Gwybodaeth beichiogrwydd


Marw-Enedigaeth

Ymdopi â marw-enedigaeth

Bob blwyddyn yn y DU, bydd tua 4,000 o fabanod yn farw-anedig. Hynny yw bod y beichiogrwydd wedi para am 24 wythnos neu fwy ond ni chafodd y baban ei eni'n fyw. Mae tua hanner y nifer yma'n marw yn ystod y saith niwrnod cyntaf ar ôl eu geni.  Weithiau ni ellir dod o hyd i reswm am y marwolaethau hyn.

Weithiau, bydd y baban yn marw yn y groth ac ni fydd y cyfnod esgor yn dechrau. Os bydd hyn yn digwydd, byddwch yn cael meddyginiaethau i ysgogi (dechrau) yr esgor. Dyma'r ffordd fwyaf diogel o eni'r baban. Mae hefyd yn golygu y gallwch chi a'ch partner gweld a dal y baban os dymunwch chi.

Ymdopi â'ch colled

Mae colli baban fel hyn yn sioc enfawr . Byddwch chi a'ch partner yn debygol o brofi ystod eang o emosiynau sy'n mynd a dod yn ddi-dal. Gall y rhain gynnwys anghrediniaeth, dicter, euogrwydd a galar. Bydd rhai merched yn credu y gallan nhw glywed eu baban yn crio, ac nid yw'n anghyffredin i famau credu y gallant deimlo'r baban yn cicio y tu mewn iddynt o hyd. Mae'r galar fel arfer yn fwyaf dwys yn yr ychydig fisoedd ar ôl y golled. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ymdopi â phrofedigaeth trwy gysylltu â RCPSYCH.

Mae rhai rhieni yn ei gweld hi o gymorth creu atgofion o'u baban, er enghraifft, gweld a dal y baban a rhoi enw iddo ef neu iddi hi. Efallai y byddwch hefyd yn hoffi cael llun o'ch baban ac i gadw rhywbeth i'ch atgoffa ohono/ohoni fel bach o wallt,  print olion llaw ac olion traed neu siôl y baban. Gall hyn i gyd eich helpu chi a'ch teulu i gofio eich baban fel person go-iawn a gall, mewn amser, eich helpu i ymdopi â'ch colled.

Efallai y byddwch hefyd yn ei gweld yn ddefnyddiol i siarad â'ch meddyg, bydwraig gymunedol neu ymwelydd iechyd, neu rieni eraill sydd wedi colli babi. Gall Sands (elusen marw-enedigaeth a marwolaeth newydd-anedig) eich cyflwyno chi i rieni eraill a all gynnig cefnogaeth a gwybodaeth.

Archwiliad post-mortem

Un o'r cwestiynau cyntaf yr ydych yn debygol o ofyn yw pam y bu farw eich baban. Yn aml fe all archwiliad post-mortem ddarparu rhai atebion, ond yn aml nid oes achos clir i'w gael. Gall post-mortem ddarparu gwybodaeth arall a allai fod o ddefnydd yn ystod beichiogrwydd yn y dyfodol a gall helpu gwrthbrofi achosion penodol.

Os teimlir y gallai post-mortem fod yn ddefnyddiol, bydd uwch feddyg neu fydwraig yn trafod hyn gyda chi. Os byddwch yn penderfynu ar bost-mortem, cewch eich gofyn i lofnodi ffurflen ganiatâd.

Pan fydd yr adroddiad post-mortem wedi 'i wneud, cewch chi eich cynnig apwyntiad gydag ymgynghorydd sy'n gallu esbonio'r canlyniadau i chi a'r hyn y gallent eu golygu am feichiogi yn y dyfodol.

Genedigaethau lluosog

Mae colli un baban o feichiogrwydd lluosog (er enghraifft os buoch yn disgwyl gefeilliaid) yn anodd iawn i unrhyw riant. Mae alaru am y baban sydd wedi marw wrth ofalu am, a dathlu bywyd y baban sydd wedi goroesi yn achosi emosiynau cymysg a chymhleth. Yn aml, mae'r baban sydd wedi goroesi yn gynamserol ac felly yn derbyn gofal arbennig mewn uned newydd-anedig, sy'n achosi pryder ychwanegol.

Ffarwelio â'ch baban

Gall angladd neu ryw ffordd arall o ffarwelio fod yn rhan bwysig iawn o ddod i dermau â'ch colled, dim ots pa mor gynnar mae'n digwydd. 

Os bu farw eich babi ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd, bydd angen i chi gofrestru'r enedigaeth gyda'r Cofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaeth hyd yn oed os yw ef neu hi yn farw-anedig. Efallai bydd yr ysbyty yn cynnig trefnu angladd, claddu neu amlosgi. Gall hyn fod am ddim, neu efallai bydd yr ysbyty yn codi amdano. 

Efallai byddai hi'n well gennych drefnu angladd, claddu neu amlosgi eich hunain. Bydd y caplan yn yr ysbyty yn gallu eich helpu. Efallai byddai'n well gennych gysylltu â rhywun o'ch cymuned grefyddol eich hun, neu â Chymdeithas Dyneiddwyr Prydain, Y Gymdeithas Camesgoriad neu Sands, am y math o angladd yr ydych yn dymuno. Nid oes rhaid i chi fynd i'r angladd os nad ydych am wneud hynny.

Mae llawer o ysbytai yn trefnu gwasanaethau coffa rheolaidd i gofio am yr holl fabanod a fu farw cyn ac ar ôl eu genedigaeth. Eto fe fedrwch ddewis a ydych am fod yn bresennol ai peidio.

Mae llawer o rieni yn cael eu synnu am faint, ac am ba hyd, y maent yn galaru ar ôl colli baban. Yn aml nid yw ffrindiau na chydnabyddion yn gwybod beth i'w ddweud neu sut i gynnig cymorth, ac efallai y byddant yn disgwyl i chi ddod i delerau a'ch colled ymhell cyn eich bod yn barod.

Gall Sands a'r Gymdeithas Camesgoriad eich cyflwyno i bobl sydd wedi bod trwy brofiadau tebyg ac sy'n gallu cynnig cymorth a gwybodaeth.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk