Gofal llygaid - gwybodaeth a cysylltau
Mae’r adran yma yn darparu gwybodaeth am wasanaethau Optegol yng Nghymru, yn cynnwys disgrifiadau o’r gwasanaethau sydd ar gael ar y GIG a’r amrywiaeth o Optegwyr sy’n darparu’r gwasanaethau.
Gofal llygaid – cysylltiadau defnyddiol:
Oes eisiau prawf llygaid (oedolion) - RNIB
Oes eisiau prawf llygaid (plant) - RNIB
Profion iechyd llygiad am ddim i blant - RNIB
Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru (WECS)
Llywodraeth y Cynulliad sydd wedi ariannu’r wefan hon er mwyn hybu Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru (WECS). Ei bwriad yw lleihau achosion o golli golwg yng Nghymru drwy’r gwasanaethau canlynol:
- Darganfod heintiau llygaid mewn unigolion sydd yn debyg o'u dioddef, fel pobl sydd â hanes teuluol o glefyd y llygaid, a thrwy sicrhau triniaeth gyflym i broblemau llygaid aciwt drwy’r fenter Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru (EHEW).
- Darparu gwasanaeth i bobl prin eu golwg drwy Wasanaeth Golwg Gwan Cymru, sydd ar gael i unrhyw glaf sydd â nam ar ei olwg.
Y Cyngor Optegol Cyffredin
www.optical.org
Corff statudol yw’r GOC sy’n rheoleiddio optegwyr fferyllol ac optometryddion. Mae’r GOC yn diogelu'r cyhoedd ac yn hybu safonau uchel o ymddygiad proffesiynol a addysg ymysg optegwyr. Mae'n rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch safonau.
Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optegol
www.opticalcomplaints.co.uk
Corff annibynol yw’r OCCS sy'n delio â chwynion gan y cyhoedd sy'n anfodlon ar y gwasanaeth optegol y maent wedi ei gael.
Coleg yr Optometryddion
www.college-optometrists.org
Mae'r Coleg yr Optometryddion yn gorff proffesiynol, gwyddonol ac addysg i optegwyr yn y DU. Mae'r coleg yn cyhoeddi canllawiau am ymddygiad proffesiynol, cofrestru o dan GOC a chefnogi ymchwil yn y maes.
Gweler hefyd Byrddau Iechyd unigol am wybodaeth am sut mae gwasanaethau optegol yn cal eu trefnu yn eich ardal chi.