Pen tost / Cur pen

Cyflwyniad

Bydd y rhan fwyaf o gur pen yn diflannu ar eu pennau eu hunain ac nid ydynt yn arwydd o rywbeth mwy difrifol.

Sut y gallwch chi leddfu cur pen eich hun

Gall cur pen bara rhwng 30 munud a sawl awr.

Gwnewch:

  • yfed digon o ddŵr
  • cael digon o orffwys os oes gennych chi annwyd neu'r ffliw
  • ceisio ymlacio - gall straen wneud cur pen yn waeth
  • cymryd paracetamol neu ibuprofen

Peidiwch:

  • ag yfed alcohol
  • â hepgor prydau bwyd (hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo fel bwyta unrhyw beth)
  • â chysgu mwy nag y byddech fel arfer - gall wneud y cur pen yn waeth
  • â rhoi straen ar eich llygaid am amser hir - er enghraifft, trwy edrych ar sgrin

Ewch i weld meddyg teulu os:

  • yw eich cur pen yn parhau i ddod yn ôl
  • nad yw poenladdwyr yn helpu ac os yw’ch cur pen yn gwaethygu
  • oes gennych boen gwael ar flaen neu ochr eich pen - gallai hyn fod yn feigryn neu, yn fwy anaml, cur pen clwstwr
  • ydych chi'n teimlo'n sâl, yn chwydu ac mae golau neu sŵn yn boenus

Mynnwch apwyntiad meddyg teulu brys neu ffoniwch GIG 111 Cymru

Os oes gennych chi neu'ch plentyn gur pen difrifol a:

  • poen yn eich gên wrth fwyta
  • golwg aneglur neu ddwbl
  • croen pen poenus
  • symptomau eraill, fel fferdod neu wendid yn y breichiau neu goesau

Hefyd, mynnwch apwyntiad meddyg teulu brys neu ffoniwch GIG 111 Cymru os yw eich plentyn o dan 12 oed ac mae ganddo unrhyw un o'r canlynol:

  • cur pen sy'n ei ddeffro yn y nos
  • cur pen pan fydd yn deffro yn y bore
  • cur pen sy'n gwaethygu'n raddol
  • cur pen sy'n cael ei achosi neu ei waethygu trwy besychu, tisian neu blygu i lawr
  • cur pen gyda chwydu
  • cur pen gyda thro llygad (lle mae'r llygaid yn pwyntio i gyfeiriadau gwahanol) neu’n methu edrych i fyny

Ffoniwch 999 neu ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys os oes gennych chi neu eich plentyn:

  • anaf pen – er enghraifft, o gwymp neu ddamwain
  • cur pen a ddechreuodd yn sydyn ac sy'n boenus iawn

Os oes gennych chi neu eich plentyn gur pen hynod o boenus a:

  • phroblemau sydyn yn siarad neu gofio pethau
  • colli golwg
  • teimlo'n gysglyd neu'n ddryslyd
  • tymheredd uchel iawn a symptomau meningitis
  • bod rhan gwyn y llygad yn goch

Ffoniwch 999 neu ewch i adran damweiniau ac achosion brys os yw eich plentyn dan 12 oed ac mae ganddo unrhyw un o'r canlynol:

  • cur pen gyda phroblemau golwg neu anhawster siarad, llyncu, cydbwyso neu gerdded
  • cur pen gyda chysgadrwydd neu ddiffyg egni parhaus
  • cur pen sy'n dechrau o fewn 5 diwrnod ar ôl anaf i'r pen

Beth all achosi cur pen

Y rhesymau mwyaf cyffredin yw:

  • annwyd neu’r ffliw
  • straen
  • yfed gormod o alcohol
  • ystum gwael
  • problemau â golwg
  • dim bwyta prydau rheolaidd
  • dim yfed digon o hylifau (dadhydradu)
  • cymryd gormod o boenladdwyr
  • menywod yn cael eu mislif neu’r menopos

Mathau o gur pen

Mae mwy nag un math o gur pen a chewch fwy o wybodaeth trwy ymweld â'r pynciau canlynol:

 

Mathau o ben tost



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 27/09/2023 15:58:32