

Mewn rhai achosion, mae'n bosibl canfod symptomau dyslecsia cyn bod plentyn yn dechrau'r ysgol.

Mae symptomau posibl yn cynnwys:

  • oedi o ran datblygu lleferydd o gymharu â phlant eraill yr un oedran (er y gall fod llawer o achosion gwahanol i hyn)
  • problemau lleferydd, fel methu ynganu geiriau hir yn iawn a "chymysgu" ymadroddion (er enghraifft, dweud "horfennydd" yn lle "hofrennydd", neu "by tach" yn lle "ty bach")
  • anhawster mynegi'u hunain gan ddefnyddio iaith lafar, fel methu cofio'r gair cywir i'w ddefnyddio, neu roi brawddegau at ei gilydd yn anghywir
  • anhawster deall neu werthfawrogi geiriau sy'n odli, fel "saith ar y daith", neu hwiangerddi
  • anhawster gyda dysgu llythrennau'r wyddor, neu fawr ddim diddordeb i'w dysgu

Plant ysgol

Fel arfer daw symptomau dyslecsia yn fwy amlwg pan fydd plant yn cychwyn yr ysgol ac yn dechrau canolbwyntio mwy ar ddysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu.

Mae symptomau dyslecsia ymhlith plant 5-12 oed yn cynnwys:

  • problemau dysgu enwau a seiniau llythrennau
  • sillafu sy'n anwadal ac yn anghyson
  • rhoi llythrennau a ffigurau'r ffordd anghywir (fel ysgrifennu "6" yn lle "9", neu "b" yn lle "d")
  • cymysgu trefn llythrennau mewn geiriau
  • darllen yn araf deg neu wneud camgymeriadau wrth ddarllen yn uchel
  • amhariadau gweledol wrth ddarllen (er enghraifft, gall plentyn ddisgrifio llythrennau a geiriau fel pe baent yn symud o gwmpas neu'n ymddangos yn aneglur)
  • ateb cwestiynau'n dda ar lafar, ond cael anhawster ysgrifennu'r ateb i lawr
  • anhawster cyflawni dilyniant o gyfarwyddiadau
  • cael anhawster dysgu dilyniannau, fel diwrnodau'r wythnos neu'r wyddor
  • ysgrifennu'n araf deg
  • llawysgrifen wael
  • problemau o ran copïo iaith ysgrifenedig a chymryd mwy o amser na'r arfer i gwblhau gwaith ysgrifenedig
  • ymwybyddiaeth ffonolegol wael a sgiliau gwael wrth fynd i'r afael â geiriau

Ymwybyddiaeth ffonolegol

Ymwybyddiaeth ffonolegol yw'r gallu i adnabod bod geiriau wedi'u ffurfio o unedau sain llai (ffonemau) ac y gall newid a thrin ffonemau greu geiriau ac ystyron newydd.

Efallai na fydd plentyn sydd ag ymwybyddiaeth ffonolegol wael yn gallu ateb y cwestiynau hyn yn gywir:

  • pa synau wyt ti'n meddwl sy'n ffurfio'r gair "dal", ac a yw'r rhain yn wahanol i'r synau sy'n ffurfio'r gair "del"?
  • pa air fyddai gennyt pe baet yn newid y sain "p" yn "pot" i sain "c"?
  • faint o eiriau elli di feddwl amdanynt sy'n odli gyda'r gair "saith"?

Sgiliau mynd i'r afael â geiriau

Gall plant ifanc â dyslecsia gael problemau hefyd gyda sgiliau mynd i'r afael â geiriau.

Y gallu i wneud synnwyr o eiriau anghyfarwydd yw hyn, drwy edrych am eiriau llai neu gasgliadau o lythrennau y mae plentyn wedi'u dysgu o'r blaen.

Er enghraifft, gall plentyn â sgiliau da wrth fynd i'r afael â geiriau ddarllen y gair "hwylfwrdd" am y tro cyntaf a chael ystyr o'r gair drwy ei dorri i lawr i "hwyl" a "fwrdd/bwrdd".

Pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion

Yn ogystal â'r problemau y soniwyd amdanynt uchod, gall symptomau dyslecsia ymhlith plant hyn ac oedolion gynnwys:

  • gwaith ysgrifenedig sydd wedi'u drefnu'n wael a diffyg mynegiant ynddo (er enghraifft, er y gallant fod yn wybodus iawn ynglyn â phwnc penodol, efallai y bydd ganddynt broblemau yn mynegi'r wybodaeth honno'n ysgrifenedig)
  • anhawster cynllunio ac ysgrifennu traethodau, llythyrau neu adroddiadau
  • anhawster adolygu ar gyfer arholiadau
  • ceisio osgoi darllen ac ysgrifennu pa bryd bynnag y bo modd
  • anhawster gwneud nodiadau neu gopïo
  • sillafu gwael
  • ei chael hi'n anodd cofio pethau fel rhif PIN neu rif ffôn
  • ei chael hi'n anodd cwrdd â therfynau amser

Cael help

Os ydych chi'n pryderu ynghylch cynnydd eich plentyn gyda darllen ac ysgrifennu, siaradwch â'i athro yn gyntaf.

Os ydych chi neu athro eich plentyn yn parhau i bryderu, ewch â'ch plentyn i weld eich meddyg teulu fel y gall wirio am arwyddion unrhyw faterion iechyd sylfaenol, fel problemau clywed neu weld, a allai fod yn effeithio ar ei allu i ddysgu.

Os nad oes unrhyw broblemau iechyd sylfaenol amlwg gan eich plentyn sy'n egluro'i anawsterau dysgu, gallai fod angen rhoi cynnig ar ddulliau addysgu gwahanol.

Efallai y byddwch hefyd am ofyn am asesiad i adnabod unrhyw anghenion arbennig a all fod ganddo.

Os mai oedolyn ydych chi ac rydych yn meddwl y gallai fod dyslecsia gennych, efallai y byddwch am drefnu asesiad dyslecsia drwy eich cymdeithas dyslecsia leol.

Darllenwch fwy am gwneud diagnosis o ddyslecsia.

Problemau cysylltiedig

Mae gan rai pobl â dyslecsia broblemau eraill hefyd nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â darllen neu ysgrifennu.

Mae'r rhain yn cynnwys:

Diagnosis

Y cynharaf y caiff plentyn ddiagnosis o ddyslecsia, y mwyaf effeithiol y mae ymyriadau addysgol yn debygol o fod.

Ond gall adnabod dyslecsia ymhlith plant ifanc fod yn anodd i rieni ac athrawon oherwydd nid yw'r arwyddion a'r symptomau bob amser yn amlwg.

Os ydych chi'n pryderu am eich plentyn

Os ydych chi'n pryderu am gynnydd eich plentyn gyda darllen ac ysgrifennu, siaradwch â'i athro yn gyntaf. Gallwch fod eisiau cyfarfod ag aelodau staff eraill yn yr ysgol hefyd.

Os yw'r pryder yn parhau, ewch â'ch plentyn i weld â meddyg teulu. Efallai bod problemau iechyd gan eich plentyn sy'n effeithio ar ei allu i ddarllen neu ysgrifennu.

Er enghraifft, efallai bod y canlynol ganddo:

Os nad oes unrhyw broblemau iechyd sylfaenol amlwg gan eich plentyn i egluro'i anawsterau dysgu, gall fod nad yw'n ymateb yn dda iawn i'r dull addysgu, a gall fod angen mynd ati mewn ffordd wahanol.

Darllenwch am rheoli dyslecsia i gael mwy o wybodaeth am ymyriadau addysgol a allai helpu.

Asesiadau dyslecsia

Os oes pryderon o hyd am gynnydd eich plentyn ar ôl iddo dderbyn addysgu a chymorth ychwanegol, gallai fod yn syniad da i gael asesiad mwy manwl.

Gall hwn gael ei wneud gan seicolegydd addysg, neu athro dyslecsia arbenigol â chymwysterau priodol.

Byddant yn gallu eich cefnogi chi, eich plentyn ac athrawon eich plentyn drwy helpu i wella'r ddealltwriaeth o anawsterau dysgu eich plentyn ac awgrymu ymyriadau a allai ei helpu.

Gofyn am asesiad

Mae amryw o ffyrdd i ofyn am asesiad ar gyfer eich plentyn, er y gall fod yn broses rwystredig weithiau sy'n mynnu llawer o amser.

Y cam cyntaf yw cyfarfod ag athro eich plentyn a'i gydlynydd anghenion addysgol arbennig (CydAAA) yn yr ysgol i drafod eich pryderon ac unrhyw ymyriadau y rhoddwyd cynnig arnynt eisoes.

Os yw eich plentyn yn parhau i gael anawsterau er gwaetha'r ymyriadau, gallwch ofyn iddo gael ei atgyfeirio i gael asesiad gan seicolegydd addysg awdurdod lleol neu arbenigwr arall mewn dyslecsia.

Mae'r Independent Parental Special Education Advice (IPSEA) yn elusen annibynnol ar gyfer rhieni plant ag anghenion arbennig.

Nid yw IPSEA yn cynnig asesiadau ei hun, ond mae gwybodaeth ar ei wefan am gamau y gallwch eu cymryd i gael anghenion eich plentyn wedi'u hasesu gan sefydliadau eraill.

Neu gallech fynd yn uniongyrchol at seicolegydd addysg annibynnol neu weithiwr proffesiynol arall â chymwysterau addas.

Gallwch weld cyfeirlyfr o seicolegwyr siartredig ar wefan Cymdeithas Seicolegol Prydain.

Gallwch hefyd gysylltu â chymdeithas ddyslecsia genedlaethol neu leol i gael help i drefnu asesiad.

Y weithdrefn asesu

Cyn i'r asesiad gael ei gynnal, efallai yr anfonir holiadur atoch chi ac ysgol eich plentyn sy'n holi am eich plentyn a materion cysylltiedig, fel:

  • cyflwr ei iechyd yn gyffredinol
  • pa mor dda mae'n perfformio tasgau penodol
  • beth sydd angen newid yn eich barn chi.

Gall yr asesiad ei hun gynnwys arsylwi eich plentyn yn ei amgylchedd dysgu, siarad ag oedolion allweddol sy'n gysylltiedig â dysgu eich plentyn, a gofyn i'ch plentyn gymryd rhan mewn cyfres o brofion.

Gallai'r profion hyn archwilio'r canlynol yn ymwneud â'ch plentyn:

  • galluoedd darllen ac ysgrifennu
  • datblygiad iaith a geirfa
  • rhesymu rhesymegol
  • cof
  • y cyflymder y gall brosesu gwybodaeth weledol a chlybodol (sain)
  • sgiliau trefnu
  • dulliau dysgu

Beth sy'n digwydd wedyn

Ar ôl i'ch plentyn gael ei asesu, byddwch yn derbyn adroddiad sy'n amlinellu ei gryfderau a'i wendidau, gydag argymhellion o beth ellid ei wneud i wella meysydd y mae'n cael anawsterau gyda nhw.

Gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol yw anawsterau dysgu eich plentyn, gall fod yn bosibl rheoli ei anawsterau drwy cymorth anghenion addysgol arbennig (AAA), sef cynllun gweithredu sy'n cael ei lunio gan ei ysgol a'i rieni.

Mae cymorth AAA yn disodli'r cynllun addysg unigol (CAU), ond gall rhai ysgolion fod yn defnyddio CAUau o hyd.

Mewn nifer fach o achosion lle nad yw anawsterau plentyn yn gwella a'i bod yn ymddangos nad oes cynnydd wedi'i wneud, efallai y byddwch eisiau gofyn am asesiad llawnach sy'n cwmpasu pob agwedd ar ddatblygiad eich plentyn.

Byddai hyn yn arwain at lunio cynllun addysgol mwy ffurfiol, rhwymol yn gyfreithiol ar gyfer eich plentyn, a elwir yn Gynllun Gofal Iechyd Addysg.

Mae hwn yn nodi beth yw anghenion addysgol eich plentyn a'r cymorth sydd ei angen i ddiwallu'r anghenion hynny mewn dogfen a adolygir yn ffurfiol bob blwyddyn.

Ewch i GOV.UK i gael mwy o wybodaeth am plant gydag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.

Ymdopi â

Er bod dyslecsia yn broblem gydol oes, mae amrywiaeth o ymyriadau addysgol arbenigol a all helpu plant gyda'u darllen a'u hysgrifennu.

Yn gyffredinol, mae'r ymyriadau hyn yn fwyaf effeithiol os cânt eu dechrau mewn oed ifanc.

Bydd y math o ymyriad a'r raddfa ymyrryd yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw anawsterau eich plentyn.

Efallai y caiff cynllun gweithredu penodol ar gyfer eich plentyn ei lunio a'i weithredu yn ei ysgol.

Dylai'r rhan fwyaf o ysgolion prif ffrwd allu cynnig ymyriadau addas ar gyfer eich plentyn, er y gallai nifer fach o blant elwa o fynychu ysgol arbenigol.

Ymyriadau addysgol

Mae nifer o ymyriadau a rhaglenni addysgol ar gael ar gyfer plant â dyslecsia.

Gall y rhain amrywio o addysgu rheolaidd mewn grwpiau bach gyda chynorthwyydd cymorth dysgu sy'n cyflwyno gwaith a osodwyd gan staff addysgu, i wersi un-i-un gydag athro arbenigol.

Mae'r rhan fwyaf o ymyriadau yn canolbwyntio ar sgiliau ffonolegol, sef y gallu i adnabod a phrosesu seiniau geiriau. Cyfeirir at yr ymyriadau hyn fel ffoneg yn aml.

Gall ymyriadau ffoneg gynnwys addysgu plentyn i:

  • adnabod a nodi seiniau mewn geiriau llafar (er enghraifft, ei helpu i adnabod bod hyd yn oed geiriau byr fel "het" wedi'u gwneud o 3 sain mewn gwirionedd: "h", "e" a "t")
  • cyfuno llythrennau i greu geiriau, a thros amser, defnyddio'r geiriau i greu brawddegau mwy cymhleth
  • ymarfer darllen geiriau yn gywir i'w helpu i ddarllen yn gyflymach
  • monitro ei ddealltwriaeth ei hun wrth iddo ddarllen (er enghraifft, drwy ei annog i ofyn cwestiynau os yw'n sylwi ar fylchau yn ei ddealltwriaeth)

Yn ddelfrydol, dylid cyflwyno'r ymyriadau hyn mewn ffordd strwythuredig iawn a'u datblygu mewn camau bach, a dylent gynnwys ymarfer beth sydd wedi'i ddysgu yn rheolaidd.

Gall helpu hefyd os yw eich plentyn yn cael ei addysgu mewn ffordd amlsynnwyr, lle mae'n defnyddio nifer o synhwyrau ar yr un pryd.

Enghraifft o addysgu amlsynnwyr yw lle caiff plentyn ei addysgu i weld y llythyren "a", dweud ei henw a'i sain a'i hysgrifennu yn yr awyr, y cyfan ar yr un pryd.

Sut allwch chi helpu eich plentyn

Fel rhiant, efallai y byddwch yn ansicr ynglŷn â beth yw'r ffordd orau i helpu eich plentyn.

Darllenwch i'ch plentyn

Bydd hyn yn gwella ei eirfa a'i sgiliau gwrando, a bydd hefyd yn annog ei ddiddordeb mewn llyfrau.

Rhannu'r darllen

Mae'r ddau yn darllen rhywfaint o'r llyfr ac yna'n trafod beth sy'n digwydd, neu beth allai ddigwydd

Gorddysgu

Efallai y byddwch yn diflasu darllen hoff lyfr eich plentyn dro ar ôl tro, ond bydd ailadrodd yn atgyfnerthu ei ddealltwriaeth, ac mae'n golygu y bydd yn ymgyfarwyddo â'r testun.

Darllen yn dawel

Mae angen y cyfle ar blant hefyd i ddarllen ar eu pennau'u hunain hefyd er mwyn annog eu hannibyniaeth a'u rhuglder.

Gwneud darllen yn hwyl

Dylai darllen fod yn bleser, nid yn orchwyl. Defnyddiwch lyfrau am bynciau y mae gan eich plentyn ddiddordeb ynddyn nhw, a gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen mewn amgylchedd ymlaciedig ac esmwyth.

Mae rhieni yn chwarae rhan bwysig hefyd o ran gwella hyder eu plentyn, felly mae'n bwysig annog a chefnogi eich plentyn wrth iddo ddysgu.

Technoleg i blant hŷn

Mae llawer o blant hŷn â dyslecsia yn teimlo'n fwy esmwyth yn gweithio gyda chyfrifiadur na llyfr ysgrifennu.

Efallai mai'r rheswm am hyn yw bod cyfrifiadur yn defnyddio amgylchedd gweledol sy'n fwy addas i'w dull o ddysgu a gweithio.

Gall rhaglenni prosesu geiriau fod yn ddefnyddiol hefyd am fod ganddynt wiriwr sillafu a chyfleuster awtogywiro a all amlygu camgymeriadau yn ysgrifennu eich plentyn.

Hefyd, mae swyddogaethau testun-i-leferydd gan y rhan fwyaf o borwyr gwe a meddalwedd prosesu geiriau, lle mae'r cyfrifiadur yn darllen y testun wrth iddo ymddangos ar y sgrin.

Gelir defnyddio meddalwedd adnabod  llais hefyd i gyfieithu'r hyn y mae unigolyn yn ei ddweud yn destun ysgrifenedig.

Gall y feddalwedd hon fod yn ddefnyddiol i blant â dyslecsia am fod eu sgiliau llafar yn aml yn well na'u hysgrifennu.

Ceir llawer o gymwysiadau meddalwedd rhyngweithiol addysgol hefyd a allai ddarparu ffordd fwy difyr o ddysgu pwnc i'ch plentyn, yn hytrach na darllen o werslyfr yn unig.

Oedolion

Mae llawer o'r cyngor a'r technegau a ddefnyddir i helpu plant â dyslecsia yn berthnasol i oedolion hefyd.

Gall defnyddio technoleg fel proseswyr geiriau a threfnwyr electronig helpu gyda'ch ysgrifennu a threfnu gweithgareddau bob dydd.

Gall defnyddio ymagwedd amlsynnwyr at ddysgu fod yn ddefnyddiol.  Er enghraifft, gallech ddefnyddio recordydd digidol i recordio darlith ac yna gwrando arni wrth i chi ddarllen eich nodiadau.

Gall fod yn fuddiol hefyd torri tasgau a gweithgareddau mawr yn gamau llai.

Os oes angen i chi lunio cynllun neu wneud nodiadau am destun penodol, efallai y gwelwch ei bod yn ddefnyddiol creu map meddwl, yn hytrach nag ysgrifennu rhestr.

Diagramau yw mapiau meddwl sy'n defnyddio delweddau a geiriau allweddol i greu cynrychioliad gweledol o bwnc neu gynllun.

Addasiadau yn y gwaith

Os ydych chi'n gweithio, rhowch wybod i'ch cyflogwr bod dyslecsia gennych, gan fod y gyfraith yn mynnu ei fod yn gwneud addasiadau rhesymol i'r gweithle i'ch cynorthwyo.

Gallai enghreifftiau o addasiadau rhesymol gynnwys:

  • darparu technoleg gynorthwyol i chi, fel recordwyr digidol neu feddalwedd lleferydd-i-destun
  • rhoi cyfarwyddiadau i chi'n llafar, yn hytrach na'n ysgrifenedig
  • rhoi amser ychwanegol i chi ar gyfer tasgau rydych chi'n eu gweld yn arbennig o anodd
  • darparu gwybodaeth i chi mewn fformatau sy'n hwylus i chi


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 06/03/2024 14:15:36