Syndrom coluddyn llidus

Cyflwyniad

Mae syndrom coluddyn llidus (IBS) yn gyflwr cyffredin tymor hir yn y system dreulio, a gall achosi pyliau o grampiau stumog, llawnder, dolur rhydd a/neu rwymedd.

Mae symptomau IBS fel arfer yn dechrau am y tro cyntaf pan fydd rhywun rhwng 20 a 30 oed. Maent yn tueddu i fynd a dod mewn pyliau, yn aml yn ystod cyfnodau o straen neu ar ôl bwyta bwydydd penodol.

Gall y symptomau amrywio o un unigolyn i'r llall a bod yn waeth ymhlith rhai pobl na phobl eraill. Ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael naill ai dolur rhydd neu rhwymedd neu byliau o'r ddau. Gall fod mwcws yn eich carthion hefyd.

Gallwch chi brofi bod crampiau poenus IBS yn lleddfu ar ôl i chi fynd i'r toiled i agor eich coluddyn.

Beth yw achos IBS?

Ni wyr beth yw union achos IBS, ond mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn cytuno bod cysylltiad rhyngddo â chynnydd yn sensitifrwydd y perfedd ar ei hyd, a gall hyn weithiau gael ei gysylltu â salwch blaenorol oedd yn tarddu o fwyd.

Gall hyn gael ei achosi gan newid yng ngallu eich corff i symud bwyd trwy'r system treulio, neu fe all fod oherwydd eich bod wedi dod yn fwy sensitif i boen o'ch perfedd.

Fe all ffactorau seicolegol megis straen chwarae rhan hefyd yn IBS.

Darllenwch ragor am achosion IBS.

Pryd i fynd at eich meddyg teulu

Ewch at eich meddyg teulu os credwch fod gennych chi symptomau IBS, er mwyn iddo allu ceisio darganfod beth sy'n ei achosi.

Trin IBS

Nid oes gwellhad ar gyfer IBS, ond gellir rheoli'ch symptomau trwy newid eich diet a'ch ffordd o fyw.

Er enghraifft, fe allai'r canlynol helpu:

  • adnabod ac osgoi bwydydd neu ddiodydd sy'n sbarduno eich symptomau
  • newid faint o ffeibr sydd yn eich deiet
  • ymarfer corff yn rheolaidd
  • lleihau eich lefelau straen

Weithiau gellir rhagnodi meddyginiaeth ar gyfer IBS. Mewn llawer o achosion, gall derbyn sicrwydd gan eich meddyg teulu helpu i reoli symptomau IBS.

Byw gydag IBS

Weithiau, fe all poen, anghysur ac anghyfleustra IBS effeithio ar bobl yn seicolegol.

Amcangyfrifir y bydd tri o bob pedwar o bobl ag arnynt IBS yn dioddef o leiaf un pwl o iselder, a bydd ychydig dros eu hanner yn datblygu anhwylder gorbryder cyffredinol (cyflwr sy'n gallu achosi teimladau llethol o orbryder, ofn ac arswyd).

Siaradwch â'ch meddyg teulu os profwch chi deimladau o iselder neu orbryder sy'n effeithio ar eich bywyd pob dydd.

Prin y bydd cyflyrau o'r mathau hyn yn gwella heb driniaeth, a bydd eich meddyg teulu'n gallu argymell triniaethau fel gwrthiselyddion neu therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).

Gyda thriniaeth feddygol a seicolegol briodol, dylech allu byw bywyd arferol, llawn ac actif gydag IBS.

Symptomau

Mae symptomau IBS fel arfer yn waeth ar ôl bwyta ac yn tueddu i fynd a dod mewn pyliau.

Bydd symptomau'r rhan fwyaf o bobl yn ymddangos yn sydyn, gan bara am ddau i bedwar diwrnod. Wedyn, bydd y symptomau fel arfer yn gwella ond ni fyddant yn diflannu'n llwyr.

Mewn rhai pobl, mae'n ymddangos bod y symptomau'n cael eu sbarduno gan rywbeth y maent wedi'i fwyta neu ei yfed.

Dyma symptomau mwyaf cyffredin IBS:

  • poen a chrampiau yn yr abdomen sy'n aml yn cael eu lleddfu drwy wacáu’ch coluddyn
  • newid yn arferion eich coluddyn, fel dolur rhydd, rhwymedd, neu weithiau'r ddau
  • llawnder a chwyddo yn eich abdomen
  • gwynt gormodol
  • angen mynd i'r toiled ar frys
  • teimlad bod angen i chi agor eich coluddyn hyd yn oed os ydych chi newydd fod i'r toiled
  • teimlad nad ydych chi wedi gwacáu'ch coluddyn yn llwyr
  • pasio mwcws o dwll eich pen ôl

Symptomau'r coluddyn

Mae tri phrif batrwm o symptomau'r coluddyn mewn IBS, sef:

  • IBS gyda dolur rhydd - pan fyddwch yn cael pyliau o ddolur rhydd dro ar ôl tro
  • IBS gyda rhwymedd - pan fyddwch yn cael pyliau o rwymedd dro ar ôl tro
  • IBS cymysg - pan fyddwch yn cael pyliau o ddolur rhydd a rhwymedd dro ar ôl tro

Mae'r patrymau hyn yn gyfnewidiol. Gallwch newid o un i'r llall a chael nifer fach o symptomau, neu ddim symptomau o gwbl, am gyfnodau hir.

Problemau ychwanegol

Yn ogystal â'r prif symptomau a ddisgrifir uchod, mae rhai pobl ag IBS yn profi nifer o broblemau eraill. Gall y rhain gynnwys:

  • diffyg egni (syrthni)
  • teimlo'n gyfoglyd
  • poen cefn
  • problemau â'r bledren (fel angen deffro yn ystod y nos i basio dwr, angen pasio dwr ar frys a thrafferth gwacáu'r bledren yn llawn)
  • poen yn ystod rhyw (dysparewnia)
  • anymataliaeth

Mae symptomau IBS yn gallu cael effaith sylweddol ar fywyd pob dydd unigolyn, yn ogystal ag effaith seicolegol ddofn. O ganlyniad, mae llawer o bobl sydd â'r cyflwr yn profi teimladau o iselder a phryder.

Pryd i fynd at eich meddyg teulu

Dylech fynd at eich meddyg teulu os credwch fod gennych chi symptomau IBS, er mwyn iddo allu ceisio canfod yr hyn sy'n ei achosi.

Yn aml, bydd yn gwneud hyn trwy holi ynglyn â'ch symptomau, er y bydd angen gwneud profion eraill weithiau i ddiystyru cyflyrau eraill.

Dylech fynd at eich meddyg teulu hefyd os ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n isel. Go brin y bydd y problemau hyn yn gwella heb driniaeth ac fe allent waethygu eich symptomau IBS.

Os oes gennych chi symptomau eraill - gan gynnwys colli pwysau heb esboniad, chwydd neu lwmp yn eich stumog neu dwll eich pen ôl, gwaedu o dwll eich pen ôl, neu arwyddion anemia - dylech fynd at eich meddyg teulu ar unwaith, oherwydd fe allai'r rhain fod yn arwydd o gyflwr mwy difrifol weithiau.

 

Diagnosis

Nid oes profion penodol ar gyfer IBS, gan nad yw'n achosi unrhyw annormaledd amlwg a chanfyddadwy yn eich system dreulio.

Os oes arnoch chi symptomau IBS, ni fydd eich meddyg teulu'n gorfod trefnu profion gwaed bob tro er mwyn rhoi diagnosis i chi.

Bydd eich meddyg teulu'n ystyried eich asesu ar gyfer IBS os ydych chi wedi cael unrhyw un o'r symptomau canlynol am o leiaf chwe mis.

  • poen neu anghysur abdomenol (stumog)
  • llawnder
  • newid yn arferion eich coluddyn - fel mynd i'r toiled yn amlach, dolur rhydd a/neu rwymedd

Yna, bydd diagnosis o IBS yn cael ei ystyried os ydych chi'n cael poen neu anghysur yn y stumog sydd naill ai'n cael ei leddfu trwy fynd i'r toiled, neu sy'n gysylltiedig ag angen mynd i'r toiled yn aml neu newid o ran ansawdd eich carthion.

Dylai'r ffaith fod arnoch chi o leiaf ddau o'r symptomau canlynol gadarnhau bod IBS arnoch:

  • newid yn y ffordd yr ydych yn mynd i'r toiled, fel yr angen i straenio, teimlo bod angen mynd i'r toiled ar frys neu deimlo nad ydych wedi gwacáu'ch coluddyn yn iawn
  • teimlad o lawnder, caledwch neu densiwn yn eich abdomen
  • bod eich symptomau'n gwaethygu ar ôl bwyta
  • eich bod yn pasio mwcws o dwll eich pen ôl

Diystyru cyflyrau eraill

Gellir gwneud diagnosis o lawer o achosion o IBS yn seiliedig ar eich symptomau ar eu pennau eu hunain, er y bydd angen gwneud profion ychwanegol weithiau i wirio am achosion eraill posibl.

Er enghraifft, gallai eich meddyg teulu drefnu profion gwaed i ddiystyru cyflyrau eraill sy'n achosi symptomau tebyg, fel haint neu glefyd seliag(cyflwr y system dreulio lle mae unigolyn yn cael adwaith niweidiol i lwten).

Yn aml, bydd sampl o'ch carthion yn cael ei phrofi hefyd am bresenoldeb sylwedd o'r enw calprotectin. Caiff y sylwedd hwn ei gynhyrchu gan y perfedd pan fydd yn llidus, a gallai ei bresenoldeb yn eich carthion olygu bod eich symptomau'n cael eu hachosi gan glefyd llid y coluddyn (IBD).

Mwy o brofion

Ni fydd angen mwy o brofion fel arfer heblaw pan fydd gennych rai symptomau 'baner goch' sy'n awgrymu efallai bod cyflwr arall mwy difrifol nag IBS arnoch chi. Mae'r symptomau hyn yn cynnwys:

  • colli pwysau heb reswm,
  • chwyddo neu lwmp yn eich abdomen neu dwll eich pen ôl
  • gwaedu o dwll eich pen ôl
  • anemia (diffyg celloedd coch y gwaed)

Efallai y caiff mwy o brofion eu hargymell hefyd os bydd gennych hanes teuluol o canser y coluddyn neu canser yr ofarïau, neu os ydych dros 60 oed ac wedi gweld newid yn y ffordd y mae'ch coluddyn yn gweithio, sydd wedi para am fwy na chwe wythnos.

Yn yr achosion hyn, gallai eich meddyg argymell cael colonosgopi i wirio am annormaleddau yn eich perfedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich rectwm a'ch coluddyn mawr (colon) yn cael eu harchwilio gan ddefnyddio endosgop, sy'n cael ei roi i mewn i'ch rectwm.

Ffordd o fyw

Cael help



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 13/10/2023 14:28:45