Fitaminau i blant
Mae'r llywodraeth yn argymell bod pob plentyn rhwng 6 mis a 5 oed yn cael atchwanegiadau fitaminau sy'n cynnwys fitaminau A, C a D bob dydd.
Ni ddylid rhoi atchwanegiadau (supplements) fitamin i fabi sy'n cael mwy na 500ml (tua pheint) o laeth fformiwla'r dydd. Y rheswm am hyn yw bod llaeth fformiwla yn cynnwys fitamin D a maetholion eraill.
Dylai babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron gael atodiad fitamin D dyddiol o'u genedigaeth, p'un a ydych chi'n cymryd ychwanegyn sy'n cynnwys fitamin D eich hun ai peidio.
Ble allwch chi gael drops fitamin ar gyfer eich babi?
Mae eich ymwelydd iechyd yn gallu rhoi cyngor i chi ar ddiferion (drops) fitaminau a dweud wrthych chi ble i'w cael.
Mae’r rhai sydd ar gael dros y cownter yn cynnwys fitaminau neu gynhwysion eraill. Siaradwch gyda’r fferyllydd ynghylch pa rai fyddai fwyaf addas ar gyfer eich plentyn chi.
Gall cael gormod o rai fitaminau fod yn niweidiol. Cadwch at y dos sydd wedi’i argymell ar y label. Byddwch yn ofalus i beidio â rhoi 2 ychwanegiad i'ch plentyn ar yr un pryd.
Er enghraifft, peidiwch â rhoi diferion olew iau pysgod a fitaminau i’ch plentyn gyda’i gilydd, gan fod olew iau pysgod hefyd yn cynnwys fitaminau A a D. Mae un atodiad ar ei ben ei hun yn ddigon.
Fitamin D
Dim ond mewn ychydig o fwydydd y mae fitamin D i’w gael. Mae’r bwydydd yma’n cynnwys pysgod olewog ac wyau. Mae hefyd yn cael ei ychwanegu at rai bwydydd, fel sbred braster a grawnfwydydd brecwast. Ond mae'n anodd cael digon o fitamin D o fwyd yn unig.
Y ffynhonnell orau o fitamin D yw golau haul ar ein croen yn yr haf. Ond mae'n bwysig cadw croen eich plentyn yn ddiogel yn yr haul.
Dylai plant dim bod allan yn yr haul yn rhy hir mewn tywydd poeth. Cofiwch orchuddio neu ddiogelu croen eich plentyn cyn i’r croen droi'n goch neu losgi.
Dylai plant ifanc ddal i gael diferion fitamin, hyd yn oed os ydyn nhw’n mynd allan yn yr haul.
Mae'r Adran Iechyd yn argymell:
- Y dylid rhoi ychwanegiad dyddiol i fabanod o'u genedigaeth hyd at 1 oed sy'n cael eu bwydo ar y fron. Dylai’r ychwanegiad gynnwys 8.5 i 10 microgram (μg) o fitamin D i sicrhau eu bod yn cael digon o’r fitamin hwn. Dylech chi wneud hyn p’un a ydych yn cymryd ychwanegiad sy'n cynnwys fitamin D eich hun ai peidio.
- Ni ddylid rhoi atodiad fitamin D i fabanod sy'n cael eu bwydo â llaeth fformiwla os ydyn nhw’n cael mwy na 500ml (tua pheint) o laeth fformiwla'r dydd, oherwydd bod llaeth fformiwla yn cynnwys fitamin D a maetholion eraill.
- Dylid rhoi ychwanegiad dyddiol i blant rhwng 1 a 4 oed sy'n cynnwys 10μg o fitamin D.
Fitamin A
Mae fitamin A yn bwysig i fabanod a phlant ifanc, ac efallai na fydd rhai yn cael digon ohono.
Mae'r fitamin hwn yn cryfhau’r system imiwnedd. Mae’n gallu helpu eu golwg mewn golau gwan, ac mae'n cadw'r croen yn iach.
Mae ffynonellau da o fitamin A yn cynnwys:
- cynhyrchion llaeth
- sbred braster gyda fitaminau wedi eu hychwanegu
- moron, tatws melys, erfin neu swejen (swede) a mangos
- llysiau gwyrdd tywyll, fel sbigoglys (spinach), bresych a brocoli.
Argymhellir ychwanegion fitamin sy'n cynnwys fitamin A ac C ar gyfer babanod a phlant rhwng 6 mis a 5 oed, oni bai eu bod yn cael mwy na 500ml (tua pheint) o laeth fformiwla’r dydd.
Fitamin C
Mae fitamin C yn bwysig ar gyfer cynnal iechyd ac imiwnedd cyffredinol eich plentyn. Mae hefyd yn gallu helpu’r corff i amsugno haearn.
Mae ffynonellau da o fitamin C yn cynnwys:
- oren
- ffrwythau ciwi
- mefus
- brocoli
- tomatos
- pupurau (peppers)
Plant yn bwyta'n iach
Mae'n bwysig i blant fwyta'n iach. Mae angen gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o egni a maetholion. Bydd hynny’n eu helpu i dyfu iach a chryf.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.
Last Updated: 25/07/2023 07:44:51
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk