Byrder golwg

Cyflwyniad

Short-sightedness
Short-sightedness

Mae byrder golwg, neu myopia, yn gyflwr cyffredin iawn yn y llygaid sy'n achosi i bethau pell ymddangos yn aneglur, tra bod modd gweld pethau agos yn glir. 

Credir bod byrder golwg yn effeithio ar hyd at un o bob tri o bobl yn y DU a'i fod yn mynd yn fwy cyffredin.

Gall achosion o fyrder golwg amrywio o fod yn ysgafn, lle nad oes angen triniaeth efallai, i fod yn ddifrifol iawn, sy'n gallu effeithio ar olwg rhywun yn sylweddol.

Mae'r cyflwr fel arfer yn dechrau yng nghyfnod y glasoed ac yn gwaethygu'n raddol nes bod y llygad wedi tyfu'n llawn, ond gall ddatblygu mewn plant ifanc iawn hefyd. 

Mae arwyddion y gallai eich plentyn fod yn fyr ei olwg yn cynnwys:

  • mae angen iddo eistedd yn nhu blaen y dosbarth yn yr ysgol gan ei fod yn ei chael yn anodd darllen y bwrdd gwyn
  • mae'n eistedd yn agos at y teledu
  • mae'n cwyno ynghylch pen tost/cur pen neu lygaid blinedig
  • mae'n rhwbio'i lygaid yn rheolaidd

Cael prawf llygaid

Os ydych yn credu y gallech chi fod yn fyr eich golwg, neu fod eich plentyn yn fyr ei olwg, dylech drefnu prawf llygaid mewn siop optegydd lleol. Chwilio am optegwyr yn eich ardal.

Dylech gael prawf llygaid cyffredin o leiaf bob dwy flynedd, ond gallwch gael prawf unrhyw bryd os oes gennych unrhyw bryderon am eich golwg.

Gall prawf llygaid gadarnhau p'un a ydych yn fyr eich golwg neu'n hir eich golwg, ac efallai y byddwch yn cael presgripsiwn am sbectol neu lensys cyffwrdd i gywiro eich golwg.

I rai pobl - fel plant o dan 16 oed, neu'r rheiny dan 19 oed sydd mewn addysg amser llawn - mae profion llygaid ar gael am ddim ar y GIG.

Beth sy'n achosi byrder golwg?

Mae byrder golwg fel arfer yn digwydd pan fydd y llygaid yn tyfu ychydig yn rhy hir.

Mae hyn yn golygu nad yw golau'n ffocysu ar y feinwe sy'n sensitif i olau (retina) yn nhu cefn y llygad yn gywir. Yn hytrach, mae'r pelydrau golau yn ffocysu o flaen y retina, gan achosi i bethau pell ymddangos yn aneglur.

Nid yw'n gwbl glir pam mae hyn yn digwydd, ond mae'n aml yn rhedeg mewn teuluoedd ac wedi bod yn gysylltiedig â ffocysu ar bethau agos, fel llyfrau a chyfrifiaduron, am gyfnodau hir yn ystod plentyndod.

Gallai sicrhau bod eich plentyn yn treulio amser yn chwarae'r tu allan helpu i leihau ei risg o fod yn fyr ei olwg.

Darllenwch fwy ynghylch achosion byrder golwg.

Trin byrder golwg

Fel arfer, gellir cywiro byrder golwg yn effeithiol gyda nifer o driniaethau.

Dyma'r prif driniaethau:

  • lensys cywirol - fel sbectol neu lensys cyffwrdd, i gywiro'r nam yn y gornbilen
  • defnyddio triniaeth laser i addasu siâp y llygad - nid yw hyn ar gael ar y GIG fel arfer, ac ni ddylid defnyddio'r driniaeth ar gyfer plant, gan fod eu llygaid yn parhau i ddatblygu
  • mewnblaniadau lens artiffisial - lle caiff lens artiffisial ei gosod yn y llygaid yn barhaol i'w helpu i ffocysu'n gywir; nid yw'r rhain ar gael ar y GIG fel arfer chwaith                           

Darllenwch fwy ynghylch trin byrder golwg.

Cyflyrau sy'n gysylltiedig â'r llygad

Mae rhai oedolion sydd â byrder golwg difrifol a phlant ifanc â byrder golwg heb ei drin yn fwy tebygol o ddatblygu problemau eraill â'r llygaid.

Gall y rhain gynnwys:

  • tro yn y llygad - cyflwr cyffredin mewn plentyndod pan fydd y llygaid yn pwyntio mewn gwahanol gyfeiriadau
  • llygad diog - cyflwr mewn plentyndod pan nad yw'r golwg mewn un llygad yn datblygu'n iawn
  • glawcoma - pwysedd cynyddol y tu mewn i'r llygaid
  • cataractau - pan fydd darnau niwlog yn datblygu y tu mewn i lens y llygad
  • datodiad y retina - pan fydd y retina yn tynnu oddi wrth y pibelli gwaed sy'n ei gyflenwi ag ocsigen a maetholion        

Achosion

Mae byrder golwg (myopia) fel arfer yn digwydd pan fydd y llygaid yn tyfu ychydig yn rhy hir, sy'n golygu nad yw rhywun yn gallu cynhyrchu delwedd glir o bethau yn y pellter. 

Nid yw'n gwbl glir pam mae hyn yn digwydd, ond credir ei fod yn digwydd o ganlyniad i gyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol sy'n amharu ar ddatblygiad arferol y llygad.

Sut mae'r llygad yn gweithio

Mae golau'n pasio trwy'r gornbilen (haen dryloyw yn nhu blaen y llygad) ac i mewn i'r lens (strwythur tryloyw sy'n eistedd y tu ôl i'r gornbilen), sy'n ffocysu ar y retina (haen o feinwe sy'n sensitif i olau yn nhu cefn y llygad) i greu delwedd sy'n cael ei hanfon i'r ymennydd.

I gynhyrchu delwedd gwbl glir, dylai'r gornbilen fod wedi crymu'n gyfartal, ac mae angen i hyd y llygad fod yn iawn.

Mewn pobl sydd â byrder golwg, mae'r llygad fel arfer wedi tyfu ychydig yn rhy hir. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch yn edrych ar bethau pell, nad yw'r golau'n ffocysu'n uniongyrchol ar eich retina, ond ar bellter byr o'i flaen. Mae hyn yn golygu bod delwedd aneglur yn cael ei hanfon i'ch ymennydd.

Beth sy'n cynyddu eich risg?

Er nad yw'n gwbl glir pam mae rhai pobl yn mynd yn fyr eu golwg, mae rhai pethau sy'n gallu cynyddu eich tebygolrwydd o ddatblygu'r cyflwr. Caiff y rhain eu disgrifio isod.

Eich genynnau

Mae'n hysbys fod byrder golwg yn rhedeg mewn teuluoedd, felly rydych chi'n fwy tebygol o'i ddatblygu os yw un o'ch rhieni, neu'r ddau ohonynt yn fyr eu golwg.

Hyd yn hyn, mae ymchwil wedi amlygu mwy na 40 o enynnau sy'n gysylltiedig â byrder golwg. Mae'r rhain yn gyfrifol am strwythur a datblygiad y llygad, a negeseuon rhwng yr ymennydd a'r llygaid.

Dim digon o amser yn yr awyr agored

Yn sgil gwaith ymchwil, canfuwyd y gallai treulio amser yn chwarae'r tu allan pan oeddech yn blentyn leihau eich tebygolrwydd o fod yn fyr eich golwg, ac efallai na fydd byrder golwg presennol yn datblygu mor gyflym.

Gallai hyn fod yn gysylltiedig â'r ffaith fod lefelau golau yn yr awyr agored yn llawer mwy llachar nag ydyw y tu mewn. Mae'n ymddangos bod chwaraeon ac ymlacio yn yr awyr agored yn fuddiol o ran lleihau risg byrder golwg.

Gormod o waith agos

Mae treulio llawer o amser yn ffocysu eich llygaid ar bethau agos, fel darllen, ysgrifennu a defnyddio dyfeisiau llaw o bosibl (ffonau a llechi) a chyfrifiaduron yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu byrder golwg hefyd.

Felly, yn gyffredinol, argymhellir dull "popeth yn gymedrol". Er y dylid annog plant i ddarllen, dylent dreulio cyfnod bob dydd yn gwneud gweithgareddau awyr agored hefyd, pan na fyddant yn darllen ac yn chwarae gemau cyfrifiadurol.

 

Diagnosis

Gallwch ganfod a ydych yn fyr eich golwg trwy gael prawf llygad yn eich siop optegydd leol.

Chwilio am optegwyr yn eich ardal.

Dylech gael prawf llygaid cyffredin o leiaf bob dwy flynedd, ond gallwch drefnu prawf unrhyw bryd os oes gennych unrhyw bryderon am eich golwg chi neu olwg eich plentyn.

I rai pobl - fel plant o dan 16 oed, neu'r rheiny dan 19 oed ac mewn addysg amser llawn - mae profion llygaid ar gael am ddim ar y GIG.

Beth sy'n digwydd yn ystod prawf llygaid

Bydd eich llygaid fel arfer yn cael eu profi gan optometrydd (rhywun sydd wedi cael hyfforddiant arbennig i archwilio'r llygaid).

Gall fod yn anodd archwilio llygaid plant ifanc, felly efallai y bydd angen eu cyfeirio at wasanaeth llygaid mewn ysbyty lleol i gael prawf llygaid, ac efallai y bydd angen iddynt gael diferion llygad i wanhau cannwyll y llygad i gael mesuriadau cywir.

Gan amlaf, bydd nifer o brofion gwahanol yn cael eu gwneud fel rhan o'ch prawf llygaid, sydd o bosibl yn cynnwys:

  • mesuriadau o'r pwysedd y tu mewn i'ch llygaid
  • archwiliadau i fesur pa mor dda y mae eich llygaid yn gweithio gyda'i gilydd
  • profion craffter gweledol - pan ofynnir i chi ddarllen oddi ar siart sydd â rhesi o lythrennau sy'n mynd yn llai ar bob llinell
  • retinosgopi - pan gaiff golau llachar ei ddisgleirio yn eich llygad i weld sut mae'r llygad yn ymateb iddo

Os bydd y profion yn darganfod problem bosibl â'ch golwg pell, efallai y gofynnir i chi ail-wneud y profion gweithgarwch gweledol tra bydd lensys o gryfder gwahanol yn cael eu gosod o flaen eich llygaid. Bydd hyn yn helpu'r optometrydd i benderfynu pa bresgripsiwn sbectol y dylech ei gael.

Deall eich presgripsiwn sbectol

Os bydd prawf llygad yn canfod eich bod yn fyr eich golwg, byddwch yn cael presgripsiwn sy'n disgrifio pa lensys sydd eu hangen arnoch i wella'ch golwg. Gellir defnyddio hyn i wneud sbectol neu lensys cyffwrdd.

Bydd eich presgripsiwn fel arfer yn cynnwys tri phrif rif ar gyfer y ddau lygad, sef:

  • Sph (sffêr) - mae rhif positif yma yn dangos eich bod yn hir eich golwg, tra bod rhif negyddol yn dangos eich bod yn fyr eich golwg
  • Cyl (silindr) - mae'r rhif hwn yn dangos p'un a oes gennych astigmatedd (lle nad oes crymedd perffaith yn nhu blaen eich llygad)
  • Axis (echel) - mae hyn yn disgrifio ongl unrhyw astigmatedd sydd gennych 

Os ydych yn fyr eich golwg, rhif y Sph sydd fwyaf perthnasol. Caiff hwn ei roi mewn mesuriad o'r enw dioptrau (D), sy'n disgrifio pa mor ddifrifol yw eich byrder golwg.

Fel arfer, ystyrir bod sgôr o -0.5D i -3D yn fyrder golwg ysgafn, tra bod sgôr sy'n fwy na -6D yn fyrder golwg difrifol neu "uchel". 

Triniaeth

Y dull mwyaf cyffredin ar gyfer cywiro byrder golwg (myopia) yw cywiro eich golwg gan ddefnyddio sbectol neu lensys cyffwrdd. Mae llawdriniaeth laser i gywiro byrder golwg yn dod yn fwyfwy poblogaidd hefyd.

Mae mewnblannu lensys artiffisial yn y llygaid yn dechneg gymharol newydd a ddefnyddir ar adegau prin iawn os nad yw llawdriniaeth laser yn bosibl, neu os yw'n aneffeithiol (er enghraifft, pobl sydd â byrder golwg difrifol).

Trafodir pob opsiwn triniaeth yn fanylach isod.

Lensys cywirol

Sbectol

Gellir cywiro byrder golwg fel arfer gan ddefnyddio sbectol sy'n cael eu gwneud yn benodol ar gyfer eich presgripsiwn.

Bydd gwisgo lens sy'n cael ei gwneud yn unol â'ch presgripsiwn yn sicrhau bod golau yn ffocysu ar gefn eich llygad (retine) yn gywir, fel nad yw pethau pell yn ymddangos mor aneglur.

Bydd trwch a phwysau'r lensys sydd eu hangen arnoch yn dibynnu pa mor fyr eich golwg ydych chi.

Mae eich golwg yn aml yn newid wrth i chi fynd yn hyn, sy'n golygu efallai y bydd angen i chi ddefnyddio dau bâr o sbectol yn y pen draw - un pâr ar gyfer gweithgareddau golwg agos, fel darllen, a'r pâr arall ar gyfer gweithgareddau golwg pell, fel gwylio'r teledu.

Mae'n well gan rai pobl ddefnyddio lensys deuffocal, sy'n galluogi iddyn nhw weld pethau sy'n agos atynt ac yn bell i ffwrdd yn glir, heb newid eu sbectol.

Gallwch gael lensys amlffocal hefyd sy'n helpu i chi weld pethau agos a phethau ar bellterau canolig a phell (sbectol amrywffocal).

Lensys cyffwrdd

Gellir defnyddio lensys cyffwrdd i gywiro'r golwg yn yr un ffordd â sbectol hefyd. Mae'n well gan rai pobl lensys cyffwrdd na sbectol gan eu bod yn ysgafn a bron yn anweladwy, ond mae rhai pobl yn gweld eu bod yn fwy o drafferth na gwisgo sbectol.

Gellir gwisgo lensys cyffwrdd bob dydd a'u gwaredu bob dydd (lensys dyddiol tafladwy), neu gellir eu diheintio a'u hailddefnyddio. Gellir eu gwisgo am gyfnod hwy hefyd, ond mae arbenigwyr llygaid yn argymell yn gyffredinol na ddylid eu gwisgo dros nos oherwydd risgiau haint.

Mae rhai optegwyr yn defnyddio techneg o'r enw orthoceratoleg yn achlysurol iawn. Mae hyn yn golygu gwisgo lens gyffwrdd galed dros nos i lyfnhau crymedd y gornbilen (haen dryloyw yn nhu blaen y llygad) er mwyn i chi allu gweld yn well heb lens neu sbectol yn ystod y dydd. Nid yw'n gwella byrder golwg, gan fod y gornbilen yn adfer i'w siâp arferol gan amlaf, ond gall leihau'r ddibyniaeth ar lensys i rai pobl.

Bydd eich optegydd yn gallu eich cynghori ar y math mwyaf addas o lensys cyffwrdd i chi. Os byddwch yn dewis gwisgo lensys cyffwrdd, mae'n bwysig iawn eich bod yn cynnal hylendid da ar y lensys er mwyn atal heintiau yn y llygaid.

I ba raddau y mae arr gael, a chost

Gallwch gael talebau tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd os ydych yn gymwys - er enghraifft, os ydych chi o dan 16 oed neu'n cael Cymhorthdal Incwm. 

Os nad ydych yn gymwys, bydd yn rhaid i chi dalu am sbectol neu lensys cyffwrdd. Gall prisiau sbectol amrywio'n sylweddol, yn dibynnu ar y ffrâm a ddewiswch. Mae sbectol sylfaenol yn dechrau tua £50, ond gall sbectol chwaethus gostio cannoedd o bunnoedd.

Bydd cost lensys cyffwrdd yn amrywio gan ddibynnu ar eich presgripsiwn a'r math o lens y byddwch yn ei dewis. Maen nhw'n gallu amrywio o £5-£10 y mis am rai lensys cyffwrdd dyddiol tafladwy, i £30 - £50 y mis am lensys cyffwrdd dyddiol tafladwy.

Llawdriniaeth laser ar y llygad

Mae llawdriniaeth laser ar y llygad yn golygu defnyddio laser i losgi rhannau bach o'ch cornbilen/cornbilennau ymaith i gywiro eu crymedd fel bod y golau'n cael ei ffocysu'n well ar eich retina.

Mae tri phrif fath o lawdriniaeth laser ar y llygad, sef: 

  • Ceratectomi Ffotoblygiannol (PRK) - bydd ychydig bach o arwyneb y gornbilen yn cael ei dynnu, a defnyddir laser i dynnu meinwe a newid siâp y gornbilen. 
  • Ceratomilewsis epithelaidd laser (LASEK) - mae'n debyg i PRK ond yn cynnwys defnyddio alcohol i ryddhau arwyneb y gornbilen, fel y gellir codi fflap o feinwe allan o'r ffordd, ond defnyddir laser i newid siâp y gornbilen, ac fe gaiff y fflap ei roi yn ôl yn ei le wedyn.
  • Ceratectomi laser yn y fan a'r lle (LASIK) - mae'n debyg i LASEK, ond caiff fflap llai o'r gornbilen ei greu.

Caiff y llawdriniaethau hyn eu rhoi fel cleifion allanol gan amlaf, felly ni fydd yn rhaid i chi aros yn yr ysbyty dros nos fel arfer. Mae'r driniaeth fel arfer yn cymryd llai na 30 munud i'w chwblhau. Defnyddir anesthetig lleol i fferru eich llygaid tra bydd y driniaeth yn cael ei rhoi.

Pa llawdriniaeth sydd orau?

Mae pob un o'r tair techneg llawdriniaeth laser ar y llygaid yn arwain at ganlyniadau tebyg, ond mae'r cyfnodau gwella yn tueddu i fod yn wahanol.

LASEK neu LASIK yw'r dulliau sy'n cael eu ffafrio fel arfer gan nad ydynt yn achosi bron unrhyw boen a bydd eich golwg fel arfer yn dechrau gwella o fewn ychydig oriau neu ddiwrnodau. Fodd bynnag, efallai na fydd eich golwg yn sefydlogi'n llwyr am hyd at fis.

Gall PPK fod ychydig yn boenus a gall gymryd sawl mis i'ch golwg sefydlogi ar ôl hynny.

Dim ond os yw eich cornbilen yn ddigon trwchus y gellir rhoi llawdriniaeth LASIK. Os yw eich cornbilen yn denau, mae gormod o risg o gymhlethdodau a sgîl-effeithiau, fel colli golwg. Efallai y bydd LASEK a PPK yn bosibl os nad yw eich cornbilen yn ddigon trwchus ar gyfer llawdriniaeth LASIK.

Mae Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr wedi cyhoeddi Patient's Guide to Refractive Laser Surgery (PDF, 364kb) ac mae hefyd yn cynnig atebion i'r cwestiynau penodol sy'n gysylltiedig â llawdriniaeth laser blygiannol (PDF, 196kb).

Gallwch hefyd ddarllen arweiniad NICE am lawdriniaeth laser ar gyfer cywiro camgymeriadau plygiannol.

Canlyniadau

Mae canlyniadau pob un o'r tair techneg yn dda fel arfer. Er ei bod yn bosibl na fydd modd gwella eich byrder golwg yn llwyr bob tro, mae tua 9 o bob 10 o bobl yn gweld gwelliant sylweddol yn eu golwg, a gall llawer ohonynt fodloni'r gofynion golwg isaf ar gyfer gyrru.

Dywed y rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael llawdriniaeth laser eu bod yn hapus â'r canlyniadau. Fodd bynnag, mae'n bwysig sylweddoli na fydd llawdriniaeth laser yn gwella'ch golwg i'r un graddau â gwisgo lensys cywirol o reidrwydd. Hefyd, fel gydag unrhyw fath o lawdriniaeth, mae risgiau o gymhlethdodau yn sgil cael llawdriniaeth laser.

Risgiau a chymhlethdodau

Mae risgiau yn sgil llawdriniaeth laser i'r llygad, gan gynnwys:

  • llygaid sych - bydd hyn fel arfer yn para ychydig fisoedd, ac yn ystod y cyfnod hwn, gallwch iro eich llygaid â diferion arbennig i'r llygaid
  • tynnu gormod o feinwe'r gornbilen - mae hyn yn digwydd mewn tuag 1 o bob 20 achos a gallai achosi i chi fod yn hir eich golwg mewn un llygad
  • llai o olwg yn y nos - mae hyn fel arfer yn dod i ben o fewn chwe wythnos
  • effaith niwl o amgylch goleuadau llachar - bydd hyn fel arfer yn dod i ben o fewn 6 i 12 mis 

Mae risg fach hefyd o gael cymhlethdodau sydd o bosibl yn ddifrifol a allai beryglu eich golwg, fel bod y gornbilen yn mynd yn rhy denau neu haint yn y gornbilen. Fodd bynnag, mae'r problemau hyn yn brin, ac yn digwydd mewn llai nag 1 o bob 500 o achosion.

Gwnewch yn siwr eich bod yn deall yr holl risgiau cysylltiedig cyn penderfynu cael llawdriniaeth laser ar eich llygad. 

Pwy yw'r rheiny na allant gael llawdriniaeth laser?

Ni ddylech gael unrhyw fath o lawdriniaeth laser os ydych chi o dan 21 oed oherwydd gallai eich golwg fod yn datblygu o hyd.

Hyd yn oed os ydych chi dros 21 oed, dylech ond cael llawdriniaeth laser os nad yw eich presgripsiynau sbectol neu lensys cyffwrdd wedi newid yn sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf neu fwy.

Efallai na fydd llawdriniaeth laser yn addas i chi:

  • os oes gennych diabetes - gall hyn achosi abnormaleddau yn y llygaid, sy'n gallu gwaethygu trwy gael llawdriniaeth laser ar y gornbilen
  • os ydych chi'n feichiog neu'n bwydo ar y fron - bydd eich corff yn cynnwys hormonau sy'n achosi ychydig o amrywiadau yn eich golwg, gan wneud llawdriniaeth fanwl gywir yn anodd
  • os oes gennych chi gyflwr sy'n effeithio ar eich system imiwnedd, fel HIV neu arthritis gwynegol - gallai'r mathau hyn o gyflyrau effeithio ar eich gallu i wella ar ôl llawdriniaeth
  • os oes gennych broblemau eraill â'ch llygaid, fel glawcoma (pwysedd cynyddol yn y llygad) neu cataractau (darnau niwlog yn lens y llygad)

Yn gyffredinol, gall llawdriniaeth laser ar y llygad fod yn effeithiol ar gyfer pobl sydd â phresgripsiwn hyd at -10D. Os yw eich byrder golwg yn fwy difrifol, efallai y bydd mewnblaniadau lens yn fwy priodol.

I ba raddau y mae ar gael, a chost

Nid yw llawdriniaeth laser ar gael trwy'r GIG fel arfer oherwydd ystyrir bod triniaethau eraill, fel sbectol neu lensys cyffwrdd, yr un mor effeithiol, os nad yn fwy effeithiol. Felly, bydd yn rhaid i chi dalu am lawdriniaeth yn breifat fel arfer.

Gall prisiau amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw yn y wlad, y clinig unigol a'r math o offer a ddefnyddir yn ystod y llawdriniaeth. Fodd bynnag, amcangyfrifir yn fras y bydd rhaid i chi dalu rhwng oddeutu £800 a £1,500 ar gyfer un llygad fel arfer.

Llawdriniaeth i fewnblannu lensys

Math cymharol newydd o lawdriniaeth ar gyfer byrder golwg yw llawdriniaeth mewnblannu lensys. Mae'n golygu mewnblannu lens artiffisial yn eich llygad trwy doriad bach yn eich cornbilen.

Caiff y lensys eu dylunio'n arbennig i helpu ffocysu golau'n gliriach ar y retina. Gallant fod yn fuddiol o ran gwella golwg pobl sydd â byrder golwg difrifol iawn neu'r rheiny sy'n ei chael yn anodd gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd.

Mae dwy brif ffordd o roi llawdriniaeth mewnblannu lensys, sef:

  • gosod mewnblaniad 'phakic', sef lens artiffisial sy'n cael ei gosod yn eich llygad heb dynnu eich lens naturiol; mae hyn fel arfer yn cael ei ffafrio ar gyfer pobl iau y mae eu golwg darllen naturiol yn normal
  • rhoi lens artiffisial yn lle'r lens naturiol - caiff y lens naturiol ei thynnu, a rhoddir lens artiffisial yn ei lle, sy'n debyg i lawdriniaeth cataract

Fel arfer, caiff y ddau fath o fewnblaniad eu gosod o dan anesthetig lleol, a byddwch fel arfer yn gallu mynd adref yr un diwrnod. Bydd y ddau lygad fel arfer yn cael eu trin ar adegau gwahanol.

Canlyniadau

Mae mewnblaniadau lens 'phakic' yn arwain at ganlyniadau gwell fel arfer, o ran gwella golwg yn yr hirdymor, na thynnu lens yn llwyr. Fodd bynnag, mae risg uwch o gymhlethdodau yn gysylltiedig â'r dechneg, fel cataractau.

At ei gilydd, bydd y rhan fwyaf o bobl yn gweld gwelliant sylweddol yn eu golwg, a gallai golwg tuag un o bob pedwar o bobl fod bron yn gyfan gwbl normal (golwg "20/20") ar ôl hynny.

Gall fod yn fwy addas rhoi lens newydd ar gyfer oedolion hyn sydd eisoes wedi cael niwed i'w llygaid, neu sydd â chyflwr llygad heblaw byrder golwg, fel cataractau neu glawcoma.

Hefyd, gan fod y ddwy dechneg yn gymharol newydd, prin yw'r wybodaeth sydd ar gael ynghylch p'un a ydynt yn ddiogel neu'n effeithiol yn yr hirdymor. 

Ailosod lens artiffisial

Mae ailosod lens artiffisial yr un fath â llawdriniaeth cataract yn ei hanfod. Yn ystod y llawdriniaeth, bydd lens artiffisial sy'n cywiro eich byrder golwg yn cael ei gosod yn lle'r lens naturiol.

Mae cyfnewid lens blygiannol yn llawdriniaeth achos dydd fel arfer, sy'n cael ei gwneud o dan anesthetig cyffredinol neu leol. Nid yw'r llawdriniaeth yn boenus. Byddwch yn gallu gweld yn glir o fewn deuddydd o gael llawdriniaeth. Bydd yr ail lygad yn cael ei drin tua saith diwrnod ar ôl y llygad cyntaf gan amlaf. 

Risg a chymhlethdodau

Fel pob llawdriniaeth feddygol, mae risg o gymhlethdodau ynghlwm â llawdriniaeth i osod mewnblaniadau lens artiffisial yn y llygaid.

Direiddiad capsiwl diweddarach (PCO) yw un o'r cymhlethdodau mwyaf cyffredin yn sgil llawdriniaeth mewnblannu lens, lle bydd rhan o'r lens artiffisial yn mynd yn drwchus a niwlog.

Mae PCO fel arfer yn digwydd ychydig fisoedd neu ychydig flynyddoedd ar ôl cael llawdriniaeth. Gall triniaeth ar gyfer PCO olygu eich bod yn cael llawdriniaeth laser i dynnu rhan drwchus y lens.

Mae cymhlethdodau posibl eraill yn sgil llawdriniaeth mewnblannu lens yn cynnwys:

  • datodiad y retina (pan fydd y retina yn dechrau tynnu oddi wrth y pibelli gwaed sy'n ei gyflenwi ag ocsigen a maetholion)
  • cataractau
  • gweld lleugylch o olau o amgylch pethau yn y nos
  • llai o olwg yn y nos
  • glawcoma

Dylech siarad â'ch meddyg neu'ch llawfeddyg am bob llawdriniaeth fel eich bod yn gwbl ymwybodol o unrhyw risgiau posibl.

I ba raddau y maent ar gael, a chost

Fel gyda llawdriniaeth laser, nid yw llawdriniaeth mewnblannu lens fel arfer ar gael trwy'r GIG. Gall y ddau fath o lawdriniaeth fod yn eithaf drud. Mae llawer o glinigau yn gosod prisiau o oddeutu £4,000 i £5,000 ar gyfer trin y ddau lygad.

A oes modd i mi rwystro byrder golwg rhag gwaethygu?

Yn anffodus, mae byrder golwg mewn plant yn tueddu i waethygu wrth iddynt dyfu.

Yr ieuengaf ydynt pan fyddant yn dechrau mynd yn fyr eu golwg, yna cyflymaf y mae eu golwg yn dirywio yn gyffredinol, ac fe aiff yn fwy difrifol pan fyddant yn oedolion. Mae byrder golwg fel arfer yn rhoi'r gorau i waethygu pan fydd rhywun oddeutu 20 oed.

Nid oes un driniaeth benodol ar gael ar hyn o bryd y mae'n ymddangos ei bod yn atal y datblygiad hwn. Fodd bynnag, gall triniaethau sy'n cynnwys diferion llygaid o feddyginiaeth o'r enw atropine, neu lensys cyffwrdd arbennig, ei arafu.

Mae ymchwil wedi dangos bod diferion llygaid atropine yn gallu arafu datblygiad byrder golwg, ond gall achosi sgîl-effeithiau ar gryfder uchel - fel anhawster darllen a sensitifrwydd i olau llachar - ac nid yw diferion cryfder isel ar gael yn fasnachol yn y DU.

Gallai orthoceratoleg a lensys cyffwrdd arafu datblygiad byrder golwg mewn plant hefyd, ond nid cymaint â'r diferion llygaid o bosibl, ac maent yn achosi risgiau bach.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/11/2021 09:44:14