Brechlyn clwy'r pennau i bobl yn ei harddegau
Bu llawer o achosion o glwy’r pennau/y dwymyn doben ymhlith myfyrwyr yn y blynyddoedd diweddar. Mae angen i’r rhai sy’n gadael yr ysgol ac oedolion ifanc eraill fod wedi’u brechu’n llawn cyn iddynt ddechrau yn y coleg.
Yn 2013, cafwyd 4,035 o achosion o glwy’r pennau/y dwymyn doben yng Nghymru a Lloegr. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn fyfyrwyr mewn prifysgolion a cholegau.
Risg clwy’r pennau/y dwymyn doben i’r rhai yn eu harddegau
Mae’r rhai yn eu harddegau ac oedolion yn eu hugeiniau cynnar mewn perygl uwch o ddal clwy’r pennau/y dwymyn doben. Y rheswm am hyn yw bod llawer ohonynt yn rhy hen i gael y brechlyn MMR (y frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela) fel mater o drefn pan y’i cyflwynwyd gyntaf yn y Deyrnas Unedig ym 1988, neu oherwydd eu bod wedi cael un dos yn unig o’r MMR yn lle’r ddau ddos a argymhellir.
Pan fydd pobl ifanc yn eu harddegau sydd heb eu diogelu yn mynd i’r coleg, byddant mewn perygl uwch o ddal clwy’r pennau/y dwymyn doben oherwydd bod y clefyd yn gallu lledaenu’n gyflym pan fydd cynifer o bobl ifanc yn byw ac astudio gyda’i gilydd.
Symptomau clwy’r pennau/y dwymyn doben
Feirws yw clwy’r pennau/y dwymyn doben sy’n cael ei ledaenu trwy boer. Gallai symptomau ddechrau gyda chur pen/pen tost a thwymyn. Yna bydd y chwarennau yn y gwddf yn chwyddo, sy’n gallu ei gwneud hi’n anodd siarad, bwyta neu yfed.
Mae’r clefyd yn gallu bod yn ddifrifol iawn. Gall cymhlethdodau gynnwys chwyddo yn yr ofarïau a’r ceilliau, anffrwythlondeb, meningitis a byddardod.
Y rhai yn eu harddegau a ddylai gael y brechiad MMR
Mae achosion clwy’r pennau/y dwymyn doben wedi bod yn uchel ers 2004. Cyraeddasant frig yn 2005, pryd yr adroddwyd am fwy na 43,000 o achosion i’r Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA). Gallai’r niferoedd gynyddu unwaith eto yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf os na fydd pobl nad ydynt wedi cael brechiad MMR, neu sydd wedi cael brechiad MMR rhannol yn unig, yn cael y brechlyn.
Dylai’r rhai sy’n gadael yr ysgol ac oedolion ifanc na chawsant frechiad MMR pan oeddent yn blant, neu a gafodd un dos yn unig, fynd at eu meddyg teulu neu feddyg y coleg i gael y brechiad ar unwaith.
Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk