Briw’r geg

Trosolwg

Mouth ulcer
Mouth ulcer

Os oes gennych friw'r geg sy'n para mwy na thair wythnos, ffoniwch eich deintyddfa i gael cyngor.

Beth yw briwiau'r geg?

Mae briwiau'r geg yn friwiau poenus yn leinin y geg. Mae rhai pobl yn cael briwiau'r geg yn ystod cyfnodau o straen. 

Mae briwiau'r geg yn gyffredin a dylent ddiflannu ar eu pen eu hunain o fewn ychydig wythnosau. Anaml iawn y maen nhw'n arwydd o unrhyw beth difrifol, ond gallant fod yn anghyfforddus.

Hunanofal ar gyfer briwiau'r geg 

Osgowch bethau sy'n llidio'r briw yn eich ceg er mwyn lleihau'r anghysur wrth aros i'r briw wella.

Rhowch gynnig ar y canlynol:

  • osgowch fwyta bwydydd sbeislyd, hallt neu asidig 
  • osgowch fwyta bwyd garw a chreisionllyd, fel tost neu greision
  • defnyddiwch frws dannedd gyda blew meddal wrth frwsio eich dannedd 
  • yfwch ddiodydd oer trwy welltyn 
  • bwytewch fwydydd meddal 
  • osgowch yfed diodydd poeth neu asidig, fel sudd ffrwythau 
  • ceisiwch ddefnyddio past dannedd heb sodiwm lawryl sylffad (SLS)

Gall fferyllydd helpu gyda briwiau'r geg.

Mae briwiau'r geg yn un o'r cyflyrau sy'n rhan o'r Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sy'n wasanaeth y GIG y gall cleifion ei ddefnyddio i gael cyngor a thriniaeth am ddim, ac mae ar gael o 99% o fferyllfeydd yng Nghymru. 

Chwiliwch am eich fferyllfa agosaf yma.

Cewch fwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma.

Gall fferyllwyr argymell triniaethau sy'n cyflymu gwellhad, yn atal haint neu'n lleihau poen, fel:

  • cegolch gwrthficrobaidd 
  • cegolch, geliau neu chwistrellau lladd poen 
  • losin corticosteroid 

Gallwch brynu'r rhain heb bresgripsiwn, ond ni fyddant bob amser yn gweithio.

Os yw'r briw yn eich ceg yn para mwy na thair wythnos, ffoniwch eich deintyddfa am gyngor. 

Mewn achosion prin, gall briwiau'r geg sydd ddim yn gwella fod yn arwydd o ganser y geg. Dylech ffonio eich deintyddfa neu eich meddyg teulu os bydd briw wedi bod yn bresennol am dair wythnos neu fwy.

Os nad oes gennych ddeintydd, ffoniwch y llinell cymorth deintyddol briodol ar gyfer eich ardal.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 06/03/2024 11:31:04