Gwybodaeth beichiogrwydd


Cymorth i Famau ifanc

Os ydych yn fam ifanc, neu ferch yn eich arddegau ac yn feichiog, mae ystod eang o wasanaethau i'ch cynorthwyo yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl i chi gael eich babi. Gall eich bydwraig neu ymwelydd iechyd rhoi manylion i chi am wasanaethau lleol.

Os ydych ar eich pen eich hun

Os ydych yn feichiog ac ar eich pen eich hun, mae'n bwysicach fyth bod yna bobl o'ch cwmpas y gallwch rannu eich teimladau efo nhw a gallan nhw gynnig cymorth i chi.

Yn aml gall ddatrys problemau, boed yn bersonol neu'n feddygol, fod yn anodd wrth eich bod chi ar eich pen eich hun. Mae'n well i chi ddod o hyd i rywun i siarad â nhw yn lle gadael i bethau eich digalonni. Am fwy o wybodaeth, gweler 'ymdopi os ydych ar eich pen eich hun'. Gall y sefydliadau cenedlaethol canlynol rhoi cymorth a chyngor:

  • Sexwise – os ydych chi'n amau eich bod chi'n feichiog fe fedrwch chi gael cyngor cyfrinachol o linell cymorth Sexwise ar 0800 282930. Dysgwch ragor am brofion beichiogrwydd.
  • Brook – Os ydych chi o dan 25 oed, fe fedrwch chi ymweld â chanolfan Brook am gyngor cyfrinachol am ddim, neu yrru e-bost atynt o Ask Brook.   

Llawlyfr menyw ifanc ar feichiogrwydd

Mae'r llyfr Saesneg The Young Woman's Guide to Pregnancy wedi'i ysgrifennu ar gyfer menywod sydd o dan 20 oed ac mae'n cynnwys profiad go iawn mamau ifanc. Cynhyrchir gan yr elusen 'Tommy's' ac mae ef ar gael am ddim i bobl 16-19 mlwydd oed o wefan Tommy's.

Parhau'ch addysg

Nid yw bod yn fam yn golygu bod rhaid i'ch addysg ddod i ben. Os ydych yn dal o oedran ysgol gorfodol (unrhyw amser cyn dydd Gwener olaf Mehefin ym mlwyddyn eich penblwydd yn 16 oed), ni ddylai'ch ysgol eich gwahardd am resymau beichiogrwydd neu resymau iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â'ch beichiogrwydd. Fodd bynnag, fe gânt nhw siarad â chi ynglyn â gwneud trefniadau amgen am eich addysg. Cewch chi hyd at 18 wythnos i ffwrdd o'r ysgol cyn ac ar ôl yr enedigaeth.

Ar ôl i chi ail gydio yn eich addysg, fe fedrwch chi dderbyn cymorth gyda chostau gofal plentyn trwy gynllun Care to Learn. Bydd Care to Learn hefyd yn rhoi cymorth gyda chostau gofal plentyn i rieni sydd yn eu harddegau ac yn hyn na'r oedran ysgol orfodol sydd am barhau â'u haddysg.

Galwch 0800 121 8989 am fwy o wybodaeth am Care to Learn.

Rhywle i fyw

Bydd llawer o famau ifanc am aros gyda'u teuluoedd nes eu bod nhw'n barod i symud ymlaen. Os nad ydych yn gallu aros gyda'ch teulu, mae'n bosib y bydd eich awdurdod lleol yn medru helpu gyda llety. Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu llety arbennigol lle gall mamau ifanc fyw yn annibynnol tra eu bod yn derbyn cynhaliaeth a chymorth gan weithwyr hyfforddedig.

Am fwy o wybodaeth am lety cysylltwch â'ch awdurdod lleol.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk