Bwydo ar y frest os ydych yn draws neu'n anneuaidd
Mae bwydo ar y frest yn bwydo'ch babi â llaeth o'ch brest.
Os ydych chi’n gallu bwydo ar y frest, eich penderfyniad chi yw a ydych chi’n gwneud hynny a gallwch chi newid eich meddwl unrhyw bryd. Byddwch yn cael eich cefnogi'n llawn gydag unrhyw benderfyniadau a wnewch.
Bwydo ar y frest os ydych chi wedi cael llawdriniaeth fawr
Os ydych chi wedi cael llawdriniaeth i dynnu meinwe meddal, efallai y byddwch chi'n dal i allu bwydo ar y frest neu odro'ch llaeth.
Nid yw'n bosibl gwybod faint o laeth y byddwch yn ei gynhyrchu ac a fydd yn ddigon i'ch babi. Efallai y bydd angen i chi gynnig porthiant atodol i'ch babi.
Efallai y bydd eich babi yn ei chael yn anodd clymu ar eich teth os oes llai o feinwe meddal ar gael. Yn yr achos hwn, siaradwch â'ch bydwraig.
Siaradwch â’ch bydwraig neu feddyg teulu os:
- rydych chi am gymryd testosteron tra'n bwydo ar y frest
Gall testosteron leihau eich cyflenwad llaeth. Gall eich bydwraig neu feddyg teulu eich cynghori.
Rhwymo tra'n bwydo ar y frest
Os ydych chi'n rhwymo (lleihau ymddangosiad meinwe meddal trwy fflatio'ch brest) ac yn bwydo ar y frest, efallai y bydd mwy o siawns y byddwch chi'n cael haint o'r enw mastitis.
Mastitis yw pan fydd eich brest yn chwyddo, yn boeth ac yn boenus. Efallai y byddwch am geisio gwisgo rhwymwr maint mwy nag o'r blaen.
Siaradwch â'ch bydwraig neu feddyg teulu os ydych chi'n meddwl bod gennych chi fastitis.
Cyswllt croen-i-groen
Mae cyswllt croen-i-groen gyda'ch babi newydd-anedig yn ffordd wych o gysylltu â'ch babi.
Mae croen-i-groen yn golygu dal eich babi yn noeth neu wedi'i wisgo mewn cewyn yn erbyn eich croen yn unig.
Mae’n beth da i’w wneud unrhyw bryd a bydd yn helpu i’ch cysuro chi a’ch babi dros yr ychydig wythnosau cyntaf wrth i chi ddod i adnabod eich gilydd.
Cefnogaeth pellach
Last Updated: 21/09/2022 10:42:53
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk