Gwybodaeth beichiogrwydd


Beichiogrwydd yn mynd o'i le

Yn anffodus, weithiau gall beichiogrwydd fynd o'i le. Efallai bydd rhaid i rai menywod wynebu beichiogrwydd ectopig, camesgoriad neu farwolaeth ei baban.

Os bydd eich beichiogrwydd yn dod i ben yn y ffordd hon, bydd angen gwybodaeth a chymorth arnoch. Siaradwch â'r bobl sy'n agos atoch chi am sut yr ydych yn teimlo, ac i'ch bydwraig, meddyg neu ymwelydd iechyd am yr hyn sydd wedi digwydd a pham.

Weithiau mae'n haws siarad â rhywun y tu allan i'ch teulu a'ch ffrindiau. Mae llawer o sefydliadau sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth, gan gynnwys Bliss, Cruse Bereavement a'r Gymdeithas Cam-esgor.

Beichiogrwydd ectopig

Dyma pryd mae'r wy, sydd wedi'i ffrwythloni, yn mewnblannu'r tu allan i'r groth, fel arfer mewn tiwb ffalopaidd. Ni all yr wy, sydd wedi'i ffrwythloni, datblygu'n iawn ac efallai y bydd eich iechyd mewn perygl difrifol os bydd y beichiogrwydd yn parhau. Mae angen i'r wy gael ei ddiddymu - gall hyn fod trwy lawdriniaeth neu feddyginiaethau.

Mae arwyddion rhybudd o feichiogrwydd ectopig gallu dechrau yn fuan ar ôl colli'r mislif cyntaf, ond weithiau nid oes unrhyw symptomau amlwg.

Dysgwch mwy am feichiogrwydd ectopig, gan gynnwys symptomau a'r driniaeth sydd ar gael.

Camesgor

Camesgoriad neu erthyliad naturiol yw pan gollir beichiogrwydd cyn 24 wythnos. Maent yn gyffredin iawn

Yn aml bydd cam-esgor cynnar (cyn 12 wythnos) yn digwydd oherwydd bod rhywbeth o'i le ar y baban. Gall camesgor yn ddiweddarach mewn beichiogrwydd fod o ganlyniad i haint, problemau yn y brych, neu gan fod ceg y groth yn wan ac yn agor yn rhy gynnar yn ystod beichiogrwydd.

Gall camesgoriad ddechrau fel mislif, gyda 'spotting' neu waedu.

Dysgwch mwy am gam-esgor, gan gynnwys symptomau, opsiynau triniaeth, gofal amdanoch ac ymdopi wedyn.

Colli babi

Mewn rhai beichiogrwydd, bydd y baban yn marw cyn cael ei eni (a elwir yn farw-enedigaeth) neu yn fuan ar ôl cael ei eni (marwolaeth newydd-anedig). Mae colli babi yn y ffordd yma yn ddirdynnol.

Dysgwch mwy am farw-enedigaeth a marwolaeth newydd-anedig, a ble y gallwch gael help a chynhaliad.

Terfynu oherwydd ffoetws annormal

Weithiau yn ystod beichiogrwydd, bydd profion yn canfod abnormaledd difrifol ar y baban. Mae'n debyg y bydd hi'n sioc fawr ichi glywed diagnosis fel hyn, a bydd angen i chi gymryd amser i feddwl amdano. Yn sefyllfaoedd fel hyn, mae rhai cyplau yn penderfynu dod â'r beichiogrwydd i ben.

Dysgwch mwy am derfynu oherwydd ffoetws annormal, beth mae'n ei olygu a ble y gallwch gael cymorth.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:46:36
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk