Deuddeg Niwrnod Nadolig

Wrth i'r Nadolig agosáu, mae'n hawdd cael eich lapio a'ch gorlethu mewn pethau eraill. Sut bynnag rydyn ni i gyd yn gwybod, eich iechyd chi ac iechyd eich teulu yw'r peth pwysicaf.

Mae ein 12 cam i'r Nadolig yn rhoi awgrymiadau ar sut i gael Nadolig iach a hapus.

Cam 1 : Mae'n dda siarad

Mae 2020 wedi profi i fod yn gyfnod heriol ac emosiynol iawn i ni i gyd. Gyda salwch meddwl yn effeithio ar 1:4 ohonom, gall misoedd y gaeaf fod yn arbennig o heriol.

Gydag arolygon yn dangos pryder yn parhau i fod yn uchel, mae'n bwysig gwybod pa gymorth sydd ar gael.

Mae SilverCloud yn gwrs ar-lein am ddim sy'n cynnig cefnogaeth ar gyfer pryder, iselder ysbryd, a llawer mwy, i gyd yn seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn gofrestru.

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ei chael hi'n anodd ac y byddai'n well gennych chi siarad â rhywun, mae yna lawer o linellau cymorth allan yna sydd i wrando:

Llinell Gymorth Genedlaethol y Groes Goch Brydeinig - Ar agor 10am i 6pm 7 diwrnod yr wythnos ar 0808 1963651.

Llinell Wrando Iechyd Meddwl CALL - Ar agor 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac ystod o wybodaeth ar-lein. Ffoniwch 0800132737, tecstiwch 'help' i 81066 neu ewch i callhelpline.org.uk.    

Samariaid - Ar gael 24/7. Beth bynnag rydych chi'n mynd drwyddo, bydd Samariad yn ei wynebu gyda chi. Ffoniwch am ddim ar 116 123 neu e-bostiwch: jo@samaritans.org

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn- Ar gael 24/7. Mae'n darparu help a chyngor i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig neu'n adnabod rhywun sydd angen help. Ffoniwch 0808 80 10 800. Testun 0786007733 neu e-bostiwch info@livefearfreehelpline.wales

I gael mwy o wybodaeth am iechyd meddwl a chyflyrau cysylltiedig eraill.

 

Cam 2: Sicrhewch eich brechlyn ffliw

I rai pobl gall ffliw fod yn ddifrifol iawn. Y brechlyn ffliw yw'r ffordd orau i'ch amddiffyn chi a'ch teulu rhag y ffliw.

Mae'r brechlyn ffliw am ddim i bawb sy'n gymwys i'w gael. I ddarganfod a allwch chi gael y brechlyn ffliw neu i gael mwy o wybodaeth am y ffliw ymwelwch â GIG 111 Cymru.

Cam 3: Cadwch chi a'ch teulu yn ddiogel

Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddilyn canllawiau'r Llywodraeth i atal Coronafeirws rhag lledaenu. Cofiwch:

  • Cyfyngu faint o wahanol bobl rydych chi'n cwrdd
  • Cynnal pellter cymdeithasol
  • Golchwch eich dwylo yn rheolaidd
  • Gweithio gartref os gallwch chi
  • Cofiwch wisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do. Mae hyn yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, ac mewn lleoedd lle mae bwyd a diod yn cael ei weini, heblaw pan fyddwch chi'n eistedd i fwyta neu yfed.

I gael gwybodaeth am hunan-ynysu, olrhain profion ac amddiffyn a mwy, ymwelwch â Coronafeirws. Gwybodaeth ar gael mewn Hawdd ei Ddarllen, BSL ac ieithoedd eraill.

I ddarganfod beth i'w wneud os credwch fod gennych symptomau, ymwelwch â gwiriwr symptomau coronafeirws.

Cam 4: Stociwch i fyny

Mae hi bob amser yn ddoeth i fod yn barod am salwch neu anaf mân. Ein cyngor bob amser yw cadw cabinet meddygaeth â stoc dda a phecyn cymorth cyntaf gartref.

Os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddigon i'ch gweld chi trwy cyfnod y Nadolig.

Cam 5: Help pryd mae angen

Os oes angen i chi gysylltu â'ch meddyg teulu neu ddeintydd, y tu allan i oriau, cysylltwch â'ch meddygfa arferol neu rif practis deintyddol a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y gwasanaeth negeseuon.

Ar gyfer Fferyllfeydd sydd ar agor dros gyfnod y Nadolig, ymwelwch â 111 Cymru. Fel arall, ffoniwch 111 (neu 0845 46 47 os nad yw ar gael yn eich ardal chi). Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw, ymwelwch â'n hadran Cysylltu â Ni am ragor o wybodaeth.

Cam 6: Gofalwyr

Fel gofalwr mae angen i chi fod yn barod rhag ofn y byddwch chi'n sâl neu'n cael argyfwng. Pwy fydd yn barod i'ch gwarchod chi mewn argyfwng?

Mae'n bwysig bod gennych chi gynlluniau ar waith, felly rydyn ni'n gwybod pwy fydd yn gofalu am y person rydych chi'n gofalu amdano. I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau gofal brys, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu Carers UK. Mae gwybodaeth i ofalwyr a gofalu am rywun hefyd ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.

Cam 7: 999 ar gyfer argyfyngau sy'n peryglu bywyd

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweithio'n galed 24/7 i ofalu am y rhai mewn argyfyngau sy'n peryglu bywyd.

Os nad yw'ch cyflwr yn ddifrifol, gofynnwch am gyngor gan ddarparwyr gofal iechyd eraill fel eich meddyg teulu, fferyllfa neu ewch ar-lein GIG 111 Cymru.

Cofiwch nad tacsi yw ambiwlans.

Darllenwch am rai galwadau amhridiol rydyn wedi derbyn yma.

Cam 8: Gofalwch am eich iechyd chi a'ch teulu

Gall bwyta'n dda, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd a hylendid dwylo da helpu i gadw afiechydon i ffwrdd. I ddarganfod mwy, ymwelwch â'n hadran Byw'n Iach.

Cam 9: Yn teimlo'n sâl?

Os ydych chi neu aelod o'r teulu'n teimlo'n sâl, mae ein gwiriwr symptomau ar-lein GIG 111 Cymru yna i helpu.

Bydd y gwirwyr symptomau yn dweud wrthych ble y dylech fynd am help neu'n rhoi gwybodaeth i chi am hunanofal os gallwch edrych ar ôl eich hun gartref.

Mae ein gwirwyr symptomau yn cynnwys: Coronafeirws/COVID-19, cwympiadau, poen yn y frest, anawsterau anadlu, chwydu, dolur rhydd, annwyd a'r ffliw a llawer mwy.

Cam 10: Hylendid dwylo

Mae hylendid dwylo da yn hynod bwysig. Er mwyn helpu i atal germau a firysau rhag lledaenu, cofiwch olchi'ch dwylo'n rheolaidd.

Cam 11: Sut wyt ti? Na wir, sut wyt ti?

Rydym yn parhau i fod mewn cyfnod ansicr iawn ond mae'n bwysig cynnal iechyd meddwl a chorfforol da yn ogystal â chadw cysylltiad â ffrindiau a theulu. I gael cyngor ar ofalu amdanoch chi'ch hun a'ch anwyliaid yn ystod yr amser hwn, ymwelwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cam 12: Parchwch ein staff

Rydym yn deall pan all rhywun gael ei anafu neu'n hynod sâl, gall fod yn amser brawychus iawn. Er mwyn i ni wybod pa help sydd ei angen arnoch chi, bydd angen i ni ofyn rhai cwestiynau i chi. Mae'r fideo fer hon yn esbonio beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n ffonio 999.

Parchwch ein staff a chofiwch fod ein staff yno i helpu!

Nadolig Llawen

Nadolig Llawen iawn o'r holl dîm yn GIG 111 Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru!!!