Cynghorau Iechyd Cymuned
Cyrff annibynnol yw Cynghorau Iechyd Cymuned (CIC), a sefydlwyd gan y gyfraith. Maent yn gwrando ar beth sydd gan unigolion a’r gymuned i'w ddweud am wasanaethau iechyd o ran safon y gwasanaethau, eu maint, mynediad i'r gwasanaethau a'u haddasrwydd. Maent yn gweithredu fel llais y cyhoedd i roi gwybod reolwyr gwasanaethau iechyd beth mae pobl ei eisiau a sut y gall pethau wella. Yn eu tro, mae CIC yn ymgynghori gyda’r cyhoedd yn uniongyrchol ar rai materion i wneud yn siwr eu bod yn mynegi barn y cyhoedd yn gywir i’r Bwrdd Iechyd Lleol, yr Ymddiriedolaeth neu'r Cynulliad.
Ym mis Ebrill 2004, rhoddwyd mwy o bwer i’r CIC fonitro holl wasanaethau gofal sylfaenol ac i ymweld â Fferyllfeydd, Meddygfeydd ac Optegwyr, yn ogystal ag ysbytai preifat a chartrefi gofal.
Gall CIC hefyd helpu, cynghori a chynorthwyo pobl sy’n dymuno cael mynediad i'w cofnodion iechyd, gwneud cwyn am wasanaeth y GIG neu faterion tebyg. Mae’r cyngor am ddim, yn annibynnol ac yn gyfrinachol.
Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn gorff statudol ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod y CIC yn cyflawni eu swyddogaethau statudol.
Yn dilyn ymgynghoriad diwygio diweddar y Cynghorau Iechyd Cymunedau gan Llywodraeth Cymru, o'r 1af o Ebrill 2010 mae'r wyth Cynghor Iechyd Cymuned ganlynol yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am beth y gall eich CIC ei wneud i chi, cliciwch ar y cyswllt i’ch ardal o'r y rhestr isod.
Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe
Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan
Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru
Cyngor Iechyd Cymuned Powys
Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg
Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg
Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda