Gall chwyddo'r wyneb neu chwyddo yn y geg fod yn arwydd o haint, yn enwedig os oes gwres a chochni yn yr ardal.
Ewch i'ch Uned Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) os byddwch chi'n datblygu chwydd ar yr wyneb sydd:
- yn ei gwneud hi'n anodd anadlu neu lyncu
- yn ymestyn tuag at eich llygad
- yn eich atal rhag agor eich ceg yn llawn
Gall unrhyw un sydd â haint gael sepsis. Mae sepsis yn adwaith sy'n bygwth bywyd a gall fod yn anodd ei adnabod. Os ydych chi'n poeni am sepsis, dilynwch y cyngor ar y dudalen hon: sepsis.
Ar gyfer chwyddiadau eraill yr wyneb, ffoniwch eich deintyddfa. Os nad oes gennych ddeintydd rheolaidd, ffoniwch y llinell cymorth deintyddol ar gyfer eich ardal.
Crawniad deintyddol
Gall chwydd y tu mewn i'ch ceg fod yn arwydd o grawniad deintyddol, sy'n cael ei achosi gan haint o ddant neu o'r deintgig. Gallai un neu fwy o'r symptomau canlynol fod arnoch, hefyd:
- poen gwyniog dwys a all ddechrau'n sydyn a gwaethygu
- poen sy'n lledaenu i'ch clust, eich safn a'ch gwddf
- poen sy'n waeth pan fyddwch chi'n gorwedd, a all darfu ar eich cwsg
- cochni a chwyddo yn eich wyneb
- dant tyner, sydd wedi afliwio neu sy'n rhydd
- deintgig sgleiniog, coch a chwyddedig
- sensitifrwydd i fwyd a diod oer neu boeth
- anadl ddrwg neu flas annymunol yn eich ceg
Os bydd yr haint o grawniad deintyddol yn lledaenu, gallech ei weld neu ei deimlo'n chwyddo ar eich wyneb a/neu eich gwddf. Gallech ddatblygu tymheredd uchel (twymyn) hefyd a theimlo'n anhwylus yn gyffredinol.
Os yw chwyddo i'ch wyneb yn achosi pryder (ond nid yw'n effeithio ar eich gallu i anadlu, llyncu nac ar eich llygad), ffoniwch eich deintyddfa. Os bydd hi tu allan i oriau agor arferol, dylai fod neges gyda manylion am sut i gael gafael ar driniaeth ddeintyddol y tu allan i oriau.
Os nad oes gennych ddeintydd rheolaidd, ffoniwch rif llinell cymorth deintyddol ardal eich Bwrdd Iechyd.
Tra byddwch chi'n aros
Tra byddwch chi'n aros am gyngor neu i weld deintydd, gall poenleddfwyr fel parasetamol neu Ibuprofen helpu i reoli unrhyw boen. Dilynwch gyfarwyddiadau'r dos ar y pecyn.
Ni ddylai aspirin gael ei roi i blant o dan 16 oed.
Gallai'r canlynol helpu hefyd:
- osgowch fwyd a diod oer neu boeth os bydd yn gwaethygu'r poen
- bwytewch fwydydd meddal, llugoer gan ddefnyddio ochr arall eich ceg
- defnyddiwch frws dannedd meddal
Triniaeth ar gyfer crawniad deintyddol
Caiff crawniadau deintyddol eu trin trwy ddileu ffynhonnell yr haint.
Nid yw gwrthfiotigau'n cael eu rhoi fel mater o drefn ar gyfer crawniadau deintyddol, ond gallant gael eu rhoi os bydd arwydd o haint yn lledaenu.
Yn dibynnu ar leoliad y crawniad a pha mor ddifrifol yw'r haint, dyma'r opsiynau y gallai eich gweithiwr deintyddol proffesiynol eu cynnig i chi:
- tynnu'r dant perthnasol
- torri a draenio - gwneir toriad byr i'r deintgig i ddraenio'r crawniad. Ateb dros dro fydd hyn fel arfer a bydd angen triniaeth bellach
- triniaeth i sianel y gwreiddyn
Fel arfer, bydd anesthetig lleol yn cael ei ddefnyddio i fferru'ch ceg ar gyfer y triniaethau hyn.