Cyflwyniad
Gweithdfrefn feddygol a ddefnyddir i wagio a chasglu wrin o'r bledren yw cathetreiddio wrinol.
Mae tiwb tenau a hyblyg, a elwir yn gathetr, yn cael ei roi i mewn i'r corff. Gwneir hyn gan amlaf ar hyd y tiwb y mae wrin yn llifo trwyddo (yr wthethra) neu drwy dwll yn yr abdomen. Caiff y cathetr wedyn ei dywys i mewn i'r bledren gan adael i wrin lifo trwyddo ac i mewn i fag draenio.
Ei ddiben
Mae modd defnyddio cathetr wrinol am gyfnod byr neu gyfnod hir.
Hwyrach y bydd ei angen i dynnu wrin o'r bledren am gyfnod byr:
- os oes rhywbeth yn atal rhywun rhag gwagio eu pledren yn y ffordd arferol (er enghraifft, os oes cerrig yn y bledren yn rhwystro'r wrethra)
- er mwyn paratoi ar gyfer rhyw fath o lawdriniaeth, fel hysterectomi
- er mwyn monitro faint o wrin a gynhyrchir gan rywun sy'n anymwybodol neu'n dod at eu hunain ar ôl cael llawdriniaeth
Hwyrach y bydd angen cathetr wrinol am gyfnod hir:
- i dynnu wrin o'r bledren os nad yw'r unigolyn yn gallu rheoli eu pledren o ganlyniad i niwed nerfol (fe'i gelwir yn bledren niwrobathig)
- er mwyn trin anymataliad wrinol (colli rheolaeth ar y bledren) nad yw'n ymateb i driniaethau eraill
Os oes angen cathetr am gyfnod hir, hwyrach y caiff yr unigolyn ei hyfforddi sut i ddefnyddio'r cathetr yn eu cartref eu hunain. Hunan-gathetreiddio yw'r enw ar hwn.
Cewch wybod mwy yn pam y gallai fod angen cathetreiddio wrinol arnoch.
Mathau o gathetryddion
Mae dau brif fath o gathetr:
- cathetr ysbeidiol, lle mae'r cathetr yn cael ei roi yn y bledren dros dro a'i dynnu wedi i'r bledren wagio
- cathetr ymbreswyliol, lle mae'r cathetr yn aros yn yr un lle am ddyddiau neu wythnosau lawer
Cathetr ymbreswyliol sydd orau gan y rhan fwyaf o bobl gan ei fod yn llawer mwy hwylus ac yn achosi llai o boen na chathetr ysbeidiol.
Fodd bynnag, rhaid defnyddio cathetr ysbeidiol os oes angen cathetr am gyfnod hir oherwydd mae'r perygl y bydd y cathetr yn achosi haint yn cynyddu po hired y mae yn y corff.
Cewch wybod mwy yn sut y cynhelir proses gathetreiddio
Risgiau
Y prif anfantais sy'n gysylltiedig â chathetr wrinol yw bod yr offer yn gallu gadael bacteria i mewn i'r corff o bryd i'w gilydd. Gall hyn achosi haint yn yr wthera, y bledren ac, yn llai cyffredin, yr arennau. Gyda'i gilydd, heintiau'r llwybr wrinol.
Oherwydd y risg gymharol uchel o haint, dim ond pan nad oes ffordd arall o wagio'r bledren y dylid defnyddio cathetr wrinol.
Cewch wybod mwy yn risgiau cathetreiddio.
Risgiau
Er gwaethaf y safonau hylendid uchel yn y rhan fwyaf o ysbytai modern, mae tua un o bob deg o bobl sy’n cael eu cathetreiddio yn cael haint y llwybr wrinol (UTI).
Mae'r perygl o gael haint yn cynyddu os bydd eich cathetr yn cael ei adael yn ei le’n barhaus (cathetr ymbreswyiol) neu os ydych yn cathetreiddio’ch hun.
Os ydych chi’n hunan-gathetreiddio mae’n bwysig bod eich tîm gofal yn rhoi hyfforddiant trylwyr i chi am sut i ddefnyddio'r cathetr ac am y mesurau hylendid cywir.
Dyma rai o symptomau haint yn y llwybr wrinol:
- poen wrth droethi
- newid yn eich patrwm troethi arferol, fel gorfod troethi'n llawer mwy nag arfer
- troeth hynod ddrewllyd a chymylog
- symptomau cyffredionol haint, fel tymheredd uchel o 38C (100.4F) neu uwch
- taflu i fyny
Cewch wybod mwy yn symptomau haint y llwybr wrinol.
Cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl os ydych yn meddwl fod gennych haint y llwybr wrinol.
Gall gwrthfiotogau gael eu rhagnodi er mwyn atal haint y llwybr wrinol os oes angen cathetreiddio wrinol hirdymor arnoch chi.
Risgiau eraill
Dyma rai o'r risgiau eraill sy'n gysylltiedig â defnyddio cathetr wrinol:
- anaf i’r wrethra o ganlyniad i beidio â gosod y cathetr yn ofalus
- culhau’r wrethra oherwydd meinwe craith o ganlyniad i osod cathetr
- anaf i’r bledren o ganlyniad i osod y cathetr yn anghywir
- cerrig y bledren, ond dim ond ar ôl rhai blynyddoedd o gathetreiddio y gwelir y rhain fel arfer.