Cyflwyniad

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Disgrifiad o'r Gwasanaeth

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Sut yw ddefnyddio?

Meddygon teulu a chwnsela

Os ydych yn pryderu am eich iechyd meddwl, dylech fynd i weld eich meddyg teulu yn gyntaf. Gall meddygon teulu, ar y cyd â chwnselwyr, drin rhai cyflyrau iechyd meddwl llai cymhleth, fel iselder ysgafn i gymedrol, gorbryder a rhai anhwylderau bwyta, yn llwyddiannus.

Bydd eich meddyg teulu'n gallu rhoi unrhyw feddyginiaethau sydd eu hangen i helpu gyda'ch symptomau i chi ar bresgripsiwn, a'ch cyfeirio at gwnselydd hefyd.

Math mwyfwy poblogaidd o therapi ar gyfer ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl yw therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).

Mae CBT yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod y rhan fwyaf o batrymau meddwl di-eisiau, ac ymatebion emosiynol ac ymddygiadol, yn cael eu dysgu dros gyfnod hir. Y nod yw nodi'r meddwl di-fudd sy'n achosi'r teimladau a'r ymddygiadau di-eisiau ac yna dysgu newid y meddwl hwn am feddwl mwy realistig a chytbwys.

Gall cwrs o therapi CBT bara rhwng 5 ac 20 sesiwn wythnosol, gyda phob sesiwn yn para rhwng 30 a 60 munud.

Mae nifer o raglenni meddalwedd rhyngweithiol ar gael erbyn hyn sy'n dyblygu rhai o swyddogaethau therapyddion CBT. Un enghraifft yw'r rhaglen 'Beating the blues', sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol ar gyfer trin iselder, gorbryder a phobïau.

Dyma ganllaw byr i helpu pobl ifanc i baratoi i siarad â'u meddyg teulu am hunan-niweidio a phrofiadau hunanladdol.

Dull Cynllun Gofal (CPA)

Os oes gennych gyflwr iechyd meddwl mwy difrifol sy'n gofyn am fynediad i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, byddwch yn cael eich cyflwyno i broses driniaeth sy'n cael ei galw'n Ddull Cynllun Gofal (CPA). Mae CPA i bob diben yn ffordd o sicrhau eich bod yn cael y driniaeth bwrpasol gywir ar gyfer eich anghenion.

Mae pedwar cam yn perthyn i CPA:

  • asesiad - lle caiff eich anghenion iechyd a chymdeithasol eu hasesu,
  • cynllun gofal - caiff cynllun gofal ei greu er mwyn bodloni eich anghenion iechyd a chymdeithasol,
  • penodi cydlynydd gofal - cydlynydd gofal (fe'i gelwir weithiau'n weithiwr allweddol) fydd eich pwynt cyswllt cyntaf a bydd yn monitro'ch gofal, ac
  • adolygiad - caiff eich triniaeth ei hadolygu'n rheolaidd, ac os oes angen, gellir cytuno ar newidiadau i'r cynllun gofal.

Asesiad

Diben asesiad yw adeiladu darlun cywir o'ch anghenion. Gan fod gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau gwahanol yn cynnig ystod o wasanaethau, mae'n debygol y cynhelir eich asesiad gan fwy nag un o bobl. Er enghraifft, gall gweithiwr cymdeithasol, seicolegydd a'ch meddyg teulu gymryd rhan yn eich asesiad.

Yn ystod asesiad, bydd y pwyntiau canlynol yn cael eu hasesu:

  • eich symptomau a'ch profiadau seiciatrig,
  • eich meddyliau a'ch ymddygiad seicolegol,
  • eich iechyd a'ch lles corfforol,
  • eich amgylchiadau o ran tai ac arian,
  • eich anghenion cyflogaeth a hyfforddiant,
  • a oes gennych hanes o ddefnyddio cyffuriau neu alcohol,
  • a ydych yn peri risg i chi'ch hun neu i eraill,
  • eich diwylliant a'ch cefndir ethnig,
  • eich rhyw a'ch rhywioldeb,
  • a oes unrhyw un gennych sy'n dibynnu arnoch, fel plentyn neu berthynas oedrannus, ac
  • eich gobeithion a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Cynllun gofal

Ar ei ffurf fwyaf sylfaenol, cynllun gofal yw'r hyn y mae pobl neu asiantaethau gwahanol yn cytuno i'w wneud mewn ymateb i'ch angen asesedig. Mae hefyd yn cynnig cofnod o'ch cynnydd.

Caiff y cynllun gofal ei lunio er eich budd chi, nid er budd y gwasanaeth iechyd meddwl, felly cewch eich annog i gyfrannu'ch dymuniadau a'ch canlyniad dymunol eich hun i'r cynllun.

Fel rhan o'r cynllun, mae'n bosibl y byddwch yn dymuno ystyried pa gamau yr hoffech iddynt gael eu cymryd yn achos argyfwng seiciatrig yn y dyfodol, fel pwy sydd angen cysylltu â nhw, lle'r hoffech gael eich trin a pha gymorth y byddai ei angen ar bobl sydd yn eich gofal ar hyn o bryd, fel eich plant.

Cydlynydd gofal

Bydd eich cydlynydd gofal yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf rhyngoch chi a'r gweithwyr iechyd proffesiynol amrywiol sy'n gysylltiedig â'ch triniaeth. Byddant hefyd yn gallu esbonio sut mae'r gwasanaethau gwahanol yn ymateb i'ch anghenion gwahanol, ac ar yr un pryd yn cyfleu unrhyw bryderon neu gwestiynau posibl sydd gennych i'r unigolyn priodol.

Yn ddelfrydol, dylai eich cydlynydd gofal fod yn unigolyn yr ydych yn teimlo'n gyfforddus yn siarad ag ef ac yn treulio amser gydag ef, a gall fod yn weithiwr cymdeithasol, yn therapydd galwedigaethol, neu'n nyrs iechyd meddwl gymunedol.

Er bod gennych, efallai, rywfaint o ddewis ynghylch pwy a ddaw'n gydlynydd gofal i chi, efallai na fydd hyn yn bosibl ym mhob achos.

Adolygiadau

Oherwydd y gall eich anghenion personol newid gydag amser, mae'n bwysig bod eich triniaeth yn cael ei hadolygu'n rheolaidd.

Yn ystod adolygiad, byddwch chi, eich cydlynydd gofal, a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'ch gofal yn cyfarfod i drafod eich cynnydd ac i drafod a oes angen newid eich cynllun gofal er mwyn bodloni'ch anghenion yn well.

Efallai y bydd modd cynnal adolygiad yn eich cartref chi, neu mewn man niwtral, fel canolfan gymunedol.

Gallwch ddod â ffrind neu berthynas i adolygiad i'ch cefnogi os ydych yn dymuno gwneud.

Mae'n well gan rai pobl ddod ag eiriolydd i'w hadolygiad. Mae eiriolydd yn unigolyn a fydd yn cynrychioli'ch barn a'ch buddiannau yn ystod y broses adolygu.

Gall eiriolwyr fod yn wirfoddol, er enghraifft gweithwyr gydag elusennau iechyd meddwl, neu'n broffesiynol, fel cyfreithwyr. Dylai eich cydlynydd gofal allu dweud wrthoch chi pa wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael yn eich ardal leol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/01/2022 10:10:31